Ar dy feic: Eisteddfod yr Urdd Dinbych

Updated: May 30

Mae’n hurt meddwl nad oes Eisteddfod yr Urdd wedi bod ers Caerdydd 2019, dim Eisteddfod ar gae wedi bod ers Llantrisant yn 2017, ac nad oes Eisteddfod wedi bod yn y gogledd o gwbl ers 2016 - yr Eisteddfod yn y Fflint yr unig un ers Eisteddfod y Bala wyth mlynedd yn ôl. Yng ngwir ysbryd yr Eisteddfod, mi gawson ni gam yn 2019 pan aeth yr Urdd i Lanelwedd, ac wedyn mae’r pandemig wedi dod ar draws y ddwy flynedd ddiwethaf.


Mae’n fwy hurt byth meddwl mai dim ond un Eisteddfod yr Urdd sydd wedi bod ers i mi ddechrau ‘sgwennu blog Y Ddwy Olwyn.


‘Dw i ddim yn meddwl ‘mod i wedi bachu ar y cyfle i greu cofnod am uchafbwyntiau seiclo ym mro’r Eisteddfod bryd hynny; does dim digon o awdurdod gen i ar seiclo yng Nghaerdydd.


Ond dwi’n grediniol bod gen i fymryn mwy o awdurdod ar sir Ddinbych; digon o awdurdod i gael get-away ar lenwi’r wythnos hon yng nghalendr y blog gyda rhai o’r llefydd gorau i fynd ar feic ym mro’r ‘Steddfod eleni, boed ichi’w mynychu neu beidio.


Mae gwreiddiau teuluol digon dwfn yng nghyffiniau Dinbych, ac unrhyw gyfle i fwynhau bryniau dyffryn Clwyd yn apelgar.


Er nad oes ganddi’r un statws efallai ag Eryri neu sir Benfro neu’r Bannau ymysg lleoliadau epic seiclo yng Nghymru, mae’n parhau i fod yn fro hyfryd i seiclo ynddi; bro o bant a bryn sydd â lonydd culion yn nadreddu ar lawr ei dyffryn ac i’w chopaon. Yr unig wendid yw cyndynrwydd y cyngor sir i darmacio.


Mae’n elwa rhywfaint hefyd o fod yn llai poblogaidd; y ffyrdd gan fwyaf yn dawel ac yn rhoi cyfle i rywun anadlu. Bydd hi’n ddiddorol gweld os y bydd hynny’n newid wrth iddi ennyn statws parc cenedlaethol mewn ychydig flynyddoedd.


Beth bynnag, dyna ddigon o rwdlan, dyma restr o ddeg man i’w cynnwys ar reid yn cychwyn o Ddinbych, wedi eu trefnu o ran pellter o'r maes.

1. Castell Dinbych

2 filltir o faes yr Eisteddfod


Dw i’n gwybod y bydd hwn efallai fymryn yn agos i stopio am bicnic pe baech yn cychwyn o’r dref, ond mae’n sicr yn rhywle y dylech chi fynd i’w weld. Wedi’i adeiladu gan Henry de Lacy tua 1282, mae’n gastell hynod fawreddog sy’n llecyn perffaith i blethu hanes a threftadaeth yr ardal i’ch taith.


2. Moel Arthur

5 milltir o faes yr Eisteddfod


Dyma ddringfa enwyd yng nghyfrolau adnabyddus Simon Warren ymysg y goreuon yng Nghymru a Phrydain - rhif 87 yn 100 Cycling Climbs. O’r ochr orllewinol sydd agosaf at y maes, mae’n ddringfa 1.4 milltir o hyd sydd â graddiannau o hyd at 20%, yn nodweddiadol o’r ardal.


3. Llanelwy

7 milltir o faes yr Eisteddfod


Efallai fod y cyhoeddiad fod Wrecsam bellach yn brifddinas wedi erydu rhywfaint ar statws Llanelwy fel ‘prifddinas’ y Gogledd Ddwyrain, ond mae’n parhau i fod yn fan o ddiddordeb mewn lleoliad hawdd ei gyrraedd o Ddinbych. Fwyaf o ddiddordeb o ran y seiclwyr efallai fydd fod y ddinas yn darddbwynt llwybr rhif 84 ar rwydwaith Sustrans, fydd yn mynd â chi i Fae Cinmel, ac oddi yno’n ymuno a llwybr rhif 5. Mae’r llwybr hwn yn mynd yr holl ffordd o Gaergybi i Reading yn nyffryn Tafwys, ac felly’n cynnig cyswllt i nifer o bentrefi a threfi arfordirol y Gogledd.


4. Rhuthun

8 milltir o faes yr Eisteddfod


Tref farchnad hanesyddol sydd a digonedd o atyniadau a chaffis da (tipyn o ganmol am Caffi R sydd newydd agor yn y Ganolfan Grefft), ond efallai fod y pensaerniaeth a’r awyrgylch sydd yno yn rhan fwy o’i apêl.


