top of page

I'r Dyddiadur: Ionawr 2019

Updated: Feb 14, 2019

Mae'r mis cyntaf o rasio proffesiynol yn un cymharol dawel. Fodd bynnag, mae'n cynnig y cyfle cyntaf i reidwyr arddangos eu gallu mewn tim newydd ac hefyd i'r timau arddangos eu gwisg ac offer newydd.


15 - 20 Ionawr

Tour Down Under (Awstralia)


Ras gyntaf tymor y WorldTour ac mae'n denu sylw'r byd seiclo bob blwyddyn.


Cymalau

Mae chwe cymal yn y ras. Eleni, mae'r ddwy gyntaf yn sicr yn ffafrio'r gwibwyr, tra bos y bedair olaf yn rhai bryniog. Mae'r gymal olaf yn gorffen ar y ddringfa nodedig, Willunga Hill.


Ffefrynnau

Bydd pencampwr De Affrica, Daryl Impey (Mitchelton-Scott), yn gobeithio amddiffyn ei deitl eleni. Fodd bynnag, bydd yr Awstraliad Richie Porte (Trek Segafredo) yn benderfynol o gipio'r fuddugoliaeth wedi iddo, efallai'n annisgwyl, orffen yn ail i Impey y llynnedd. Bydd Rohan Dennis (Bahrain-Merida), Michael Valgren (Dimensino Data), George Bennett (Jumbo-Visma) a Wout Poels (Sky) hefyd yn ychwanegu at y frwydr am y crys oren.


Brwydr y gwibwyr

I ddechrau'r tymor, bydd brwydro caled rhwng y gwibwyr. Yn ei dim newydd, gobeithia Caleb Ewan (Lotto-Soudal) gychwyn y tymor ar dan yn ei famwlad - ond bydd rhaid iddo dderbyn her Elia Viviani (Deceunick-QuickStep) a Peter Sagan (Bora-Hansgrohe). Yn ogystal, bydd Phil Bauhaus (Bahrain-Merida), Jakub Mareczko (CCC) a Danny van Poppel (Jumbo-Visma) yno i ychwanegu sbeis i'r gwibiau clwstwr.


Cymry

Bydd tri Chymro yn y ras eleni - Scott Davies (Dimension Data), Owain Doull a Luke Rowe (Sky).


Pencampwyr Cenedlaethol

Yn gwisgo'u gwisg arbennig, bydd Daryl Impey (De Affrica), Peter Sagan (Slovakia), Lukas Postelberger (Awstria), Gediminas Bagdonas (Lithuania), Steve Morabito (Swistir), Elia Viviani (Yr Eidal) a Michael Morkov (Denmarc).


Rasys eraill

Hefyd ym mis Ionawr, cynhelir The Cadel Evans Great Ocean Road Race ar y 27 o Ionawr. Cyfle arall i'r gwibwyr ddangos eu doniau.


Bydd 'I'r Dyddiadur' yn ol ddechrau mis Chwefror.

Recent Posts

See All
bottom of page