top of page

Reids Ar Dy Feic: Gogledd Ceredigion

Mae asesu sut siâp sydd ar fy nghoesau'n rhywbeth ydw i'n ei wneud yn isymwybodol fwy na heb; mae'n dod yn naturiol. Ydw i'n barod am reid hir? Ydw i'n mynd i ddioddef?!


Dwi'n gwneud hyn yn ymwybodol y bore 'ma; bore dydd Gwener. Y pumed diwrnod yn olynol i mi wneud hyn, gan mai dyma'r pumed diwrnod yn olynol i mi fynd allan ar y beic.


Rhaid i mi gyfaddef, dydy hi heb fod yn haf gwych am seiclo. Gawson ni dywydd crasboeth, a thywydd gwlyb. Ydw, mi ydw i'n seiclwr cwynfanllyd - neu yng ngeiriau rhai; fair weather cyclist.


Wrth edrych ar ragolygon y tywydd ganol wythnos diwethaf, roeddwn i'n benderfynol 'mod i am wneud y gorau o wythnos o dywydd digon dymunol a cheisio recordio mileage go dda.


Dyna ydw i wedi llwyddo gwneud, hyd yn hyn.


Am yr eildro'r wythnos hon, mae'r daith feics yn dechrau gyda thrip yn y car. Un amcan o'r wythnos yma o seiclo oedd gwneud routes newydd, ac o bryd i'w gilydd mae angen mentro tu hwnt i orwelion arferol er mwyn cyflawni hyn.


Felly rydw i a Dad ar y ffordd i lawr i Geredigion.


Mi ges i fy ngeni yn Aberystwyth, a threulio tair blynedd gynta fy mywyd yn byw yng Nghlarach cyn symud yma i'r Bala. Mae 'na gysylltiad i'm plentyndod ifanc pan yn teithio o Benllyn i Aber.


Mae'r route sydd gennym ni ar y gweill wedi bod yn uchel iawn ar fy rhestr 'i'w gwneud' ers iddo ymddangos yn rhifyn Rhagfyr 2019 o BikesEtc. Cylchgrawn sydd bellach, yn anffodus, ddim yn bodoli.


Maen nhw'n cychwyn yn Aber, ond rydym ni'n penderfynu dewis man dechrau sydd agosaf yn y car, wrth reswm.


Dydw i ddim yn meddwl fod Ceredigion yn cael ei adnabod am lefydd niferus i barcio, yn enwedig am gyfnod estynedig, a does dim lle amlwg yn ein dewis cyntaf, Tre'r Ddôl. Trown i'r dde, ac yn y pen draw down o hyd i le parcio tymhorol y Clwb Golff yn Ynyslas sy'n codi £2 y car am ddiwrnod. Mi wnaiff y tro'n iawn.


'Dech chi'n gwybod y teimlad o gerdded oddi ar awyren mewn gwlad dramor, sy'n teimlo fel cerdded i mewn i bopty?


Heddiw, mae cerdded allan o'r car fel cerdded i mewn i gorwynt.


Ar ôl dad-bacio'r car a gwneud y ffaff-cyn-reid, 'den ni'n barod i fynd.


Mae'r gwynt gorllewinol y tu cefn i ni yn bleserus dros ben, ac mae'n teimlo fel ein bod ni'n hedfan (bron) ar y ffordd i Dre'r Ddôl. Yma, rydym ni'n troi i'r dde ar yr A487. Dydy o ddim yn wych o ffordd i fynd ar feic o bell ffordd, ond dim ond cyfnod byr ydy o i Dalybont.


O'r ffordd brysur, ymhen munudau mae'n teimlo fel ein bod ni mewn byd gwahanol ar ôl troi i fyny am Nant y Moch.

Dyma i chi ddringfa ogoneddus. Mae'n dechrau'n weddol serth, cyn gostegu i raddiant digon cymhedrol o ryw 5% sy'n galluogi ichi fwynhau dringo fymryn yn fwy hamddenol.


Mae'n agor allan ac mi allwch chi weld yr hyn sydd o'ch blaen chi. Mae 'na adar ysglyfaethus yn hofran uwch y cwm islaw, ac wrth gymryd cip tu ôl i chi mae'r môr yn ymddangos mewn agoriad yn y tirwedd.

Dw i'n siwr fod y gwynt gorllewinol wedi ychwanegu at y pleser, ond mi'r oedd dringo i Nant y Moch yn brofiad gwerth chweil.


Mae'r ffordd yn nadreddu tua'r dde ac ymhen dim mae Llyn Nantycagl yn amlygu'i hun. Caiff ei gysgodi gan fryniau'r Elenydd ac mae ffrwd o'r pen deheuol yn llifo i Gronfa Ddŵr Nant y Moch.

Ceir rhannau cyflym wrth i ni gyrraedd glannau'r gronfa, wrth i ni ddilyn cyfeiriad y ffrwd. Adeiladwyd yr argae ym 1964 fel rhan o gynllun cynhyrchu trydan yr Afon Rheidol. Bu iddynt foddi pentrefan Nantymoch; symudwyd cyrff o'r fynwent i fynwent ym Mhonterwyd a bu rhaid i archaeolegwyr symud carneddau'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn.


 minnau'n byw yn ardal y Bala, dydy'r profiad o seiclo heibio cronfeydd dŵr ddim yn newydd - Llyn Celyn (1961) i'r gogledd a Llyn Efyrnwy (1888) i'r de ffurfiwyd i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.


Ond, wedi croesi'r argae, mae profiad newydd, hollol wahanol yn aros amdanaf. Y profiad o seiclo drwy gyr o wartheg yr ucheldiroedd; eu croen lliw sinsir a'u cyrn nodweddiadol (mi wnewch chi eu gweld os wnewch chi chwyddo'r llun isod yn y gornel dde).

