top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Dydd Miwsig Cymru: Tiwns Tyrbo Newydd 2023


Mae'n amser am un o fy hoff gofnodion o'r flwyddyn! I nodi dydd Miwsig Cymru, ers 2021, dw i wedi bod yn dynodi blogbost blynyddol sy'n olrhain rhai o'r 'tiwns tyrbo' Cymraeg gorau a ryddhewyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.


Beth yw 'tiwn tyrbo' sy'n gymwys i'r rhestr hon?


Trac sydd:

  • â churiad addas ar gyfer cadw tempo/cadens da. Mae'r rhan fwyaf rhwng 70-90rpm. Dw i wedi defnyddio gwasanaeth songbpm.com er mwyn canfod y cadens!

  • mewn arddull sy'n galluogi cadw ffocws! Dim byd rhy chill, ond mae 'na ambell un sy'n well efallai ar gyfer cynhesu fyny neu gŵlo lawr yn hytrach na'r sesiynau sy'n gofyn am gryn ymdrech!

Dyma felly feini prawf sy'n cyfyngu rhywfaint ar yr ehangder o ganeuon y gallwn i ddewis a dethol ohonynt.


Fodd bynnag, dw i'n credu fod cryfder y sîn Gymraeg a Chymreig bresennol yn cael ei arddangos yn y rhestr yma - rhestr sy'n cynnwys 34 o wahanol artistiaid.


Dw i wedi cael cymaint o hwyl yn mynd drwyddyn nhw i gyd, ac wedi dod ar draws caneuon am y tro cyntaf gan ddod o hyd i ambell berl.


Dw i wedi dewis a dethol o restrau hir Gwobrau'r Selar eleni, ac wedi categoreiddio isod yn unol â'r categorïau hynny hefyd, sef Cân Orau, Record Fer Orau a Record Hir Orau.


Mae gen i restrau chwarae i'r categorïau unigol, ac un rhestr chwarae o'r holl ganeuon reit ar ddiwedd y blogbost.


Mwynhewch!


Cân Orau

Dyma'r caneuon yr ydw i wedi eu dethol o restr hir Cân Orau.


Trefnwyd yn ôl yr wyddor.


Blerr - Tara Bandito

90rpm


Bricsen Arall - Los Blancos

80rpm


Cyrff - Ffatri Jam

84rpm


Gwahaniaeth - FRMAND x jardinio

70rpm


i ti - Gillie

75rpm


Mecsico - Derw

76rpm


Numero Uno - Lisa Pedrick

75rpm


Pwy Sy’n Galw - Lloyd, Dom James

79rpm


Rhyddid - Eädyth a Mr Phormula

93rpm


Rownd a Rownd - Sage Todz

71rpm


Sara - Glain Rhys

75rpm


Triongl Dyfed - Rogue Jones

70rpm


Weithiau - Chroma

70rpm


Record Fer Orau

Trefnwyd yn ôl dyddiad cyhoeddi.


‘Diflanu (Y Remixes)’ Chwalaw

Mae Chwalaw yn brosiect rhwng Efa Supertramp a Nick Ronin, sy'n cyfuno hip hop, gwerin ac electronica. O'r casgliad o ail-gymysgiadau a wnaed o'u trac nhw, Diflanu, dw i wedi dewis yr un gan Shamoniks, sy'n 85rpm.


‘Under the Open Sky’ The Mighty Observer

Prosiect Garmon Rhys o Eryri yw The Mighty Observer, ac o'u EP a ryddhewyd eleni ar Recordiau Cae Gwyn, dw i wedi dewis 'Paid Syllu Mewn i’r Gorwel Rhy Hir' sy'n ddigon chwim yn 95rpm, ond yn ddigon chill i fod yn berffaith ar gyfer ymadfer ar ddiwedd sesiwn caled.


‘Pen Bwy Gilydd’ The Joy Formidable

Dyma record fer sy'n gasgliad o ganeuon Cymraeg y grŵp dwyieithog poblogaidd, y rhai a ryddhewyd rhwng 2016 a 2022. Dydy'r casgliad heb ei ryddhau'n eang ar draws y llwyfannau ffrydio, felly yn lle, dw i wedi dewis dau o'm hoff ganeuon Cymraeg ganddyn nhw sydd ryw fymryn yn hŷn; 'Y Golau Mwyaf yw'r Cysgod Mwyaf' (70rpm) a 'Chwyrlio' (73rpm).


