top of page

Reids Ar Dy Feic: Dysynni, Dylife a Dyfi

Drannoeth fy mhenblwydd. Pasawl un o’m cyfoedion o gyffelyb oedran fyddai’n deffro â phen clir? Pasawl un o’r rheiny fyddai’n cychwyn ar daith gan milltir? (Nid pryfocio a beirniadu ydw i, wir, dim ond gofyn y cwestiwn…!)


Byth ers cwblhau reid can milltir am y tro cyntaf i nodi ‘mhenblwydd llynedd, mae’r syniad wedi fy nghydio. Y syniad o dreulio oriau ar ddwy olwyn yn ymestyn gorwelion a darganfod lleoliadau o’r newydd. Wrth edrych ar fap o Gymru, bydd reid can milltir yn cyfro cyfran sylweddol o’n cenedl - ac mae hi bron yn anochel y byddwch chi’n croesi’r ffin i sir arall. Dwi’n credu mai Gwynedd fyddai’r unig sir y byddai rhywun yn gallu gwneud reid 100 milltir unffordd heb groesi tu hwnt i’w ffiniau.


A byth ers dechrau’r blog, mae awgrymiadau o le i fynd ar feic yn ein gwlad wedi llifo tuag ata’i (gallwch ddod o hyd iddynt yma). Un o’r cyntaf dderbyniais i oedd Dylife ar gyfer cofnod dringfeydd y canolbarth, ac ers hynny mae wedi’i grybwyll ambell waith - fwyaf diweddar yn y gofnod ‘Anelu’n Uchel: 10 Dringfa Uchaf Cymru’. Bryd hynny, cysylltodd Anti Eirian (chwaer Mamgu a’n harbenigwraig hanes teulu) i ddweud fod Wynford Vaughan-Thomas - y diweddar awdur a newyddiadurwr sydd a’i gofeb ar y copa - yn gefnder i’w thad hi, sef John Emrys; hynny yw, mae o yn yr achau.


Ymysg llawer o weithiau a chyfrolau hybarch, ysgrifennodd ddarn, sy’n hynod gyfredol hyd heddiw, yng nghylchgrawn ‘Tir Newydd’ ym 1936, y gallwch ei ddarllen yma drwy wefan y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’n dechrau: “Nid oes yr un genedl wedi sôn mwy am ei mynyddoedd na chenedl y Cymry. Fel cenedl yr ydym yn byw ar odre’r mynyddoedd, ond gwyddom lawer llai nag y dylem amdanynt. Nid ydym yn meddwl cymaint ohonynt ag y mae llawer ymwelydd o’r tu arall i Glawdd Offa. Canodd ein beirdd am eu prydferthwch; a dyfnwyd o’u gweithiau hwy yn wresog gan ein gwleidyddion o dro i dro,-ond ysgwn i pasawl Cymro, ag eithrio ambell fugail neu chwarelwr, sy’n gyfarwydd â’r rhannau hynny o’i wlad sydd y tu allan i ffiniau ei briod fro, ac felly, yn ei dyb ef, ‘y tu allan i’w gyrraedd’?”


Mi blannodd hyn hedyn yn fy meddwl o wneud pwynt o wneud reid i Dylife ryw ben eleni. I ymestyn fy ngorwelion, ac i ymgyfarwyddo ag ambell un o’r rhannau hynny o’m gwlad sydd y tu allan i ffiniau fy mhriod fro.


Felly, drannoeth fy mhenblwydd, ddydd Sadwrn diwethaf, mae Dad a minnau’n dechrau’n blygeiniol o’r ty; chwarter i saith. Dydy deffro’n gynnar heb fod yn her i mi erioed, a bydda’i’n effro’r adeg yma bron bob dydd. Ond, mae deffro, codi a mynd yn beth hollol wahanol.


Allan o’r giat, y goleuadau’n fflachio, ac am ryw reswm, dwi’n gwisgo fy sbectolau haul seiclo. Does ryfedd bod popeth yn edrych yn dywyllach nag y dylen nhw fod. Mae hi braidd yn llaith ac yn niwlog ar y daith gyflym i Ddolgellau, ac ymhen yr awr rydym ni’n nadreddu drwy system unffordd y dref cyn troi tua’r arfordir. 17 milltir cynta’r dydd wedi’i gwblhau.

