Beth yw Apêl Seiclo Graean? Holi Nia Peris a Steff Rees


Mae'n debyg 'falle mai dyma'r gofnod 'aml-gyfrwng' cyntaf ar Y Ddwy Olwyn. Yn hytrach na darllen, mae 'na bosib i chi wylio'r drafodaeth ar y fideo uchod pe dymunwch.


Hynny oherwydd y gwnes i gynnal sgwrs am seiclo graean gyda dau arbenigwr, Nia Peris a Steff Rees, nos Fercher.


Ro'n i 'falle wedi gobeithio am ychydig mwy o gynulleidfa fyw, ond gogoniant y peth yw fod modd i chi'i wylio 'ar-alw' neu hyd yn oed ddarllen trawsgrif o'r sgwrs isod.


Mi geision ni drafod cymaint a phosib o fewn y deugain munud ganiateir gan Zoom, ond mewn gwirionedd fel dd'wedodd Steff - mae angen PhD ar y pwnc!


Er hynny, ac 'nad oes modd ei gynllunio' meddai Nia, dwi'n credu i ni wneud job go lew ar grisialu'r apêl.


Dyma'r canlyniad - mwynhewch!


Gruffudd ab Owain: Pam a phryd wnaethoch chi benderfynu dechrau seiclo ar y graean?


Nia Peris: Yn ffodus iawn i fi o ran y farchnad prynu beics, nes i brynu beic graean ryw fis cyn y cyfnod clo, felly ‘mond ryw ddeunaw mis yn ôl. Ro’n i wedi benthyg un yn y siop feics yn Aber i roi cynnig arno fo ac mi wnaethon nhw gynnig gwerthu’r demo i fi - dwi’m yn meddwl fysa hynny’n digwydd rwan na ‘sa, maen nhw i gyd fel aur! Felly rhyw ddeunaw mis yn ôl falle; dyna pryd brynais i’r beic. Dwi’n meddwl yn y tri mis cyn hynny falle o’n i wedi bod yn menthyg beic cyclocross gan ffrind i roi cynnig arno fo felly ryw ddechrau llynnedd.


GaO: Beth oedd yr apêl felly? Pam bod y beic ffordd yn ‘annigonnol’ fel petai?


NP: O’n i wedi dechrau seiclo pan o’n i’n methu dal i fyny efo’r plant ar feics a do’n i methu rhedeg ar eu holau nhw, felly dyna pryd ‘nes i ddechrau seiclo ffordd - tua wyth neu naw mlynedd yn ôl. Bryd hynny, a tan llynnedd, ro’n i’n gweld pethau’n ddu a gwyn - bod ‘na seiclo lôn a beicio mynydd (llefydd fel Nant yr Arian a Coed y Brenin). Mae unrhyw un sy’n fy ‘nabod i o fewn seiclo yn gwybod mod i’n casàu mynd lawr elltydd, mae’n lot gwell gen i eu dringo nhw. Does gen i ddim gyts i feicio mynydd, doedd o ddim yn apelio o gwbl. Mae ‘na gymuned seiclo arbennig o dda fan hyn yng Ngheredigion; nes i ddechrau gweld seiclwyr oeddet ti’n ‘nabod neu’n gyfarwydd â nhw yn 2019 falle yn amlwg yn gwneud rhywbeth gwahanol i feicio mynydd. Yn amlwg roedden nhw, oeddet ti’n gallu gweld o’u Strava nhw, eu bod nhw’n mynd i lefydd newydd. Diwedd 2019 roedd ein siop seiclo leol ni yn cynnal teithiau cyflwyno i graean ac yn benthyg beics, felly dylanwad pobl eraill â bod yn berffaith onest. Meddwl bod o ddim i fi ac wedyn rhoi cynnig arno fo a sylweddoli o ran cadw oddi ar y ffyrdd prysur, ac yn bennaf oll dwi’n meddwl o ran dod i ‘nabod yr ardal achos mai dyma un o’r prif resymau dwi’n seiclo, sef lle mae o’n mynd â fi. Mae’r posibiliadau fan hyn yn rhyfeddol. Ti yn Pumlumon mewn hanner awr ac mae’r tirwedd wedyn yn anhygoel ac mi wnes i sylweddoli’n ddigon cyflym bod o ddim yn golygu bod ofn am ‘y mywyd yn mynd lawr elltydd.


