top of page

Ar dy feic: Eisteddfod yr Urdd Maldwyn


Mae'r amser yna o'r flwyddyn wedi cyrraedd unwaith eto, wrth i ieuenctid Cymru a'u hebryngwyr ymgasglu am wythnos ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.


Cynhelir yr ŵyl eleni yn ardal hyfryd Meifod yn sir Drefaldwyn (yn benodol ar gaeau Mathrafal - dyma'r ddolen i'w union leoliad ges i o wefan yr Urdd), ac fel dwi wedi'i wneud ers ambell flwyddyn bellach, dyma ychydig o syniadau i'r rhai sydd â'u pryd ar ddwy olwyn, boed yr wythnos hon neu'n gyffredinol.


Llyn Efyrnwy


Mae'n naturiol cychwyn gyda Llyn Efyrnwy, gan fod yr afon Efyrnwy yn cyfochri â Meifod ac yn agos iawn at y maes ei hun. Mae'r llyn ei hun yn cynnig oddeutu 11 milltir o seiclo gwastad o'i amgylch sy'n boblogaidd iawn ymysg teuluoedd; ceir lle i logi beiciau a chael tamaid yn Artisan's ar y pen o'r llyn sydd agosaf at Meifod. Gellir cyrraedd glannau'r gronfa ddŵr o'r maes un ai ar lonydd cefn culion drwy bentref Pontrobert neu ar lonydd lletach drwy Dolanog a Llanfihangel yng Ngwynfa. Naill ffordd neu'r llall mae hi rhwng ryw 10-14 milltir un ffordd.


Bellach mae'r gronfa ddŵr yn atynfa boblogaidd i ymwelwyr heb feiciau hefyd diolch i'r gwarchodfeydd natur, y gwesty moethus, a'r tŵr Gothig. Mae'n bosib ichi fynd drwy bentref Llanwddyn, symudwyd wedi i'r pentref 'gwreiddiol', a'i deugain o dai, tri thŷ tafarn a melin rawn, gael ei foddi ym 1881 ar gyfer y gronfa ddŵr.


Os oes coesau da ganddoch chi, ben pella'r llyn mae 'na gyfle i ddringo i fyny i Fwlch y Groes neu Fwlch Hirnant, a hyd yn oed gyfuno'r ddau mewn cylchdaith i gynnwys glannau Llyn Tegid. Byddai taith felly o ddyffryn Meifod tua 55-60 milltir i gyd.


Rhannau o Lôn Cambria

Pa bryd bynnag y byddoch chi'n mynd i le newydd ar gefn beic, mae'n braf weithiau gallu dibynnu ar fapiau a llwybrau pwrpasol. Yr agosaf o'r rheiny i ddyffryn Meifod fyddai llwybr rhif 81 y rhwydwaith seiclo genedlaethol (NCN), sef Lôn Cambria. Dyma'r rhan 'Gymreig' o lwybr ehangach sy'n mynd cyn belled â Wolverhampton, gan ymestyn dros 112 milltir rhwng Aberystwyth ac Amwythig.


Agosaf at ddyffryn Meifod mae'r Trallwng. Daflaid carreg o'r fan honno mae Castell Powis a'i gerddi sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ddeng milltir o'r maes. Mae ffordd Rufeinig 'Long Mountain' neu 'Cefn Digoll' hefyd ag un pen yn y dref. Yma oedd safle Brwydr Cefn Digoll yn 630 rhwng lluoedd Northymbria a chynghrair Gwynedd a Mersia, a'r man lle ymunodd lluoedd Cymreig â byddin Harri Tudur ym 1485. Mae yma hefyd fryngaer sydd mae'n debyg yn dyddio'n ôl i Oes yr Haearn.


Mae Cefn Digoll tua 12 milltir o'r maes ar y ffordd byrraf. Pe aech chi ymlaen yr holl ffordd i'r Amwythig gan ddilyn Lôn Cambria, byddai hynny tua 35 milltir un ffordd.


Ticio dringfeydd Cymru

Mi fydda i'n mynd yn syth at lyfr Simon Warren, 'Cycling Climbs of Wales', fel man cychwyn wrth ymchwilio i lecynnau newydd i fynd i seiclo. Er nad ydy dyffryn Meifod yn hawlio'r un crynodiad o ddringfeydd serth i ymestyn coesau rhywun â dyffryn Conwy er enghraifft (Cowlyd, Bwlch y Ddeufaen, Grinllwm ac yn y blaen), mae 'na ambell i ddringfa sydd o fewn cyrraedd y maes.


Bu i mi sôn am Gefn Digoll, 'Long Mountain' fel y'i gelwir yn y gyfrol, yn barod. Fe'i disgrifir fel dringfa 3km serth sydd "fel pe bai byth yn dod i ben" gyda sawl copa ffug twyllodrus.


Dringfa arall y gellid mynd i'w daclo fyddai Mynydd Hendre, sydd â'i throed yng Ngharno ar yr A470. Caiff hithau ei disgrifio fel un sy'n herio dro ar ôl tro, a'r anoddaf o'r gwaith i'w gael ar ôl pentref Rhyd. Mae'r ffordd fyrraf o gyrraedd Carno o'r maes (i gynnwys ochr arall y ddringfa) yn mynd â chi drwy Lanfair Caereinion, ac yn 15 milltir un ffordd.


