top of page

Cenhedloedd Seiclo: Fflandrys


Mae heddiw’n ddiwrnod hanesyddol i gamp y ddwy olwyn.


Am y tro cyntaf erioed, mae reidiwr Affricanaidd wedi dod i’r brig yn un o glasuron Gwlad Belg. Biniam Ghirmay o dîm Intermarche Wanty Gobert yn gwibio i fuddugoliaeth yn Gent-Wevelgem.


Trobwynt, gobeithio, yn nhrywydd y gamp i’r dyfodol.


Ac i ryw raddau, mae’n newid trywydd cofnod heno ‘ma.


Ar yr agenda’r wythnos hon mae pennod nesaf y gyfres sy’n bwrw golwg ar ‘genhedloedd’ y byd seiclo. Yn draddodiadol, mae ‘na ryw lond llaw o genhedloedd craidd sydd wedi meddiannu’r byd seiclo ers degawdau.


Nid edrych ar y rhain yn unig wna’r gyfres yma - fel sy’n wir am y gofnod ddiwethaf fu’n trafod Slofenia - ond heno ‘ma un o hoelion wyth y gamp sydd dan sylw.


Fflandrys.


Cyn cychwyn ar y cynnwys yr o’n i wedi bwriadu’i ysgrifennu, mae’n werth dweud fod buddugoliaeth Ghirmay yn mynd yn groes i draddodiad, a hwrê am hynny. Mae traddodiad yn dweud fod angen profiad, gallu, record dda i ennill yn Fflandrys. Yn fwy na hynny, mae angen i chi hannu o un o ‘genhedloedd’ seiclo.


Y traddodiad hwnnw sydd dan sylw yn y cofnod hwn, ond beth sy’n dyrchafu camp Ghirmay i lefel o fawredd yw’r newydd-deb mae’n ei gynnig, y newid cyfeiriad, a’r chwa o awyr iach sydd ei angen mor daer ar y gamp.


Mawr obeithiwn y bydd hwn yn newid trywydd seiclo yn Affrica a thrwy hynny y byd.


Pe bai gen i fys ar y pyls, mae’n debyg mai cofnod am Eritrea fyddai hon. Ond dwi’n credu’i bod hi’r un mor gyfredol i barhau â’r cynllun gwreiddiol ac arsylwi hunaniaeth seiclo unigryw Fflandrys.


Mymryn o gefndir


Un rhan o Wlad Belg yw Fflandrys (Vlaanderen neu Flanders); cenedl sydd â’i hunaniaeth unigryw ei hun. Llew du ar gefndir melyn yw’r faner - y Llew Fflandriaidd y mae’i dinasyddion yn canu amdano yn eu hanthem.


Fflemineg (Vlaams) yw eu mamiaith ond Iseldireg yw’r iaith fwyaf gyffredin yno, a dyna sy’n eu gwahanu nhw o ran arall Gwlad Belg - Wallonia - sydd â’i hiaith ei hun hefyd sef y Walloon ond yn bennaf yn siarad Ffrangeg.


Plethwaith o ddiwylliant, hanes ac iaith yw Gwlad Belg felly sy’n dod â dwy genedl - yn ei hanfod - ynghyd, ond mae amwysedd o hyd ynghylch safle Brwsel yn hyn i gyd.


Yn dechnegol, Brwsel yw prifddinas Fflandrys, ond fel Fflandrys a Wallonia, mae ganddo’i lywodraeth ei hun.


Fel y byddai un yn disgwyl mewn gwladwriaeth o’r fath, mae ymwahaniad yn gallu bod yn bwnc llosg, gyda mudiadau annibyniaeth yn y ddwy ran. Y cwestiwn mawr fyddai lle Brwsel yn hynny i gyd.


Pe baech yn cynnwys Brwsel, Fflandrys sy’n berchen a’r boblogaeth fwyaf o’r ddwy ran - 68.2% o boblogaeth Gwlad Belg - ond dim ond 8% o breswylwyr Brwsel sy’n siarad Vlaams.


