Yn y bedwaredd gofnod mewn cyfres sy'n profi i fod yn boblogaidd ac yn llwyddiannus, Lefi Gruffudd sy'n mynd a ni ar daith i'w hoff bump dringfa. Diolch am gyfrannu.
"Dwi’n cael mwy o bleser yn concro dringfa na threulio oriau meithion yn y cyfrwy. Lwcus felly mod i’n byw ar ochr mynydd ac o fewn cyrraedd i rai o ddringfeydd gogoneddus Eryri i allu diwallu fy angen i ddringo i’r unigeddau a darganfod llefydd gyda chyn lleied o geir a phosib..."
Drws y Coed
"Mae hon gorfod bod yn un o’r goreuon – dwi wedi bod rownd Drws y Coed dros ugain o weithiau ers dechrau’r argyfwng ma, heb ddifaru unwaith. Un byr perffaith i’r cyfnod hwn – y llwybr harddaf at Eryri, gyda’r ceir ddigon prin ar unrhyw adeg.
"Mae cymaint i’w fwynhau o Ben-y-groes, o wynebu crib gogoneddus Nantlle ar y dde lle aeth R. Williams Parry unwaith ganllath o gopa’r mynydd i weld ei ‘un troed oediog’ i’r pen arall at lyn y Gadair yn Rhyd-ddu, lle sgwennodd ei gefnder T H Parry-Williams am Lyn y Gadair, lle welwch chi ‘ddim byd ond mawnog a’i boncyffion brau, dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau’. A wnewch chi fyth flino ar yr olygfa o’r Wyddfa o Nantlle, na wnewch?
"Dyw’r ddringfa ei hun ddim ry heriol (er fod y gwynt rhy aml yn eich erbyn), a’r clip terfynol sy’n codi dros 12% y cant yn ddigon byr. Mae’r ffordd wedyn i Ryd Ddu yn agor yr opsiynau i fynd rownd y Pas neu nôl am lyn Cwellyn. Pa le gwell yng Nghymru?"
Cowlyd
"Dwi gorfod nodi allt cefn cyfarwydd at lyn Cowlyd, fel person sy’n ffafrio dringfa serth, ond dyw hon ddim i’r gwangalon – mi wnaeth fy nychryn a fy llorio y tro cynta i fi ei fentro (ac mae’n haeddu mwy o sylw na Penllech, Harlech!). Mae’n dechre’n serth o Trefriw a ddim yn gadael fynd am dair milltir yn gyson fwrw 20%, heblaw un ysbaid lle mae’n gostwng i tua 10%. Fel Bwlch-y-groes, does dim lle i ddianc. Does dim syndod iddi gael ei disgrifio fel yr anoddaf ym Mhrydain gan Cycling Weekly ac i Simon Warren roi 11 mas o 10 iddi.
"Gwych yw dyffryn Conwy beth bynnag, wrth gwrs, ac mae’r bryniau serth yn unigryw o ddidrugaredd, (mae sawl llwybr tebyg yn yr ardal), ond mae hefyd yn rhoi gwefr wrth gyrraedd yr unigeddau. Y drafferth yw nad yw’r brig fel tase fe byth yn dod ar y ddringfa hon. Mi basiwch fferm ar ôl y darn cyntaf erchyll, wedyn mae na chwe ‘hairpin’ serth pan rydych eisoes ar ben eich tennyn, ac wedi rheiny mae’r dringo’n parhau’n arteithiol am amser eto pan fo’ch coesau’n llosgi, nes daw grid gwartheg neu ddau lle fydd pethau’n dechrau lleddfu. Daw Eryri a llyn Cowlyd i’ch denu, a golygfeydd gogoneddus o Lanrwst a dyffryn Conwy tu ôl i chi."
