top of page

La Vuelta yn y Gymraeg am y tro cyntaf: yr holl fanylion


Am y tro cyntaf, bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau La Vuelta a España sydd yn dechrau heddiw (26 Awst).


Yn dilyn degawd o ddarlledu mae rhaglenni Seiclo ar S4C yn mynd o nerth i nerth. Ychwanegwyd y Giro d’Italia i’r arlwy yn 2018 gyda darn olaf y jig-sô – La Vuelta a España – yn daith fawreddog olaf yn y calendr rasio.


Yn ôl comisiynydd chwaraeon y sianel, Graham Davies, “Rydym yn gwybod pa mor boblogaidd yw seiclo i’n cynulleidfa, ac mae S4C yn falch iawn o gael y cyfle i ddarlledu pob un o’r tair prif daith yn ystod y flwyddyn, gan hybu ein hymrwymiad i fod yn gartref i Chwaraeon Cymru.


"Ar ôl gwylio Geraint Thomas yn dod mor agos yn y Giro yn gynharach eleni, byddwn yn gobeithio y gall y Cymro wneud un yn well eleni, a gallwn ni fod yng nghanol moment hanesyddol arall i chwaraeon yng Nghymru.”


Gallwch ddarllen rhagolwg manwl o'r ras ar wefan Y Ddwy Olwyn, drwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://www.yddwyolwyn.cymru/post-ey1ei/rhagolwg-la-vuelta-a-españa-2023


Gallwch ddarllen rhagolwg pellach o'r ras ar wefan Golwg, y tu ôl i wal dâl, drwy glicio ar y ddolen ganlynol, neu drwy brynu copi o'r cylchgrawn yn eich siopau Cymraeg lleol: https://golwg.360.cymru/cylchgrawn/2127876-cyfle-olaf-vuelta-espana


Pryd fydd yr uchafbwyntiau ymlaen?

Dyma amserlen y rhaglen, sy'n cael ei chyflwyno gan Rhodri Gomer, a'i chynhyrchu gan Sunset+Vine.


Cymal 1 (26/8) 22.30

Cymal 2 (27/8) 21.00

Cymal 3 (28/8) 21.30

Cymal 4 (29/8) 21.00

Cymal 5 (30/8) 21.00

Cymal 6 (31/8) 21.00

Cymal 7 (1/9) 22.00

Cymal 8 (2/9) 21.15

Cymal 9 (3/9) 21.00


Cymal 10 (5/9) 22.00

Cymal 11 (6/9) 22.00

Cymal 12 (7/9) 22.00

Cymal 13 (8/9) 22.25

Cymal 14 (9/9) 22.00

Cymal 15 (10/9)


Cymal 16 (12/9) 22.00

Cymal 17 (13/9) 22.00

Cymal 18 (14/9) 22.00

Cymal 19 (15/9) 22.00

Cymal 20 (16/9) 22.30

Cymal 21 (17/9) 21.30

Recent Posts

See All
bottom of page