Pam dwy olwyn?

Ai'r beic, neu'r deurodyr, yw'r peth gorau i gael ei ddyfeisio erioed?


Yn amlwg, byddwn i'n bersonol yn dweud mai'r beic ydy'r peth gorau sydd wedi'i ddyfeisio erioed. Mae wedi dadgloi cymaint i gymaint o bobl.


Yr wythnos hon, mae hanfod ein camp wedi dod o dan sylw unwaith yn rhagor mewn pennod dadleuol o raglen BBC Panorama, 'Cars Versus Bikes'.


Felly dyma fynd ar ôl unwaith yn rhagor y rhesymau lu dros fynd ar feic.


Hyd heddiw, mae'r ddwy olwyn yn fodd poblogaidd, cyfleus ac eco-gyfeillgar o gymudo i'r gwaith wrth gwrs. Ond mae angen iddo fod yn rhwyddach. Mae angen iddo fod yn opsiwn realistig ac ymarferol.


Hynny am resymau amgylcheddol; i ryddhau tagfeydd, i leihau llygredd - dau ffactor sy'n cyfrannu at y ffaith fod canran ddychrynllyd, 92%, o bobl yn byw mewn ardaloedd lle mae'r lefel llygredd yn beryglus i anadlu.


Am resymau iechyd; gwell iechyd corfforol, llai o broblemau cardiofasgiwlar, llai o stres, llai o ordewdra.


Am welliant i'n iechyd meddwl. I deimlo'n dda. I deimlo'n fyw. I gysylltu gyda byd natur.


I dreulio amser gyda theulu a ffrindiau; amser gwerthfawr, amhrisiadwy yn mwynhau'r awyr agored yng nghwmni'n gilydd.


I deimlo'n rhan o rywbeth. Bod yn rhan o gymuned fyd-eang lle mae pleser dwy olwyn yn ein cysylltu i gyd. Hyd yn oed mewn byd sy'n ymdrechu'n daer i'n gwahanu a'n cadw ar wahân, mae angen i ni afael ym myd y beic fel modd o ddod â phobl at ei gilydd.


Gallwn ddianc i ffwrdd o'r byd a'i broblemau, o brysurdeb bywyd, o'r bwrlwm beunyddiol.


Gallwn ddawnsio, neu esgus dawnsio, ar y pedalau wrth gyrraedd uchelfannau'r bryniau neu'r mynyddoedd. Gallwn werthfawrogi lleoliad yn fwy gan ein bod wedi gweithio'n galed i'w gyrraedd.


Gallwn ehangu'n gorwelion y tu hwnt i'r hyn oedden ni wedi'i ddychmygu'n bosibl.


Gallwn werthfawrogi byd natur, a darganfod lleoliadau newydd sy'n ailgynnau brwdfrydedd am y byd o'n cwmpas.


Gallwn fod yn rhydd.


A'r ddwy olwyn yw'r allwedd i ddadgloi'r rhyddid hwnnw.