Edrych dros Friog o'r ffordd arfordirol. Yr enghraifft agosaf at adref am effeithiau newid hinsawdd pan oedden ni'n dysgu amdano'n yr ysgol; bydd y môr wedi amlyncu nifer o'r tai ymhen rhai degawdau.


Dwi’n hen gyfarwydd â Phenmaenpool, gan mai dyna oedd dechreufan un o’n hoff reids teuluol pan oeddwn i’n iau - llwybr y Mawddach a llynnoedd Cregennan. Dilyn y ffordd sy’n mynd yn baralel â’r llwybr a’r aber wnawn cyn cyrraedd yr arfordir. Er i mi gael fy ngeni ambell gan medr i ffwrdd o’r môr, mae magwraeth yn y Bala’n golygu fod gweld y môr yn dal i fod yn wefr. Rydym ni’n parhau ar y ffordd arfordirol hardd - sy’n gyfarwydd diolch i’r Cambrian Coast Sportive - drwy Llwyngwril, Rhoslefain a Tywyn, cyn troi i’r chwith oddi ar yr arfordir tua Cwm Maethlon.


Yn aros oddi fewn i Feirionnydd, ond yn mentro i fan newydd. Does dim gwybodaeth am darddiad enw Cwm Maethlon yn y Geiriadur Enwau Lleoedd, ond wedi peth chwilota ar y we ymddengys ei fod yn gymuned amaethyddol Gymreig draddodiadol - y pum prif fferm oll ag enwau Cymraeg gloyw; ystadau’n wreiddiol a ffermydd annibynnol yn datblygu dros y canrifoedd diwethaf. Mae’r ffordd yr ydym ni’n ei ddilyn yn un atmosfferig iawn â thirwedd creigiog dramatig o’n cwmpas, ac mi’r oedd yn brif ffordd rhwng Tywyn a Machynlleth o adeg y Rhufeiniaid tan flynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg. O gyfeiriad yr arfordir, mae’r ddringfa’n un ddigon anghyfforddus - ar ei serthaf at y copa - ond pe baech yn dringo o’r cyfeiriad cyferbynniol, mae arwydd 20%.

Y ddringfa yng Nghwm Maethlon


Oddi yno, mae sbel ar yr A489 drwy Pennal, cyn cyrraedd Pont ar Ddyfi. Lwc yn ein taro ddwywaith; ffordd glir i droi i’r dde a goleuadau’r gwaith ffordd yn troi’n wyrdd wrth i ni gyrraedd. Toc wedi deg o’r gloch; amser brunch, a hanner y pellter eisoes wedi’i gyflawni. Os y byddwch chi byth yn stopio ym Machynlleth, boed ar feic neu beidio, gallaf argymell caffi’r Gegin Fach ar Heol Maengwyn. Daeth Mamgu, Mam a’m chwaer Sara i gwrdd â ni am brunch a chawsom orig ddymunol iawn. Brecwast swmpus ac ambell baned yn ddiweddarach, ac mae’n bryd ail-gychwyn wrth i’r cloc daro un ar ddeg.


Dwi’n mynd ar ‘y mhen yn hun oddi yma ar fy route gan milltir, tra bo Dad yn osgoi fy nghylchdaith ychwanegol i ddyfnderoedd y canolbarth (o’m safbwynt i beth bynnag) a dilyn y ffordd unionsyth drwy Lanwrin.


Troi i’r dde i fyny am y Dylife, a phwy feddyliai - mae’r tywydd yn troi rywfaint. Un o’r deg ffordd tarmac uwch 500m yng Nghymru ydyw, felly does dim syndod fod y niwl yn gostwng arnaf ynghyd ag ambell smotyn o law oeraidd. Mae’n dipyn o ddringfa o’r cyfeiriad yma - yn dechrau’n ddigon diffwdan cyn gwyro tua’r entrychion wrth i’r tirwedd agor ac amlygu.


