top of page

Adolwg Ionawr a Rhagolwg Chwefror

Mae mis Ionawr wedi bod yn fis perffaith i gychwyn tymor newydd o rasio proffesiynol, ac mae digon i’w drafod.


Ond yn gyntaf gadewch i ni atgoffa’n hunain o brif ddigwyddiadau’r mis.


Awstralia - Down Under Classic, Tour Down Under, Cadel Evans’ Great Ocean Road Race a’r Herald Sun Tour


Yn dra wahanol i’r tywydd yng Nghymru yn y mis diwethaf, roedd y reidwyr yn rasio mewn tymhereddau o 40 gradd selsiws ar gyfer y Tour Down Under.


Ond cyn hynny, roedd y prawf cyntaf i gynhesu 'fyny yn y 'Down Under Classic', lle Caleb Ewan o dim Lotto Soudal gurodd bencampwr Slovakia, Peter Sagan o dim Bora-Hansgrohe i'r llinell derfyn.


Ond ar y cymal cyntaf Elia Viviani o dim Deceuninck Quickstep oedd yn fuddugol, gyda Max Walscheid, Sunweb, yn ail a Jakub Mareczko yn drydydd - gyda'i gyd-reidiwr CCC, Patrick Bevin, yn cipio eiliadau bonws allweddol yn y gwibiau canolig.


A Bevin gipiodd y crys ocr ar yr ail cymal wedi buddugoliaeth annisgwyl gan guro Ewan a Sagan. Yn bendant roedd CCC yn chwarae gem dactegol iawn a gweithio'n wych i gefnogi Bevin ar y daith.


Bevin yn ennill cymal 2 y TDU

Mi lwyddodd Bevin i gadw'r crys ar gymal 3, ond Peter Sagan oedd yn fuddugol ar y ddringfa fer. Reidiwr Astana, Luis Leon Sanchez daeth yn ail er mwyn esgyn i'r trydydd safle ar y dosbarthiad cyffredinol, a Daryl Impey gwblhaodd y podiwm ar y cymal.


Impey gipiodd y fuddugoliaeth o grafangau Bevin ar gymal 4 yn Campbelltown, ac yntau'n esgyn i'r ail safle ar y DC, 7 eiliad y tu i'r arweinydd. Gorffennodd Sanchez yn drydydd i barhau i herio'r dosbarthiad cyffredinol.


Ac ar cymal 5, y gwibiwr ifanc Jasper Philipsen o dim UAE Emirates oedd yn gyfiawn i'r fuddugoliaeth wedi i Ewan gael ei ddiarddel am amharu ar y wib; gyda safleoedd y dosbarthiad cyffredinol yn aros yr un peth, ond Sanchez yn colli pum eiliad.


I orffen y ras, daeth y ddringfa nodedig, Willunga Hill a Richie Porte oedd y ffefryn unwaith yn rhagor eleni - ac mi ad-dalodd o'r ffydd gan gipio'i chweched buddugoliaeth o'r bron ar y ddringfa. Ond, nid oedd yn ddigon i atal Daryl Impey rhag dod y reidiwr cyntaf yn hanes y ras i ennill ddwy flynedd yn olynol.


Llwyddodd Porte, fodd bynnag, i orffen yn ail ar y dosbarthiad cyffredinol 13 eiliad y tu ol i Impey, gyda Wout Poels yn drydydd 17 eiliad yn ol. Disgynodd Sanchez i'r pedwerydd safle wedi perfformiad cyson ar draws y cymalau diwethaf.


Impey'n fuddugol ar cymal 4 y TDU ar ei ffordd i ennill y DC

Bevin oedd ar frig y dosbarthiad bwyntiau ar ddiwedd y ras gyda Danny Van Poppel yn ail a Peter Sagan yn drydydd. Jason Lea o dim UniSA oedd yn fuddugol ar y dosbarthiad mynyddoedd wedi perfformiadau'n y dihangiad, a Chris Hamilton o dim Sunweb oedd y reidiwr ifanc gorau. 


