top of page

A i Y: Rhagolwg 2022


Llun clawr: Juan Baena


Dwi wedi bod yn pendroni ers rhai wythnosau ar sut i greu rhagolwg ar gyfer y tymor yma sydd i ddod, gan benderfynu yn y diwedd ar A i Y.


Heb oedi ymhellach, mwynhewch!


A

Anna Kiesenhofer

Pwy all anghofio ei pherfformiad anhygoel yn y Gemau Olympaidd? Camp unigol cofiadwy dros ben wnaeth ddangos ei chryfder yn amlwg iawn i’r byd. Felly beth am eleni i’r fedal aur? Wel, does neb yn gwybod, â dweud y gwir. Does ganddi ddim tîm - ac mae, felly, yn annhebygol y gwelwn ni hi y tu allan i’r adegau y gall reidio dros dim Awstria. Byddai’n gymaint o bechod gadael Kiesenhofer yn 2021; mawr obeithio y gwelwn ni hi eto!


B

Battle of the North

Ras newydd gyffrous i fenywod yn seiliedig ar beth oedd gynt yn Ladies Tour of Norway. Yn Norwy mae hwn hefyd, gyda’r ras chwe chymal yn gyfle i’r menywod ddangos eu doniau dros gyfnod o wythnos. Mae’n gam arall cadarnhaol iawn tua’r dyfodol, ac yn un enghraifft o’r modd dwi’n credu fod pethau’n symud ymlaen yn eithaf sylweddol eleni.


Bora-Hansgrohe - tîm DC difrifol?

Yn ychwanegol at Wilco Kelderman a Felix Großschartner - sy’n ymgeiswyr go lew ar ddosbarthiadau cyffredinol - maen nhw’n cryfhau hynny’n sylweddol drwy ychwanegu Aleksandr Vlasov, Sergio Higuita a Jai Hindley i’w carfan. Mae’r tri eisoes wedi profi eu gallu dros dair wythnos mewn Grand Tours, gyda Vlasov yn un o’r rhai sydd wedi bod yn agos at y brig ers blwyddyn neu ddwy bellach. Higuita yn Golombiad ifanc talentog sydd heb dorri drwodd yn glir eto, a Hindley’n adnabyddus am ei berfformiad yn Giro d’Italia 2020. Vlasov sydd wedi profi’i hun fwyaf, ac mae’n bur debyg mai fo fydd eu prif arweinydd. Ond, rhaid cofio hefyd fod Sam Bennett wedi cyrraedd y garfan ynghyd a’i arweinwyr yn y trên gwibio Ryan Mullen a Shane Archbold, felly bydd cydbwyso amcanion gwibio a DC yn y Tour yn destun cryn benbleth. Ond braf gweld Bora’n dim DC difrifol, ac edrych ymlaen at eu gweld yn blaguro.


C

Mark Cavendish: does bosib?

Stori fawr arall 2021 oedd llwyddiant Cavendish yn y Tour. Er i Wout van Aert daflu peth dŵr oer ar hynny drwy’i guro ar y Champs-Élysées, roedd ei bedair buddugoliaeth yn ddigon i’w roi’n hafal â record Eddy Merckx. All o fynd un ymhellach? Mae i gyd yn dibynnu ar ymroddiad ei dîm, QuickStep Alpha Vinyl, sydd hefyd rwan yn gorfod cydbwyso Cav efo’u gwibiwr chwim, Fabio Jakobsen, sydd wedi dychwelyd at ei orau wedi anaf dychrynllyd yn Awst 2020.


Canyon-SRAM - Blwyddyn lwyddiannus o’r diwedd?

Y gymysgedd o brofiad ac ifanc - Cromwell, Dygert, Harris, Harvey a Niewiadoma - fydd yn arwain y gad iddynt eleni, ond nid ydynt yn wir wedi gwireddu eu potensial dros y blynyddoedd diwethaf. Tybed os mai eleni fydd y flwyddyn? Ychwanegwch Maud Oudeman, enillydd y Zwift Academy, at hynny, ac mae reidiwr talentog arall yn lifrai gorau’r peloton sydd â thipyn o gryfder ar bob tirwedd. Darllennwch fwy amdani yng nghofnod gwych Eluned King o wythnos diwethaf.