Mae gwahaniaeth hefyd rhwng cenedl Fflandrys a rhanbarth Fflandrys - y naill yn cyfeirio at y rhanbarth hunanlywodraethol sy’n annibynnol yn gymdeithasol, economaidd a diwylliannol sy’n siarad Iseldireg gan fwyaf, tra bo’r llall yn cynnwys Gwlad Belg.


Maddeuwch i mi - mae’n gymhleth ond yn ddifyr ar yr un pryd! Ffurfiwyd y gyfundrefn ffederal bresennol ganol y ganrif ddiwethaf, ond rhwng 2007 a 2011 bu tipyn o drybeini wrth i bleidiau o blaid awtonomiaeth Fflandrys gynyddu mewn dylanwad ac mewn maint.


Wedi dweud hynny, dydy astudiaethau cymdeithasegol ddim yn gweld cydberthyniad rhwng twf yn eu poblogrwydd a thwf ymysg y niferoedd sy’n cefnogi awtonomiaeth neu annibyniaeth.


Digon am Wlad Belg, a gadewch i ni edrych oddi fewn i’r genedl ei hun. Dyrennir Fflandrys i bum rhanbarth fel a ganlyn:


  • Antwerp (prifddinas: Antwerp)

  • Limburg (prifddinas: Hasselt)

  • Oost-Vlaanderen (prifddinas: Ghent; hefyd yn cynnwys Oudenaarde)

  • Vlaams-Brabant (prifddinas: Leuven; y mwyaf newydd, grewyd ym 1995 wedi i Brabant rannu yn ddwy yn ol iaith)

  • West-Vlaanderen (prifddinas: Brugge; hefyd yn cynnwys dinasoedd amlwg fel Ypres, Kortrijk a Roeselare)


Bydd yr enwau hyn yn ymddangos eto wrth i ni fwrw golwg ar y rasys.


Y rasys yn Fflandrys


Mae’r hyn a elwir yn ‘glasuron Gwlad Belg’ mewn gwirionedd yn cyfeirio at glasuron yn Fflandrys gan fwyaf (ac eithrio Le Samyn, Liège Bastogne Liège a La Flèche Wallonne yn Wallonia). Dyma uchafbwynt y calendr seiclo i nifer o ffans y gamp; rasys undydd sydd bron yn ddi-eithriad yn arwain at frwydr gynhyrfus am y fuddugoliaeth. Dyma ddetholiad o’r rhai mwyaf nodedig:


Omloop Het Nieuwsblad

Hanner cyntaf yr Openingsweekend, sydd fel arfer yn cael ei gynnal ar benwythnos olaf mis Chwefror. O ganlyniad i’w statws fel un o’r prif rasys cyntaf yn y flwyddyn, mae tipyn o prestige yn perthyn i’r ras. Mae dwy ben y ras - yn dechrau yn Ghent ac yn gorffen yn Ninove - wedi’u lleoli yn Fflandrys.


Kuurne-Brussel-Kuurne

Ail hanner yr Openingsweekend, gynhelir drannoeth Omloop. Fel mae’r enw yn ei awgrymu, cylchdaith yw hon yn ei hanfod yn ardal Oost-Vlaanderen yn bennaf.


Nokere Koerse

‘Semi classic’ yw statws Nokere Koerse, sy’n cychwyn fel arfer yn Deinze ac yn gorfen yn Nokere.


Brugge-De Panne

Bu Brugge-De Panne, sy’n dilyn cwrs rhwng y ddwy ddinas honno, yn ras dri diwrnod hyd at 2017, ond erbyn hyn dros ddau ddiwrnod caiff ei gynnal - un diwrnod i’r menywod a’r llall i’r dynion. Fe’i chynhelir ganol wythnos.