‘Crescent’ Thallo

Prosiect cyffrous y cerddor talentog Elin Edwards - sy'n rhannu'i hamser rhwng Dyffryn Nantlle a Llundain - yw Thallo. 'Crescent' yw'r EP y gwnaeth hi ei ryddhau eleni, ond dw i wedi dewis traciau oddi ar ei chasgliad o sesiwn byw a wnaeth hi o stiwidios BBC Maida Vale. Fersiynau arbennig o 'Mêl' ac o 'Eiliad Olaf', y ddau o sheden arafach na 90rpm.


‘BTTB Cyfres 1’ Worldcub

Mwy o Eryri sydd gennym ni nesaf gan y grŵp sy'n canu'n ddwyieithog, Worldcub, ac o'u record fer nhw, BTTB Cyfres 1, dw i wedi dewis y trac sydd fymryn yn arafach, 'Torri', sy'n 66rpm.


‘Mali Hâf’ Mali Hâf

Bûm i'n ddigon ffodus i gael trafod casgliad diweddaraf yr artist o Gaerdydd, Mali Hâf, ar gyfer Y Selar cyn y Nadolig; mae hi'n mynnu mai cam cyntaf yn unig yw'r EP hwn. Y trac cyntaf arno ydw i wedi ei ddewis, sef 'Fern Hill' (87rpm).


Record Hir Orau

yn ôl dyddiad cyhoeddi


‘Deuddeg’ - Sywel Nyw

Er fod y caneuon ar y record yma'n hen gyfarwydd bellach â hwythau wedi eu rhyddhau'n raddol drwy gydol 2021, yn 2022 y cafodd y casgliad cyflawn ei ryddhau'n swyddogol. O'u plith, 'Traeth y Bore' (70rpm), y trac ar y cyd gydag Endaf Emlyn, yr ydw i wedi ei ddewis; yn berffaith ar gyfer cynhesu fyny neu gŵlo lawr naill ben i sesiwn.


I KA CHING 10

Casgliad o weithiau gan yr artistiaid amryddawn sy'n perthyn i label I KA CHING a gafwyd ar 'X', ryddhawyd i nodi dengmlwyddiant y label. Mae'n gasgliad cyfoethog; yn driw i amrywiaeth yr artistiaid, ond mae digon i glymu'r traciau ynghyd hefyd. Dyma fy newisiadau:


'Chwalu'r Hud' - Serol Serol (90rpm)


'Y Gwylwyr' - Candelas a Nest Llewelyn (90rpm)


'Targed' - Dienw (70rpm)


'Oes oes cymaint o drwbwl' - Y Cledrau (64rpm)


‘Cariad y Tir’ - Kizzy Crawford

Mae gwerin yn fwy amlwg yn record hir ddiweddaraf Kizzy Crawford na recordiau blaenorol, sy'n cael ei adlewyrchu efallai yn nheitl y record. O'u plith, dw i wedi dewis 'Cariad Cywir' (95rpm) - sy'n plethu cân werin draddodiadol sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Troi'r wythnos yn flwyddyn'.


‘Byd Heb’ - Ystyr

Mae Ystyr yn grŵp newydd o gerddorion sydd wedi ennyn diddordeb a sylw dros y blynyddoedd diwethaf, a daeth eu carreg filltir fawr gyntaf gyda rhyddhau 'Byd Heb (Ystyr)'. 'Dihangdod, teimlad ac angerdd' sydd y tu ôl i'r cyfan medden nhw, ac o blith y traciau ar y record yma, dw i wedi dewis 'Disgwyl am yr Haf' (80rpm).


‘Bato Mato’ - Adwaith

Band y foment dybiwn i, a hwythau wedi eu henwebu ar gyfer bron bob categori yng Ngwobrau'r Selar eleni, a'u hail albwm wedi eu harwain at berfformio dramor yn Madrid a Groningen. Yn ôl fy ffrind sy'n nodi Adwaith fel un o'i prif ddylanwadau wrth greu cerddoriaeth - "ma’n nhw’n dair merch sy’n bod yn arbrofol a dangos bod o’n bosib gallu bod yn bold yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg a dal gallu llwyddo."


O'u hail albwm, 'Bato Mato', dw i wedi dewis 'Bywyd Syml' (88rpm) a 'Cuddio' (73rpm).


Dw i hefyd am gynnwys y trac arbennig 'Fel i Fod' (90rpm), am i'r trac ddod y gân Gymraeg ddiweddaraf i ennyn 1 miliwn (1 miliwn!) o wrandawyr ar Spotify.


‘Breuddwyd y Ffŵl’ - Elis Derby

Un o fy hoff recordiau hir o'r flwyddyn yw hon gan y cerddor ifanc Elis Derby. Mi wnes i gyfweld ag o ar yr albwm ar gyfer Y Selar pan gafodd hi ei rhyddhau, ac mi ddisgrifiodd yr albwm fel un 'cyfoethog, amrwd ac arbrofol', ac un sy'n ddatblygiad o'i waith cynharach. Oddi arni, dw i wedi dewis y teitl drac, 'Breuddwyd y Ffŵl' (87rpm).