Ch

Chwefror

Y mis y byddai ambell un yn ei hepgor mae’n siwr, gan nad ydy’r seiclo’n dechrau tan Omloop Het Nieuwsblad ar y penwythnos olaf, yn eu tyb nhw. Rwtsh llwyr! Chwefror ydy un o’r misoedd gorau ar gyfer gwylio seiclo; cymaint yn ysu i greu argraff ac mae’r rasio mor gystadleuol. Ruta del Sol yn Andalucía (gan gynnwys ras i’r menywod am y tro cyntaf), Valenciana, Étoile de Bessèges, Tour des Alpes Maritimes et du Var a’r Tour de la Provence, heb anghofio rasys ar y Penrhyn Arabaidd (Saudi Tour, Oman Tour, UAE Tour). Mae safon y reidwyr sy’n rasio yn hurt o uchel. Bydd y cyfan yn cychwyn ddydd Sul (heddiw) gyda GP Marseillaise, pan fydd y tymor seiclo traws yn dod i ben gyda phencampwriaethau’r byd. Erbyn diwedd y mis, bydd tymor y clasuron yn dechrau yn Omloop Het Nieuwsblad a Kuurne-Bruxelles-Kuurne. Dyshgwl mlân!


D

Daniaid

Na, nid reidwyr o’r enw Dan, ond reidwyr o Ddenmarc. Bydd y Tour de France yn dechrau yn Copenhagen, a bydd hynny’n gymhelliant mawr iddyn nhw. Felly gallwn ddisgwyl gweld ei reidwyr yn serennu; reidwyr megis Jakob Fuglsang, Valgren, Cort, Pedersen, Soren Kragh, Kasper Asgreen ac Honoré o ran y dynion, a Cecilie Uttrup Ludwig, Emma Norsgaard ac Amalie Dideriksen o ran y menywod. Ond y sawl i’w wylio fydd Jonas Vingegaard, un o sêr mawr y Tour llynedd, a chyfle iddo serennu fwyfwy eleni.


Dd


E

EF Education Easy Post - y cam nesaf?

Mae EF wedi datblygu’n dim mawr ar lefel Grand Tour llynedd a flwyddyn gynt yn fwy nag erioed o’r blaen. Rigoberto Urán yn y Tour a Hugh Carthy yn y Giro a’r Vuelta. Mae ganddynt gohort da o reidwyr all serennu mewn cymalau ac hefyd fel domestiques - Simon Carr, Jonathan Caicedo, Stefan Bisegger ac Alberto Bettiol yn eu plith. Ond, maen nhw wedi mynd i’r cam nesaf eleni, gyda’r seren ddangosodd ei ddoniau’n y Dauphine, Mark Padun, yn neidio draw o Bahrain. Fo fydd yr arweinydd mewn ambell i ras gymalau neu hyd yn oed Grand Tour. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr hefyd at weld y Cymro Owain Doull yn blodeuo, gobeithio, yn y crys pinc, gan fanteisio ar gyfle o’r newydd wedi cymaint o flynyddoedd dan adain Brailsford ac Ineos.


F

FDJ Nouvelle Aquitaine Futuroscope - Cavalli, Ludwig a Muzić

Mae’r driawd gref yn sicr o fod wrth galon ymdrechion FDJ y tymor hwn, a hwythau’n reidwyr talentog sydd, ar un llaw, wedi profi’u gallu mewn rasys mawrion, ond heb gymryd y cam nesaf. Dim ond 22 oed yw Évita Muzić ac mae’n barod yn bencampwraig Ffrainc; yn ddringwraig talentog fydd yn sicr yn anelu am gymalau os nad y DC yn y Giro Rosa (lle mae eisoes wedi ennill cymal) a’r Tour de France wrth gwrs. Cecilie Uttrup Ludwig yn enw cyfarwydd i ni gyd a hithau wedi’n diddanu yn y clasuron ers rhai blynyddoedd bellach; er iddi ond casglu ambell fuddugoliaeth yn y ddwy flynedd diwethaf, mae’n parhau i fod reit yn ei chanol hi, a bydd hi’n ysu i droi cymaint o ganlyniadau 10-uchaf yn fuddugoliaethau mawr eleni. I gloi, mae Marta Cavalli, 23, eisoes wedi dangos cryn gryfder yn y clasuron (8fed yn Strade Bianche, er enghraifft) a’i bod yn gallu brwydro gyda’r gorau; bydd Ludwig a Cavalli yn elwa o’i gilydd yn y clasuron y Gwanwyn hwn dwi’n siwr.


