top of page

Cymru'n Siarad: Diogelwch

Yn ddiweddar, bum yn trafod, serch yn gryno, diogelwch seiclwyr ar raglen y Post Prynhawn ar Radio Cymru gan ofyn i'm dilynwyr ar Twitter am unrhyw sylwadau i'w crybwyll.


Roedd yr ymateb yn adlewyrchiad clir iawn fod hwn yn destun y mae seiclwyr Cymru yn teimlo'n gryf amdano, felly dyma ymgais i'w rhoi nhw i gyd at eu gilydd ac ymateb iddyn nhw.


Un peth na thrafodwyd ar y pryd oedd diogelwch yn y peloton proffesiynol - testun a drafodwyd yn helaeth ym mis Awst a Medi 2020 wedi damweiniau lu yn effeithio ar Fabio Jakobsen, Remco Evenepoel, Steven Kruijswijk a mwy.


Ni wnawn sôn am hynny yn y gofnod yma, gan nad oes cymaint o rym gennym ni fel seiclwyr cyffredin na sydd gennym ni wthio am newidiadau yn lleol.


Deisebau i’w harwyddo:


Heb oedi ymhellach - cliciwch eich sgidiau mewn i'ch pedalau a ffwr' a ni.


Lonydd seiclo


Creu lonydd beicio pwrpasol mewn dinasoedd, trefi ac ar ffyrdd prysur ar draws y wlad. Dwi'n Llundain ambell waith yn ystod y flwyddyn a dwi'n teimlo'n llawer mwy diogel yn beicio drwyddi nag ydw i yng Nghaerydd gan fod 'na lonydd beicio pwrpasol yno sydd yn llawer fwy rhwydd.

@BeicioCymruRhys


Mae’r pwynt o greu rhwydwaith mewn dinasoedd yn un pwysig iawn. Does dim gwerth mewn cael ryw lwybr fan hyn neu fan draw, mae angen eu cysylltu a gwneud rhwydwaith gwirioneddol. Mae’n braf iawn gweld peth datblygiadau yng Nghaerdydd ac mae cynllun nextbike yn gadarnhaol, a’n rhoi sail pendant ar gyfer y dyfodol. Mwy am lwybrau *seiclo* pwrpasol yn y man.


Lôn Las Ogwen yw fy lôn agosaf. Prydferth ond yn gallu bod yn dywyll ac unig ym mhell o gymorth. Angen mwy o rai ar ochr y lonydd.

@cochbach


Pam, o pam, na ddefnyddir y tir gwastraff, y wefus werdd wrth ymyl y mwyafrif o lonydd ar draws Cymru, a'u haddasu yn lôn seiclo? Byddai'n llawer mwy diogel a hwylus i'r gyrrwyr ceir ac yn cymell mwy i fentro ar eu beiciau ar deithiau rhwng pentref a phentref.

@Ion_Thomas


Pwynt dilys tu hwnt, yn enwedig o ran teithio er mwyn cymudo a theithiau lle gallwn ni osgoi gor-ddefnydd o geir. Dwi’n ymwybodol o rai cynlluniau am lonydd ar ymyl y ffordd sydd wedi methu am amryw o resymau - ond unwaith y bydden nhw’n ymddangos mewn rhai llefydd dwi’n grediniol y bydd ymgyrch ehangach i’w codi. Mwy diogel i seiclwyr mewn mwy nag un ffordd a mwy hwylus i yrrwyr. Cynllun hir-dymor fyddai’n drawsnewidiol.


Defnyddio hen reilffyrdd a troi yn lwybrau beic. Mwy o lonydd seiclo mewn trefi a dinasoedd. Mwy o wybodaeth i seiclwyr â dim profiad ar sut i seiclo yn saff ar y ffordd.

@medwynedwards


Dyla fod hen disused llwybrau rheilffyrdd Cymru yn cael eu trawsnewid i fod yn lwybrau beicio. Hollol fflat, hollol arwahan i draffig, ardaloedd hardd. Perffaith a diogel.

@RowlyBech


Troi hen reilffyrdd yn ffyrdd beicio, er bod [ymgyrch] Lon Las Mon yn cynnig hyn ar Ynys Mon ers blynyddoedd a dim yn digwydd.

@imj65


Y tro hwn, byddai hyn yn fanteisiol yn ehangach ac yn gwyro’n fwyfwy tuag at yr ochr hamdden o bosib. Mae milltiroedd ar filltiroedd o hen reilffyrdd yn ein parciau cenedlaethol na fyddai’n cael eu defnyddio mewn unrhyw ddatblygiadau rheilffyrdd yn y dyfodol am eu bod nhw mewn parc cenedlaethol. Yn berffaith ar gyfer dechreuwyr, a’n agor byd o opsiynau am deithiau i wahanol lefydd, a gweld llefydd mewn golau gwahanol i’r hyn a welir o’r ffordd fawr. Mae’n bechod mawr nad ydy ymgyrchoedd fel ymgyrch Lôn Las Môn yn cael unrhyw lwc o ran datblygiadau, ond gobeithio drwy ddod a seiclwyr Cymru at eu gilydd gallwn wthio am y penderfyniadau yma. Does dim un rheswm da dros beidio a gwneud y math yma o brosiectau yn flaenoriaeth er lles y blaned.


Lot yn meddwl fod shared use paths yn ateb y broblem ond cycle lanes sydd angen. Shared use paths yn beryclach na seiclo ar y lôn yn fy marn i.