5. Bwlch Pen Barras

8 milltir o faes yr Eisteddfod


Dyma ddringfa sy’n adnabyddus am… y dyfyniad hwn gennyf i yn 2016 - ‘dw i byth yn reidio beic eto’. Ym mhob difrifoldeb, mae’n goblyn o ddringfa gas y gellir ei rhannu’n dri. Y rhan gyntaf dan gysgod y coed (a wyneb ffordd erchyll) yn serth. Y rhan ganol yw’r anoddaf un wedi’r grid gwartheg cyntaf, gyda bachdro i’r chwith yn un o’r mwyaf mileining i mi ddod ar eu traws. Wedi’r ail grid gwartheg, mae’n parhau’n serth tan y copa, sy’n fan cychwyn i gerddwyr fentro tua Moel Famau. Yn rhif 88 yn llyfr Simon Warren, bydd angen i chi gadw llygad allan am Lôn Cae Glas yn Llanbedr Dyffryn Clwyd (ar yr A494) er mwyn concro’r ddringfa o gyfeiriad Rhuthun. Mae’r ddringfa o gyfeiriad yr Wyddgrug yn fwy goddefgar o’i gymharu.


6. Llyn Brenig

10 milltir o faes yr Eisteddfod


Mae’r ddringfa i Lyn Brenig, sy’n cychwyn o’r dref, yn cael ei galw’n ‘The Road to Hell’ yn llyfr Simon Warren. Dydw i ddim yn siwr os ydi’r uffern yn cyfeirio at y ffaith fod y tywydd wastad yn ddiflas, gwlyb ac oer yn Llyn Brenig (o ‘mhrofiad i beth bynnag), neu at y ffaith ei bod hi’n andros o hir o’i gymharu a dringfeydd eraill sir Ddinbych a Chymru gyfan mewn gwirionedd. Mae’r ffordd yn esgyn am tua 8 milltir, gyda graddiannau amrywiol, ar eu serthaf ar ôl pentref Peniel. Cofiwch oedi ac edrych tuag ol os ydych chi’n dringo, nid disgyn, gan fod golygfeydd gwerth eu gweld.


7. Y Silff

12 milltir o faes yr Eisteddfod


Er nad yw hon ymysg y dringfeydd anoddaf yn y dyffryn, nid yw’n oddefgar o bellffordd chwaith. Mae’r graddiant cyfartalog o 5% ar hyd y 5km yn dwyllodrus, gan fod nifer o rannau dipyn serthach, yn ogystal ag un rhan sy’n cynnig seibiant. Dw i’n credu ‘mod i wedi bod i fyny’r Silff ryw deirgwaith, ac wedi cymryd y ffordd anghywir pan yn cyrraedd casgliad o dai bob tro. Dw i’n siwr fod arwydd yn dweud ei bod hi’n ffordd breifat ac mai fi sy’n dẃp. Dringfa gwerth ei thaclo, beth bynnag.


8. Prestatyn ac Allt Gwaenysgor

13 milltir o faes yr Eisteddfod


Pe baech yn dilyn lôn gefn y B5429 sy’n glynu at ffin orllewinol yr AHNE, drwy bentrefi Bodfari, Tremeirchion (anfarwolwyd gan gymeriad Lowri ym mhennod ‘Y Trip’ o C’mon Midffild - if you know, you know) a Dyserth, yn y pen draw mi fuasech yn cyrraedd tref arfordirol Prestatyn. Byddai’r cofnod hwn yn anghyflawn heb gynnwys Allt Gwaenysgor - ffefryn gan flog Yr Hen Ddeurodiwr - sydd a graddiannau hynod serth, sy’n codi o’r dref i bentref - you guessed it - Gwaenysgor, gyda golygfeydd tuag at y môr.


9. Bwlch yr Oernant

15 milltir o faes yr Eisteddfod


Y copa sydd 15 milltir o’r maes, felly os ydych am ddringo’r ddringfa ‘go iawn’ fel petai, bydd angen mynd lawr y goriwaered i Langollen cyn dringo’n ôl i fyny. Mae’n hynod boblogaidd - a dw i’n siwr y bydd hi’n hurt o brysur, yn enwedig ddydd Iau a ddydd Gwener - felly byddwn i efallai’n argymell y ffordd gefn i’r copa, sy’n serthach ond bron yn ddi-draffig, sydd ynddo’i hun yn cael ei gynnwys yn y cyfrolau awdurdodol fel ‘The Old Shoe’.


10. Canolfan Beicio Mynydd Llandegla

16 milltir o faes yr Eisteddfod


Dw i’n credu y byddai’r rhestr hon yn anghyflawn pe na bawn i’n cynnwys canolfan beicio mynydd Llandegla (One Planet Adventure) gan mai yno y dechreuodd y cyfan i mi o ran seiclo dros ddegawd yn ôl. Mae beics mynydd o safon uchel (h.y. caent eu gwerthu ail law am £1,000) ar gael i’w llogi am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan, ac mae’r caffi ymysg y goreuon. Y llwybr glas yw llwybr y roadies, ond os ydych am fentro ar rywbeth mwy technegol, mae’r coch neu’r du hyd yn oed yn fwy addas.


*

Dyma nhw wedi’u mapio - heblaw am y tri tref, y castell a Llandegla gan eu bod nhw’n ddigon hawdd i’w rhoi yn eich ap mapiau ar y ffôn!




*

Dyna ni felly, gwibdaith drwy uchafbwyntiau bro Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2022, gan obeithio y cewch chi ‘gyd gyfle i fwynhau’r ardal hon ryw dro. Dymuniadau gorau i’r rhai ohonoch sy’n cystadlu, ac i’r rhieni sy’n gorfod dygymod â helyntion plant ar faes ‘Steddfod unwaith eto, ac efallai y gwela’ i chi yno ddydd Gwener!