Fel arall, bu i mi sôn eisoes am Fwlch y Groes a Bwlch yr Hirnant sydd ben pellaf i Lyn Efyrnwy, a phe na bai hynny'n ddigon, yna byddai modd i chi gymryd sbec yn ei gyfrolau eraill i weld beth sydd ochr arall i'r ffîn yn swydd Amwythig.


Pistyll Rhaeadr

Yn un o 'Saith Rhyfeddod Cymru' a rhaeadr un cwymp uchaf Prydain, mae Pistyll Rhaeadr yn atyniad poblogaidd yn yr ardal. Mae'r rhaeadr ynddo'i hun werth ei weld a'i edmygu, ac mae hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSI).


I'w gyrraedd, rhaid dilyn yr arwyddion i gael ar y ffordd un cyfeiriad o Lanrhaeadr ym Mochnant. Mae'r ffordd fyrraf i'w gyrraedd o'r maes yn 16 milltir un ffordd.


Sycharth yn fy ngwaed


Os ydy geiriau'r gân yma gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Maldwyn o 'Y Mab Darogan' yn 2022 wedi serio ar eich cof cymaint ag y mae wedi ar f'un i, yna bydd y dynfa i safle castell tomen a beili mwyaf nobl Cymru chwe chanrif yn ôl yn gryf.


Yma oedd cartref Glyndŵr rhwng 1400 a 1403, ond erbyn heddiw, mae'n eithaf anodd dod o hyd iddo. Mae ymgyrch barhaus i geisio adfer y lleoliad o'i gyflwr presennol o esgeulustod. Beth bynnag, pe baech chi'n llwyddo i ddod o hyd iddo rhwng Penybont Llannerch Emrys a Llansilin, mae'n daith un ffordd o'r maes drwy fro Mechain o tua 12-15 milltir.


Camlas Trefaldwyn

Hefyd yn rhan o lwybr rhif 81 y rhwydwaith seiclo genedlaethol y gwnes i sôn amdano wrth grybwyll Lôn Cambria, mae Camlas Trefaldwyn. Mae'r gamlas ei hun yn ymestyn am 33 milltir rhwng y Drenewydd a Lower Frankton lle mae'n cwrdd â Chamlas Llangollen, ac mae modd seiclo ar ei hyd am rannau helaeth ohoni.


Mae'n dilyn yr un trywydd â llwybr 81 rhwng y Drenewydd a'r Trallwng, cyn parhau o'r fan honno am Lanymynech. Os mai seiclo mwy hamddenol sy'n mynd â'ch pryd, a bod teiars mymryn lletach na'r beic ffordd arferol gennych, yna mae'n debyg y byddai hwn yn apelio. Fel o'n i'n sôn, y Trallwng sydd agosaf i'r maes, ddeng milltir i ffwrdd.


Mentro dros y ffin

Nid yn unig o fewn Cymru fach y mae modd mwynhau bod ar ddwy olwyn yng nghyffiniau'r Eisteddfod eleni. Mae tipyn o seiclo da i'w gael os fentrwch chi i'r dwyrain tua bryniau swydd Amwythig a chyffiniau'r rheilffordd. Er enghraifft, pe aech chi i gyfeiriad Church Stretton, mae golygfeydd da a her i'r coesau dringo i'w cael ar 'The Burway', plateau sy'n parhau i raddau o Gefn Digoll. Os ewch chi i edrych ar fap, yna mae 'na ddrysfa o lonydd culion, bryniog i'w cael yn yr ardal yma fyddai werth eu harchwilio ar gefn beic. Efallai fymryn yn bell o'r maes - mae Church Stretton ei hun ryw 30 milltir ar y ffordd byrraf.


Ar drywydd awen


I gloi, mae'n rhaid sôn am yr awen sy'n llifo drwy ardal yr Eisteddfod, yn enwedig o ystyried fod dwy o'n beirdd benywaidd enwocaf a mwyaf eu bri wedi hannu o lefydd cyfagos. Bûm i'n sôn am fro Mechain, ac un o'r fro honno oedd Gwerful Mechain. Er na wyddym lawer amdani, gwyddwn iddi fyw a barddoni yn ail hanner y 15fed ganrif. Fe'i hadnabyddir yn bennaf am ganu maswedd, a pherthyn i ddosbarth prin o feirdd benywaidd o Ewrop yn y Canol Oesoedd. (i ddarllen ei gwaith a mwy amdani cyfeirier at 'Gwaith Gwerful Mechain ac eraill', golygwyd gan Nerys Ann Howells)


Un o'r cyffiniau yma hefyd oedd Ann Griffiths (1776-1805), o Lanfihangel yng Ngwynfa yn wreiddiol, a briododd ffermwr o blwyf Meifod. Fe'i hystyrir yn un o emynwyr mwyaf Cymru, gyfansoddodd eiriau anfarwol 'Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd' sy'n un o 14 o emynau o'i gwaith sydd yn Caneuon Ffydd hyd heddiw. Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Feifod yn 2003, comisiynwyd y sioe gerdd 'Ann!', ysgrifennwyd amdani gan Gwmni Theatr Maldwyn.

Byddai'n ddigon hawdd gwneud taith farddonol ei natur drwy'r llefydd yma o ddyffryn Meifod.

*


Dyna ni felly, casgliad o uchafbwyntiau byd y beic ym mro Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024. Mwynhewch yr wythnos, a dymuniadau gorau i bawb sy'n cystadlu.

Recent Posts

See All

コメント


bottom of page