top of page

Ar dy feic: Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri

Mae’n amser Eisteddfod yr Urdd unwaith eto!


Ac i mi, beth bynnag, mae cryn edrych ymlaen wedi bod at hon.


Nid yn unig am mai dyma ’mlwyddyn olaf yn cystadlu yn yr ysgol, ond hefyd am fod lleoliad yr Eisteddfod mor braf.


Wrth i’r ardal gael ei gorchuddio mewn trionglau o goch, gwyn a gwyrdd â Llanymddyfri yn croesawu prifwyl yr ieuenctid, dyma gyfle euraidd i ddod i ’nabod yr ardal ar gefn beic.


Er mod i wedi treulio orig fer iawn ar rai o’r lonydd dan sylw yr haf diwethaf, dydw i ddim yn teimlo unrhyw awdurdod ar yr ardal o gwbl.


Felly mi wnes i ofyn i Robyn Davies, arbenigwr ar seiclo’n yr ardal heb os a llais cyfarwydd ar raglenni seiclo S4C, fy rhoi ar ben ffordd.


Hefyd o ddiddordeb:


Mi ddaeth o’n ôl ata’i gyda rhestr gynhwysfawr o’r lleoliadau gorau i ymweld â hwy yn ystod yr wythnos, a dwi’n gwerthfawrogi’i amser a’i arbenigedd yn ofnadwy.


Fo sy’n arwain y daith drosom ni heno a’i sylwadau fo sydd mewn italics; er fod ambell sylw fan hyn fan draw gen i! Dwi’n dyfynnu o bryd i’w gilydd o gofnod wnes i ysgrifennu am fy nhaith yn yr haf o adref i Lanymddyfri ar y beic; cofnod sydd, digwydd bod, wedi ennill y gystadleuaeth am ysgrifennu blog i rai dan 25 oed yn yr Eisteddfod hon.


Mwynhewch y wibdaith drwy fro’r Eisteddfod, a gobeithio y cewch chi fynd ar ddwy olwyn os fydd cyfle’n codi yn ystod yr wythnos.


A phob lwc i unrhyw un sy’n cystadlu! (oni bai’ch bod chi’n fy erbyn i wrth gwrs!)


Ar y map


1. Llyn Brianne gan gynnwys Soar y Mynydd

(Soar y Mynydd yn 32km/20 milltir o faes yr Eisteddfod)

(llun GaO; Llyn Brianne)


Dywedodd Jean Marie LeBlanc, cyn drefnydd y Tour de France, wrth ymweld â Llyn Brianne, mai dyma'r ffordd gorau ar gyfer creu ras feics iddo fe erioed weld. Canmol mawr. Ond tua 10 milltir o Lanymddyfri mae Llyn Brianne, sef Llyn a cafodd ei greu wrth adeiladu argae ar yr afon Tywi. Mae ffordd yn ymlwybro o gwmpas y llyn fel darn o sbageti gyda golyfeydd godidog yr holl ffordd. Un man arbennig i stopio yw Soar y Mynydd, sydd ar ben ogleddol y Llyn ar y ffordd i Dregaron. Capel mwyaf anghysbell Cymru ac yn enwog ar draws y byd.


Mae gen i rywfaint o wybodaeth am y llwybr hwn â minnau wedi teithio ar ei hyd wrth seiclo o Aberystwyth i Lanymddyfri yn yr haf. Dyma wnes i ysgrifennu ar y pryd: “Dydych chi ddim yn gwybod beth ydy ystyr y gair anghysbell tan eich bod chi’n mynd o Dregaron ac angen cyrraedd Llanymddyfri, ac yn mynd dros Fwlch Esgair Gelli, heibio Soar y Mynydd a Llyn Brianne. Hynny pan fo hanfodion cynhaliaeth eich bywyd i gyd ar eich beic; pan fo popeth yn eich dwylo chi. Dim signal ffôn chwaith, yn amlwg. Does ‘na ddim lle i hyd yn oed ystyried ‘beth os..’.” Efallai mod i’n bod fymryn yn ddramatig. Eilio’r pwynt ei bod hi’n werth ymweld, yn sicr.


