top of page

Ar dy feic: Steddfod Llŷn ac Eifionydd

Rŵan, fel arfer, ar y dydd Sul yn llythrennol ar drothwy'r Steddfod y bydda i'n cyhoeddi cofnod o'r fath i hyrwyddo seiclo ym mro'r Brifwyl.


Cynnwys:


Ond mae rheswm da dros ddod â hwn wythnos ynghynt nag arfer, a rheswm cystal ei fod yn llai swmpus nag a fu ar gyfer Tregaron llynedd a steddfodau'r Urdd yn Ninbych a Llanymddyfri.


Hynny oherwydd fod y cyfan wedi'i baratoi ar eich cyfer!


Teithiau Coleg Meirion Dwyfor


Drwy garedigrwydd Eifion Owen sy'n cydlynu'r cyfan, mae'n braf gallu atodi (gobeithio 'neith o weithio) dogfen sy'n amlinellu pob reid sy'n cael ei drefnu gan Goleg Meirion Dwyfor / Grŵp Llandrillo Menai.


Nid teithiau wedi'u harwain mohonynt, serch hynny bydd peth cymorth ar gael.


Cynhelir tri reid yn ddyddiol a rhai at ddant pawb; un ben bore cyn bwrlwm y dydd, un mwy cymdeithasol ac un mwy heriol.


Cyfle am strwythur ragosodedig heb orfod mynd i drafferth a chynllunio unrhywbeth, dyma raglen wirioneddol gynhwysfawr o routes parod. Does dim pwynt i mi ymhelaethu lawer iawn mwy am fod y gwaith trylwyr eisoes wedi'i wneud. Mae'n grêt fod ffordd gyfleus o fwynhau Llŷn ac Eifionydd ar ddwy olwyn eleni.


Dyma ddolen:


Serch hynny, ymddengys nad ydy'r Eisteddfod eu hunain wedi datgelu unrhyw wybodaeth ynghylch cyrraedd y maes ar feic na storio'r beic chwaith - ar eu tudalen 'Cyrraedd y Maes' beth bynnag. Os oes unrhywun rywfaint callach, yn enwedig o gofio'r drefn ffyrdd arfaethedig, dorwch sylw isod.


Taith Y Ddwy Olwyn


Hoffwn i hefyd eich atgoffa - dwi'n ymddiheuro os ydw i wedi bombardio pawb efo hwn dros y dyddiau diwethaf! - am reid Y Ddwy Olwyn, y gyntaf o'i bath erioed, fydd yn cychwyn o'r maes am 5 yr hwyr ddydd Llun.


Hynny'n dilyn y sesiwn banel drafod - hefyd y gyntaf o'i bath - gynhelir am hanner awr wedi tri yn Cymdeithasau 2.


Wele'r holl fanylion:


📣 Galw ar Steddfotwyr a seiclwyr a’r rhai sy’n ffitio’r ddau gategori!


🥳 Digwyddiadau cyntaf erioed Y Ddwy Olwyn yn y cnawd, a hynny ar faes yr Eisteddfod a thu hwnt yn Llŷn ac Eifionydd.


🗓️ Dydd Llun, 7fed o Awst


15.30 🗣️ Sgwrs i drafod hyd a lled apêl seiclo yng Nghymru, gyda Gruffudd ab Owain yn holi Nia Peris, Lusa Glyn a Steff Rees yn Cymdeithasau 2.


17.00 🚴‍♂️ Reid ar y cyd â Chlwb Beicio Egni Eryri i Aberdaron ac Uwchmynydd gan gychwyn a gorffen ar y maes. Croeso cynnes i bawb.


😎 Edrych ymlaen yn arw! Byddai’n braf iawn eich gweld yn y naill ddigwyddiad neu’r llall, neu’r ddau!


🔗 Dyma ddolen i fanylion y route, a chyfle i RSVP pe dymunech ond nid yn angenrheidiol. Angen cyfrif Strava, os yw hynny'n broblem cysylltwch. https://strava.app.link/EsdLZCQcOBb


Uchafbwyntiau Llŷn ac Eifionydd


Dyma ddolen i gasgliad dethol Y Ddwy Olwyn o uchafbwyntiau bro'r Brifwyl. https://www.komoot.com/collection/1202333/-goreuon-llyn-ac-eifionydd


Rhai ohonynt yn amlwg, rhai yn ddiarffordd, rhai yn rhan o daith Y Ddwy Olwyn ar y dydd Llun!


Mwynhewch y Steddfod, a gobeithio'ch gweld chi yno!

Recent Posts

See All
bottom of page