top of page

Pam mai buddsoddi mewn seiclo yw'r allwedd i ddatrys problemau'r wlad

Dyma gywaith y bues i'n gweithio arno ddechrau'r flwyddyn ynghylch y manteision o ran iechyd corfforol, iechyd meddyliol, yr amgylchedd ac yn economaidd sydd i'w gael wrth i lywodraethau fuddsoddi mewn seiclo.

 

Llygredd Aer

Yn 2019, rydym ni’n gallu gweld bod lefel uchel iawn o lygredd yn y DG yn enwedig ochr yn ochr a llinell a bariau 2020 pan roedd llawer iawn llai o bobl yn mynd i’r gwaith ac yn teithio mewn dinasoedd oherwydd y clo mawr.


Mae ‘na gasgliad syml iawn y gellir ei gyrraedd o’r graffiau hyn; sef bod peidio llygru yn golygu llai o lygredd.


Does dim dwywaith bod llygredd yn broblem anferthol yn y byd rydym ni’n byw ynddi heddiw. Mae 4.2 miliwn o bobl yn marw yn flynyddoedd o lygredd sy’n cael ei greu gan drafnindiaeth yn ogystal ag amaeth a diwydiant.


Ar hyn o bryd, mae 92% o’r bobl, 9 mewn 10, yn byw mewn ardaloedd lle mae lefelau llygredd yn uwch na’r hyn sy’n ddiogel i ddynoliaeth.


Caiff nifer o broblemau eu hachosi gan lygredd gan ei fod yn ymosod ar bob organ o’r corff. Problemau cardiaidd fel clefyd y galon a stroc; lleihau gweithrediad ysgyfaint mewn oedolion; lleihau datblygiad ysgyfaint mewn plant; asthma; cancr; diabetes math 2; dementia; datblygiad yr ymennydd mewn plant a gweithrediad yr ymennydd mewn oedolion.


Problem gynyddol hefyd sydd a pherthynas union gyda chynydd mewn llygredd yw cynydd mewn gordewrdra.


Yn ogystal, mewn erthygl gafodd ei gyhoeddi yn The Guardian, darganfyddwyd ar ddechrau’r pandemig fod 78% o’r marwolaethau o Covid-19 yn yr Eidal, Sbaen, Ffrainc a’r Almaen wedi digwydd yn y pum ardal mwyaf llygredig.


Mae’n achosi problemau ar bob cam o’n bywyd ac hyd yn oed cyn i ni gael ein geni.


Ydy o’n ddiogel felly i seiclo mewn ardaloedd llygredig?


Yn ol Dr Audrey de Nazelle, heb os mae seiclo’n beth da i’w wneud; er gwaethaf bod cyfradd mewnanadlu llygredd uwch i seiclwyr na phobl mewn ceir a phobl yn eu cartrefi.


Wrth ddychmygu clorian hen ffasiwn, mae’n dweud fod manteision iechyd seiclo yn llawer iawn mwy na’r anfanteision sy’n dod o dan ymbarel llygredd.


Dywedodd hefyd fod defnyddio strydoedd cefn sy’n llai prysur o ran traffig ag yn y blaen yn lleihau effaith llygredd ar y corff o rhwng 30% a 50%.


Iechyd meddwl

O’r ffynhonnell eilaidd yma, gwelwn fod seiclwyr yn dioddef 21.6% yn llai o ddyddiau iechyd meddwl gwael o’i gymharu a phobl oedd ddim yn gwneud ymarfer corff, a hynny yn ail ond i chwareon tim.


Mae unrhyw chwaraeon yn mynd i leihau’r nifer o ddyddiau iechyd meddwl gwael o 40%.


Mewn byd lle mae 1 mewn 6 wedi dioddef diwrnod iechyd meddwl yn yr wythnos ddiwethaf, gall seiclo fod yn ddatrysiad gwirioneddol i nifer fawr o bobl.


Iechyd corfforol

  1. Addas i bob oedran a da ar gyfer stiffrwydd a phoen yn y cymalau, oherwydd ei fod yn ymarfer corff impact isel

  2. Ymarfer aerobig sy’n dda ar gyfer y galon, yr ymennydd a rhydweliau’r gwaed. Mae hefyd yn rhyddhau endorphins.

  3. Adeiladu cyhyrau yn y gluteus, quadriceps a’r gastrocnemius

  4. Mae’r manteision yn trosglwyddo i weithgaredd dyddiol fel cydbwysedd, cerdded, sefyll, gwydnwch corfforol a dringo grisiau

  5. Yn ogystal, mae seiclo’n un o’r gweithgareddau gwrthiant sy’n cynyddu dwysedd esgyrn

Iechyd meddwl cenedlaethol o’i gymharu a beics per capita

Dyma’r effeithiau ar iechyd meddwl a iechyd corfforol wedi’i cymharu gyda beics per capita.