GaO: Byddai trafodaeth am seiclo graean yn anghyflawn heb Steff, sy’n gyfrifol am gyfrif y Bachan Graean ar ambell un o’r cyfryngau cymdeithasol; pam a phryd ‘naethoch chi ddechrau - ac ydw i’n iawn i ddweud yn y clo hefyd yn debyg i Nia?


Steff Rees: Ie siwr o fod, ychydig bach ar ôl Nia o bosib. O ran fy siwrne seiclo i ‘de, pan o’n i’r un oedran â ti roedd gen i beic heol, Giant Defy oedd e - beic aluminium, falle steel, oedd e’n drwm. Unwaith nes i gyrraedd y brifysgol yn Aber ro’n i jyst yn meddwl, ble bynnag dwi’n mynd mae ‘na heolydd prysur a tyle’n mynd i bob cyfeiriad, felly dwi ddim am fynd ar y beic dim mwy. Felly dyna ddiwedd y siwrne seiclo am ryw ddeg mlynedd, ac wedyn yn ystod y cyfod clo nes i benderfynu bydde’n neis cael y beic nôl, ac ar ôl deg mlynedd yn y sied gyda mam a dad roedd e wedi rhydu a benderfynes i dylen ni gael beic newydd. Felly nes i holi un siop leol a ‘naethon nhw sôn bod na restr hirfaith ac y bydde’n rhaid aros ryw chwe mis. Es i holi siop arall leol ac wrth lwc ‘wedon nhw bydden i’n gallu cael y beic wythnos nesa ond mi roedd e lot dros y cyllid o’n i wedi bwriadu! O ran beicio graean, nes i sylweddoli nad o’n i eisiau mynd ar yr heolydd prysur a rownd ffor’ hyn, ffordd i’r gogledd, ffordd i’r de, ffordd i’r dwyrain, maen nhw i gyd yn A roads. Dipyn o hanes o bobl yn cael damweiniau cas ac un cynghorydd lleol yn cael ei ladd ar y ffordd ac ro’n i’n ymwybodol o hynny. Mi wnes i ofyn i ffrindiau pa fath o lwybrau beics sy’n lleol ac maen nhw bach yn gravelly - neu raeanog - ac mi wnes i fennu lan yn edrych am feiciau graean. Do’n i ddim yn gwybod eu bod nhw’n bodoli a digwydd bod ges i’r beic yn eitha syth bin, ac ers ‘ny dwi heb edrych nôl. Ma’r ardal ‘ma o bosib yr ardal orau yng Nghymru ar gyfer beicio graean.


GaO: Felly ‘den ni wedi sefydlu bod gan y ddau ohonoch chi feic graean penodol, pa mor wahanol ydy o i gynnal a chadw o’i gymharu a beic ffordd?


NP: Mae o’n mynd fwy ‘sglyfaethus o fudr ac mae o’n llenwi efo’r darnau bach ‘na o binwydd felly ti’n gorfod ei olchi fo lot amlach. Mae gen i frecs disc ar fy meic graean, pan brynes i feic ffordd doedd y ffasiwn beth ddim yn bodoli. Y prif wahaniaeth ydi bod fy meic graean i yn tubeless ac mi wnes i’r pendefyniad yna reit ar y cychwyn. Mae’n rhyfeddol; dwi ‘di seiclo cannoedd, miloedd o filltiroedd ar hyd graean ac arwyneb lot mwy garw a tydi o’ rioed wedi mynd yn puncture. Mae o’n selio’i hun yn syth bin pan ma’na dwll. Erbyn hyn, mi gei di groupsets penodol ar gyfer graean ond yr unig wahaniaeth â’r beic arall sgen i ydi lled y teiars.