‘Edyf’ - Cerys Hafana

Un arall o'r artistiaid y bûm i'n ddigon ffodus o'u cyfweld eleni. Dyma gerddor ifanc sydd wedi prysur wneud enw iddi hi'i hun o fewn y sîn yng Nghymru, ond hefyd ar y sîn gwerin mwy rhyngwladol. Bu hi'n perfformio yng Ngŵyl Ban Geltaidd Lorient yn gynharach eleni, ac yn fwy diweddar yn Celtic Connections yn Glasgow. Mae'n werth ichi hefyd ddarllen ei hysgrif yn y gyfrol ardderchog 'Welsh Plural' am bresenoldeb traddodiad yn y Gymru gyfoes.


Cerddoriaeth telyn deires yn 'diwn tyrbo'? Mae'n destun i'w gallu eang, yn fy marn i, fy mod i'n medru cynnwys un o'r traciau oddi ar 'Edyf' ar y rhestr yma, sef 'Y Môr o Wydr' (62rpm).


‘Y Gawres’ - Sister Wives

Pedwarawd wedi'i leoli yn Sheffield ydy Sister Wives, ond maen nhw'n canu yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Eu halbwm cyntaf yw 'Y Gawres', ac oddi arno, dw i wedi dewis 'O Dŷ i Dŷ' (65rpm).


‘Dal i Freuddwydio’ - Artistiaid Amrywiol

Mynd â ni'n ôl i'r 80au (boed hynny'n beth da neu ddim...) yw diben y casgliad yma o draciau sy'n dwyn yr enw 'Dal i freuddwydio'. Mae 'na lwythi o ganeuon amrywiol arni, ac o'u plith, dyma fi'n dewis 'Gwawr Tequila' (77rpm) gan Bando, a 'Rhywle Heno' (77rpm) gan Maffia Mr Huws. Mae sain yr 80au yn glir iawn ar y ddau drac!


‘Ynys’ - ‘Ynys’

Mae albwm cyntaf Ynys sy'n dwyn yr un enw yn rhyw benllanw ar gyfnod o ychydig flynyddoedd yn creu a rhyddhau cerddoriaeth. Prosiect y cerddor Dylan Hughes (Race Horses a Radio Luxembourg gynt) ydy Ynys, sydd â haenau o harmonïau melancolig yn ogystal ag elfennau o'r 70au ac 80au. Maen nhw'n canu'n ddwyieithog, ac o blith y caneuon, dw i wedi dewis un o bob iaith - 'Môr Du' (82rpm) a 'There's Nothing the Sea Doesn't Know' (73rpm).


‘Dathlu Fflach 40’ - Artistiaid Amrywiol

Dathliad o bedwar dengmlwyddiant cwmni recordiau Fflach yw'r casgliad hwn, a daeth cyfle felly i gynnwys trac gan un arall o fandiau'r sef Bwncath. 'Pen y Byd' (66rpm) sydd ar y record yma.


‘Swnamii’ - Sŵnami

Ail albwm hir-ddisgwyliedig Sŵnami yw Swnamii, un o'r bandiau hynny sydd wedi bod yn hynod boblogaidd o fewn y sîn yng Nghymru ers degawd a mwy. Wedi i ni gael ambell ragflas o'r hyn oedd ar yr albwm drwy'r senglau gafodd eu rhyddhau, daeth yr albwm cyflawn i'r byd ddiwedd y flwyddyn. O blith y traciau, dw i wedi dewis 'Rho Dy Fyd' (90rpm).

 

Wrth gyrraedd diwedd y cofnod dwi'n cael fy nhrawo eto gan gryfder y sîn yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n braf gweld cymaint o amrywiaeth, a chofiwch mai detholiad gweddol gyfyng sydd gen i fan hyn hefyd. Roedd hi'n braf i mi gael mynd drwy'r holl draciau a chael fy nghyflwyno i sawl berl oedd yn anghyfarwydd i mi.


Gobeithio i chi gael cystal blas ag y cefais i.


Cofiwch fynd i wefan Y Selar - selar.cymru - i bleidleisio. (O.N. dwi'n ysgrifennu hwn dipyn o flaen llaw felly dwi'n ansicr ar ba gymal o'r bleidlais fyddwch chi pan gaiff hwn ei gyhoeddi!)


Dyma'r rhestr gyflawn!


Recent Posts

See All

Commentaires


bottom of page