top of page

Hoff Bump: Eluned King

Updated: Jan 13, 2021

Yr wythnos hon, tro Eluned King - pencampwraig ras ffordd ieuenctid Prydain - yw hi i'n harwain ni i'w hoff bump lleoliad i fynd ar feic. Diolch o galon am gyfrannu, a mwynhewch!

 

Lap o Benrhyn Gwyr

Llun cyntaf: "ar ben Cefn Bryn"


"Gan fy mod i yn byw yng nghanol ail ddinas fwyaf Cymru, gyda’r môr i’r de a’r mynyddoedd i’r gogledd, mae’n gallu bod yn galed i gael cwrs sydd yn fflat ac yn cadw yn agos i adref. Mae’r lap o Benrhyn Gwyr yn berffaith, gyda dwy ddringfa fer a golygfeydd anhygoel. Mae wir yn ardal ardderchog o Gymru i feicio ac rwy’n lwcus bod ar stepen ddrws. Mae ‘Cefn Bryn’ yn enwog oherwydd Maen Ceti (yn draddodiadol) neu Garreg Arthur i'r rhan fwyaf o drigolion

Abertawe. Yn ôl y chwedl, tra’n teithio trwy Sir Gaerfyrddin, taflodd Brenin Arthur garreg o’i

esgid ar draws Afon Llwchwr ac erbyn i’r garreg cyrraedd copa Cefn Bryn roedd yn glogfaen

enfawr! Peth arall arbennig am y lap fer yma yw y gallu i ychwanegu neu dynnu i ffwrdd fel

rydych yn dymuno. I’w wneud yn hirach neu i weld golygfeydd arbennig Llangennith, allwch

feicio lawr trwy droi i’r dde yn Burry Green. Dim ond ychydig o filltiroedd (dwy neu dair)

ychwanegol, ond mae’r olygfa yn anhygoel. I wir brofi eich hunan allwch hefyd feicio lawr i

Rhossili. Mae’r heol yn ddiogel ac yn dawel yn y Gaeaf pan mae’r niferoedd o dwristiaid yn

isel. Unwaith eto mae’r golygfeydd yn hynod o brydferth."


Cimla, Bwlch a Rhigos

Llun olaf: "Fi a fy mrawd i Tomos ar ben y Rhigos tua chwe mlwyddyn yn ol"


"Un o fy hoff lefydd yw loop Cimla, Bwlch a Rhigos. Pan roeddwn yn ifanc bydde fy nhad yn

parcio’r car ym mharc beicio mynydd Afan Argoed a wedyn bydde’n ni’n seiclo i fyny'r Bwlch yn gyntaf, wedyn Rhigos ac wedyn Cimla. Mae’r tair dringfa yn gwbl wahanol i’w gilydd a bob un yn cynnig sialens wahanol. Nawr, rydw i’n beicio'r loop yma o adref tra’n ymarfer yn y Gaeaf gyda beicwyr Prifysgol Abertawe. Dyma yn wirioneddol un o fy hoff lefydd i feicio gyda grŵp gan fod y dringfeydd yn cynnig opsiwn i wneud ymdrechion megis ‘hill efforts’ a.y.b. ond mae digon o heolydd fflat hefyd i gadw'r cyflymder cyfartalog yn uchel. Rydw i hefyd wedi gweld sawl beiciwr proffesiynol ar yr heolydd yma, yn cynnwys enillydd y Tour de France. Os yw’n ddigon da i G, mae’n ddigon da i fi ! Mae’r Rhigos yn cael ei defnyddio bob blwyddyn yn y ras enwog i fechgyn dan 18 (A eleni gobeithio i ferched dan 18 hefyd) Junior Tour Of Wales lle mae un o’r cymalau yn bennu ar dop y bryn. Ar y reid yma rydw i’n neud y cwrs yn ei ôl ac yn disgyn lawr y bryn lle mae’r beicwyr yn rasio i fyny bob Mis Awst. Rwy’n wir yn gobeithio na fydd Y Junior Tour Of Wales cyntaf i ferched yn cael ei ohirio achos Covid-19. Fel Cymraes bydde’n hyfryd cael y cyfle i rasio fe . Byddai’n rhy hen blwyddyn nesa ...."


Can milltir

Llun cyntaf: "Ar dy feic! Mynd I ymweld gyda’r pentref lle cafodd Mamgu ei geni."

"Ar ddechrau'r ‘Lockdown’ fe wnes i ddewis i gwblhau 100 milltir ar ben fy hunan yn defnyddio rhan fwyaf o loop rydw i’n beicio yn aml, sef o Abertawe i Gaerfyrddin ac wedyn nol i Abertawe drwy Rhydaman. Mae fy Mamgu yn byw yng Nghaerfyrddin ac roeddwn i yn aelod o Towy Riders (sydd wedi sefydlu ar yr hen felodrom ym mharc Caerfyrddin) felly rydw i wedi treulio llawer o amser dros y blynyddoedd yn beicio o gwmpas Sir Gar. Rydw i yn hoffi beicio o gwmpas Brechfa a lan i Lanymddyfri dros yr heol sydd yn rholio, dim gormod o ddringo ond nad yw’n fflat chwaith. Mae gan y loop yma bach o bopeth. Mae’r awr gyntaf yn fflat wrth deithio draw i Ben-bre ar y llwybr beic ond unwaith rydych chi’n pasio mae’r heol yn dechrau mynd i fyny wrth i chi gyrraedd Caerfyrddin. Gyda’r gwynt ar eich cefn gallwch gael cyflymder cyfartalog uchel ar yr heol yma cyn mynd i’r bryniau lle mae’n cwympo yn gyflym! Mae’r heol lan i Frechfa yn galed ac yn dawel ac yn dilyn y llwybr cymerodd y menywod pan daeth ‘The Women’s Tour’ i barc Pen-bre yn 2019. Anodd yw cael unrhyw ‘QOMs’ felly! Ar y