2. Comin Abergwesyn gan gynnwys y "Devil's Staircase"

(Devil's Staircase yn 31km/20 milltir o faes yr Eisteddfod)

Un o ddringfeydd mwyaf eiconig Cymru, neu efallai Prydain yw'r Devil's Staircase. Milltir o darmac troellog sydd ar gyfartaledd o 25% graddiant ac yn cyrraedd 30% mewn mannau. Mae yna ddwy ochr i'r ddringfa, a na, does dim ffordd hawdd i fyny. Mae'r ddau yr union yr un hyd a graddiant. Mae'r ochr enwog yn dod o'r Gorllewin ac yn codi o Gomin Abergwesyn, sef dyffryn cul hynod o dlws sydd yn cael ei rhedeg gan yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol.


Pan o’n i’n ysgrifennu cofnod am ddringfeydd gorau’r Canolbarth ’nôl yn 2019 (!), dyma’r cwbl oedd gen i i’w ddweud am Devil’s Staircase. “Dringfa fer ond heriol.” Be wyddwn i? Ta waeth, am ’mod i’n aros ar gyrion Llanwrtyd ar ffordd Abergwesyn, mae gen i esgus perffaith i fynd am dro i Devil’s Staircase.


3. Mynydd Du

(25km/15 milltir o faes yr Eisteddfod)

(llun GaO)


Sdim angen dweud rhyw lawer am y ddringfa enwog yma. Un o'r uchaf yng Nghymru ac yn cynnwys arwyddion beicio erbyn hyn (a camerau cyflymder).


Dwi wedi ysgrifennu cofnod cyfan am fy mhrofiad ar y Mynydd Du. Ond dyma bwt o’r cofnod wnes i grybwyll cynt: “Dwi mor falch y gwnes i ymestyn fy reid ar y dydd Mawrth er mwyn cynnwys Y Mynydd Du; un o’r dringfeydd oedd reit yn uchel ar fy rhestr o rai i’w cwblhau. O Lanymddyfri, penderfynais ddilyn y ffordd fawr i Langadog oedd ddigon tawel ar y pryd, cyn troi i’r chwith (digon hawdd methu hwn) am Frynaman. Mae’n dechrau rhyw ddringo’n raddol yma, cyn i’r arwydd mawr brown ddynodi dechrau’r ddringfa ‘go iawn’.


Mae’r dringo’n gyson drwyddi draw, y rhannau cyntaf yn eithaf caeëdig, cyn ichi groesi grid gwartheg ac yna mae’n agor allan yn gyfan gwbl a golygfeydd gwych i’w cael. Rownd un tro pedol, parhau i ddringo, rownd Tro’r Gwcw, ac wedi hynny dydy’r copa ddim yn rhy bell. Oddi yno, mae’r golygfeydd i’r de yn arbennig ar ddiwrnod clir, a gellir gweld am filltiroedd maith. Roedd y ddringfa hyd yn oed yn fwy melys o wybod ei bod hi fwy neu lai’n downhill all the way i’r gwesty wedi hynny.”


4. Mynydd yr Epynt

(llun o archif y blog, Hoff Bump Robyn Davies)


Ardal i'r Dwyrain o Lanymddyfri a gymerwyd drosto gan y fyddin ar ôl yr ail ryfel byd er mwyn hyfforddi milwyr. Mae'n destun bach o atgasedd, yn debyg i Dryweryn gyda nifer fawr o ffermwyr yn gorfod rhoi eu tir a'u cartrefi i ffwrdd mewn cyfnod o wythnosau. Er y hanes, mae'n ardal anhygoel i feicio gyda ffyrdd llyfn, uchel a golygfeydd yn ymestyn ar hyd y Bannau.


5. Llyn Wysg

(tua 19km/12 milltir o faes yr Eisteddfod)

Mae yna ddwy ffordd mi allwch deithio o Drecastell i Langadog. Mae rhan fwyaf yn dilyn yr A40 i Lanymddyfri ac ymlaen. Ond, mae'r rhai sy'n gwybod yn well yn troi wrth dafarn y Castell yn Nhrecastell er mwyn cymryd yr heol sydd yn teithio ar hyd y Mynydd Du. Mae'r golygfeydd fan hyn werth ei gweld wrth i chi gadael y Fforest Fawr a dod allan ar y mynydd ar y ffin rhwng Sir Gar a Bowis.