Dangosir ar y graff yn y glas y canran o’r boblogaeth sy’n berchen y beic, sydd mor uchel a 99% yn yr Iseldiroedd.


Dangosir yn y coch sgor allan o 20 yn ol y gwledydd hapusaf - hynny yw y wlad hapusaf (sef y Ffindir) yn cael 20 o bwyntiau hyd at yr 19fed wlad hapusaf yn cael 1 o bwyntiau.


Gwelwn yn glir yma felly fod 9 o’r 10 gwlad uchaf o ran perchnogaeth beics yn yr 20 uchaf o ran hapusrwydd cenedlaethol.


Yn amlwg, nid seiclo yw’r unig ffactor o bell ffordd yn diffinio hapusrwydd casgliadol gwledydd ond byddai’n wirion o beth i gredu bod hyn yn gyd-ddigwyddiad, yn enwedig pan yn ystyried yr hyn rydym ni eisoes wedi’i ddysgu o effeithiau seiclo ar iechyd meddwl.


Lefelau gordewdra yn y gwledydd seiclo

Er rhaid nodi bod hwn yn sampl fechan iawn (y rheswm dros hynny yw diffyg ystadegau gordewdra mewn rhai gwledydd), mae tueddiad amlwg yma: wrth i berchnogaeth beics gwledydd ostwng (glas), mae gordewdra difrifol (coch) yn cynyddu.


Seiclo’n lleihau problemau dinasoedd

Mewn gwirionedd does dim angen unrhyw ffynnonellau gan mai synnwyr cyffredin ydy o mwy na dim.

  • Mwy o seiclwyr yn golygu llai o geir ar y ffyrdd

  • Llai o geir yn golygu llai o dagfeydd

  • Llai o geir yn golygu llai o ddamweiniau oherwydd bod llai o yrru peryglus a gor-yrru (sy’n aml yn dod o rwystredigaeth tagfeydd mewn dinasoedd)

  • Llai o lygredd

Cysylltiad rhwng seiclo mewn dinasoedd a llygredd mewn dinasoedd

Dydy hwn ddim yn graff sy’n dangos yn glir iawn yr effaith mae statws ‘dinasoedd seiclo gorau’r byd’ gan wefan WIRED yn cysylltu gyda lefelau llygredd is mewn dinasoedd.


Rhaid cofio nad yw hwn o bosib y mesur mwyaf dibynadwy o safon ac isadeiledd seiclo dinasoedd o bell ffordd.


Fodd bynnag, os ydyn ni’n anwybyddu Antwerp a Paris yn y 10 uchaf, mae’r 8 dinas arall yn recordio lefelau isel o lygredd aer.


Mae lefelau Copenhagen, Amsterdam ac Utrecht yn ganmoliadwy iawn, ac mae gan y dinasoedd yma’n sicr enw da ledled y byd am eu hisadeiledd seiclo.


Mae’n ddigon cadarnhaol i Gaerdydd a Chaeredin hefyd - mae ‘na lefel isel o lygredd yn barod, ond gyda newidiadau hir-dymor i’r isadeiledd seiclo, gall wella hyd yn oed yn fwy.


Manteision economaidd i gerdded a seiclo

  • Cynyddu gwariant yn y sector manwerthu (siopau stryd fawr) o 30%

  • Cymryd 27% llai o ddiwrnodau i ffwrdd o’r gwaith yn sal

  • 5% mwy o bobl yn gallu trafeilio ar yr un pryd ar amseroedd prysur

  • Atal biliynau o bunoedd werth o niwed iechyd ac amgylcheddol

Holiadur cyffredinol i’r boblogaeth gyffredinol

Dengys y graff hwn fod canran isel iawn o bobl - 15.4% - yn ymwybodol o gymaint o broblem ydy llygredd, sydd efallai’n awgrymu pam fod cyn lleied o bobl yn gwybod am wir effaith newid hinsawdd ac yn y blaen.