Ff

Ffrainc: Gaudu? Pinot?

Mae byrdwn y bwlch di-fuddugoliaeth yn y Tour i’r Ffrancwyr ar ysgwyddau David Gaudu a Thibaut Pinot yn enwedig wedi bod yn drwm iawn ar brydiau. A hwythau wedi profi eu gallu yn y gorffennol, does dim syndod fod eu rheolwr angerddol, Marc Madiot, yn disgwyl pethau mawr ganddynt eleni. Ond, mewn gwirionedd, gwyddwn fod Pogačar, Roglič et al ar lefel uwch, ac annoeth ydy rhoi cymaint o bwysau ar eu hysgwyddau. Ond mae pawb yn mwynhau rhywfaint o’r je ne sais quoi Ffrengig maen nhw’n ei gynnig yn y mynyddoedd, a gobeithio y gwnawn nhw serennu ar y llethrau eleni.


Ond byddwn i’n dadlau mai Guillaume Martin yw’r gobaith mwyaf. Cyrrhaeddodd uchelfannau’r DC drwy ddulliau amgen ymosod yn y dihangiad, ond drwy ymgais synhwyrol ac ymroddedig tuag at y crys melyn, pwy a ŵyr? Dwi’n amau fod ganddo’r gallu i gyrraedd lefel y sêr mawrion, ond mae ganddo gyfle gwirioneddol i fynd gam ymhellach er mwyn cyrraedd y pump uchaf eleni, dwi’n credu. A gyda llaw, mae’i lyfr newydd ar athroniaeth, La société du peloton, yn wych. Mi wnes i wirioneddol ei fwynhau.


G

Gwibwyr

O ran y menywod, mae ambell i enw sy’n sefyll allan. Pump enw: Marianne Vos, Coryn Labecki, Lotte Kopecky, Lorena Wiebes ac Emma Norsgaard. Mi wnawn ni drafod Vos, Norsgaard a Labecki yn y man, ond gadewch i ni droi sylw at y ddwy arall. Mae Kopecky’n wibwraig o fri sydd wedi profi’i hun yn y gorffennol a chodi i lefel uwch yn 2021 - gyda buddugoliaeth yn Le Samyn yn uchafbwynt. Eleni, bydd ganddi gefnogaeth gryfach tîm SD Worx, ond gyda hynny pwysau ychwanegol. Gwibwraig ifanc o fri yw Lorena Wiebes, a hithau ond 22 oed ond â llu o fuddugoliaethau i’w henw - Brugge-De Panne, Ronde van Drenthe, Scheldeprijs ymysg eraill. Bydd ganddi ryddid yn DSM i serennu wedi i Labecki symud draw i Jumbo.


Mae’r rhestr o wibwyr cryfion yn peloton y dynion yn ddibendraw. Caleb Ewan, dybiwn i, yw’r gwibiwr cryfaf yn y peloton, gyda Fabio Jakobsen, Arnaud Démare a Sam Bennett yn dynn ar ei sodlau. Mae o wedi symud i Bora, ac fel sy’n arferol, mae’n un o nifer o wibwyr sydd wedi newid lifrai eleni. Dylan Groenewegen wedi symud i Bike-Exchange, gan ryddhau gwacter i Christophe Laporte sy’n ymuno â’r gwibiwr ifanc David Dekker yn Jumbo Visma. Elia Viviani wedi symud i Ineos Grenadiers a Peter Sagan wedi neidio i TotalEnergies. Ar ben hyn oll, dylid cofio am Philipsen a Merlier o Alpecin-Fenix, Nizzolo (Israel), Ackermann (UAE), Bauhaus (Bahrain) a Gaviria (UAE) sy’n brofiadol a galluog.


Ng


H

Hirschi

Un o ser tymor 2020 gyda chymal o’r Tour a buddugoliaeth yn La Flèche Wallonne wnaeth ddim dangos yr un fflach yn 2021. O drosglwyddiad trafferthus o DSM i UAE ym mis Ionawr i anaf i’w glun erbyn diwedd y tymor, 7fed yn Liege oedd canlyniad gorau ei dymor. Mae wedi datgan mae cyrraedd ei lefel o 2020 yw ei nod eleni; ac yntau ond 23 oed, mae dyfodol disglair o’i flaen gobeithio. Ond bydd yn rhaid aros am ychydig cyn ei weld yn ôl yn y peloton gan ei fod am gael llawdriniaeth ar ei glun yn y misoedd nesaf.


