top of page

Mwy o lwyddiant i Deuceuninck a brwydr yr Iseldirwyr yn parhau

Mae wythnos arall o gyffro'r byd seiclo wedi hedfan heibio, a byddaf yn crynhoi'r holl rasio a'r newyddion yn y gofnod yma. Mwynhewch!


Alaphilippe a Van Vleuten yn goruchafu Strade Bianche

Daeth Deceuninck-QuickStep i'r brig unwaith yn rhagor wrth i Julian Alaphilippe gipio pedwaredd buddugoliaeth y tim o bedwar hyd yma yn nhymor y clasuron, wedi rasio brwd ar ffyrdd gwynion Twsgani yn yr Eidal. Profodd y ras i ffafrio ystod eang o reidwyr eto eleni, gyda'r cyn-feiciwr mynydd a'r dringwr rasys wythnos Jakub Fuglsang (Astana) yn gorffen yn ail a'r cyn-bencampwr traws y byd, Wout Van Aert (Jumbo-Visma), yn cwblhau'r podiwm am yr ail flynedd yn olynol.


Mae Annemiek van Vleuten (Mitchelton Scott) yn ol i'w gorau wedi iddi gipio buddugoliaeth ras y merched mewn steil. Gadawodd yr Iseldires fawrion eraill y gamp, megis Anna van der Breggen (Boels Dolmans), Kasia Niewiadoma (Canyon-SRAM) a Marianne Vos (CCC Liv) yn ei sgil a chroesi'r llinell yn gyntaf dros i hanner munud o flaen Anika Langvad (Boels Dolmans) orffennodd yn ail. Tymor WorldTour y merched wedi dechrau'n swyddogol felly, ac rydym ni fel cefnogwyr yn gobeithio am fwy o rasio tebyg dros yr wythnosau nesaf.


Y gwibwyr yn brwydro yn Paris-Nice

Echelonau sydd wedi taro'r pennawdau yng nghymalau agoriadol y ras i'r haul, Paris-Nice, gyda nifer o reidwyr yn cael eu dal allan gan y croeswyntoedd cryfion sydd wedi achosi damweiniau fydd yn siapio darlun terfynol y ras heb os. Grwpiau bychain oedd ar ol ar gyfer diweddglo cymal un a chymal dau, gyda Dylan Groenewegen yn dod y reidiwr cyntaf ers 1978 i ennill dau gymal agoriadol y ras. Parhaodd brwydr y Gwyddel, Sam Bennett, i ddod yn wibiwr rhif un Bora-Hansgrohe wedi buddugoliaeth ysgubol ar gymal 3.


Gweddill y rasio

Maximilian Schachmann, gwibiwr arall o dim Bora-Hansgrohe, oedd yn fuddugol yn GP Industria & Artigianato - y ras undydd Eidaleg.


Atgofiad fod seiclo'n gamp dwys ac eithafol wedi hunanladdiad Kelly Catlin

Bu farw Kelly Catlin yn 23 oed ddydd Sul wedi iddi gymryd ei bywyd ei hun. Mae'n debygol fod pwysau eithafol y byd seiclo wedi bod yn ffactor enfawr yn ei phenderfyniad - a dywedodd ei thad ei bod wedi 'newid yn hollol' ers damwain y llynnedd, ac iddi geisio cymryd ei bywyd ei hun ym mis Ionawr yn ogystal. Roedd gyrfa seiclo Catlin yn un yn ffocysu ar seiclo ffordd gyda thim Rally Cycling, a'i thalent ar y trac yn cael ei adlewyrchu mewn medal arian yng ngemau Olympaidd Rio 2016. Mae'n atgoffiad felly nad yw seiclo'n fêl i gyd a bod bod seiclo yn gamp sy'n eich gwthio hyd y pen. Mae'm cydymdeimladau dwysaf gyda'i theulu a'i ffrindiau.


Rhagolwg: Gweddill Paris-Nice

Mae cymalau mynyddig y ras yn cychwyn ar cymal 4 o Vichy i Pelussin, cyn REC ar cymal 5 yn Barbentane. Bydd y frwydr am y crys melyn yn parhau ar cymalau 6 (Peynier i Brignoles), cymal 7 (Nice i Col de Turini) cyn y cymal olaf i gloi yn Nice. Erbyn hyn, mae brwydr y DC yn fwy cyfyngedig - ond mae Egan Bernal, Luis Leon Sanchez a Romain Bardet eisoes yn y deg uchaf. Edrych ymlaen at rasio brwd yn ystod y dyddiau nesaf.


Rhagolwg: Tirreno-Adriatico

Fel rheol, mae hon yn cael ei thrin fel ras baratoi at y Giro d'Italia - ac unwaith eto eleni, mae rhestr hir o ser yn heidio yno. Yn eu mysg mae Geraint Thomas, Jakob Fuglsang, Vincenzo Nibali, Adam Yates a Tom Dumoulin yn y rhestr gychwynnol answyddogol, yn ogystal a Peter Sagan (er feirws stumog), Greg van Avermaet, Nacer Bouhanni ac Elia Viviani.


Rhagolwg: Ronde van Drenthe

Mae Ronde van Drenthe y merched yn ras pwysicach o ran tymor y clasuron nag ydy ras y dynion, serch hynny, nid oes unrhyw fath o ddarllediad teledu (BW!). Fodd bynnag, mae rhestr ennillwyr y ras yn cynnnwys Marianne Vos, Amy Pieters a Lizzie Deignan - ac ar hyn o bryd mae'n debyg y bydd Lucinda Brand, Ellen van Dijk a Tiffany Cromwell yn brwydro am y fuddugoliaeth.


Cofiwch ymuno gyda'r drafodaeth ar Trydar dros yr wythnos, a mwynhewch y rasio!

Recent Posts

See All
bottom of page