Ac yna ychydig yn fwy diweddar, Elia Viviani esgynnodd i’r fuddugoliaeth yn y Cadel Evans Great Ocean Road Race, gydag Ewan yn ail ac Impey yn drydydd, a Luke Rowe yn chweched ac Owain Doull yn nawfed.


Daeth dau fuddugoliaeth mewn dau cymal i EF Education First yn yr Herald Sun Tour - gyda Dan McLay yn ennill cymal 1 a Mike Woods yn ennill cymal 2.


Doull yn gyntaf a Rowe yn ail ar cymal 3 yr Herald Sun Tour

Ond llawennydd mawr i Gymru ddaeth ar cymal 3 - gydag Owain Doull yn gorffen yn gyntaf a Luke Rowe’n ail wedi i’r pâr o Gaerdydd ymosod eu cyd-ddihangwyr.


Wedi cymal 4 a buddugoliaeth Nick Schultz, roedd Sky’n parhau i ddominyddu’r ras gyda Dylan van Baarle yn camu i grys melyn yr arweinydd.


Ac fe ennillon nhw'r cymal olaf hefyd drwy wib Kristoffer Halvorsen, gyda van Baarle yn cadw'i afael ar y crys a gorffen ar frig y DC.


Vuelta a San Juan


Yn wahanol i nifer o wibwyr yn y gorffennol, mae Fernando Gaviria wedi setlo’n gyflym iawn o dan faner ei dîm newydd, UAE Team Emirates. Cipiodd fuddugoliaeth ar cymal 1 a cymal 4 yn ei ras gyntaf i’r tîm.


Yn y cyfamser, Julian Alaphilippe gymrodd grys yr arweinydd wedi iddo ennill ar ben ei hun ar cymal 2 ac yn y REC ar cymal 3.

Alaphilippe yn ennill cymal 2, Vuelta a San Juan

Fodd bynnag, colli ei grys wnaeth ar cymal 5 ar gopa Alto Colorado i Winner Anacona gipiodd y fuddugoliaeth o ddihangiad o dri.


Dihangiad o dri oedd yn llwyddiannus ar cymal 6 hefyd - gyda German Tivani'n cipio'r fuddugoliaeth, 12 eiliad o flaen y peloton - lle Sam Bennett orffennodd o flaen Gaviria.


Diwedderir y gofnod gyda'r canlyniadau cymal 7 a'r dosbarthiadau terfynol.


Mis da i...

Mitchelton Scott

Yn eu ras gartref, llwyddodd Mitchelton Scott gipio buddugoliaeth yn nosbarthiad cyffredinol Tour Down Under y dynion a’r menywod.

Amanda Spratt a'i thim wedi iddi ennill y TDU.

Ar ben hynny, golyga’u bod yn amddiffyn teitlau llynedd. Yn gyntaf, daeth Amanda Spratt i’r brig wedi iddi ennill cymal 2 - a’i chyd-reidiwr Lucy Kennedy’n ail ar y DC 49 eiliad yn ôl.


Yna, seliodd Daryl Impey fuddugoliaeth DC y dynion er i Porte ennill ar Willunga - gan ddod y reidiwr cyntaf erioed i ennill y ras ddwywaith o’r bron.


Mis gwael i...

Deceuninck QuickStep

Roedd ymddygiad y tîm oddi ar y beic yn gwmwl du dros ddau fuddugoliaeth gymal i Julian Alaphilippe a pherfformiad cadarnhaol Remco Evenepoel, 19, yn y Vuelta a San Juan.

Rheolwr y tim, Patrick Lefevere

Bu i Iljo Keisse gael ei adrodd i’r heddlu am ymddygiad anweddus tuag at ddynes oeddent yn cymryd llun â hi.


Ond ymateb amhroffesiynol y rheolwr, Patrick Lefevere a thad Keisse ddaliodd sylw - y ddau’n dweud mai ceisio gwneud arian o’r sefyllfa oedd y ddynes, a Lefevere yn tynnu’r tîm o’r seremoni podiwm a bygwth tynnu’r tîm o’r ras.