@dafioc

>Cytuno yn llwyr, mae Cyngor Conwy wedi rhoi ambell un yn ddiweddar ar allt Llanddulas a rhwng Black Cat a Mochdre. Maen nhw yn teimlo yn lot fwy saff, ond mae angen sortio potholes hefyd!

@Ric_Humph77


Llwybr ar wahân yn llawer mwy diogel. Caerdydd yn ystod y clo wedi dangos hyn. Cerddwyr ddim yn ymwybodol o hawliau seiclwyr gyda chŵn yn cael eu gadael yn rhydd, heb dennyn ynghyd a sgwters trydan. Dyna fyddai buddsoddi doeth ar ran y llywodraeth - fyddai'n arwain at fwy o feicio, gwella iechyd a ffitrwydd. Rhaid felly newid meddylfryd - a dilyn model ambell ddinas ac ardal ar y cyfandir.

@Ion_Thomas


Mae damweiniau’n digwydd rhwng gyrrwyr a seiclwyr, ac mae damweiniau’n digwydd rhwng seiclwyr a cherddwyr. Y ffordd ddelfrydol o osgoi hyn, fel sydd wedi’i grybwyll eisoes, yw i gadw pawb ar wahân. Yn yr Iseldiroedd mae mwy o feics na sydd o bobl (1.3 per capita) ac mae’r buddsoddiad synhwyrol cyson yn y rhwydwaith a’r infrastructure yn gwneud bywyd yn well i bawb. Mae’n braf clywed bod cynlluniau yn eu lle yng Nghymru, ond wrth gwrs mae angen cynnal hynny.


Addysg


Arwyddion ochr ffordd yn dangos 1.5m (fel rhai Gwynedd) ym mhob man. Ymgyrch hysbysebu ar y teledu ar sut i oddiweddyd yn ddiogel.

@imj65


Braf iawn oedd gweld arwyddion fel hyn yn ymddangos yn ardaloedd gogleddol Gwynedd fel dyffryn Ogwen ac ati yn yr haf. Mewn cyd-destun Cymreig, mae hyn yn gam eithaf arloesol ymlaen gan Gyngor Gwynedd, a gobeithio’n fawr y gwnawn nhw ymestyn eu defnydd ymhellach ar draws y sir a thu hwnt yn y dyfodol agos. Rwyf wedi gweld nifer o arwyddion tebyg ar wyliau seiclo yn Andalucia - rhai sy’n annog yr 1.5m wrth oddiweddyd yn ogystal ag arwyddion megis ‘Defnyddir y ffordd yma’n aml gan seiclwyr’. Camau bach, ond camau pwysig dwi’n credu i geisio gwneud gyrrwyr yn fwy ystyrlon.


Dyla fod unrhyw yrrwr proffesiynol, tacsi, bws, tryciau yn cael gwers "rhannu'r ffordd gyda cherbydau llai".

@RowlyBech


Y broblem, dwi’n meddwl, yw bod y rhan fwyaf o yrrwyr heddiw wedi’i dysgu mewn oes lle nad oedd seiclwyr i’w gweld ar y ffyrdd gymaint o’r hanner a sydd heddiw. Ar gyfer rheiny, bydden nhw’n amlwg wedi dod yn fwy cyfarwydd a gweld seiclwyr yn y blynyddoedd diweddar (yn enwedig ers twf yn llwyddiant yn y Gemau Olympaidd), a bydd camau bychain fel yr arwyddion ayyb yn lleddfu’r broblem rywfaint. Ond yn y presennol a’r dyfodol, byddwn i’n gobeithio bod addysg o yrru’n ystyrlon o gwmpas seiclwyr yn rhan o wersi gyrru.


Mae hefyd angen dysgu pawb am reolau'r hyn y gall beicwyr ei wneud ar ffyrdd, h.y. beicio two abreast. Yn bennaf, mae angen normaleiddio fod beicwyr a gyrrwyr am rannu'r ffordd dydd ar ôl dydd a rhoi parch o un i'r llall.

@BeicioCymruRhys


Un peth yw addysgu gyrrwyr, ond mae’n rhaid i seiclwyr fod yn ystyrlon hefyd. Dylid sicrhau fod seiclwyr yn ymwybodol o’r rheolau, ond cwestiwn arall yw sut mae darparu’r addysg hwnnw. Allai ond siarad o brofiad personol, ond cefais i gwrs hyfedredd seiclo ym mlwyddyn olaf ysgol gynradd, a gobeithiwn bod hynny’n parhau ledled Cymru.


Anghofia llwybrau beics, siacedi llachar, helmedi etc. Y prif (unig?) beth all 'neud beicio yn ddigon saff i'r rhan fwya' o bobl ei ystyried yn opsiwn ydi i bobl ddysgu gyrru'n iawn. Heb ddatrys hynny, ma' popeth arall jest yn 'trimmings'.

@aledelwyn


Oes modd dadlau? Dwi’m yn meddwl.

 

Rydym ni ‘gyd yn ymwybodol o fanteision dibendraw seiclo, er lles y bobl, y gwasanaeth iechyd a’r blaned/amgylchedd. Nid yn unig y dylai llywodraethau ar lefel lleol a chenedlaethol gyflwyno ymgyrchoedd mawr mewn cynyddu niferoedd seiclwyr, ond dylent hefyd ddarparu’r addysg a’r rhwydwaith sy’n angenrheidiol ar gyfer diogelwch a mwynhad llawn.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page