I

Ineos - Penbleth arall?: Yr wythnos yma mi drawyd y byd seiclo gan newyddion o anafiadau difrifol i Egan Bernal tra’n hyfforddi, ac er ei fod mewn cyflwr sefydlog ac ymwybodol ers rhai dyddiau bellach, mae’n llawer rhy gynnar i ddarogan pryd ac os y bydd o’n dychwelyd. Mae’n sicr y bydd yn rhaid i Ineos addasu eu cynlluniau oherwydd hyn gan fod Bernal yn arweinydd clir ar lefel Pogačar a Roglič, ond pwy sydd am gamu yn y bwlch? Does dim prinder o arweinwyr naturiol a thalentog yn eu rhengoedd; Richard Carapaz, Geraint Thomas, Tao Geoghegan Hart, Richie Porte, Pavel Sivakov, Dani Martinez ac Adam Yates. Fodd bynnag, bydd yn rhaid iddynt gydbwyso amcanion pob un o’r rhain ag amcanion reidwyr newydd eu carfan a reidwyr iau eu carfan. Elia Viviani, y gwibiwr sy’n dychwelyd wedi sbel yn Cofidis; Tom Pidcock, seren ifanc sydd am brofi ei allu ar amrywiaeth o dirwedd; Ethan Hayter, seren ifanc y Tour of Britain; ar ben Carlos Rodriguez, Omar Fraile, Luke Plapp a Ben Tulett. Super-team go iawn ddylai gael llu o ganlyniadau cadarnhaol eleni os y gallen nhw reoli egos gwahanol a gwneud penderfyniadau tactegol crefftus.


J

Jumbo ME - Y tîm i’w guro yn y rasys cymalau: Primož Roglič, bellach wedi ennill 3 Vuelta a Espana. Tom Dumoulin, cyn-enillydd y Giro. Jonas Vingegaard, ail yn y Tour llynedd. Steven Kruijswijk, Iseldirwr talentog sydd wedi profi’i allu’n y gorffennol. Sepp Kuss, Americanwr sydd â thalent aruthrol yn y mynyddoedd. Tobias Foss, enillydd y Tour de l’Avenir ambell flwyddyn yn ôl. Er nad ydy’w rhestr nhw mor hirfaith ag un Ineos, mae’n un safonol dros ben yn llawn profiad, ac mae digon o dalent i anelu am bob un o’r tri Grand Tour a llu o rasys wythnos. Bydd Rohan Dennis, sydd newydd arwyddo o Ineos, yn arf bwysig yn y mynyddoedd. Ar ben hynny, wrth gwrs, rhaid cofio am Wout van Aert, a bydd hi’n ddiddorol gweld pa rasys y bydd o’n anelu amdano, gan fod ei palmarès eisoes yn serennog.


Jumbo WE - Vos a Labecki yn arwain y gad

Yn nhymor cyntaf eu bodolaeth yn 2021, y reidiwr gorau yn hanes y gamp, Marianne Vos, oedd yn gyfrifol am gryn lwyddiant y garfan wrth iddi sicrhau saith buddugoliaeth o’u deuddeg. Daeth y gweddill drwy law Anna Henderson a Riejanne Markus. Prydeinwraig ifanc, talentog sy’n gryf ar dirwedd bryniog yw Henderson, fydd yn ysu i ddatblygu ymhellach eleni, tra bo Markus yn un sydd ar drothwy buddugoliaeth fawr yn sgil nifer o ganlyniadau deg uchaf. Ond mae Jumbo wedi ychwanegu haen arall o brofiad a thalent i’w carfan eleni drwy Coryn Labecki (née Rivera), ac fel y gwnaeth Eluned King ysgrifennu wythnos diwethaf, bydd ganddi dipyn fwy o ryddid i ddangos ei thalent gwibio yn lifrai Jumbo ac mi all hynny arwain at dipyn fwy o lwyddiant.


L


Ll


M

Movistar - Sosa a Mas - two’s a company?