Mae ‘na rai llefydd sy’n dal i fod yn wych mewn niwl a lleithder, ac mae’r Dylife’n un ohonyn nhw. Er nad ydw i’n gallu gweld chwarter mor bell ag y byddwn i ar ddiwrnod braf, ceir ymdeimlad atmosfferig eto a dwi’n gwybod fod fy ‘mhriod fro’ yn cuddio rywle yn y pellter. Teg edrych tuag adref, hyd yn oed os nad yw’n bosib ei weld. O wybod bod digon o bellter eisoes yn y coesau - yn dynesu at 60 milltir - a bod tipyn eto i’w wneud, dwi’n hen ddigon bodlon clicio ‘lawr i’r gêr gwaelod a’i chymryd hi dow dow fyny’r graddiannau serthion, sy’n gyson yn y ffigyrau dwbl.

Yr hyn a elwir yn niwl dopyn.


Fel y gwelwch chi o’r llun uchod, roedd yr amodau braidd yn annymunol wrth gyrraedd y pwynt uchaf - ac er cydnabod presenoldeb y gofeb, dwi’n penderfynu y byddai’n ddoeth i beidio ag aros a rhewi ar y top, ac yn hytrach barhau ar fy siwrne. Ymhen ychydig, dwi allan o’r niwl, ac mae’n ymddangos fel diwrnod braf eto. Profiad newydd sy’n fy aros wrth basio drwy bentref Dylife; rhes hir o ffermwyr â’u gynau mawrion, bygythiol yn anelu i lawr tua’r dyffryn - fwy na heb yn cymryd drosodd yr holl ffordd. Fel y gallwch chi ddychmygu, dwi’n ei heglu hi’n reit handi.

"I can see clearly now..."


Yn wreiddiol, y cynllun oedd i barhau ar y ffordd B dwi’n droi arno fo hyd Llanbrynmair, ond wedi peth ymchwil, dwi’n penderfynu troi i’r chwith i fyny i Bwlch Glynmynydd. Mae’n dechrau ym Mhennant, ac o ystyried cyn lleied o wybodaeth sydd amdano, dwi’n credu ei fod yn haeddu cael ei alw’n ‘berl gudd’. Dringfa dawel gydag arwyneb y ffordd mewn cyflwr da, ac iddi naws ddymunol, wledig. Dydy hi ddim yn ddringfa hir, ac ymhen dim dwi’n dechrau ar y goriwaered hir gan ddilyn trywydd yr afon Cegir hyd nes cyrraedd prysurdeb yr A489.


Dydw i ddim yn aros yn hir arno, diolch byth, ond yn hytrach yn troi i’r chwith ar ffordd Llanwrin, cyn troi i’r dde fwy neu lai’n syth ar y ffordd sy’n mynd drwy Aberangell ac yn parhau hyd Ddinas Mawddwy. Ai’r ffordd gul yn baralel â’r afon Ddyfi a’r ffordd fawr, a does dim modd dod o hyd i rhythm. Afreolaidd ar y naw yw’r graddiant; fyny a lawr, fyny a lawr - ac mewn mannau mae arwyneb y ffordd yn wael. Digon o fwd a gwlybaniaeth ar y ffordd oddi tano hefyd, ac er falle nad oes modd cymharu’i fudredd â’r beics o Paris-Roubaix y penwythnos hwn, ond mae’n dal i fod yn frwnt iawn. Parwch hynny â dringfa serth drwy bentref Aberangell a degau ar ddegau o ffesantod di-lun a thwp; mae’n deg dweud mod i’n falch o weld Dinas Mawddwy’n cyrraedd.


Mae holl ddrama’r saethwyr a’r ffesantod ynghyd a’r dringo anghyson a’r pellter digon sylweddol sydd eisoes yn y tanc wedi dechrau achosi blinder. Dwi’n falch o’r can o Cola a’r cyfle i ail lenwi potel ddŵr yng Nghaffi’r Hen Siop yn Dinas, ond yn gyndyn iawn o stopio’n hirach na sydd rhaid. Wedi’r cyfan, dwi wedi cael ail wynt o’r Cola ac yn barod am yr ugain milltir olaf. Yr hyn, wrth gwrs, sy’n rhaid ei gofio, yw fod dringfa anoddaf Cymru, Bwlch y Groes, eto i ddod.