I ddod ym mis Chwefror

Volta Comunitat a la Valenciana (6ed - 10fed)

Mae pencampwr y Tour de France, Geraint Thomas, yn agor ei dymor yn y Volta Comunitat a la Valenciana. Yn ymuno ag o yn y ras (sy'n bum cymal o hyd) - yn rhan o restr cychwynnol llawn ser - mae enillydd y llynedd, Alejandro Valverde, ynghyd ag Adam Yates ac Esteban Chaves (Mitchelton-Scott), Luis Leon Sanchez (Astana); a bydd Groenewegen, Bouhanni, Boasson Hagen, Boudat a Trentin yn brwydro am gymalau gwibio.

https://www.procyclingstats.com/race/vuelta-a-la-comunidad-valenciana/overview


(Ch-dd) Quintana, Bernal, Uran - Colombia Oro y Paz 2018

Colombia 2.1 (12fed - 17eg)

Newid enw dadleuol o 'Colombia Oro y Paz', llynnedd oedd blwyddyn gyntaf bodolaeth y ras. Bydd Egan Bernal yno i amddiffyn ei deitl. Yn ymuno ag o bydd Miguel Angel Lopez, Froome, Quintana, Carapaz, Soler, Alaphilippe, Uran a Jungels tra bydd Ivan Sosa'n gwneud ei debut i Sky. Y gwibwyr yn y ras fydd Gaviria, Hodeg, Molano a Richeze.

https://www.procyclingstats.com/race/colombia-oro-y-paz/2019/gc/overview


Volta ao Algarve (20fed - 24ain)

Bydd Geraint yn parhau ei dymor rasio ym Mhortiwgal mewn ras sydd hefyd yn bum diwrnod o hyd. Ennillodd o'r ras yn 2015 a 2016. Yn ymuno ag o eleni, mae Enric Mas, Wout Poels, Rafa Majka, Fabio Aru a Remco Evenepoel; tra bydd Groenewegen, Boasson Hagen, Ackermann, Jakobsen, Demare, Philipsen a Degenkolb yno i wibio am y cymalau gwastad.

https://www.procyclingstats.com/race/volta-ao-algarve/overview


Podiwm terfynol Ruta del Sol 2018 - (ch-dd) Poels, Wellens, Soler

Vuelta Ciclista a Andalucia - Ruta del Sol (20fed - 24ain)

Bydd Tim Wellens yn dychwelyd i amddiffyn ei deitl yn Andalucia dros y ras bym cymal, sydd a phroffil bryniog a mynyddig iawn. Yn ei erbyn, bydd Jakob Fuglsang, Luis Leon Sanchez, Simon Yates, Adam Yates, Mikel Nieve, Esteban Chaves a Steven Kruijswijk. Mae'n debyg y bydd y Cymro ifanc, Stevie Williams, yn gwneud ei debut i Bahrain-Merida os y bydd yn holliach o'i anaf.

https://www.procyclingstats.com/race/ruta-del-sol/overview/


Taith UAE (24ain - 2il o Fawrth)

Saith cymal sydd i'r ras hon wedi iddi gyfuno'r Dubai Tour a'r Abu Dhabi Tour. Mae nifer o ser mawr y byd seiclo yn heidio i'r ras eleni; Roglic, Valverde, Froome, Dumoulin, Kwiatkowski, Porte, Zakarin, Kelderman, Mollema, Dennis a Nibali. O ran y gwibwyr, bydd Ewan, Viviani, Gaviria, Kittel, Walscheid, Mareczko a Bauhaus yn brwydro am y cymalau gwastad.

Penc. REC y byd 2018. (ch-dd) Roglic, Dumoulin, Froome

https://www.procyclingstats.com/race/uae-tour/overview


Rasys eraill:

  • Tour de la Provence (14/2 - 17/2)

  • Tour of Oman (16/2 - 21/2)

Edrych ymlaen at fis prysur o rasio o'n blaen cyn tymor y clasuron!

Recent Posts

See All
bottom of page