Mae’n glir o’r graff hwn nad oes mwyafrif pendant yn gwybod fod manteision seiclo yn fwy nag anfanteision llygredd. Gallwn ddweud felly bod pobl sydd ddim yn seiclo oherwydd y llygredd yn gallu cael eu darbwyllo o’r wybodaeth hyn ac felly cynyddu’r nifer o bobl sy’n seiclo drwy hyn.

Daw peth cadarnhaol o’r graff hwn - fod y rhan fwyaf o bobl yn gwybod am fanteision iechyd meddwl, ac felly dylid perswadio’r bobl hynny i droi gwybodaeth yn weithredu a defnyddio seiclo er budd y gymdeithas.

Ymddengys fod y rhesymau dros beidio seiclo’n rhai na ellir eu datrys mewn gwirionedd, sy’n beth da i ryw raddau. Hynny yw, mae 2 mewn 3 yn byw un ai’n rhy agos neu’n rhy bell i ystyried seiclo fel opsiwn ar gyfer cymudo. Yn galonogol, nid oedd unrhyw un yn dweud fod seiclo’n rhy ddrud, ond yn anffodus mae 22% yn dal i ddweud nad ydynt yn ystyried seiclo i’r gwaith oherwydd nad ydynt yn credu ei fod yn ddigon diogel. Gwaith i’w wneud felly.

Sylwadau ychwanegol a gynnigwyd:

  • Mae angen mwy o bwyslais ar newid agwedd defnyddwyr eraill o'r ffordd tuag at seiclwyr. Ofn sydd gen i y bydd adeiledd seiclo yn cael ei greu yn araf ac dros amser hir. Yn ystod y cyfnod yna bydd ymddygiad rhai gyrrwyr ceir tuag at seiclwyr yn gwaethygu. Hoffwn i weld raglan o fesurau i helpu newid yr agwedd dróg fel ag i wneud seiclo'n fly diogel. Cosbau llymach, rheolau defnydd ffordd sy'n rhoi blaenoriaeth i gerddwyr a seiclwyr ac ati.

  • Beth am ehangu Cynllun Beicio i’r Gwaith, a chaniatau i pob beic gael ei brynu heb TAW / gyda disgownt wedi ei gyllido gan y llywodraeth?

Holiadur ar syniadau diogelwch: Cymry sydd eisoes yn seiclo

Gofynnwyd cwestiwn eang - “Trafodaeth ar Radio Cymru am ddiogelwch seiclwyr: unrhyw sylwadau?” - oedd yn cynnig atebion eang ar gyfer Cymru gyfan.


Cafwyd 13 o ymatebion. Rydw i wedi eu grwpio’n berthnasol.


Lonydd seiclo:

  • Creu lonydd beicio pwrpasol mewn dinasoedd, trefi ac ar ffyrdd prysur ar draws y wlad. Dwi'n Llundain ambell waith yn ystod y flwyddyn a dwi'n teimlo'n llawer mwy diogel yn beicio drwyddi nag ydw i yng Nghaerydd gan fod 'na lonydd beicio pwrpasol yno sydd yn llawer fwy rhwydd.

  • Lôn Las Ogwen yw fy lôn agosaf. Prydferth ond yn gallu bod yn dywyll ac unig ym mhell o gymorth. Angen mwy o rai ar ochr y lonydd.

  • Pam, o pam, na ddefnyddir y tir gwastraff, y wefus werdd wrth ymyl y mwyafrif o lonydd ar draws Cymru, a'u haddasu yn lôn seiclo? Byddai'n llawer mwy diogel a hwylus i'r gyrrwyr ceir ac yn cymell mwy i fentro ar eu beiciau ar deithiau rhwng pentref a phentref.

  • Defnyddio hen reilffyrdd a troi yn lwybrau beic. Mwy o lonydd seiclo mewn trefi a dinasoedd. Mwy o wybodaeth i seiclwyr â dim profiad ar sut i seiclo yn saff ar y ffordd.

  • Dyla fod hen disused llwybrau rheilffyrdd Cymru yn cael eu trawsnewid i fod yn lwybrau beicio. Hollol fflat, hollol arwahan i draffig, ardaloedd hardd. Perffaith a diogel.

  • Troi hen reilffyrdd yn ffyrdd beicio, er bod [ymgyrch] Lon Las Mon yn cynnig hyn ar Ynys Mon ers blynyddoedd a dim yn digwydd.

  • Lot yn meddwl fod shared use paths yn ateb y broblem ond cycle lanes sydd angen. Shared use paths yn beryclach na seiclo ar y lôn yn fy marn i.

