top of page

Adduned Blwyddyn Newydd Seiclwr yn 2023

Updated: Jan 6, 2023

Tanysgrifwch i dderbyn y cofnodion diweddaraf yn eich ebost, rhag ichi fethu dim byd! Cliciwch yma: http://eepurl.com/hnfWTb

Onid ydy hi’n teimlo fel bod y byd yn carlamu gan milltir yr awr drwy’r amser, a’r cyfleon i oedi am ennyd yn brin?


Mae’n debyg mai dyna pam fod cymaint o bobl yn gwerthfawrogi’r hoe sy’n dod yn weddol naturiol rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.


Daw cyfle i anadlu; cyfle i edrych ymlaen, a chyfle i adlewyrchu.


Ac mae’n debyg mai dyna pam fod cymaint o bobl yn gwneud adduned blwyddyn newydd.


Gyda hynny, bron y daw haen arall amlwg o gymdeithas gyfoes sy’n arwain at ddyhead parhaus unigolion i wella, i berffeithio, i gael eu derbyn.


Yn hynny o beth, mae ‘na bwyslais ar y llinell derfyn, ar ganlyniad. A phan fo pwyslais ar linell derfyn, ar ganlyniad, mae canol Ionawr yn aml yn dwyn teimlad o fethiant.


A dwi’n sicr ddim yn dymuno teimlad o fethiant.


Ac yn hynny o beth, mae’n camp fach ni o seiclo’n gallu cynnig y datrysiad.


Mae ‘na rai seiclwyr, fel fi, yn hoff o eistedd ar olwyn y reidiwr o’u blaen.


Drwy hyn, mae modd defnyddio’u sgîl-wynt nhw i arbed egni, rhag bod ein pennau ni’n y gwynt drwy’r amser.


Ac er enghraifft, pan fo ffordd yn llawn o dyllau, neu efallai pan y byddo’r beic oddi ar darmac, ar lwybrau beicio mynydd efallai, mae modd dilyn arweiniad y reidiwr o’u blaen er mwyn dod o hyd i’r llwybr mwyaf esmwyth, mwyaf effeithlon.


Drwy guddio’n hunain rhag y pen-wynt, mi allwn ni adael i’r llwybr ein harwain ni, a gadael i’w arweiniad ein dysgu ni. Mi allwn ni, ys dywed y Sais, go with the flow.


Drwy hyn, mi allwn ni gadw gafael dynn ar y gwir resymau sy’n golygu’n bod ni’n dal i fod yn barod i estyn y beic o’r sied, o’r garej, o ba le bynnag.


Mi allwn ni gadw gafael dynn ar fwynhau - a pheidio bod yn or-hoff o ddilyn pob ymosodiad, o fynnu mynd ar ôl pob symudiad ymlaen.


Drwy guddio’n y sgîl-wynt, mi allwn ni ddewis ein hennyd i ymosod, i ddawnsio ar y pedalau tua’r copaon, o wybod fod posib goresgyn yr heriau ddaw i’n cwfwr ni.


Mae’n gadael i ni dderbyn y pant a’r bryn.


*


Fel y bûm i’n sôn, mae’r adeg yma o’r flwyddyn yn gyfnod o newid. A bob blwyddyn, dwi wastad yn gwneud rhyw fân newidiadau i’r blog neu’r wefan tua’r adeg yma.


Bydd y rhai craff ohonoch wedi sylwi ar y newid ffont! A’r rhai sy’n fwy craff byth wedi sylwi ar dudalen newydd yr o’n i eisiau ei chreu er mwyn arddangos portffolio ehangach o ‘ngwaith sgwennu, yn benodol ar gyfer cyhoeddiadau eraill. Pe dymunech fynd draw i bori, dyma’r ddolen: www.yddwyolwyn.cymru/gruffudd


Ar hynny, ga’i ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, gan obeithio y ca’i’ch cwmni chi drwy’r blog ar hyd 2023.



Recent Posts

See All
bottom of page