Pam dwy olwyn?

Ai'r beic, neu'r deurodyr, yw'r peth gorau i gael ei ddyfeisio erioed?


Yn amlwg, byddwn i'n bersonol yn dweud mai'r beic yw'r peth gorau sydd wedi'i ddyfeisio erioed. Mae wedi dadgloi cymaint i gymaint o bobl, a dyna'r wyf am fynd ar ei ol yn y cofnod cryno hwn.


Yr hyn wnaeth i mi ystyried hyn yr wythnos hon oedd y defnydd o'r graean yn y Giro ddydd Mercher. Cam dadleuol yn ol rhai, ond i mi roedd o'n nod cyfiawn i gefndir y gamp.


Dyma oedd cyflwr y ffordd ym mlynyddoedd os nad degawdau cyntaf y Grand Tours pan oedd seiclo'n rhywbeth i'r werin mwy nag ydy o heddiw.


Enghraifft bennaf o hyn yw Fausto Coppi, wnaeth ennill bob ras dan haul yn y 50au ac yntau'n dod o'r cefndir hwn, fel bydd darllennwyr Fallen Angel: The Life and Death of Fausto Coppi gan William Fotheringham yn gwybod.


Mae elfennau o'r diwylliant hwn yn treiddio drwodd hyd heddiw, fel bydd darllennwyr Colombia Es Pasion gan Matt Rendell yn ymwybodol. Daw'r rhan helaeth o ser Colombia yn y peloton heddiw - meddyliwch am Egan Bernal, Ivan Sosa, Dani Martinez, Miguel Angel Lopez, Nairo Quintana ac yn y blaen - o deuluoedd gwerinol lle mae'r traddodiad o dyfu cnydau a ffa coffi yn gryf.


Ond nid yn unig ar y sin broffesiynol mae hyn yn gymwys. Yn ddiweddar, ysgrifennais gofnod am ddyfodiad seiclo yng Ngwlad y Basg, a modd o gymudo i'r ffatrioedd i weithio ddegawdau'n ol blannodd hedyn angerdd y genedl tuag at seiclo.


Hyd heddiw, mae'r ddwy olwyn yn fodd poblogaidd, cyfleus ac eco-gyfeillgar o gymudo i'r gwaith wrth gwrs, er y byddai un yn dymuno'i weld yn digwydd mwy.


Hynny am resymau amgylcheddol; i ryddhau tagfeydd, i leihau llygredd - dau ffactor sy'n cyfrannu at y ffaith fod canran ddychrynllyd, 92%, o bobl yn byw mewn ardaloedd lle mae'r lefel llygredd yn beryglus i anadlu.


Am resymau iechyd; gwell iechyd corfforol, llai o broblemau cardiofasgiwlar, llai o stres, llai o ordewdra.


Am welliant i'n iechyd meddwl. I deimlo'n dda. I deimlo'n fyw. I gysylltu gyda byd natur.


I dreulio amser gyda theulu a ffrindiau; amser gwerthfawr, amhrisiadwy yn mwynhau'r awyr agored yng nghwmni'n gilydd.


I deimlo'n rhan o rywbeth. Bod yn rhan o gymuned fyd-eang lle mae pleser dwy olwyn yn ein cysylltu i gyd. Hyd yn oed mewn byd lle mae iechyd cyhoeddus yn ein cadw ar wahan, mae modd seiclo gydag eraill.


Gallwn ddianc i ffwrdd o'r byd a'i broblemau, o brysurdeb bywyd, o'r bwrlwm beunyddiol.


Gallwn ddawnsio, neu esgus dawnsio, ar y pedalau wrth gyrraedd uchelfannau'r bryniau neu'r mynyddoedd. Gallwn werthfawrogi lleoliad yn fwy gan ein bod wedi gweithio'n galed i gyrraedd.


Gallwn ehangu'n gorwelion y tu hwnt i'r hyn oedden ni wedi'i ddychmygu'n bosibl.


Gallwn werthfawrogi byd natur, a darganfod lleoliadau newydd sy'n ailgynnau brwdfrydedd am y byd o'n cwmpas.


I fod yn rhydd.


Gallwn fod yn rhydd.


A'r ddwy olwyn yw'r allwedd i ddadgloi'r rhyddid hwnnw.

Rheswm arall dros gyhoeddi'r gofnod yma heddiw yw'r ffaith mai dyma'r gofnod olaf y byddai'n ei gyhoeddi tra'r ydw i mewn addysg statudol! Byddai'n gorffen ddydd Gwener, ac wedi hynny bydd cyfleon dibendraw gobeithio i brofi'r gwir resymau dros garu'r ddwy olwyn yn yr haf a thrwy hynny ysgrifennu cofnodion cyffrous i'ch diddanu ar nos Sul fel hyn.


Mae'n ddiwedd cyfnod hefyd wrth ddod a'r sesiynau Zwift nos Fercher i ben am y 'Gaeaf', gan obeithio bod yr haf ar fin cyrraedd o ddifri yn y dyddiau nesaf. Mae wedi bod yn bleser eu trefnu a'u harwain dros gyfnod o bron i 30 wythnos ers diwedd mis Hydref, coeliwch neu beidio. Byddent yn ailgychwyn yn nhymor yr Hydref yn wythnosol.


Tan y tro nesa, da bo.

24 views0 comments

Recent Posts

See All