Drwy eu tactegau amheus ddaeth i’r amlwg yn y gyfres ddogfen ar Netflix, mae Movistar wedi tyfu’n destun cryn dychan. Mi fuon nhw’n ceisio cydbwyso amcanion tri reidiwr, ond eleni, mae’n ymddangos eu bod nhw’n llwyddo i flaenoriaethu dau reidiwr. Mae Enric Mas yn dalent sydd heb ddangos ei orau, yn fy marn i, ac mi all flodeuo os y caiff o’i flaenoriaethu fel arweinydd. Wedi iddo symud o Ineos, bydd Ivan Sosa yn reidiwr arall i’w wylio eleni. Dringwr talentog arall o Golombia fydd yn cael mwy o gyfle, heb os, i ddangos ei ddoniau gyda Movistar yn hytrach na brwydro yn hierarchaeth Ineos. Os y gallen nhw gydbwyso amcanion y ddau reidiwr, mi fydd hi’n dymor llwyddiannus o’r diwedd i’r tîm o Sbaen.


Movistar - Van Vleuten a Norsgaard

Mae gan dîm Movistar y peloton arall ddau arweinydd talentog dros ben i barhau i arwain eu cad eleni. Bydd llygaid y cyn-bencampwraig byd Annemiek van Vleuten ar y Tour de France Femmes, a hithau wedi ennill y Giro ddwywaith, yn ogystal â’r rasys undydd y mae hi’n hen gyfarwydd a hwy. Reidiwr amryddawn iawn fydd yn sicr o ysu i ailadrodd llwyddiant aruthrol y ddwy flynedd ddiwethaf. A phan na fydd van Vleuten yn serennu, mi all Movistar ddibynnu ar y wibwraig o Ddenmarc, Emma Norsgaard. Cafodd dymor llwyddiannus iawn yn 2021, a hithau ond yn 21 oed bryd hynny, gyda buddugoliaeth cymal yn y Giro yn uchafbwynt; ond ei hamcan eleni mae’n siwr fydd trosi llu o ganlyniadau 5- a 10-uchaf i fuddugoliaethau.


N

Neo-pros: Mae ‘na lu o reidwyr talentog fydd yn eu blwyddyn gyntaf fel reidwyr proffesiynol eleni, ond fydda’i ddim yn mynd drwyddyn nhw i gyd yma, gan fod blog INRNG eisoes wedi creu crynodeb ddi-guro.


O

O’Connor

Ben O’Connor - yr Awstraliad sy’n tanio gobeithion y genedl o ennill Grand Tour am y tro cyntaf ers Cadel Evans ddegawd yn ôl - yw un o’r reidwyr i’w gwylio eleni, yn ddi-os. Hynny’n bennaf wedi’i berfformiad annisgwyl yn y Tour de France, lle enillodd gymal a gorffennodd yn 4ydd ar y DC. Os ydy AG2R Citroën yn ymrwymo y tu ôl iddo fel arweinydd, mi all fod yn fygythiad gwirioneddol ar y DC mewn rasys cymalau mawr.


P

Pencapwyr Byd

Wedi ei buddugoliaeth eithaf annisgwyl ym Mhencampwriaethau’r Byd yn erbyn cryfder yr Iseldirwyr, mi fydd gan Elisa Balsamo reswm i fod yn obeithiol ar drothwy tymor newydd. Reidwraig 23 oed fydd yn sicr o elwa o gefnogaeth a sylfaen fwy cadarn tîm Trek-Segafredo eleni wedi iddi symud yno o Valcar Travel & Service. Cyfle gwirinoeddol iddi flodeuo ymhellach. Mae’n siwr y bydd Julian Alaphilippe yn cynnau dychymyg cefnogwyr o Ffrainc a thu hwnt yn ei ail flwyddyn o’r bron yng nghrys yr enfys, gan geisio llenwi bylchau prin yn ei palmarès a dawnsio ar y pedalau yn y mynyddoedd.


Ph


R

Remco - ei flwyddyn?

