top of page

Goreuon y De

Diwedd y Tour, a'r trydydd o'r tri chofnod yn cymryd golwg dros yr uchafbwyntiau detholedig yn y Gogledd, y Canolbarth a'r De. Y de sy'n cael ein sylw ni heddiw, a'n fwy penodol sir Benfro, sir Gar, sir Forgannwg a Gwent.


Gallwch chi bori drwy'r casgliad yn ei gyfanrwydd isod, neu barhau i sgrolio i gael darlun manylach bob yn sir.


Mwynhewch!

Goreuon sir Benfro

Uchafbwyntiau sir Benfro ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Ymysg perlau'r rhanbarth arbennig hwn mae Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, yr unig un ym Mhrydain sydd wedi'i greu yn bennaf oherwydd yr arfordir; a bryniau'r Preseli. I rai sy'n hoff o'r awyr agored, y llwybr arfordirol i gerddwyr yw'r mwyaf nodedig, ond mae'n le adnabyddus i seiclo hefyd diolch i Ironman Cymru a'r Tour of Pembrokeshire. Mae'r routes 100 milltir wedi'u cynnwys yn y casgliad isod, ond wrth gwrs mae modd addasu gan ddefnyddio meddalwedd komoot.


Goreuon sir Gar

Uchafbwyntiau sir Gâr ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Rhwng y prif drefi sef Llanelli a Chaerfyrddin, mae 'na doreth o leoliadau gwerth chweil ar gyfer seiclwyr yn y rhanbarth. Mae cadwyn y Mynydd Du yn nodedig yn nwyrain y sir a'r ddringfa o'r un enw'n boblogaidd iawn ymysg y seiclwyr lleol. I'r gogledd mae troedfryniau'r Elenydd ehangach, ac yn y de mae traethau euraidd megis yn Llansteffan. Y sir hanesyddol fwyaf yng Nghymru, a'n un o gadarnleoedd pwysicaf yr iaith Gymraeg.


Goreuon sir Forgannwg

Uchafbwyntiau Sir Forgannwg ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru cyn 1974, a'n rhanbarth sy'n llawn i'r ymylon o hanes, treftadaeth a diwylliant. Mae'n rhanbarth amrywiol sy'n cynnwys y cymoedd diwydiannol, y fro amaethyddol ac AHNE Penrhyn Gwyr.


Goreuon Gwent

Uchafbwyntiau Gwent ar ddwy olwyn, yn ôl profiadau personol ac argymhellion gan eraill. Sir seremonïol yn ne-ddwyrain Cymru, ac er nad ydy'n sir weinyddol erbyn hyn, mae'n parhau i gael ei statws fel rhanbarth - er enghraifft Heddlu Gwent. Tebyg iawn i ffinoedd sir Fynwy fodern. Blaenau Gwent, Islwyn, Torfaen, Casnewydd a Mynwy yw'r ardaloedd oddi fewn i'r sir. I seiclwyr, ceir uchafbwyntiau yn rhan orllewinol dyffryn Gwy a dringfa boblogaidd y Tymbl. www.komoot.com/collection/1246604

 

Dyna ni, y casgliadau'n gyfan a phob cwr a chornel o Gymru wedi'i orchuddio gydag uchafbwyntiau seiclo.


I'w gweld nhw unrhyw bryd, ewch i www.yddwyolwyn.cymru/mapseiclocymru.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page