top of page

Hoff Bump: Rhys Llywelyn James

Updated: Jan 13, 2021

Yn y bedwaredd yn y gyfres o gofnodion sy'n olrhain rhai o uchafbwyntiau seiclo Cymru drwy lygaid seiclwyr Cymru, Rhys Llywelyn James o Beicio Cymru sy'n ein tywys i bum lleoliad o'i ddewis. Mwynhewch!


1. Nant Gwynant (i Pen y Pass)

Pam?: Mi oedd byw yn Deiniolen, ac yn ganol ardal mynyddig, pan mi oeddwn yn tyfy fyny yn hynod o wych i feicwyr. Y reid hir gyntaf wnes i ar y beic oedd y cwrs isod – mynd am Gaernarfon o adref ac yna trwy Waunfawr, Rhyd Ddu, Beddgelert cyn taclo y ddringfa. Lŵp hynod o braf ac o gwmpas ddwy awr o feicio – perffaith. Hyd yn oed gwell, mae yna gaffi yn Nant Gwynant ei hyn, o gwmpas 2 filltir cyn cychwyn y dringfa, esgus perffaith i stopio ac i gafael ar bach o egni. Mae dringfa o Nant Gwynant i fyny am Pen y Pass yn raddol, sydyn a just y fath o ddringfa dwi’n mwynhau – tempo sydyn ac o gwmpas 20 munud o hyd. Mae’r ddringfa yn fy atgoffa i o fy nyddiau iau ar y beic, yn mynd o gwmpas y cwrs ar ol Ysgol, neu ar benwythnos gyda’r ffrindiau. Mi oedd yna hefyd ras time trial yn yr haf yno – rhywbeth oeddwn wastad yn edrych ymlaen i wneud.


2. Fachwen i Marchlyn

Pam?: Y ddringfa lleol, ac hefyd, yr un anodda o gwmpas. Pellter byr o’r ty lawr i Brynrefail a seibiant sydyn wrth yml Llyn Padarn – llun isod. Os ydych chi eisiau gweld eich lefel ffitrwydd, hwn yw’r dringfa i’w wneud. Mae’r cilomedr olaf yn 11% gyfartaledd ar Fachwen efo yr 'maximum' yn cyrraedd 20% tua’r top. Mae yna rhywfaint o seibiant ar ol cyrraedd y top cyn mynd am giat Marchlyn, a wedyn mae hi’n hunllef yr holl ffordd i’r top. Mae’n ddringfa braf (mewn ffordd), ac reit ar fy stepen ddrws – nunlle gwell na adref! A gyda caffi newydd ar top Fachwen, esgus go dda am seibiant.


3. Castell Coch/Mynydd Caerffili

Pam?: Ers symud lawr i’r brifddinas yn 2015, roedd angen i mi ffeindio ffyrdd newydd i feicio. Oni’n poeni braidd fy mod i ddim am gael dringfa da yma, ond mae’na ddigon o dringfeydd o amgylch Gaerdydd. Tydi hi ddim y cwrs hiraf, ond mae yna digon o ddringo ynddi a digon o gyfleoedd gwneud mwy na un lŵp os dymunwch ☺

Mewn ffordd, mae hi’n 2 ddringfa; yr gyntaf allan o Tongwynlais pasio Castell Coch. Gwastad yw hon, ond mae hi’n cynyddu mewn graddiant fel dachi’n mynd ymlaen. Ffordd cul a ardal coedwigoedd, mae’n dringfa braf ar darmac newydd hefyd. Mae yna rhaid disgyn lawr i Gaerffili cyn troi am y castell – seibiant sydyn cyn yna mynd fyny’r allt o 9% gyfartaledd. Wedi eu rasio yn Tour of Britiain, mae’r segment Strava yn llawn beicwyr professiynol a mae’n diddorol cael cymharu amseroedd. Mi nai wastad trio cael dringfa Mynydd Caerffili mewn, mae’n ffordd braf o orffan cyn fflio lawr nol am Gaerdydd. Yn amlwg, os yda chi am fynd fyny o Gaerffili o Gaerdydd, fydd rhaid chi fynd ar ei ochr fwyaf serth – i be fynd ffordd arall?!


4. Nant y Moch

Pam?: Oni’n arfer mynd drosodd i Gwyl Seiclo Aber efo’r rhieni, ond ers dechrau gweithio efo Beicio Cymru, dwi wan yna yn flynyddol sydd yn hynod o wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad. Mae’r rhieni dal i ddod hefyd, sydd yn well fyth. Mae’r Sportive ar y dydd Sul yn ffordd dda o orffen yr penwythnos, a dwi wastad yn mwynhau gwenud hi. Mae hi’n gwrs heriol ofnadwy ac yn fynyddig ofnadwy, ond yn siwtio fi i’r dim.

Y ddringfa nesaf yw dringfa Nant-y-Moch. Gyda’r ddringfa dros 5 milltir o hyd ac o 4% gyfartaledd, mae’n hynod o braf. Tydi’r ffordd ddim y fwyaf rhwydd, on os rhywbeth, mae’n gwneud y dringfa yn well. Dim byd rhy anodd, ond mi fyswn yn argymell i bawb ei wneud – hynod o wych a hwyl. Gyda golygfa hynod o wych tua’r copa – ond llawer mwy o ddringo i fynd yn y sportive!


5. Pen y Pass

Ella mod i’n ‘biased,’ ond mae dringfeydd tua adref yn rhai wych (ella hefyd mod i’n methu adref gan fy mod i’n sownd yn Gaerdydd am dipyn).

Mae'n debyg mai Pen y Pass yw’r dingfa dwi wedi eu dringo fwyaf yn ôl adref. Gyda'r brig dim ond 10 milltir o'r tŷ, mae'n berffaith ar gyfer taith gyflym lle gallwch chi lladd eich hun heb fod yn bell o adref. Mae'r ddringfa ei hun ychydig dros 3 milltir ar gyfartaledd o 5%, ond mae'r hanner olaf yn fwy serth. Rwyf wedi gwneud ychydig o dreialon amser ar y dringfa, fel y gwelir ar y lluniau. Mae cymaint o leoedd y gallwch chi fynd ar ôl y ddringfa, neu gallwch chi fynd yn ôl i lawr (rwy'n credu fy mod i wedi taro 50mya unwaith, gymaint o hwyl i’w gael lawr). Unwaith eto, mae wedi cael ei ddefnyddio ar Daith Prydain gwpl o weithiau, ac mae’n diddorol pan gymharwch eich amser â’r pro’s (pan oeddent yn ei reidio’n weddol araf hefyd rwy’n dychmygu!). Mae Pen y Pass yn ddringfa braf, ac mae'n bendant o fewn fy 5 uchaf. Mae'n debyg bod cymaint o Gymru eto i'w weld, a gyda fy hun bellach yn byw yng Nghaerdydd, dwi byth yn cymryd yn ganiataol fy mod i'n gallu mynd yn ôl adref a taclo'r dringfeydd.

 

Diolch o galon i Rhys am gyfrannu i gofnod yr wythnos hon, a cofiwch - os hoffech chi fod y nesaf, anfonwch DM ar Twitter i @cycling_dragon neu beth am e-bostio yddwyolwyn@gmail.com.

Recent Posts

See All
bottom of page