SR: Wel dwi ar tubes ar hyn o bryd ond mae o ar y todo list i gysylltu â’r siop leol i newid i tubeless. Ond i ‘weud y gwir dim ond un puncture dwi ‘di gael ar y graean, dwi ‘di cael y gweddill ar y tarmac. Mae gan f’un i ryw fath o shock absorber ar y bac, ryw ddarn bach o rwber sydd yn y ffram ar y cefn sy’n rhoi ryw fath o shock absorbtion. Efo’r beics mwy diweddar, ma’r cwmniau’n rili pwsio’r ffiniau o beth yw beic graean. Canyon yn rhoi suspension ar y blaen, suspension go iawn. Ma’r busnes e-feics yn stori arall. Ma’r cwestiwn dal ‘na rili beth yw beic graean.


GaO: ydy seiclo grean yn llai difrifol na seiclo ar y ffordd? Ydi’r bwyslais ar y lycra yn llai?


NP: Yr ha’ ma fues i lawr yn seiclo i lawr ochre Llyn Brianne a Soar y Mynydd, a digwydd bod roeddwn i lawr ‘na pan oedd y Grit Fest ymlaen yr un pryd. Roedd o’n amlwg yn glamp o beth, beiciau graean oedd gan y rhan fwyaf. Roedd y gwahaniaeth o ran be oedden nhw’n wisgo, y bobl eu hunain o ran eu hoedran ac ati, roedd ‘na ddegau neu gannoedd o seiclwyr. Roedd yr amrywiaeth yn rhyfeddol, lot mwy felly nag ar y lôn. Roedd ‘na feicwyr proffesiynol neu lled-broffesiynol yn eu lycra i gyd a’r beics anhygoel ‘ma, a wedyn roedd ‘na bobl mewn crysau t - dim lycra o gwbl, dim padiau na’m byd. Bydden i’n dweud bod o’n apelio i ystod fwy eang o bobl ella.


SR: Ma’n ddiddorol, dwi’n edrych i brynu cit newydd a’n gobeithio bod ‘na sales diwedd yr ha’. Ma’ sawl cwmni dros y flwyddyn dwetha wedi dechre gwneud dillad penodedig i’r graean, a’n aml iawn ma na siorts lycra efo pocedi. ‘Chi’n gweld bod y diwylliant bikepackio wedi cael dylanwad eitha mawr. Ond y peth mwyaf yw delwedd o top llac sy’ bron a bod fel ryw hybrid. Ma’r beic ‘i hunan hanner ffordd rhwng beic ffordd a beic mynydd, ma’ nhw nawr yn trio rhoi ffasiwn yn y canol hefyd. Pawb at y peth y bo, yn bersonol dwi’n rhy drwm i’r heolydd hyn felly dwi angen yr aerodynamic edge - lycra i fi!


NP: Peth arall ydy, o ran gwneud y pethau ma’n gynhwysol, dwi’m di prynu dim un dilledyn gwahanol ers dechre seiclo ar graean heblaw falle am bar arall o ‘sgidie seiclo. Lycra lôn dwi’n ei wisgo. Does dim angen wardrob newydd i fynd i lefydd newydd.


SR: Mi allwch chi ddefnyddio fflats, do’n i ‘rioed wedi gwisgo sgidiau seiclo o’r blaen ac ro’n i bach yn nerfus, dwi’n eitha clumsy ta beth, felly nes i ddechre gyda sgidie flat. Yn enwedig os chi isie mynd ar llwybrau mwy mentrus falle mai fflats yw’r ffordd i fynd.


GaO: Be dech chi’n ei ddefnyddio i gynllunio routes?


NP: Ma’ gen i komoot os oes rhywun arno fo ma gan Summit Cycles ryw 25 neu 30 o routes penodol ar eu gwefan nhw sy’n amrywio o 20km i bethe 120km felly mae ganddyn nhw lwyth o stwff. Dwi ‘di defnyddio’r un map am ddim mewn rhai llefydd achos mae o’n dangos y llwybrau’n fwy clir nag OS. Ond dydw i heb ei ddefnyddio fo i greu route gravel am y rheswm syml mod i’n tueddu i gopïo lle ma seiclwyr eraill yn mynd neu y rhan anferth o’r apêl ydy ffeindio allan lle ma ffyrdd yn y mynd. Unwaithth ma gen ti feic fel ‘ma - dwi’n hoffi mapiau a dwi’n hoffi gweld sut mae llwybrau’n cysylltu. Alla’i weld falle yn y dyfodol mi wna i ddefnyddio komoot i greu llwybrau ond ma’ ‘na elfen fawr o ddilyn fy nhrwyn a dilyn llwybrau pobl eraill.