ffordd adref rydw i’n pasio trwy Landeilo lle rydw i’n hoffi stopio yn y Co-op yng nghanol y dre i ail lenwi fy mhoteli. Mae’r heol yn weddol fflat nes eich bod chi’n cyrraedd Rhydaman lle mae gennych chi ddau opsiwn, i fynd dros y mynydd Garnswllt, neu i fynd trwy Lanedi. Mae’r heol trwy Garnswllt yn galetach ond weithiau braidd yn brysur."


Mynydd Llangynidr

Llun cyntaf: "Pencampwriaeth Prydain ar yr heol ar Oliver’s Mount, Scarborough. Y ddraig goch yn amlwg yn y llun. (Llun: Huw Williams)"


"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i gael hyfforddiant gyda Beicio Cymru am y pedwar blwyddyn ddiwethaf. Pan roeddwn i’n iau bydde gwersyll hyfforddiant yn ystod gwyliau ysgol a roedden ni arfer aros yng Ngilwern. Bydde ni’n beicio’n nôl o Gasnewydd i Gilwern bob nos ar ôl dydd llawn o hyfforddi yn y felodrom .Bydden ni’n cael yr opsiwn i ddringo mynydd Llangynidr yn ychwanegol ar ddiwedd y dydd. Ar ddechrau'r wythnos roedd pawb moen yr ymdrech ychwanegol ond wrth i’r wythnos fynd yn ei flaen bydde’r nifer o bobl yn dewis neud y mynydd yn lleihau. Rydw i’n cofio un pryd dim ond 5 person oedd eisiau seiclo’r mynydd a roedd hi’n bwrw eira. Fe wnes i gwblhau'r ymdrech lan y mynydd ac rydw i’n cofio'r teimlad o ychwanegu un ymdrech arall pan roeddwn i wir wedi blino. Chwe mis wedyn fe enillais i bencampwriaeth Prydain ar yr heol am y tro cyntaf lan Oliver’s Mount yn Scarborough, Lloegr. Rydw i dal yn sicr mai'r un ymdrech yma yn yr eira a’r oer oedd y gwahaniaeth. Rydw i wedi dychwelyd i’r mynydd nifer o weithiau ers hynny ac mae’n parhau i fod un o ddringfeydd caletach de Cymru."


Cap de Formentor

Llun cyntaf: "Ar dop Cap De Formentor gyda thim Prydain dan 18. Fi yw’r ail un o’r chwith"


"Rydw i wedi bod digon ffodus i fynd i Mallorca dwywaith gyda thîm dan 18 Prydain i ymarfer. Rydym ni yn mynd ym mis Rhagfyr sydd yr un pryd a rhan fwyaf o dimau mawr ‘WorldTour’ ac felly yn aml rydym ni yn rhannu'r heol gyda thimau megis Ineos, Lotto Soudal a Movistar. Mae’r heolydd yn anhygoel a mor wahanol i’r tirwedd rydw i arfer gyda nôl yng Nghymru. Gyda mynyddoedd hir, llyfn a chloi mae wir yn y lle mwyaf delfrydol ar gyfer beicio a dianc tywydd gwael y Gaeaf. Roedd yn anodd i ond ddewis un o’r cyrsiau ym Mallorca ond mae’n rhaid taw ‘Cap De Formentor’ yw'r llwybr gorau ar yr ynys. Nid yw’n ddringfa rhy anodd i gymharu gyda gweddill yr ynys ac mae pobl o bob safon gallu ei chwblhau. Mae’r golygfeydd yn fel rhywbeth allan o ffilm. O ran ymarferoldeb, nid oes wir synnwyr tu ôl beicio'r llwybr gan yr unig le mae’r cwrs yn cyrraedd yw hen oleudy ac yna mae angen troi nôl a beicio union yr un cwrs adref. Mae’r goleudy yma yn estyn llaw i weddill y Canoldir fel pwynt mwyaf gogleddol Mallorca ac mae’r golygfeydd wir yn syfrdanol. Yn y Gaeaf mae’r heol llawn llinellau hir o feicwyr wedi’i amgylchynu gyda mynyddoedd y ‘Serra de Tramuntana’ sydd ei hun yn safle treftadaeth UNESCO'r byd. Beicwyr arall a geifr yw’r unig draffig. Yn ol storiau mae yna un gafr sydd yn byw tu allan i’r goleudy ac mae’n cerdded o gwmpas yn aros i gael bwyd o feicwyr. Rydw i wedi cael y fraint i feicio llawer o lefydd hynod o brydferth a hynod o ryfeddol, ond heb amheuaeth dyma'r heol fwyaf prydferth rydw i erioed wedi beicio."

 

Diolch o galon i Eluned am gyfrannu i gofnod yr wythnos hon, a cofiwch - os hoffech chi fod y nesaf, anfonwch DM ar Twitter i @cycling_dragon neu beth am e-bostio yddwyolwyn@gmail.com.

Recent Posts

See All
bottom of page