  • Llwybr ar wahân yn llawer mwy diogel. Caerdydd yn ystod y clo wedi dangos hyn. Cerddwyr ddim yn ymwybodol o hawliau seiclwyr gyda chŵn yn cael eu gadael yn rhydd, heb dennyn ynghyd a sgwters trydan. Dyna fyddai buddsoddi doeth ar ran y llywodraeth - fyddai'n arwain at fwy o feicio, gwella iechyd a ffitrwydd. Rhaid felly newid meddylfryd - a dilyn model ambell ddinas ac ardal ar y cyfandir.

Addysg

  • Arwyddion ochr ffordd yn dangos 1.5m (fel rhai Gwynedd) ym mhob man. Ymgyrch hysbysebu ar y teledu ar sut i oddiweddyd yn ddiogel.

  • Dyla fod unrhyw yrrwr proffesiynol, tacsi, bws, tryciau yn cael gwers "rhannu'r ffordd gyda cherbydau llai".

  • Mae hefyd angen dysgu pawb am reolau'r hyn y gall beicwyr ei wneud ar ffyrdd, h.y. beicio two abreast. Yn bennaf, mae angen normaleiddio fod beicwyr a gyrrwyr am rannu'r ffordd dydd ar ôl dydd a rhoi parch o un i'r llall.

  • Anghofia llwybrau beics, siacedi llachar, helmedi etc. Y prif (unig?) beth all 'neud beicio yn ddigon saff i'r rhan fwya' o bobl ei ystyried yn opsiwn ydi i bobl ddysgu gyrru'n iawn. Heb ddatrys hynny, ma' popeth arall jest yn 'trimmings'.

Casgliad: Mae yna ddatrysiadau amrywiol i broblemau diogelwch yng nghefn gwlad yn y ddinas a rhwng y ddau. Credir yn gyffredinol bod angen buddsoddi yn yr isadeiledd gan greu rhwydwaith o lwybrau seiclo pwrpasol (ac nid rhai sy’n cael eu rhannu gyda cherddwyr ac ati), a phan y bydd angen rhannu’r ffordd gyda gyrrwyr, mae angen sicrhau fod addysg digonol am yrru’n ystyriol ym mhresenoldeb seiclwyr.


Maniffestos gwleidyddol cyn Etholiad Senedd Cymru 2021

Dangosir nifer y seddi wedi'r etholiad.


Llafur Cymru (30) Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i gryfhau cynnydd mewn cerdded a seiclo wrth wneud Cymru yn genedl trafnidiaeth actif. Cefnogi menterau cymdeithasol arloesol fel caffis cynnal a chadw beics a chynllun ailgylchu beics. Datblygu mapiau o rwydweithiau trafnidiaeth actif a gweithio gydag ysgolion i hybu trafnidiaeth actif a diogelwch ffordd. Gwneud 20mph yn derfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl. Buddsoddi mewn opsiynau trafnidiaeth i annog trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi seiclo a cherdded. Gosod safonau rhyngwladol uchaf mewn cyfraith Deddf Aer Glan, yn gyson gyda chyngor WHO.”


Ceidwadwyr Cymreig (16) Codi safon a chysylltu trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru gan ddarparu Metro Gogledd Cymru sy’n integreiddio trafnidiaeth cyhoeddus gyda theithio actif. Buddsoddi mewn mwy o opsiynau i gerdded a seiclo. Cyflwyno Deddf Awyr Glan i daclo llygredd a lleihau’r nifer o afiechydon resbiradol.”


Plaid Cymru (13) “Pasio Deddf Aer Glan yn y flwyddyn gyntaf i warchod iechyd dinasyddion ac ecosystemau. Annog cerdded a seiclo gyda chanolbwynt penodol ar grwpiau anabl. Buddsoddiad mewn gwella adnoddau i’r cyhoedd. Cynhyrchu cynllun trafnidiaeth actif gyda tharged o 50% yn fwy o gymudo erbyn 2030. Gwagle addas ar gyfer beics ar rhwydwaith trenau Cymru. Lleihau defnydd ceir o 50% erbyn 2030 - 30% o’r rheiny yn trafnidiaeth cyhoeddus, 10% seiclo a 10% cerdded. Gorfodi targedau uchelgeisiol ar lefel lleol. Gostwng terfyn cyflymder i 20mph mewn ardaloedd preswyl.”


Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (1) “Gwario o leiaf 10% o gyllideb trafnidiaeth ar drafnidiaeth actif, gan sicrhau fod penderfyniadau lleol yn blaenoriaethu seiclo a cherdded mwy diogel a rhoi cefnogaeth i bobl er mwyn iddynt allu cael mynediad i drafnidiaeth actif. Sicrhau fod trafnidiaeth cyhoeddus yn gweithio i bawb. Pasio Deddf Aer Glan i daclo aer budr a’r effeithiau iechyd a ganlyn.”


Roeddwn i'n ysgrifennu hwn cyn yr etholiad, ac ar y pryd mi'r oedd disgwyl i Blaid Diddymu'r Cynulliad ac o bosib y Blaid Werdd ennill seddi. Ddigwyddodd mo hynny; ond dyma faniffesto'r Blaid Werdd p'run bynnag (doedd dim polisiau teithio actif ar faniffesto'r Blaid dros Ddiddymu):


Plaid Werdd Cymru (0) “Opsiynau trafnidiaeth gwell, fforddiadwy a glanach gan gynnwys gwell mynediad i seiclo, cerdded a thrafnidiaeth actif. Bydd strategaeth drafnidiaeth genedlaethol integreiddiedig yn: lleihau traffig ac allyriadau carbon; gwella iechyd a lles; gwella ansawdd yr aer; ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Lleihau’r angen am drafnidiaeth mewn cerbydau preifat.”

 

Casgliadau

O ran iechyd corfforol, mae’n fuddiol i bobl o bob oedran yn nghyd-destun cymalau (joints) ac esgyrn yn ogystal a phethau fel gordewdra; ac o ran iechyd meddwl mae’r manteision yn enfawr. Darganfyddwyd hefyd fod y manteision hyn yn gorbwyso peryglon seiclo mewn ardaloedd llygredig. Y cam nesaf oedd gweld sut mae gwledydd eraill ar y cyfandir yn ffynnu o ran iechyd ac ati a gwelwyd fod lefelau llygredd a gordewdra ar y cyfan yn is mewn gwledydd lle mae ‘na ddiwylliant seiclo, fel sydd yn yr Iseldiroedd er enghraifft. Yn olaf, darganfyddwyd fod, yn ddiddorol iawn mewn cyd-destun gwleidyddol ac economaidd, £13 yn cael ei ddychwelyd i’r economi am bob £1 sy’n cael ei wario ar yr isadeiledd seiclo/cerdded sy’n gyfredol o ystyried cwestiwn gwreiddiol y prosiect.

Roedd yn ddiddorol cymharu sylwadau pobl sydd eisoes yn seiclo a phobl sydd efallai ddim yn seiclo. Mae’n rhaid derbyn nad ydy seiclo yn ffordd ymarferol o gymudo i bobl sy’n byw’n rhy bell neu’n rhy agos; fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwn ni wneud seiclo yn fwy diogel fel welwyd o’r holiadur i seiclwyr. Wrth droi sylw at gynlluniau pleidiau gwleidyddol, mae amrywiaeth amlwg rhwng blaenoriaethau’r pleidiau ond ar y cyfan mae cysyniad cyffredin fod buddsoddiad mewn trafnidiaeth actif yn fuddiol i iechyd, yr amgylchedd a’r economi.


O safbwynt bersonol, fy nghasgliad cyffredinol yw mai buddsoddiad gan lywodraethau’n fyd-eang ond yn benodol yng Nghymru a’r DG yw’r allwedd i lwyddiant a ffyniant yn y dyfodol. Blaenoriaethau’r rhan fwyaf o bleidiau gwleidyddol cyn yr etholiad yw adferiad ar ol Covid-19, lleddfu’r argyfwng hinsawdd a gwella iechyd cyhoeddus. Mae buddsoddiad yn yr isadeiledd seiclo yn hybu’r economi yn uniongyrchol yn ogystal a chynyddu gwariant mewn busnesau lleol ar y stryd fawr, pethau sy’n allweddol wrth adfer yn economaidd ar ol Covid. Wedyn wrth gwrs, mae’r manteision amgylcheddol yn amlwg - nid oes angen cywaith ymchwil cynhwysfawr i weithio hynny allan. Mae’n lleihau lefelau llygredd, yn lleihau tagfeydd ac yn gwneud yr awyr yn fwy iach. O ran iechyd cyhoeddus, mae modd gwella iechyd corfforol a iechyd meddwl drwy gael pobl ar feics, ond er mwyn gwneud hynny mae angen sicrhau ei fod yn ddiogel a dyna lle mae’r buddsoddiad yn chwarae’i ran.


Llyfryddiaeth

Recent Posts

See All
bottom of page