top of page

All AI fy helpu i aros ar y beic drwy dymor yr arholiadau?

Cyfle i chi ymuno â mi (ar y beic, nid yn yr arholiadau) gyda chôd arbennig ar ddiwedd y cofnod.

Maddeuwch y teitl 'clickbait'; mae AI yn dwyn tipyn o sylw ar hyn o bryd, felly dwi'n neidio ar y bandwagon â tholc go lew o betrustod!


Yn lled-ddiweddar mi gawson ni sgwrs gydag Ifan Roberts sy'n gweithio fel gwyddonydd chwaraeon i gwmni Pillar, ap hyfforddiant i seiclwyr.


Yn ei eiriau fo, "hyfforddwr beico digidol yw Pillar sydd yn galluogi chi gyrraedd eich nodau ar eich telerau chi.


"Yn defnyddio technoleg artificial intelligence ac yn dilyn y gwyddoniaeth mwyaf blaengar, mae Pillar yn cesio eich helpu i gymryd camau integredig ar draws gwahanol ffactorau eich ffitrwydd ac iechyd mewn ffordd sy’n optimaidd chi a’ch bywyd.


"Mae’r amser o gynlluniau hyfforddi beicio generig a static ar ben. Mae Pillar yn dod a hyfforddiant beicio personol a deinameg i chi am bris y gall pawb ei fforddio."


Mae Ifan, yn hael iawn, wedi fy ngwahodd i i drïo'r ap, a rhoi ychydig o fewnwelediad i chithau drwy gyfrwng y blog.


Beth yn union ydw i am fod yn ei wneud?


Dwi am fod yn dilyn cynllun 12 wythnos i weld sut y galla' i wella fy nringo.


Y catch?


Mae gen i ryw un a hanner swydd rhan amser, hobïau a diddordebau eraill i'w cynnal a Steddfod yr Urdd yng nghanol y botes honno. Ar ben hynny, mae hi'n dymor arholiadau, a minnau'n sefyll 4 lefel A ac wyth arholiad yn weddill.


Felly dyma ofyn y cwestiwn; ydy Pillar yn mynd i allu fy helpu i gael fy mrwdfrydedd am seiclo yn ei ôl, a gweld gwerth seiclo yng nghanol yr holl brysurdeb?


Y nod


Y nod dw i wedi'i osod i mi fy hun ydi curo fy amser gorau ar ddringfa Bwlch y Groes - fy hoff ddringfa.


Fy amser gorau oedd 24 munud, 31 eiliad, a hynny gryn dipyn yn ôl yng Ngorffennaf 2020.


Dw i wedi llwyddo i hofran o gwmpas y 26-27 munud yn go gyson wrth fynd amdani ar y ddringfa pan fo amser yn brin, ond yn stryglo i guro'r amser hwnnw'n dal i fod.

Y gobaith yw y bydd y cynllun o fudd wrth guro'r amser hwnnw.


Cam cyntaf


Nid dyma'r unig nod, wrth gwrs, fel yr ydw i wedi sôn yn barod.


Dw i eisiau gallu mwynhau wythnosau'r haf a llwyddo i seiclo am oriau maith ar reids hir, ac mae hynny'n gofyn am fod yn reidiwr cyflawn.


Bydd y rhan yma'n diddori sawl un ohonoch chi sy'n hoff o ochr hyfforddiant y gamp, wrth i mi geisio gwella fy ngallu mewn pum elfen greiddiol (sprint, endurance, VO2 max, threshold ac anaerobic).


Roedd angen i mi felly wneud prawf ar y Wattbike yr wythnos hon i osod safon i'w guro ar ddiwedd y cynllun.


Mewn prawf o awr o hyd, roedd angen i mi wneud dau sbrint wyth eiliad o hyd, un ymdrech 3 munud ac un ymdrech 8 munud.


Tipyn o her, ond roeddwn i wedi siomi fy hun ar yr ochr orau ac wedi gosod ffigyrau pŵer gwell nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl.

Dyma'r graff gan Pillar sy'n dangos fy ngallu ar draws y pum elfen, a dyma'r rhifau y bydda'i'n ceisio eu curo ar ddiwedd y cynllun.


Y cynllun


Y cynllun wedi'i argymell i mi yw'r cynllun deuddeg wythnos ar gyfer dringfeydd 'canolig' o ran hyd, a'r gobaith yw y bydd hwn yn fy helpu i wella'n gyffredinol, ac nid yn unig fy amser ar y Bwlch.


Dringfa 8km ar 4% yn dechnegol yw'r Bwlch, ond mae'r hanner olaf yn fwy o her na'r gyntaf o dipyn.


Dyma'r strategaeth pacing mae Pillar wedi'i argymell i mi, gyda'r oren yn cynrychioli rhoi mwy o ymdrech na'r orig yn y melyn fel petai.

Ar sail fy ffisioleg bresennol, mae Pillar yn rhoi fy amser disgwyledig yn 28 munud, 56 eiliad.


Ar ddiwedd y cynllun, mae Pillar yn rhagweld y gallwn i gyrraedd amser o 25 munud, 51 eiliad.


Dwi'n dawel hyderus y galla i wneud yn well na hynny, ond cawn weld.


Bydd rhaid i chi aros hyd ddiwedd y cynllun tri mis pan fydd blog i grynhoi'r cyfan!


Yn y cyfamser, mae cyfle i chi ymuno â mi.


Mae Ifan yn hael iawn wedi cynnig mis am ddim i chithau hefyd, pe baech yn dilyn y linc yma https://pillarapp.page.link/yddwyolwyn.


Mae llawer ohonoch eisoes wedi gwneud hynny yn dilyn y cofnod gwreiddiol, ac mi allwch chi fynd yn ôl i ddarllen y cofnod hwnnw drwy glicio yma: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/ifan-roberts-yn-egluro-pillar




Recent Posts

See All

Comments


bottom of page