SR: Dwi’n defnyddio komoot ond dwi ‘di dysgu i beidio dibynnu gormod arno fe. Nes i ddysgu amdano fe gynta pan o’n i wrth y modd gwylio GCN ond trwbl yw gydag e yw dyw’r mapiau ddim wastad mor fanwl â mapiau OS. Ap OS Maps dwi’n ei ddefnyddio fwyaf a dwi’n tueddu i ffeindio fod y graean gorau, dwi’n meddwl, ydy’r tracs - dwy linell, dashes paralel. Rhei’na yn ‘y marn i yw’r llwybrau gorau o ran graean fel arfer. Ma’ pethe fel bridleways yn fwy o gambl ac ma’ ambell un ohonyn nhw fwy ar gyfer beics mynydd. Er mi fydda i’n edrych ar grwp Facebook UK Gravel Bike Club a gweld eu bod nhw’n mynd drwy bethe sy’n edrych fel llwybrau ceffyl. Be fydden i’n deud i ffeindio llwybr newydd byddwn i’n mynd i OS Maps ac edrych am y tracs ma ac wedyn defnyddio komoot i weld pa mor bell a pha mor serth ydy o. Ac os dwi’n gweld unrhywbeth dros 10% dwi’n meddwl - “ffeindia ffordd arall”!


NP: Dwi’n aml yn llwybro pethe ar Strava ac wedyn mae eu meddalwedd routes nhw’n deud wrthot ti pa mor hir y dylai’r route gymryd ar sail dy gyflymder ar y pedwar reid dwetha. Bydda’i wastad yn deud wrth y gŵr - ‘dyma lle dwi’n mynd a dyma faint o amser y dylai o gymryd’. Os dwi’n mynd ar y gravel dwi jyst yn deud ‘dwi’n mynd ar gravel’ achos mi ellith reid 20 milltir gymryd rhan fwyaf o’r dydd. Ma’r elltydd yn gallu bod yn erchyll, mae’r dringo’n gallu bod yn ddiarhebol ac mae ‘na’n aml elfen o fynd ar ffordd wahanol neu fynd i weld rywbeth. ‘Dio ddim mor bosib i’w gynllunio fo cweit mor fanwl ag y byddet ti’n mynd ar lôn. Byddwn i byth yn rhoi amser - ‘dyma pryd dwi fod adre’ - pan dwi’n mynd ar y gravel. Be’ sy’ yn helpu ydy’r gymuned o dy gwmpas di. Os oes ‘na rywun yng ngogledd orllewin Cymru yn rywle yn gwybod am gravel byddwn i wrth fy modd. Unwaith ma gen ti gymuned o’i gwmpas o, ti’n gweld llun o lefydd a ti’n gofyn lle mae o, sut mae’i gyrraedd o. Ma chwilfrydedd yn rhywbeth sy’n mynd yn dda efo’r peth - yr awydd i wybod am lefydd i gyrraedd a sut i’w cyrraedd nhw. Ma’ cal y gymuned ‘na yn handi iawn ac mae o’n tyfu.


GaO: Lle mae tynnu’r llinell o ran yr arwyneb sy’n addas i’r beic?


NP: Ma’ angen disgwyl cerdded. Mae coedwigaeth yn llwybrau graean sylfaenol, syml. Unwaith ti’n mynd o fana ac ychwanegu llwybrau ceffyll a ballu, wedyn ma angen ystyried os a faint fydda’i’n cerdded o ran yr arwyneb ac ati. Dwi ‘di seiclo pethe lot mwy garw na fyddwn i wedi disgwyl gallu gwneud ar y teiars yma, ond na, osgoi llwybrau cerdded ar bob cyfri.