Mi ddaeth y penderfyniad i daclo’r reid o’r cyfeiriad yma wedi i mi wneud reid ddigon heriol yn gynharach yn yr haf - Bwlch y Groes o Lanuwchllyn, Bwlch yr Oerddrws a’r ddringfa serth i lynnoedd Cregennan o Arthog - pan sylweddolais i gymaint o slog ydy o adref o Ddolgellau. Mae’n gyson 3 neu 4% ar ffordd sy’n gallu bod yn brysur, ac mae hynny’n gallu bod yn lladdfa. Felly dwi’n penderfynu ei bod hi’n llawer gwell gen i gael dringfa serth (iawn) a disgyniad yn yr ugain milltir olaf na slog.


Beth bynnag, mae’r ffordd drwy Gwm Cywarch gan barhau i ddilyn y Ddyfi yn hynod bleserus, ond yn cynnwys digon o ddringfeydd byrion i ddeffro’r coesau cyn yr her i ddod. Ond buan iawn mae realiti’r hyn sydd i ddod yn eich taro, wrth ichi allu gweld y ffordd uwchlaw yn nadreddu tua’r entrychion, ac ymhen dim mae’r tro pin gwallt yn ymrithio.


Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi concro’r peth ofn oedd gen i am y ddringfa hon. Mae’n bosib fod dyfyniadau fel ‘y ffordd sydd serthaf yn barhaus ym Mhrydain’ wedi cyfrannu at fy nheimlad tuag ato. Ond, dwi wedi llwyddo i’w ddringo ambell waith, ac yn ddigon cyfarwydd ag o erbyn hyn. Os y gallwch chi oroesi’r bachdro cyntaf ‘na, dydy’r hanner cyntaf, sef y filltir gyntaf, tan y grid gwartheg “ddim yn rhy ddrwg” - hynny yw, mae o dan y cyfartaledd graddiant sef 13%. Ar ôl y grid, fodd bynnag, a tan gyffordd Llyn Efyrnwy - mae’r graddiant uwchben y cyfartaledd yn barhaus. Dyma’r gyfran sy’n destun ofn. Os allwch chi wedyn ddringo ‘nôl ar eich beic wedi hynny, mae’r rhan olaf o’r gyffordd i’r copa fymryn yn fwy goddefgar; fymryn yn fwy posibl.


Felly o gofio bod bron i 90 milltir yn barod wedi’i gyflawni heddiw, dwi’n penderfynu y bydda i’n seiclo’r hanner cyntaf a’r rhan olaf o’r gyffordd i’r top, ond nad oes gen i gywilydd o gerdded y gyfran ganol. Dwi’n gwybod pa mor serth ydy o, ac o ystyried cyflwr y coesau, dwi’m yn meddwl byddwn i’n ei seiclo lawer cyflymach nag y byddwn i’n ei gerdded. Dwi’n llwyddo i seiclo’r ddwy ran nes i benderfynu ei seiclo, ac yn ddiolchgar na basiodd mo’r un car na seiclwr pan oeddwn i’n cerdded! Teimlad braf iawn yw cyrraedd y brig, a’r olygfa sydd mor gyfarwydd, ac mae Dad yno’n aros amdana’i. Amseru gwych, os ga’i ddweud.


Cyfle da’n fa’ma i longyfarch Mam ar ddringo’r Bwlch o Lanuwchllyn 50 o weithiau eleni tra’n 50 oed - her fu’n anodd ar brydiau ond un y gwnaeth ei oresgyn gyda bron i wythnos i sbario. Felly wedi gwneud ambell un gydag hi, ac wedi’i wneud ddegau o weithiau o’r blaen beth bynnag, mae’r ffordd adref o’r copa’n hen gyfarwydd. I lawr y graddiannau serthion nes at y copa, ac ar hyd ochr y llyn drwy Langywer ar y ffordd byddwn i fwy na thebyg yn gallu’i wneud â’m llygaid ar gau, cyn cyrraedd adref tua hanner awr wedi tri gyda chan milltir arall yn y banc.


Mae’n rhaid i mi ddweud bod cyrraedd adref ganol y prynhawn yn fantais bendant o ddechrau’n gynnar; hen ddigon o amser i ymlacio ac i sawru’r wefr ddi-guro ‘na ar ôl reid hir. Diwrnod gwych arall o seiclo wedi’i gwblhau, ac yn benderfynol o ail-ymweld â rhai o’r lleoliadau newydd y darganfyddais.


Felly cofiwch eiriau cefnder fy hen-daid, ac ewch i grwydro tu hwnt i’ch gorwelion arferol!


Recent Posts

See All
bottom of page