Mae anafiadau wedi arafu datblygiad Remco Evenepoel yn y blynyddoedd diwethaf, ond dangosodd allu di-os ond diffyg profiad disgwyliedig yn rasys 2021. Mae’r pwysau sydd wedi’i roi ar ei ysgwyddau yn gwneud cyfiawnder a’i dalent, ond mi all fod yn broblem iddo hefyd. Mae disgwyliadau mawr ohono, a dwi’n gobeithio y caiff gyfle i ddangos ei ddoniau heb i’r pwysau fod yn ormod iddo. Newydd droi’n 22 oed mae o, ac mae’n amlwg fod dyfodol disglair o’i flaen os y caiff ryddid gan y gwylwyr a’r cyfryngau i wneud hynny.


Rh


S

SD Worx - gweithio mewn harmoni?

Super-team mwyaf peloton y menywod; 13 reidiwr yn rhan o’r garfan, a phob un ohonyn nhw’n cynnig talent a gallu aruthrol i’r garfan. Elena Cecchini, Niamh Fisher-Black, Roxane Fournier, Lotte Kopecky, Christine Majerus, Ashleigh Moolman, Amy Pieters (wedi anafu ar hyn o bryd), Marlen Reusser, Anna Shackley, Lonneke Uneken, Chantal van den Broek-Blaak, Kata Blanka Vas a Demi Vollering. Y cwestiwn yw, sut maen nhw’n cynnal harmoni lle gallent gydweithio’n effeithlon tra’n galluogi i’r unigolion talentog hyn ddangos eu doniau a chynhyrchu canlyniadau? Bydd profiad Anna van der Breggen, sydd newydd ymddeol a bellach yn directeuse sportive yn y garfan, yn hollbwysig yn eu hymgyrch eleni.


T

Tour de France Femmes

Ras wyth cymal newydd fydd yn dilyn ras y dynion, gan ddechrau ar y Champs-Élysées a gorffen ar La Planche des Belles Filles, fydd yn arddangos y gorau o seiclo menywod. Pa reidwyr fydd yn anelu am y brig? Van Vleuten yn erbyn SD Worx yn erbyn Trek Segafredo? Neu a fydd hi’n fwy cymhleth na hynny? Beth bynnag a ddaw, mae’n argoeli i fod yn wythnos ardderchog o rasio, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn yn barod.


Trek-Segafredo - y tîm i’w guro?

Super team arall peloton y menywod yw Trek-Segafredo, sydd efallai heb restr mor hirfaith ag SD Worx ond yn llwyddo ar werthoedd cadarnhaol o gyd-weithio a gweithio dros gyd-reidwyr. Lizzie Deignan, Audrey Cordon-Ragot, Lucinda Brand, Ellen van Dijk, Elisa Longo Borghini a phencampwraig y byd Elisa Balsamo yw sêr y garfan a gobeithio’n fawr y gwnawn nhw barhau i serennu eleni.


Th


U

UAE: Tîm gwan ag enillydd bellach yn dîm cryf ag enillydd

Mae Tadej Pogačar wedi ennill dau Tour de France o’r bron. Does dim llawer iawn o reidwyr yn gwneud hynny, ac mi wnaeth ei berfformiad urddasol a hurt o gryf yn y Tour llynedd sefydlu ei le fel gwir bencampwr. Er, yn ei ddwy fuddugoliaeth yn Ffrainc, i’w dim fod gydag o pan yr oedd eu hangen (ar y cyfan), doedden nhw ddim yn gryf iawn, ac yn sicr ddim yn rhan annatod o’i fuddugoliaethau. Mae’n bosib iawn y gwnaiff hynny newid eleni wrth i driawd o ddringwyr cryf - Marc Soler (o Movistar), Joao Almeida (o Quickstep) a George Bennett (o Jumbo) - ymuno â’r garfan. Mae hynny’n rhoi dyfnder mawr yn y garfan fydd yn gallu rhoi cefnogaeth i Pogačar yn debyg i’r timau mawr eraill. O weld y newidiadau hyn, mae popeth bellach o blaid Pogačar ar gyfer tymor llwyddiannus; mae’n anelu am y Tour a’r Vuelta eleni. Ond dwi hefyd yn gobeithio y cawn ni weld un ai Soler neu Almeida yn cael cyfle i serennu yn y Giro.