SR: Beth sy’n rhaid i ni gofio yw tarddiad beics graean. Mi ‘naethon nhw darddu yn y midwest yn America siwr o fod ryw 10-20 mlynedd yn ôl lle ma na rwydwaith sy’n cael eu cynnal gan y dalaith ac mae nhw jyst yn heolydd graean bach fel y Strade Bianche yn Toscana. Creodd ambell gwmni feics ar gyfer y pwrpas yna. Felly dwi’n credu yn y wlad hyn, a falle’r rheswm pam fod y graean mor dda yn y canolbarth, yw achos bod na gymaint o goedwigaeth i gael, mae ‘na gymaint o goedwigaeth lle ma loris yn mynd dros y graean i ‘neud pethe’n esmwyth. Ond os nad ydych chi’n byw yn agos i rywle lle ma ‘na goedwigaeth ac ma gynnoch chi feic graean ac ma’r syniad o graean yn eich ysbrydoli chi, byswn i’n ceisio ffeindio pethe sydd mor agos â phosib. Felly dyna pam ma’ pobl yn y wlad hyn yn mynd â beics graean i gyfeiriadau mor wahanol i’r sylfaenwyr yn America. A nawr, mae cwmniau beics yn rhoi suspension ar y blaen a pethe, a gymaint o drafodaeth am pa fath o gêr sydd eisie, pa fath o deiars sydd isie; os oes gyda chi’r beic cywir a’ch bod chi’n berson hyderus ac ma’r sgiliau gyda chi mi allwch chi wneud unrhywbeth. Bydd y graean ma rywun fel fi a Nia yn ei hoffi, sy’n dod o gefndir mwy seiclo ffordd, yn wahanol i’r graean bydde rhywun o gefndir beicio mynydd yn hyderus yn gwneud. Ma’n gwestiwn sydd angen PhD i’w ateb - beth yw seiclo graean! O’n i’n gweld GrindDuro yn digwydd ar bwys Machynlleth ac mi o’n i’n gweld un o’r rhannau oedden nhw’n mynd arno a meddwl - “no way ‘ych chi’n disgwyl i feic graean fynd drosto.”...


Ross McFarlane (cyfraniad o’r gynulleidfa!): Roedd e’n iawn. Ro’n i mor ofnus am hynny achos fel Nia ro’n i’n meddwl, ‘sai di gwneud beicio mynydd o gwbl felly o’n i mor ofnus cyn y dydd.


SR: Un peth dwi heb son amdano yw tyre pressures, yn amlwg un o’r pethe dwi’n mwynhau fwyaf am y beic graean yw bod dim rhaid i chi fynd ar y graean gydag e. Ar heolydd cefn Ceredigion gyda teiars mwy trwchus, shock absorbers a chi’n gallu rhedeg eich teiars mymryn bach yn is na beic ffordd, mae e’n rhoi bach mwy o hyder i chi. Felly beic graean ar y tarmac bydden i’n rhedeg tua 60psi, ac ar rywbeth mwy off-road tua 45psi. Lot o amrywiaeth ac os oes gennych chi’r beic cywir ar y diwrnod ma’ beth ‘chi’n mynd i allu reidio yn wahanol.


NP: Byswn i’n deud hynny hefyd. Tasech chi’n deutha i rwan bo’ raid i fi gadw un beic a bod popeth arall yn gorfod mynd yna gravel fyddwn i’n gadw. Mi wnai seiclo ar y beic gravel yn y gaeaf ar y lonydd cefn o’n cwmpas ni fan hyn achos ma nhw’n serth ac mae’r tarmac yn wael.


GaO: I gloi, beth fyse’ch top tip chi i rywun fel fi sydd a rhywfaint o ddiddordeb mewn prynu beic graean pan fydd y farchnad yn gwella digon iddyn nhw fod ar werth?


NP: Mewn brawddeg…. rywsut tria fenthyg un, hyd yn oed roi teiars bach mwy trwchus ar dy feic lôn os oes gen ti’r clearance. Tria fo am ddiwrnod ar fore Sadwrn pan fydd hi’n wirioneddol brysur ar y ffyrdd. Yng Ngheredigion bydden i’n mynd i fferm wynt Cefn Croes ym Mhontarfynach, bydden i’n mynd i Claerwen yng Nghwm Elan - tria fo. Fyddi di’n brifo drostat ond mi fyddi di’n wên o glust i glust. Sawl brawddeg sori!


SR: Wel, dwi jest yn mynd i ailadrodd y pwynt dwetha ‘na nawr sef os chi isio un beic sy’n gallu gwneud popeth yn eitha y beic grean yw e ar eich cyfer chi.