top of page

Hoff Bump: Dyfrig Williams

Updated: Jan 13, 2021

Tro Dyfrig Williams yw hi'r wythnos hon i'n tywys ni i'w hoff bump leoliad seiclo, boed hynny - ei eiriau o - yr ochr gywir neu'r ochr anghywir o'r ffin! Diolch enfawr am gyfrannu. Mwynhewch!


Y Tymbl

Pam: Dyma'r mynydd hir cyntaf wnes i ar feic. Weithiau mae'n teimlo fel gwneith e byth gorffen! Mae yna amrywiaeth yn y dringo - ar adegau mae'n serth, ond mae yn hefyd darnau sydd ychydig yn haws, ond byth yn hawdd! Mae'r ffaith ei fod e wedi bod y prif fynydd ar gymal o Tour Prydain Fawr yn dangos pa mor heriol yw e. Mae'n gallu fod yn hynod o wyntog ar y brig, ond bydd 'da chi teimlad o lwyddiant wrth i’r gwynt eich chwipio. Yn ffodus, mae'r ardal ehangach yn hynod o brydferth hefyd. Mae yna sawl siwrne posib - os dy chi’n ffansio siwrne hir, gallwch fynd o Gaerdydd. Neu fel arall, gallwch wneud loop o Gwmbrân, neu mae yna bosibiliadau di-ri o’r Fenni. 

Clywedog

Pam: Os dy chi'n seiclo rownd fan hyn, rhaid sicrhau eich bod chi gyda cit sbâr cyn dechrau, achos does dim byd ond cefn gwlad. Mae fe'n siwrne byr, ond mae’n heriol dros ben gan does'na bron dim darnau fflat i ddal anadl, ond mae'r golygfeydd yn bendant yn werth yr ymdrech. Mae rhaid stopio ar gyfer yr olygfa dros argae Clywedog, ac mae’r bywyd gwyllt yn anhygoel. Rhaid cael coffi ar y dechrau neu'r diwedd yn Llanidloes, achos does dim lle am fwyd. Ar ddiwedd y dydd, os mae fe'n ddigon da i Emily Chappell, mae fe'n ddigon da i fi.

Y Diafol

Pam: Mae gen i deulu ym Montgoch, ac mae'r ffyrdd yn yr ardal yn llawn hwyl. Does gennym ddim yr amser am reid hir gan ein bod ni'n gweld teulu, felly mae gwneud rhan gyntaf Diafol Aber Cycle Fest yn gwneud y job. Os dy chi'n dechrau yn Aber, gallwch fynd dros Benglais, sy'n ffordd da i ffeindio mas pa mor gryf mae’ch coesau ar ddechrau reid. Os dy chi'n mynd heibio'r crem lawr i Glarach mae 'na gornel 'hairpin' sy'n rhoi golygfa brydferth dros y traethau sy'n rhedeg i'r Gogledd. Yna, mae'r ffyrdd yn rhedeg heibio traethau Borth ac Ynyslas. Y peth da am Geredigion yw bod yr ardal wledig jyst mor lush a lan y môr. Os oes da chi amser am reid hirach, mae dringo Nant y Moch yn her dda, ac mae Pontarfynach mor lush hefyd!

Mynydd Caerffili

Pam: Dyma un o'r reidiau roedd i'n gwneud y fwyaf pan roeddwn i'n byw yng Nghaerdydd achos roedd e’n berffaith am reid fer ar ôl gwaith. Mae'r ffordd mas o'r ddinas trwy Barc Bute yn osgoi'r traffig prysur, ac mae'n cynnig cyfle da am glonc gyda ffrind cyn i'r gwaith caled dechrau. Rydych chi ar y Taff Trail nes i chi gyrraedd Tongwynlais, a dyna pryd mae pethau’n dechrau mynd yn fwy serth wrth i chi mynd heibio Castell Coch. Mae prysurdeb y ddinas yn diflannu wrth i chi seiclo o fewn y goedwig. Ar ôl cyrraedd brig y bryn, rhaid disgyn i lawr eto i Gaerffili, cyn esgyn y mynydd hynny. Mae’n teimlo fel eich bod chi’n codi'n unionsyth. Mae'n fryn byr ond mae'n hynod o heriol. Ond o leiaf pan rydych chi’n cyrraedd y brig, rydych chi'n gwybod bod e'n syth nol lawr ochr arall y bryn i'r brifddinas. https://www.komoot.com/tour/184105041?ref=wtd


Haytor

Pam: Rydw i wedi bod yn byw yn Ne Orllewin Lloegr ers cwpl o flynyddoedd nawr. Rwy'n teimlo'n wael am gynnwys reid o ochr anghywir y ffin, ond mae reidiau anhygoel yr ardal wedi cadw mi i fynd yn ystod adegau anodd COVID-19. Efallai bydd e’n ddefnyddiol os oes unrhyw un yn ffeindio eu hunain ar wyliau yn y rhan yma o’r byd pan allwn drafaelu eto. Fel arfer rwy'n dechrau yng Nghaerwysg cyn mynd i lawr trwy brydferthwch Longdown a Bovey Tracey. Mae'r darn yma'n ddigon pleserus ynddo'i hun. Mae bryn Haytor yn anhygoel o brydferth. Mae'n fryn hir (5.3km) arall sydd wedi bod yn rhan o Tour Prydain Fawr yn y gorffennol. Mae fe wedi cynnal Pencampwriaeth Dringo Bryniau Prydain Fawr yn y gorffennol hefyd. Mae'r fideo yma o GCN yn rhoi syniad o'r her i chi. Graddiant y bryn yw 14% ar ei fwyaf serth, ond 6% ar gyfartaledd.  https://m.youtube.com/watch?v=61qUKQlAAEI

Mae Widecombe mor neis ar y ffordd nôl - mae'n cael ei glodfori yn yr erthygl yma yn y Guardian sy'n rhoi casgliad o reidiau mwyaf prydferth yr ardal. Wedyn rydych chi'n ail-weld prydferthwch Longdown cyn cyrraedd y ddinas i ymlacio.

 

Diolch o galon i Dyfrig am gyfrannu i gofnod yr wythnos hon, a cofiwch - os hoffech chi fod y nesaf, anfonwch DM ar Twitter i @cycling_dragon neu beth am e-bostio yddwyolwyn@gmail.com.

Recent Posts

See All
bottom of page