top of page

Anelu'n Uchel: 10 Dringfa Uchaf Cymru

Does dim llawer yn well ar feic na chyrraedd yr uchelfannau. Yr ymdeimlad o gyflawniad, yr aer teneuach a gan amlaf golygfeydd dros y tir islaw.


Dydy o ddim yn syndod felly fod y rasys mawrion fel y Tour, y Giro, y Vuelta, y Dauphine ac yn y blaen yn ffrwydro yn y mynyddoedd mawrion.


Ac er ddim mor uchel a'r Col de la Madeleine (2000m), Col de l'Iseran (2764m) neu Col du Tourmalet (2115m) mae'r profiad o gyrraedd yr uchelfannau yn rhywbeth y gallwn ni'i werthfawrogi yma yng Nghymru.


Does dim syndod chwaith fod 5 o'r 10 dringfa uchaf yng Nghymru wedi'i pleidleisio ymysg y 10 dringfa fwyaf eiconig yng Nghymru yn y gofnod o 2020.


Er fy mod i'n gwybod bod beic graean neu feic mynydd yn ehangu'ch gorwelion ymhellach fyth i'r uchelfannau, dyma'r 10 dringfa uchaf yng Nghymru y gellir eu cyrraedd ar feic ffordd gyffredin.


Mwynhewch!


*defnyddiwyd VeloViewer er mwyn dod o hyd i lefel y copaon uwchlaw lefel y mor.


9=. Rhigos 502m / 1647ft

Mae cydradd nawfed ar y rhestr ar uchder o 502m, neu 1647 troedfedd. Un ohonynt yw'r Rhigos - y gallwch ei dringo o Dreorci neu o bentref y Rhigos - sydd wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad ein seiclwyr mwyaf llwyddiannus ar eu dringfa i uchelfannau'r gamp broffesiynol.


9=. Mynydd Du 502m / 1647ft

anwybyddwch yr uchder ar y graffeg - mae o'n anghywir!


Cafwyd pleidlais ar Twitter i benderfynu p'un ai'r Rhigos neu'r Mynydd Du fyddai'n cael bod yn uwch ar y rhestr a'r Mynydd Du ddaeth i'r brig gyda 2/3 o'r bleidlais. Dyma ddringfa ar yr A489 yng nghornel gogledd-orllewinol o barc cenedlaethol y Bannau, rhwng Brynaman a Llangadog.


8. Hirnant 503m / 1650ft

Graffeg gwallus eto


Pan mae gen i awr yn sbar i fan hyn y byddai'n mynd, ac rwy'n ffodus iawn o allu dweud hynny. Er dringo'n ddigon graddol o bont mwnwgl y llyn yn y Bala, mae'r dringo go iawn yn dechrau o'r grid lle mae'r ddringfa yn ei chyfanrwydd i'w gweld yn glir. Mae'r diweddglo i'r copa'n serth a dramatig. Dyma'r ffordd fyrraf i gysylltu Llyn Tegid gyda Llyn Efyrnwy, ac wrth ddisgyn o'r copa am y gronfa ddwr ydych chi'n croesi'r ffin allan o Wynedd ac Eryri i Bowys.


7. Dylife 510m / 1673ft

Llun gan Robyn Davies o'i gofnod Hoff Bump yn 2020


Ffordd ddigon eang ac agored rhwng Llanidloes a Machynlleth lle mae'r pwynt uchaf dafliad carreg o gofeb goffa Wynford Vaughan Thomas. Oddi yma ceir golygfeydd cyn belled ag Eryri i'r gogledd. Ardal o Gymru sydd angen i mi'n bersonol ei brofi cyn hir, heb os.


