top of page

Be' gewch chi am eich pres? Cadw'ch traed yn gynnes ar y beic

Dwi'm yn gwybod os oes unrhyw un ohonoch chi'n cael yr un broblem â fi pan fo'r gaeaf yn gafael, ond pan fydda'i allan ar feic yn ystod misoedd y tymor oer hwn, mae 'nhraed i'n mynd yn goblynedig o oer.


Mae 'na ambell i opsiwn ar gael o ran eu cadw nhw'n gynnes, a diben cofnod yr wythnos hon yw archwilio'r prif rai.


Dwi'n gobeithio'n fawr 'mod i wedi amseru'r gofnod yma'n weddol, o ystyried mai dim ond rhyw lond dwrn o forëau rhewllyd 'den ni wedi'u cael hyd yma'r tymor hwn.


 mis Rhagfyr yn agosáu, mae bron â dod yn amser i sianelu pob ffordd bosib o gadw'n gynnes ar y beic.


Dyma ni felly: y bwriad yn glir - ond be gewch chi am eich pres?


Gwario nesa' peth i ddim

Oes, mae brandiau eraill o greision ar gael.


Mae'n siŵr eich bod chi'n meddwl yn ddwys pam fy mod i wedi cynnwys llun o bacedi crisps mewn cofnod am gadw traed yn gynnes.


Yn ysbryd pasio geiriau o gyngor o gwmpas ar lafar gwlad - neu ar lafar y rhyngrwyd bellach - mae'n debyg fod rhoi'ch traed mewn pacedi (gwag, obvs) o greision neu lapio blaenau'ch traed â ffoil alwmniwm rhwng yr hosan a'r esgid yn ffordd dda o ynysu gwres.


Alla'i ddim dweud 'mod i wedi trïo hyn, ond mae'n debyg ei fod o'n gymharol effeithiol.


Sanau pwrpasol

Mae'r rhain yn gwbl hanfodol yn fy marn i - yn gam cyntaf pwysig beth bynnag.


Er nad fy nhraed i sydd yn y llun uchod, a do bu rhaid i mi dderbyn rhybudd Google yn ei Chymraeg orau y gallai'r llun fod yn ddarostyngedig i hawlfraint, mae gen i bâr o'r rhain gan DeFeet (Woolie Boolies - enw brul) sy'n gneud y job yn grêt.


Mi wnawn nhw'ch rhoi chi ryw £15 allan o boced, ond mae o werth o dwi'n teimlo.


Beth sy'n gwbl allweddol ydy sicrhau nad ydy cylchrediad y gwaed yn cael ei arafu gan wisgo gormod o sanau ar ben ei gilydd, felly mae un pâr trwchus fel hyn yn well na phentyrru rhai tenau o ryw siop stryd fawr.


Os ydy'ch traed chi rywsut rywfodd yn medru dygymod ag oerfel y gaeaf jyst efo sanau trwchus a sgidiau seiclo arferol, parch mawr at eich gwydnwch!


Y peth gorau i'w wneud i'r gweddill ohonom ni ydy cyplysu cynhesu tu fewn yr esgid efo sanau fel hyn gyda chynhesu o du allan yr esgid.


Sanau drosto (overshoes)

Ie, myfi sydd wedi bathu'r term yma am overshoes. Ac ydw dwi'n cydnabod ei bod hi'n ymdrech wael.


Ond ta waeth.


Os ydych chi erioed wedi bod yn y farchnad i brynu sanau drosto, mi fyddwch chi'n gwybod gystal â mi ei bod hi'n farchnad brysur dros ben ac mae'r cyfartaledd sgôr yn yr adolygiadau yn gyffredinol is nag unrhyw fath arall o gynnyrch.


Mae a wnelo â chwaeth bersonol a be sy'n siwtio'r unigolyn, yn y pen draw.


Ar un pen y sbectrwm mae ganddoch chi bethau cyn lleied â £20, ac wedyn opsiynau hyd at bedair gwaith cymaint.


Pâr o'r rhain sydd yn y llun uchod (eto'n ddarostyngedig i hawlfraint) sydd gen i - dhb Neoprene Nylon Overshoes. Maen nhw'n gwneud y job yn grêt, a beth sydd hefyd yn bwysig ydy pa mor hawdd ydyn nhw i'w rhoi mlaen a'u tynnu - rhywbeth sy'n gallu bod yn goblynedig o heriol efo rhai.


Dyna'r rhai dwi'n eu hargymell, ond mae digon o sgôp i chi ymchwilio'ch hun i ddod i gasgliad.


Pe penderfynech chi fynd am rhain - maen nhw ar hyn o bryd yn £14 yn Wiggle, i lawr o'r £35 arferol ar gyfer Dydd Gwener y Gwario Gwirion. (as of nos Sadwrn)


Sgidiau pwrpasol

Nid fy llun i mo hwn chwaith. Ond dwi wedi bod yn berchen ar rywbeth tebyg yn y gorffennol.


Os ydy'ch traed chi dal yn oer, mae'n debyg y bydd angen gwario tipyn. Mae ambell i gwmni - Northwave a Shimano yn benodol - yn cynhyrchu esgidiau gaeaf pwrpasol.


Mae'r rhain yn cael eu gwneud ar gyfer seiclwyr gaeafol mewn llefydd megis Canada, ac ar gyfer reidwyr sy'n gorfod/penderfynu seiclo mewn tymhereddau cyn oered â -40 C.


Os mai dyma'r opsiwn i chi, byddwch yn barod i wario £100 a mwy.

 

A dyna ni ddiwedd y wibdaith ar ddulliau cadw traed yn gynnes ar gyfer misoedd y Gaeaf; cyfnod sy'n dod â thymor yr Hydref ar Y Ddwy Olwyn i ben.


Mae gen i ddwy gofnod arall ar y gweill ar gyfer wythnos nesaf a'r wythnos ganlynol i gloi pethau ar gyfer 2022, ac wedi hynny mi fydda'i'n cymryd hoe fach am sbel dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd i weld be di be ar gyfer 2023.


Tan wsos nesa, hwyl.

Recent Posts

See All
bottom of page