Dim rhyfedd, felly, fod cymaint o gridiau gwartheg ar y ffordd anghysbell hwn. Mae'n sicr y mwyaf dwi wedi'u croesi ar un reid.


Wedi ennyd i ddod dros y profiad, ac i gofio 'mod i wedi bwyta byrgyr Angus yn Rhug ddoe... awn ymlaen i Bonterwyd.


Rydym ni'n cymryd y brif ffordd oddi yma i Bontarfynach. O ystyried beth mae'r rhan fwyaf o ffyrdd A debyg, mae hwn yn dawel o'i gymharu - a'r safon ddim cystal wedi iddyn nhw wasgaru graean.


Ar ôl ffordd mor dawel rhwng Talybont a Phonterwyd, roedd hi'n wahanol gweld bwrlwm ymwelwyr ym Mhontarfynach. Mae'n amlwg fod y rhaeadrau'n bot mêl, ac mae 'na deimlad cyfandirol iawn i'r lle, yn groes i'r disgwyl.


Heibio byrddau al fresco'r tai bwyta, 'den ni'n troi i'r chwith ar ddringfa fer, ddymunol Bwlch Bodcoll. O'i gymharu â'r ffordd A flaenorol, mae'r tarmac ar y ffordd B yma yn garped moethus dan yr olwynion.

Erbyn cyrraedd pen y bryn, mae'n amser cinio. Brechdanau jam amdani ar fwrdd picnic ger bwa'r Jubilee Arch. Mae'n gyrchfan i gerddwyr erbyn hyn, ac mi'r oedd y bwa'n borth i ystâd wreiddiol yr Hafod.


Mae'n orig braf iawn, ac mae'r ysbaid ar y goriwaered yn bleserus. Disgyniad cyflym o'r pen i lawr tua Cwmystwyth, ond pan 'den ni'n dechrau mwynhau, rhaid troi i'r dde oddi ar y ffordd yma a mynd tuag ystâd yr Hafod.

Ceir mymryn mwy o oriwaered, ond yn y diwedd, mae'r dringo'n ailddechrau. Rhannau digon serth, ond rhannau hamddenol hefyd yng nghysgod coed tal ar y naw blannwyd dros ddau ganrif yn ôl gan Thomas Johnes; perchennog yr ystâd.


Cyn bo hir, mae 'na gyfle am ymadferiad bychan eto wrth hedfan lawr goriwaered cyflym ar darmac safonol i Bontrhydygroes.


Yno, rydym ni'n troi i'r dde eto, a'n dechrau dringo ymhell o bob man. Wrth edrych tua'r dde, gwelwn olygfa ddigon rhyfedd - sgrap geir (Range Rover yn bennaf) anferth yn rywfaint o staen ar y tirlun tawel.


Awn ymlaen drwy anneddiadau Trisant a heibio i Lyn Frongoch - ffyrdd lle mae ceir yn brin; yn brinach o lawer na'r elltydd bychain, caled.


Yn y pen draw, rydym ni 'nol ar lwybr cadarn yr A4120, ac yn ei ddilyn yr holl ffordd i lawr i Aber. Ymddengys ar broffil y reid yn fwy o oriwaered nag yr oedd o'n teimlo yn y byd go iawn, wrth i'r gwynt 'na chwythu'n ein herbyn ni.


Teimlad cyfarwydd ar y reid oedd diweddglo cynamserol y goriwaered, ac wedi ffeindio'n ffordd drwy systemau unffordd a ffyrdd ar gau y dref brysur, roedd hi'n bryd dringo eto.


Allt Penglais yn disgwyl amdanon ni'r tro hwn, a dydy o ddim yn fy synnu i glywed fod rhai myfyrwyr yn cymryd tacsi i fyny i osgoi gorfod cerdded y graddiant serth.


Profiad newydd arall: seiclo heibio fy man geni, Ysbyty Bronglais. Y cylch wedi'i gwblhau!


Troi i'r chwith wedyn, a bod yn betrusgar ar y disgyniad cul a thechnegol i lawr i Langorwen a Chlarach, ac wrth gwrs dioddef gyrru gwirion ambell un.


Chwifio ar fy nghartref cyntaf wrth groesi'r bont; a dringfa ola'r dydd ar y gorwel.


Dydy o ddim yn hawdd ar ddiwedd reid, ar ddiwedd wythnos; ond diolch byth fod y gwynt un ai yn ein helpu ni, neu bod y gwrychoedd trwchus yn ein gwarchod rhagddo.


Mae yw gwybod fod y llwybr i ddiwedd y dydd o'r copa un ai ar y goriwaered neu'n wastad yn gwneud pethau'n haws.


Braf yw edrych dros y Borth a thuag Aberdyfi wrth hwylio i lawr graddiannau serth iawn i'r pentref glan môr; ac erbyn hyn y gwynt yn dod o'r de orllewin, a'n chwythu ni'n ôl i'r maes parcio.


Route a reid oedd yn cynnwys popeth; dringfeydd hamddenol a chaled, ffyrdd a lleoliadau tawel a byrlymus, tywydd da, golygfeydd da, a seiclo heibio gyr o wartheg sinsir.


Diwrnod i'r brenin ar ddwy olwyn.


Mae'n coroni wythnos wych o seiclo i mi. Roedd hi'n lled ymgais i gyrraedd brig tabl pellter Y Ddwy Olwyn un waith mewn blwyddyn, ond fel 'den ni'n ei weld droeon, does dim trechu Robyn Davies!


Fy Reid ar Strava

Route ar Komoot


Recent Posts

See All
bottom of page