E3

Un o’r unig (os nad yr unig) ras Fflandriaidd y gallwn ni dystio fod Cymro wedi ennill. Yn ras sy’n dechrau yn Harelbeke, enillodd Geraint Thomas yn 2015, ac ers hynny rydym ni wedi bod yn hiraethu am gael ei weld yn brwydro tua’r brig mewn rasys o’r fath.


Gent-Wevelgem

Traean cyntaf ‘Wythnos Seiclo Fflandrys’ sy’n cael ei gynnal wythnos cyn pìnacl y clasuron Fflandriaidd, De Ronde van Vlaanderen. Yn un o’r rasys hynaf ar y calendr, mae’n ras sy’n aml yn gorffen mewn gwib glwstwr, fel ddigwyddodd heddiw.


Dwars door Vlaanderen

Wedi’i leoli rhwng Gent-Wevelgem a De Ronde, ras ganol wythnos arall yw Dwars Door sydd eto’n cael ei ystyried fel ‘semi-classic’.


De Ronde van Vlaanderen

Fel grybwyllwyd eisoes, pìnacl y tymor Fflandriaidd yw De Ronde van Vlaanderen. Yn un o’r meini - y rasys undydd mwyaf yn y gamp - a’r ail o’r tymor, mae cyfrolau cyfan wedi eu hysgrifennu am y ras arbennig hon sy’n ennyn poblogrwydd mawr yn flynyddol. Mae’n crisialu’r hunaniaeth Fflandriaidd yma, ac mae’r rhai sy’n ennill y ras hon yn dyrchafu eu hunain i grwp dethol o sêr y gamp. Ymysg mawrion y ras hon sydd wedi ei hennill deirgwaith mae Johan Museeuw, Tom Boonen a Fabian Cancellara - hoelion wyth yn oriel yr anfarwolion.


Hunaniaeth y rasys Fflandriaidd


Mae rhywbeth unigryw iawn am y rasys Fflandriaidd - y cyfuniad perffaith o goblau, dringfeydd byr ond caled a digon o gwrw.


Yr hyn sydd fwyaf nodweddiadol amdanynt yw’r hyn a elwir yn ‘bergs’ - y dringfeydd coblog, byrion sy’n sugno gymaint o egni allan o goesau’r reidwyr, ac mae gofyn gwytnwch mawr os am ennill ar ddiwedd y ras.


Muur van Geraardsbergen.


Paterberg.


Oude Kwaremont.


Koppenberg.


Kemmelberg.


Kruisberg.


Molenberg.


Leberg.


Taaienberg.


Valkenberg.


Bosberg.


Dyma ddringfeydd sydd â’r un statws o fewn ein camp a dringfeydd y Tour de France fel y Ventoux neu Alpe d’Huez. Ond yn wahanol i’r rheiny, nid eu hyd, eu huchder, eu serthedd o reidrwydd sy’n eu dyrchafu i’r fath lefel.


Dringfeydd sydd wedi meithrin talentau mwya’r gamp fel Merckx a de Vlaeminck.


Dringfeydd sydd wedi eu hesgyn ar drywydd buddugoliaethau eiconig.


Dringfeydd lle mae’r coblau’n ysgwyd y coesau i gyflwr o flinder nas gwelir mewn unrhyw ras arall.


Ond mae mwy iddo na hynny.


Y diwylliant Fflandriaidd; eu hangerdd a’u brwdfrydedd tuag at y gamp, sy’n cael ei arddangos mor glir ar ddyddiau’r rasys hyn lle bo cocòffoni’r sŵn yn fyddarol.


Ac er mor braf yw hi fod cenhedloedd newydd yn ymddangos ar y lefel uchaf - Slofenia, Denmarc i raddau helaeth yn ogystal â, gobeithio, cyfandir Affrica - does dim dadlau chwaith nad yw’r traddodiad Fflandriaidd yn rhan annatod y gamp yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.


Hir oes i rasys Fflandrys.

Recent Posts

See All
bottom of page