top of page

Llyfrau seiclo ar gyfer y Nadolig

Fel arfer, mae dewis eang o lyfrau seiclo gwych i'w darllen dros dymor y Nadolig eleni - dyma bump o'r rhai newydd rwy'n eu hargymell i chi.


"How a Welshman won Le Tour de France" - Phil Stead

Llyfr ysgrifennwyd gan un o ddilynwyr ffyddlon y blog, Phil Stead, sy'n adrodd ei safbwynt o fuddugoliaeth fythgofiadwy Geraint Thomas yn y Tour de France eleni. Ar fy rhestr i!


"Icons" - Bradley Wiggins

Dwi newydd orffen y llyfr hwn o'r llyfrgell, ac mae'n portreadu rhai o arwyr seiclo - Merckx, Simpson, Coppi ayyb - ac yn pwysleisio nad y cynifer o fuddugoliaethau sy'n bwysig bob tro. Fe'i fwynheais yn fawr.


"My World" - Peter Sagan

Darllenais hwn yn ddiweddar ac mae'n olrhain hanes y pencampwr unigryw yn ei dair mlynedd yn y crys enfys. Pob pennod yn ein diddanu - dylai hwn fod ar frig eich rhestr!


"The Tour According To G" - Geraint Thomas

Hunangofiant gan ennillydd y Tour de France ei hun, Geraint Thomas, fel dilyniant i'w hunangofiant blaenorol, "The World of Cycling According to G". Os fydd hwn unrhywbeth fel yr un cynt, bydd yn bendant yn ddarllen ardderchog.


"Geraint y Cymro a'r Tour de France" - Llion Iwan

Llyfr Cymraeg sy'n olrhain hanes Geraint yn y Tour de France - thema poblogaidd eleni - gyda Llion Iwan yn rhoi ei safbwynt o o'r fuddugoliaeth wych, drwy gyfrwng y Gymraeg. Be' well?!

Recent Posts

See All
bottom of page