6. Cwrt y Cadno

(22km/13 milltir o faes yr Eisteddfod)

Un o enwau pentrefi gorau yng Nghymru yn fy marn i. Nid yw'n lle mor enwog a'r rhai eraill ar y rhestr ond dyma le godidog i fynd ar gefn beic. Mae ffordd tawel yn gadael Rhandirmwyn wrth dafarn y Towy Bridge ac yn dilyn y dyffryn cul dros Bwlch y Rhiw i ddechrau'r afon Cothi. Mi allwch ddod allan ym mhentref Pumsaint cyn dychwelyd i Lanymddyfri.


7. Y Cestyll

(Castell Carreg Cennen yn 25km/15 milltir o faes yr Eisteddfod)

Mae'n bosib gwneud cylchdaith i ymweld â thri castell enwog y sir (heb anghofio Castell Llanymddyfri). Mae Castell Dryslwyn yn eistedd ar ochrau'r afon Tywi hanner ffordd rhwng Llandeilo a Gaerfyrddin, llecyn tawel prydferth. Yn aml welwch elyrch yn arnofio gerllaw. Yr ail gastell yw Castell Dinefwr. Mae'r castell yma wedi'i leoli ym Mharc Dinefwr, sef stad mawr o dir sy'n cynnwys y plasdy, Ty Newton a'r gwartheg gwynion enwog sydd, o bob sôn, wedi byw yn yr ardal ers amser Hywel Dda. Y castell olaf (a'r un gorau) yw Castell Carreg Cennen. Mae'r castell yma wedi ei adeiladu ar graig enfawr uwchben pentref Trap. Mae i weld yn glir i yrrwyr sy'n teithio i'r gogledd o Gross Hands. Mae'r ffyrdd o gwmpas fan hyn yn rhai talpiog dros ben ac angen coesau cryf a beic gyda digon o geriau arno.


8. Mynydd Llanllwni a Rhydcymerau

(Rhydcymerau yn 25km/15 milltir o faes yr Eisteddfod)

Mae Mynydd Llanllwni bach yn bellach o Lanymddyfri, tua awr ar gefn beic, ond yn werth yr ymdrech. Mae nifer o ffyrdd i gyrraedd y brig a pob un werth darganfod. Mae'r ffordd mwyaf serth yn dechrau ym mhentref Rhydcymerau, sef pentref yr enwog DJ Williams.


9. Brechfa ac Abergorlech

(Brechfa yn 30km/19 milltir o faes yr Eisteddfod)

Ym mhellach lawr yr afon Cothi fe ddewch i bentref Abergorlech. Mae'n cymryd bach o ymdrech i gyrraeddachos nid yw'r ffordd yn dilyn y dyffryn ond yn dringo yn gyntaf cyn cwympo lawr i'r pentref. Os beicio mynydd yw eich pleser, mae Abergorlech a Fforest Brechfa yn un o ganolfannau gorau ar gyfer beicio mynydd ym Mhrydain gyda nifer fawr o lwybrau i rhoi sialens i unrhyw reidiwr. Mi allwch ddilyn yr heol lawr y dyffryn cyn cyrraedd pentref Brechfa, ond bydd angen dringo eto os ydych am ddianc.


10. Bethlehem

(14km/9 milltir o faes yr Eisteddfod)

Na ddim yr un o stori'r Nadolig, ond lle werth mynd ar gefn beic. Hwn yw'r ffordd gorau o deithio o Lanymddyfri i lawr i Landeilo. Ddim yn dilyn y dorf lawr yr A40 ond cymryd y ffordd tawel i Langadog ac ar draws y comin wrth groesi'r Afon Sawdde ac ymlaen i Fethlehem. Mae golygfa gwych o ddyffryn Tywi ac mi allwch gario ymlaen i ddod allan ar gyrion Llandeilo. Os nad ydych ffansio reidio yn ôl gallwch ddal y tren syth nôl i fyny'r dyffryn i Lanymddyfri cyn iddi dywyllu.


*


Dyna ni’n gwybdaith drwy ardal Llanymddyfri ar gefn beic drosodd. Diolch o galon eto i Robyn am ei arbenigedd.


Os na wela’i chi ar faes yr Eisteddfod, yna dwi’n edrych ymlaen yn barod at gofnod tebyg yn arwain at y Genedlaethol ym Moduan!


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page