Marchlyn
"Dyma efallai’r ddringfa hiraf ac bendant yr orau yng Ngwynedd (os nad Cymru), yn arbennig o ddechrau ar droed llyn Peris, ac anelu am ddringfa Fachwen yn gyntaf. Mae’r golygfeydd gyda’r gorau dwi wedi eu profi ar gefn beic, yr agosa ddewch chi at fod yng nghrombil Eryri ar Elidir Fawr (yn arbennig os ewch chi at y surge pool yn hytrach nag am y llyn). Mi fuasen i wedi enwi Stwlan i’r rhestr yma, ond mae’r daith yma ar lwybr di-geir yn curo Stwlan. Mae na le i anadlu, a modd o werthfawrogi gogoniant gogledd Cymru. Mae rhywbeth ysbrydol wedi i’r troad yn y canol gyda’r goledd yn lleddfu mi gewch chi begynau Eryri o’ch blaen, yna’r llyn yn dod i’r golwg a dim un enaid byw o’ch cwmpas heblaw ambell i afr. Oes mae na ragor o ddringo wedyn, a falle un troad yn ormod, ond mae werth yr ymdrech wrth weld y Wyddfa reit o’ch blaen wrth gyrraedd y brig. Gwefreiddiol."
Prenteg
"Mae hon yn ddringfa heriol sy’n dechre o betre bach Prenteg, ddim ymhell o Gaffi Eric, yn gwyro lan ochr y mynydd hyd at unigeddau gogoneddus Gwynedd. O’r pentre mae na arwydd 1:6 sy’n codi’n serth yn syth ac yn para felly am filltir a mwy. Heibio’r coed mae pethau’n goleuo a’r golygfeydd i bob cyfeiriad yn wych. O’ch blaen mae’r Cob a thu ôl i chi cewch olygfa ogoneddus o Cnicht. Ar ôl cyrraedd y rhan sy’n llai serth o’r ddringfa a’r gridiau gwartheg mae peryg i chi dwyllo’ch hun fod y gwaetha drosodd, ond ar ôl sbel, mae na un clip creulon i ddod, ac ar ben hwnnw, un dringfa derfynol i’ch dinistrio. Ar y brig wedyn mae
gogoneddai anial Gwynedd am Gwm Ystradllyn a Chwm Pennant – bron cystal ag Elenydd, sy’n gwneud i fi deimlo’n gartrefol. Lle delfrydol i osgoi prysurdeb bywyd."
Bwlch y Groes
"Mae’r arch-ddringwr Simon Waren yn disgrifio Bwlch-y-groes fel 'the most unrelentingly steep piece of tarmac in Britain', ac am sbel hir o’n i ofn ymgymryd a’r dasg o ddringo yr anghenfil yma o ddringfa.
"Ond o basio’r ardal mor aml, dwi bellach wedi bod yno dair gwaith, a sicr o fynd nôl yno’n flynyddol. Mae’n werth dechre o Dinas Mawddwy i werthfawrogi tirwedd serth Maldwyn a llwybr y porthmyn at y bwlch. Yn Llanymawddwy mae na eglwys, yn gyfle ola i roi gweddi fach cyn yr artaith o’ch blaen. O fewn milltir mae na droad siarp i godi blas. Llwynog o ddringfa yw hon lle byddwch yn teimlo’n gyfforddus ar y cam cynta sydd â goledd digon derbyniol, ond wrth i’r goledd gynyddu fel mae’r olygfa’n agor mas, ry’ch chi’n sylweddoli nad oes na le i guddio, dim gorffwys na dihangfa tan y diwedd. Mi welwch groesffordd, gyda chroes i’r pererinion gynt. Ond dyw hi ddim drosodd nes cwblhau’r un ymdrech arteithiol ola i’r brig lle gewch chi olygfeydd o anialdir gogoneddus Cymru i’w werthfawrogi i bob cyfeiriad – Arenig, Elenydd ac Eryri. Mae hefyd werth mentro i’r brig o Lanuwchlyn, ond sy’n opsiwn braidd yn hawdd ar ôl mentro o Lanymawddwy."
Diolch o galon i Lefi am gyfrannu i gofnod yr wythnos hon, a cofiwch - os hoffech chi fod y nesaf, anfonwch DM ar Twitter i @cycling_dragon neu beth am e-bostio yddwyolwyn@gmail.com.
Kommentare