6. Y Tymbl 512m / 1680ft

Llun gan Dyfrig Williams (@DyfrigWilliams) o'i gofnod Hoff Bump yn 2020


Awn i'r de Ddwyrain ar gyfer rhif 6, sef dringfa'r Tymbl. Dyma leoliad pencampwriaethau 'hill climb' cenedlaethol Cymru yn 2019 ac mae'r seiclwyr proffesiynol wedi herio'r graddiannau amrywiol yn y Tour of Britain hefyd. Mae'r ardal eang i'w gweld o'r copa, a cheir posibiliadau am routes o Gwmbran, y Fenni neu hyd yn oed Caerdydd.


5. Mynydd Llangynidr 522m / 1713ft

Heb fod yn rhy bell o'r Tymbl mae mynydd Llangynidr. O Langynidr, mae'n dringo'n raddol ar ryw 7% ond mae'n cyrraedd 16% ar ei serthaf. James Knox osododd y KOM yn 2013 ac mae o bellach yn reidio i Deceuninck-Quickstep yn y WorldTour.


4. Bwlch y Clawdd 527m / 1729ft

eto, ymddiheuriadau am anghywirdeb y graffeg


Un arall o ddringfeydd mwyaf eiconig Cymru yw Bwlch y Clawdd, sy'n cael ei dalfyrru'n aml i 'Bwlch' neu 'the Bwlch'. Dringfa fydd yn gyfarwydd i nifer o'r darllennwyr ac yn aml yn un hanner o double act gyda'r Rhigos. Dringfa debyg a geir o bob cyfeiriad; o Price Town, o Gymer neu o Dreorci.


3. Bwlch y Groes 549m / 1801ft

ac eto, ymddiheuro am yr anghywirdeb


A hithau'n wyliau'r Pasg, rydw i'n ddigon ffodus o fod wedi gallu cyrraedd copa'r Bwlch deirgwaith yn yr wythnos ddiwethaf. Dyma'r ffordd uchaf sy'n addas i geir yng Ngogledd Cymru, ac mae wedi ennill parch seiclwyr y wlad yn bennaf oherwydd y graddiannau serth diddiwedd o Lanymawddwy. Mewn cymhariaeth, mae'r dringfeydd o Lanuwchllyn neu'r Fyrnwy yn dipyn haws ond mae bob amser yn werth cyrraedd y copa, o unrhyw gyfeiriad.


2. Bwlch yr Efengyl 551m / 1808ft

Wrth ddringo ddau fedr yn uwch, mi gyrrhaeddwn ni'r ffordd uchaf yn addas i geir yng Nghymru gyfan i Fwlch yr Efengyl (Gospel Pass). Lleolir yn y Bannau Brycheiniog rhwng y Gelli Gandryll a Chapel y Ffin heb fod ymhell o'r ffin gyda Swydd Henffordd a Lloegr. O'r copa ceir golygfeydd dros ddyffryn Ewias a dyffryn Gwy.


1. Marchlyn 658m / 2159ft

Llun gan Lefi Gruffudd (@lefigruffudd) o'i gofnod Hoff Bump yn 2020


Dyma'r uchaf ohonynt i gyd, a gorau oll - nid yw'n agored i geir. Un o'r dringfeydd diarffordd yng Nghymru, a byddai nifer yn dadlau mai dyma'r ddringfa orau yn Eryri os nad Cymru gyfan. Mae'n dringo o Ddeiniolen at y gronfa ddwr sy'n rhan o system gynhyrchu trydan Dinorwig ar lethrau Elidir Fawr. Ceir golygfeydd penigamp o gopaon mwyaf mawreddog Eryri.


Mae cyhoeddiad y gofnod hon yn reit amserol a dweud y gwir, wrth i Jac Lewis LWYDDO i ddringo dringfa Marchlyn 101, ie 101, o weithiau er mwyn dringo cyfwerth a 3, ie 3, Everest gyda chyfanswm o bron i 90,000 o droedfeddi. Hynny oll at achos teilwng iawn - sef Cymdeithas Alzheimer's - gallwch gyfrannu yma = gofundme.com/f/triple-everest. Dyma gamp sydd erioed wedi'i chyflawni yn y DG o'r blaen, felly llongyfarchiadau mawr.

Recent Posts

See All
bottom of page