top of page

Goreuon Seiclo'r Canolbarth

Yn dilyn y gofnod yn casglu goreuon seiclo'r Gogledd, mae'n bryd mentro dros y ffin answyddogol, anysgrifenedig i'r Canolbarth - sef casgliadau sir Drefaldwyn, sir Ceredigion a Brycheiniog a Maesyfed.


Gallwch bori trwy'r cyfan sydd gan yr ardaloedd hyn i'w cynnig mewn un casgliad isod, neu sgroliwch ymhellach a chewch gip manylach ar y siroedd yn unigol.


Mwynhewch y seiclo a'r cynllunio!

Goreuon sir Drefaldwyn

Uchafbwyntiau sir Drefaldwyn ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Beth oedd yn un o 13 sir Cymru hyd at 1974, a bellach yn ffurfio hanner gogleddol sir Powys. Dyma ardal fryniog, sydd ag ambell gopa'n rhan o'r Berwynion, a dyffrynoedd wrth deithio tua'r Dwyrain. Mae'n cynnwys cronfeydd dŵr Efyrnwy a Clywedog, yn ogystal a threfi Machynlleth, Llanidloes, Trefaldwyn, y Drenewydd a'r Trallwng.


Goreuon sir Ceredigion

Uchafbwyntiau sir Ceredigion ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Beth wnes i sylwi wrth roi hwn at ei gilydd oedd cystal ydy'r rhwydwaith o lwybrau graean sydd yn yr ardal. Er mwyn cael y gorau allan o'r sir yma, rhaid i chi gael beic sy'n mynd tu hwnt i'r tarmac! Ond i ni ar feic ffordd, mae 'na'n dal i fod toreth o leoliadau gwerth chweil i ymweld a hwy. Golud Gwlad Rhyddid yw arwyddiar y sir hwn sy'n cynnwys arfordir prydferth, trefi amrywiol, cestyll, bryniau a llynoedd. Mae dros hanner y boblogaeth yn medru'r Gymraeg.


Goreuon Brycheiniog a sir Faesyfed

Uchafbwyntiau Brycheiniog a sir Faesyfed ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Mae'r hen siroedd, Brycheiniog a Maesyfed, bellach yn ffurfio hanner deheuol sir Powys. Roedd Brycheiniog yn hen deyrnas Gymreig a'i chanol yn nyffryn Wysg; mae'n ardal fynyddig a gwledig sy'n cynnwys y Mynyddoedd Duon a rhannau helaeth o barc cenedlaethol y Bannau. Mae sir Faesyfed yn ardal o fryniau, coetir, rhostir sy'n cynnwys dyffryn Elan a rhannau o'r Elenydd. Fel gwelwch isod, mae 'na doreth o leoliadau gwych i ymweld a hwy ar ddwy olwyn.

 

Dyna ni am wythnos arall. Mwynhewch wythnos olaf y Tour a manteisiwch ar y tywydd braf sydd ar y gorwel i fentro i rai o'r lleoliadau sy'n cael eu cynnwys yn yr erthyglau hyn.

Recent Posts

See All
bottom of page