top of page

Bwletin Byd y Beic: 3ydd o Chwefror, 2020

Treialu fformat newydd ar gyfer mis Chwefror, gan obeithio y daw digon o bynciau i'w trafod yn y cofnodion. Bydd diweddaraf o'r clwb Strava arferol yn dal i fynd, ond yn rhan o'r gofnod yma yn lle.


Fflach newyddion


Bydd pob reidiwr yn gorfod cael asesiad iechyd cyn y Tour de Langkawi oherwydd y coronavirus, tra bo timau Tseiniaidd yn tynnu allan o'r ras yn gyfan gwbl.


Reidiwr ifanc cyffrous EF Education First, Sergio Higuita, oedd yn fuddugol yn ras ffordd pencampwriaeth Colombia, gyda Egan Bernal yn ail a Dani Martinez (hefyd o EF) yn drydydd, ac yntau wedi ennill y REC yn gynharach yn yr wythnos.


Fe gafodd Mikel Landa a ffrind eu taro gan gar pan allan ar reid. Fe'i cludwyd i ysbyty ond osgodd y reidiwr Bahrain McLaren unrhyw anaf difrifol.


Bydd Andre Greipel (Israel StartUp Nation) yn ceisio torri record cyfranogiad reid grwp ar Zwift ddydd Sadwrn (8 Chwefror) i godi ymwybyddiaeth am afiechyd i'r ymennydd achosodd farwolaeth ei fam.


Perygl y bydd Strava yn gallu achosi tueddiadau obsesiynol, yn ol arolwg diweddar. Darganfyddodd arolygwyr o Brifysgol Cenedlaethol Iwerddon, Galway, bod apiau ffitrwydd yn gallu achosi agweddau gwael tuag at ffitrwydd.


Mae tim Ineos wedi arwyddo'r treiathlwr Cameron Wurf i'w carfan yn lle Vasil Kiriyenka wnaeth ymddeol yn ystod yr wythnos oherwydd pryderon am gyflwr ei galon.


Stori sy'n datblygu


Mae Jakob Fuglsang wedi ei gyhuddo o hyfforddi gyda'r doctor sydd wedi ei wahardd oherwydd dopio, Michele Ferrari, yn ol adroddiad ddatgelwyd i newyddiadurwyr Daneg.


Mae'r adroddiad 24 tudalen yn datgelu bod Ferrari, fu'n gweithio gyda Lance Armstrong tuag at ei 7 Tour de France, yn bresennol gyda Fuglsang yn y Volta a Catalunya llynnedd.


Datgela yn ogystal fod ei gyd-reidiwr Astana, Alexey Lutsenko, yn bresennol mewn cyfarfod rhyngddynt, ond does dim tystiolaeth yn awgrymu fod Lutsenko yn gweithio gyda Ferrari.


Yn ymateb i'r cyhuddiadau, mewn datganiad, dywedodd y tim nad oedden nhw'n gweithio gydag unrhyw "ddoctor amheus".


"Mae'r tim wedi nodi'r erthygl yn cyfeirio at fodolaeth adroddiad cyfrinachol gan CADF yn amau cyswllt gyda'r gwaharddedig Dr Michele Ferrari.


"Rydym fel tim yn ymrwymo i frwydro yn erbyn dopio mewn chwaraeon. Mae'r tim yn mynnu bod pob reidiwr yn cydymffurfio gyda gorfodaethau gwrth-dopio.


"Dydy'r reidwyr ddim yn cael awdurdod i gysylltu neu weithio ag unrhyw ddoctor allanol yn gysylltiedig a'u perfformiad."


Rasio yn Awstralia, yr Ariannin a Mallorca


Am ganlyniadau llawn yn ddyddiol, cofiwch ddilyn y cyfrif Twitter.


Buddugoliaeth yn y REC yn lifrai pencampwr Ewrop oedd yr allwedd i fuddugoliaeth DC yn y Vuelta a San Juan i'r Belgiad Remco Evenepoel, ddaeth y reidiwr ieuengaf i ennill y ras. Cipiodd Fernando Gaviria dair o fuddugoliaethau gwib yn ystod y ras.


Sam Bennett ennillodd ras undydd newydd, Race Torquay, yn Awstralia, yn ras y dynion, tra Brodie Chapman oedd yn fuddugol yn ras y merched.


Yn y gyfres o rasys undydd yn Mallorca, ennillodd Matteo Moschetti ddau ohonynt, a bu buddugoliaeth yr un i Emanuel Buchmann a Marc Soler.


Wedi ymosodiad hwyr, Dries Devenyns oedd yn fuddugol yn ras Cadel Evans i'r dynion, gyda Pavel Sivakov yn yr ail safle. Liane Lippert oedd yn fuddugol yn ras y merched mewn ymosodiad unigol, o flaen Arlenis Sierra ac Amanda Spratt.


Benoit Cosnefroy oedd yn fuddugol yn y Grand Prix Cycliste la Marseillaise, un o'r rasys llai adnabyddus.


Ennillwyr Pencampwriaeth y Byd Seiclo Traws

Y prif bennawdau o wythnos fwdlyd yn Dubendorf.


ME

1. Mathieu van der Poel (Iseldiroedd)

2. Tom Pidcock (Lloegr)

3. Toon Aerts (Gwlad Belg)


WE

1. Ceylin del Carmen Alvarado (Iseldiroedd)


Mu23 1. Ryan Kamp (Iseldiroedd)


Wu23 1. Marion Norbert Riberolle (Ffrainc)


MJ

1. Thibau Nys (Gwlad Belg)

WJ

1. Shrin van Anrooij (Iseldiroedd)

Yr wythnos i ddod


Taith Saudi Arabia: Bydd Mark Cavendish yn gwneud ei debut i Bahrain McLaren mewn ras bum cymal newydd yn Saudi Arabia.


Volta a la Comunitat Valenciana: Alejandro Valverde yw'r 'dyn i'w guro' yn ol nifer ar gyfer y ras ar arfordir gorllewinol Sbaen, sy'n cychwyn ddydd Mercher. Rhestr llawn ser yn barod i daclo'r ras, Tom Dumoulin yn rasio am y tro cyntaf i Jumbo-Visma, Philippe Gilbert, Matteo Trentin, Wout Poels, Dylan Teuns, Dan Martin, Tadej Pogacar, Greg van Avermaet a Michal Kwiatkowski yn cymryd rhan.


Clwb Strava

27/1 - 2/2


Pellter (km)

1. Rhys Iorwerth 357

2. Hywel Jones 356

3. John Chick 308


Reid hiraf (km)

1. Hywel Jones 101


Dringo (m)

1. Rhys Iorwerth 6,258

2. John Chick 4,136

3. Tracey Page 2,148


Recent Posts

See All
bottom of page