UnoX

Er mai tîm yn yr ail adran yw carfan dynion UnoX, maen nhw eisoes wedi cael eu dewis ar gyfer rhai rasys mawr fel Paris-Roubaix a bydd hi’n braf gweld y garfan Norwyeg yma yn cael cyfle i greu argraff. Yn peloton y menywod, fodd bynnag, mae UnoX yn dîm WorldTour sy’n cynnwys nifer o reidwyr all fygwth am ganlyniadau mawr eleni. Yn eu plith, mae Joss Lowden, perchennog record awr y byd i fenywod, yn ogystal â Hannah Barnes sydd yn aml yn bresennol ar ddiwedd rasys undydd. Mae’r Gymraes Elinor Barker hefyd yn rhan o’r garfan; a hithau’n ei thymor cyntaf ar yr heol ers 2019, dwi’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut hwyl gaiff hi eleni.


(V)

Vollering: y van der Breggen newydd?

Fel y gwnaethon ni grybwyll yn gynharach, mae’n ddechrau newydd i SD Worx wedi ymddeoliad Anna van der Breggen. Ond, mae’r reidwraig ifanc Demi Vollering yn fwy na pharod ac yn fwy nag abl i gamu i’w hesgidiau. Yn 2020 y daeth hi i’n sylw ni gyntaf yn lifrai Parkhotel-Valkenburg lle gorffennodd ar y podiwm yn La Course, a bu SD Worx yn gyflym iawn yn ei harwyddo ar gyfer 2021. Yn dangos ei thalent, mi roddodd reidwyr mwy profiadol ffydd ynddi ar draws y tymor a gweithio er ei budd, ac mi wnaeth hynny ddwyn ffrwyth wrth i Vollering ddod yn fuddugol yn nhaith Prydain, Liège Bastogne Liège a La Course. Mewn 44 diwrnod o rasio, gorffennodd yn y deg uchaf ar 28 o’r rheiny. Reidwraig dalentog iawn sydd ond yn 25, a gyda van der Breggen bellach yn gymorth o’r car fel DS, mae gan Vollering yr holl adnoddau a’r talent i lwyddo ymhellach eleni.


W


Y

Y drindod: brwydrau pellach? Neu tri’n troi’n bedwar? Yn bump?

Os cofiwch i ‘nôl i’r Gwanwyn y llynedd, mi’r oedd nifer fawr iawn o rasys - boed nhw’n rhai undydd neu’n rasys cymalau (Tirreno Adriatico’n enghraifft bennaf) - yn frwydr rhwng y drindod o Julian Alaphilippe, Mathieu van der Poel a Wout van Aert. Mae eu gweld nhw’n mynd benben yn destun cryn gyffro, a dwi’n mawr obeithio y cawn ni sioe fawr ganddyn nhw eleni. Wedi dweud hynny, mae ambell i gwestiwn o’u cwmpas. Y cyntaf yw cyflwr Mathieu van der Poel, sydd ar hyn o bryd yn ymadfer - drwy beidio gwneud dim seiclo - wedi anaf yn ystod y tymor seiclo traws. Pa bryd y daw o’n ôl? Bwgan anghyfarwydd arall i’r tri ohonynt fydd deuawd Ineos Grenadiers. Yn y Tour of Britain, mi’r oedd Ethan Hayter yn ddraenen yn ystlys van Aert ac Alaphilippe, gan arddangos talent aruthrol ar ysgwyddau ifanc i orffen yn 2il rhwng y ddau ohonyn nhw. Ai dyma tymor Tom Pidcock? Yn ei dymor proffesiynol cyntaf y llynnedd, llwyddodd i orffen yn y deg uchaf mewn amryw o rasys undydd mawr fel Strade Bianche, tra’n ennill Brabantse Pijl. Yn dod o’r un cefndir oddi-ar-yr-heol a van Aert a van der Poel, Pidcock fydd eu cystadleuydd mwyaf eleni. Felly a fydd y drindod yn parhau’n drindod, neu a fydd y Prydeinwyr yn ei gwneud hi’n bedwarawd neu’n bumawd? Amser a ddengys.


Diolch am ymuno a mi ar wibdaith o edrych ymlaen at y tymor sydd i ddod; mae’r cyfan yn dechrau o ddifri yn yr wythnosau nesaf. Mi wnewch chi’n sicr elwa o danysgrifiad i un ai GCN+ neu Eurosport gan mai ar y llwyfannau hynny y bydd y rasio’n cael ei ddarlledu.


Gan obeithio y gwnewch chi fwynhau’r tymor!


Recent Posts

See All
bottom of page