top of page

Goreuon Seiclo'r Gogledd

Updated: Jul 6, 2021

Mae wedi bod yn amcan gen i ers misoedd lawer, ond dim ond yn yr wythnosau diwethaf ydw i wedi rhoi troed ar y sbardun a chreu casgliadau sirol o'r lleoliadau goreuon i seiclwyr yng Nghymru.


Felly, yng nghanol helbul y Tour de France, dydw i ddim am ysgrifennu traethodau ar y Sul yn ogystal a'r diweddariadau dyddiol; dim ond cyflwyno'r casgliadau dwi'n eu creu i chi.


Dwi am ddechrau gyda'r Gogledd a'r rhai 'dwi wedi'w cwblhau eisoes, a dwi'n gobeithio y byddai'n medru cyhoeddi casgliadau'r Canolbarth Sul nesaf a chasgliadau'r De y Sul canlynol.


Does dim rhaid i chi aros tan y gofnod er mwyn dod o hyd i'r casgliadau; os ewch chi i yddwyolwyn.cymru/mapseiclocymru a chlicio ar rannau o'r map, gallwch ddod o hyd iddynt wrth i mi'i huwchlwytho nhw.


A cofiwch - os oes mwy o leoliadau sy'n haeddu lle yn y casgliadau, plis gadewch i mi wybod!


Heb ddechrau'r drafodaeth am lle mae'r Gogledd yn dechrau... dyma oreuon y siroedd oddi fewn iddo.


Mwynhewch!


Mewn partneriaeth gyda Komoot






 

Gobeithio ichi fwynhau'r daith drwy'r Gogledd!


Cofiwch fy mod i'n ysgrifennu diweddariadau dyddiol o'r Tour de France; a'r cwbl sydd angen ichi wneud i'w derbyn nhw yw rhoi'ch cyfeiriad e-bost yn y blwch ar frig y dudalen hon a phwyso 'Tanysgrifo'. Diolch!


Mwynhewch y seiclo a'r Tour!

Recent Posts

See All

Komentar


bottom of page