top of page

Be' gewch chi am eich pres?: dulliau recordio reid

Yn yr oes sydd ohoni, mae’n anodd iawn cadw trac ar yr holl ddatblygiadau technolegol - hyd yn oed yn y farchnad recordio reids ar feic.


Boed i ffôn symudol, oriawr neu gyfrifiadur GPS penodol fod yr opsiwn gorau i chi, gan fod cymaint o ddewis mae’n anodd iawn nithio’r grawn oddi wrth yr us. (idiom newydd i mi, diolch i eiriadur Bruce, h.y. to divide the wheat from the chaff)


Amcan y cofnod hwn yw ceisio gwneud hynny, i’ch rhoi chi ar ben ffordd o ran dod i adnabod y farchnad hon ac i allu gwneud dewis synhwyrol ar beth sydd orau i chi.


Y tri prif gategori fydd ffôn symudol, oriawr a chyfrifiadur GPS penodol, ac oddi fewn bydd tri enghraifft yn ôl pris neu ‘allu’.


Cyn dechrau:

  • Oni nodir, mae fy sylwadau ar sail fy mhrofiad personol gyda’r cynnyrch.

  • Prisiau’n gywir 18fed o Fehefin 2022.

  • Nid oes unrhyw un wedi fy noddi neu’m talu mewn unrhyw ffordd i hybu eu cynnyrch neu siopau etc yn y cofnod hwn.


Cofnodion eraill yn y gyfres:

Cymharu crysau seiclo

Cymharu dulliau cario hanfodion


Cynnwys:

Ffôn symudol

Oriawr

Cyfrifiadur GPS penodol


Ffôn symudol

Mae’n anodd credu weithiau sut y gwnaeth teclun oedd ar gyfer cyfathrebu galwadau newid cymaint mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Dydy’r ffaith eich bod chi’n gallu recordio reid ar feic ar ffôn ddim yn beth newydd chwaith, ond mae’n deg dweud fod y meddalwedd wedi datblygu cryn dipyn ers i mi ddechrau ei ddefnyddio dros wyth mlynedd ‘nôl.


Am resymau diogelwch, mae cario ffôn ar eich taith yn syniad da beth bynnag. Ac wedi’r cyfan, mae’r rhan helaeth ohonom - heb ots beth yw’n hoedran - yn cario un gyda ni ran fwyaf o’r amser.


 dweud y gwir, mae’r apiau recordio yn gwneud popeth sydd ei angen. Defnyddiant y GPS oddi fewn i’ch ffôn er mwyn recordio pellter, cyflymder, rhoi map o’ch taith ac ati, tra hefyd yn cynnig pethau gwahanol yn ddibynnol ar ba ap y gwnewch chi ddewis.


Dyma’r prif ddau.


Strava

Pris: ‘Freemium’ (am ddim, neu danysgrifiad £47.99 y flwyddyn neu £6.99 y mis)


Yr un amlwg, gan fod oddeutu 100 miliwn o bobl yn defnyddio’r ap mewn 195 o wledydd. Dyma beth sy’n gwneud iddo sefyll allan (nodweddion tanysgrifiad mewn print bras):

  • Segments: rhannau o ffordd wedi’u creu gan ddefnyddwyr er mwyn i chi allu cymharu’ch amseroedd. Pe baech yn dymuno cymharu â phobl eraill a gwneud y mwyaf o’r nodwedd hon, bydd angen tanysgrifo.

  • Live Segments: rhowch seren wrth ymyl eich hoff segments ac mi allwch weld eich amser ar y segment hwnnw wrth ichi’w gwblhau, ar eich ffôn neu ar oriawr/cyfrifiadur GPS.

  • Beacon: rhannwch eich lleoliad efo anwyliaid fel eu bod nhw wastad yn gwybod ble’r ydych chi.

  • Stats byw: gweld eich cyflymder, cadens/curiad calon (angen sensor ar wahan) presennol ac nid cyfartaledd

  • Llwytho route: gallwch greu route oddi fewn i’r ap a’i lwytho er mwyn ei ddilyn ar eich taith. Ewch chi byth ar goll eto (famous last words)


Komoot

Pris: ‘Freemium’ (am ddim, tanysgrifiad $59,99 y flwyddyn gaiff ei drosi i GBP)


Pe bawn i’n bod yn gwbl onest, dwi’n credu mai cynllunio routes ydy cryfder mawr Komoot - y gorau ar y farchnad heb os nac oni bai. Ond mae’n fwy nag abl i recordio reid hefyd. Y prif gymhariaeth efo Strava ydy fod pwyslais Komoot ar antur yn hytrach na churo amser penodol.


Dyma sy’n gwneud iddo sefyll allan (nodweddion sydd angen tanysgrifiad mewn print bras):


  • Cynllunio reid newydd unrhyw bryd yn ystod eich reid, sy’n berffaith os ydych chi’n mynd ar goll.

  • ‘Cer a fi adre’: mi wneith yr ap gynllunio’r route gorau i fynd â chi i le bynnag yr ydech chi’n anelu ato

  • Mapiau gwell: mae gan Komoot fapiau sydd yn dangos routes oddi ar Sustrans, National Cycle Network ac EuroVelo er enghraifft (llinellau gwyrdd neu biws fel arfer); dewisiadau da gan eu bod nhw wedi’u creu’n ofalus ar gyfer seiclwyr yn benodol.

