top of page

Adolygiad: 'Full Gas' gan Peter Cossins

Dwi'n siwr eich bod chi wedi laru ar glywed bod cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfle i adfer persbectif, ond mae'n bendant wedi bod yn wir i mi. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli bod y byd yn dal i droi os y gwnai ddiffodd y ffon symudol a phigo llyfr i fyny a darllen.


Mae'r tywydd braf diweddar yn yr ystyr yma - a phob ystyr arall - wedi bod yn achubiaeth. Daeth y cyfle felly i bori drwy lyfrau nad oeddwn 'wedi cael cyfle' i'w darllen (yn dod yn ol at y pwynt o adennill persbectif), ac un ohonyt oedd 'Full Gas' gan Peter Cossins.


Cyn i mi ddweud mwy, dyma mae'r llyfr yn gaddo i fod:


Teitl: Full Gas! How the race was won: tactics from inside the peloton Awdur: Peter Cossins

Gwasg: Yellow Jersey Press Pris: £9.99 (clawr papur), £4.99 (e-lyfr) Linc: https://www.goodreads.com/book/show/40474249-full-gas


Broliant: "So how do you win a bike race? How do you cope with crosswinds, cobbles, elbows-out sprints, weaving your way through a teeming peloton? Why are steady nerves one of the best weapons in a rider’s arsenal and breakaway artists to be revered? Where do you see the finest showcase of tactical brilliance? Peter Cossins takes us on to the team buses to hear pro cyclists and directeurs sportifs explain their tactics: when it went right, when they got it wrong – from sprinting to summits, from breakaways to bluffing.

Hectic, thrilling, but sometimes impenetrable – watching a bike race can baffle as much as entertain. Full Gas is the essential guide to make sense of all things peloton."


Cyn dechrau, mae'n rhaid sylweddoli un peth bach sydd efallai ychydig yn aneglur wrth edrych ar fersiynau gwahanol o'r llyfr ar lein. Mae'r copi diweddaraf o'r gyfrol yn nodi'r disgrifiad 'how the race was won', a fersiwn blaenorol yn nodi'r disgrifiad 'how to win a race'. Unwaith yr ydych chi'n deall mai 'how the race was won' yw'r disgrifiad cywir, ac nad oes digon yma i ddisgrifio sut i weithredu ar y tactegau hyn o fewn eich rasio chi, mae modd mwynhau'r llyfr yma i'w eithaf.


Dros y blynyddoedd, mae Peter Cossins wedi datblygu i fod yn hen law ar ysgrifennu cyfrolau ar seiclo proffesiynol, gyda chopiau o lyfrau'n son am Alpe d'Huez, bywgraffiad teyrngedol o Dave Rayner, 'The Monuments' a 'Ultimate Etapes'.


Rwy'n hynod hoff o'r frawddeg olaf o'r prologue, sy'n ein hatgoffa ni er mor gymhleth yw rasio beics - 'Full Gas is the vogue term for riding flat out - giving absolutely everything left in the tank is the most fundamental tactic of all'.


Wedi hyn, mae'n bosib iddo ymddangos yn araf i gychwyn, ond mae'n hollbwysig i osod sylfaeni cadarn ar gyfer gweddill y gyfrol. Defnyddia gyfuniad o ddadansoddiad o strategaethau llwyddiannus degawdau diwethaf yr ugueinfed ganrif a mewnbwn gan un o hoelion wyth y peloton presennol, Thomas de Gendt, i addysgu'r darllennydd am saerniaeth a datblygiad tactegau modern.


Yn y 62 tudalen sy'n sail solet i bennodau manylach am dactegau cyfoes, mae ymchwil trwyadl Cossins i gywain pytiau cyfredol yn amlwg, ac yn ganmoliadwy. Yr oedd angen 'beibl' neu gasgliad o dactegau ar y byd seiclo - fel bod yr afrej jo fel chi a fi yn gwybod beth mae'r sylwebwyr a dadansoddwyr yn son amdano pan yn cyfeirio at y 'textbook moves'.


Wedi gosod y sylfaeni hyn gellir mynd ymlaen ymhellach ac i fwy o fanylder. Mae pennodau manwl i'w cael am dactegau mewn cymalau/rasys yn y mynyddoedd, tactegau yn y clasuron, reidio yn y dihangiad a'r gruppetto, gwibio, rasys yn erbyn y cloc a mwy.


Ceir cyfraniadau gwerthfawr sy'n ychwanegu tipyn o sylwedd a chefnogaeth i'r gyfrol gan enwogion y gamp, boed hynny'n reidwyr cyfoes neu'n rai sydd wedi ymddeol, megis Tiffany Cromwell, Patrick Lefevre a Koen de Kort i enwi ond tri.


Un agwedd ddiddorol o'r gyfrol yw'r pennodau sy'n son am sut y mae'r sefyllfa o fewn y rasys wedi newid - er enghraifft sut y newidiodd peloton o fod yn sefyllfa anniben i un dan reolaeth a threfn - yr hyn sydd wedi effeithio ar hynny, a'r hyn sy'n cael ei effeithio gan hynny.


Fodd bynnag, y pennodau sy'n trin a thrafod rhai o bynciau llosg y byd seiclo presennol yw'r rhai sy'n dyrchafu'r llyfr hwn i'r lefel nesaf. Mi wnes i'n sicr fwynhau'r drafodaeth iach ac ychydig o ddadlau ynglyn a'r effaith mae technoleg yn ei gael ar dactegau a'r pwynt clir nad yw newidiadau sy'n peri rhwyg mewn barn o fewn y gamp yn unrhywbeth newydd.


Er ei leoliad tua diwedd y llyfr, mae'r bennod am sut y dylai adeiladwaith cymalau, rasys a thactegau o fewn y byd seiclo i fenywod fod yn batrwm i'r gyfwerth i ddynion yn sefyll allan. Mae'n rhan hynod bwysig o sut mae pennodau diwethaf y gyfrol yn llwyddo i roi sylfaen i rywun i ffurfio barn ar y pynciau llosg hyn.

 

Y farn derfynol: Dyma i chi ganllaw gwerthfawr ac angenrheidiol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn y gamp o'u cadair. Llwydda i ddadgloi yr hyn sy'n ymddangos i fod yn annibendod amryliw drwy gyfuniad o fewnweldiad gan y seiclwyr proffesiynol, newyddiadurwyr a directeurs sportifs yn ogystal a dadansoddiad a chwyddwydr Cossins yn plethu at eu gilydd i greu cyfrol sydd werth pob ceiniog.


Byddwn i'n ei argymell i unrhyw un sydd... yn ymddiddori yn y gamp gymhleth ac yn awyddus i ddatod y cylymau er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o'r byd seiclo.

Recent Posts

See All
bottom of page