  • Live Tracking: os am yrru’ch lleoliad i anwyliaid bydd angen talu (yn wahanol i Strava)

  • Live Stats: yn wahanol i Strava, nid oes angen talu am weld eich cyflymder (ac ystadegau eraill) presennol.


Dod i gasgliad

Felly, ai ffôn symudol yw’r opsiwn gorau i chi ar gyfer recordio reid? Os nad ydy edrych ar eich ystadegau wrth ichi seiclo’n bwysig, a’ch bod yn cario’ch ffôn beth bynnag, does dim rheswm i fuddsoddi mewn unrhyw feddalwedd newydd. Ond, ar gyfer dilyn route penodol wedi’i gynllunio o flaen llaw neu gadw golwg ar eich ystadegau wrth fynd, dydy hi ddim yn ymarferol na’n ddiogel i edrych ar eich ffôn o hyd neu i’w ffitio i’ch bars. Mae hefyd yn sugno llawer o fatri a data - os ydych chi angen sicrwydd o recordio a’r gallu i ffonio rhywun pan foch mewn cyfyng gyngor, bydd angen buddsoddi mewn mwy o ddata gyda’ch cwmni ffôn a hyd yn oed wefrwr symudol.


Oriawr

Dyma farchnad sydd wedi tyfu’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, hyd yn oed yn gyflymach na’r ffonau symudol neu’r cyfrifiaduron GPS. Erbyn hyn, mae’n rhaid i ddisgyblion ysgol fel fi ddiosg oriawr mewn arholiad - dyna faint gallu rhai o’r oriorau hyn.


Os yw ffôn symudol yn gyfrifiadur yn eich poced, mae’r oriorau clyfar yn gyfrifiadur ar eich garddwn.


Nid pob un sydd mor alluog â’i gilydd, yn amlwg, a dyna pam ‘mod i wedi dewis tri o fand pris a gallu gwahanol er mwyn arddangos hynny. Ond, coeliwch chi fi, mae ‘na rai llawer iawn drytach na hyn i’w cael hyd yn oed.


Samsung Galaxy Fit 2

Pris: £49.99 RRP (ond pris llai ar gael yn y rhan fwyaf o siopau)

Argos (£39.99)


Mi ddechreuwn ni gyda’r oriawr sy’n byw ar fy ngarddwn i. Fel mae’r enw’n ei awgrymu mae wedi’i ddylunio ar gyfer mesur pethau o ran iechyd a ffitrwydd - nid seiclo’n benodol - ond eto mae’n fwy nag abl i recordio reid. Dydw i ddim yn ei ddefnyddio ar gyfer recordio reid gan nad ydy o’n andros o ymarferol. Mae angen cario ffôn beth bynnag er mwyn cael GPS, gan nad ydy’r GPS yn rhan o’i adeiledd. Dydy’r sgrin ddim yn fawr iawn ond eto mae’n ddigon mawr i allu gweld yr ystadegau sydd eu hangen; pellter, cyflymder, amser ac ati. Un mantais ohono yw ei allu i fesur curiad calon; nid oes angen unrhyw prynu sensor ar wahan. Yn wahanol i’r ffôn, mae oes batri hwn yn wych; mi barith bythefnos. Does dim modd dilyn route penodol ar hwn chwaith. Ond wedi dweud hynny, mae’n opsiwn cynhwysfawr am bris rhesymol.


Garmin Forerunner 35 GPS

Pris: £129.99 RRP (ond pris llai ar gael yn y rhan fwyaf o siopau)

Wiggle (£84.99)


Ymwrthodiad: ymchwil, nid profiad personol, yw sail fy sylwadau ar y cynnyrch hwn.


Nid yw’r ffôn yn angenrheidiol yng nghyd-destun recordio ar gyfer y ddau opsiwn nesaf gan eu bod nhw eisoes yn cynnwys GPS yn eu hadeiledd, sy’n galluogi iddyn nhw fesur pellter a chreu map yn annibynnol. Fel y rhan fwyaf o oriorau eraill, mae hefyd yn cynnwys mesurydd curiad calon sy’n osgoi’r angen am brynu un ar wahan. Nodwedd bwysig ar gyfer seiclwyr yw’r gallu i rannu’ch lleoliad gydag anwyliaid. Ond, gyda mwy o nodweddion, mae’r oes batri’n lleihau wrth reswm. Pan yn ei ddefnyddio ar gyfer recordio, yr oes batri yw 13 awr, ond ar gyfer defnydd cyffredinol mae’n ymestyn i 9 niwrnod.


Apple Watch SE Cellular

Pris: £299 RRP

Currys (£299)


Ymwrthodiad: ymchwil, nid profiad personol, yw sail fy sylwadau ar y cynnyrch hwn.


Yn fy nhyb i, byddwn i’n dweud mai’r oriawr perffaith fyddai un fyddai’n eich galluogi i adael eich ffôn adref. Byddai’r elfen o ryddid o allu gadael rhywbeth sydd a gafael ar ein bywydau ar ôl a chanolbwyntio ar y seiclo yn hynod werthfawr. Byddai hyn yn galluogi i chi dderbyn a gwneud galwadau yn syth o’ch oriawr - ac mae’r oriawr penodol hwn yn cyflawni hyn. O ran llenwi’r bwlch efo’r Garmin Forerunner, byddech chi’n talu am y gallu i ffonio ac ati, i gael chwarae cerddoriaeth drwy’r seinydd oddi fewn iddo a lawrlwytho apiau iddo (fel Strava ar gyfer hwyluso’r broses;