top of page

Rhagolwg: Amstel Gold Race

Mae clasuron yr Ardennes ar gychwyn gyda'r glasur fryniog Iseldireg, Amstel Gold Race, sy'n baratoad perffaith at y moniwments sydd ar ddod - La Fleche Wallone a Liege-Bastogne-Liege.


Unwaith eto eleni, mae yn restr hir o ser yn mynd i fod yn herio'r ras eleni - a digon i gnoi cil arno cyn y ras.


Ond cyn mynd dros ras y dynion, dyma ragolwg ras y merched.


Amstel Gold Race Ladies Edition

Chantal Blaak oedd yn fuddugol yn 2018, gyda Lucinda Brand yn ail.

Mae'r glasur Iseldireg yn cynnig ras ym mamwlad nifer o raswyr gorau'r byd megis Anna van der Breggen, Annemiek van Vleuten a Chantal Blaak i enwi ond tair.


Bydd tim Boels Dolmans yn gwisgo crysau pincion am y ras hon yn unig i ddangos cefnogaeth i ymgyrch gancr y fron.


Y Cwrs

Mae'r cwrs yn 127km gan gynnwys undeg naw o ddringfeydd. Llai na hanner cwrs y dynion o ran pellter a dringfeydd.


Fodd bynnag, bydd y cwrs yn sicr o gynnig rasio cynhyrfus a byrlymus, gyda dringfa'r Cauberg yn dod o fewn y deng cilomedr olaf.


Y ffefrynnau


Chantal Blaak: Mae Chantal Blaak - y pencampwraig presennol yn y ras yma - eisoes wedi gorffen yn y deg uchaf bedair gwaith eleni, gan gynnwys buddugoliaeth yn Omloop Het Nieuwsblad. Bydd hi'n llawn hyder o gofio hyn ac o gael rhif un ar ei chefn.


Marta Bastianelli: Reidwraig sy'n sicr ar ei gorau eleni, a chyda buddugoliaethau niferus o dan ei gwregys, bydd yn hyderus o allu camu i ris ucha'r podiwm ar ddiwedd y ras.


Annemiek van Vleuten: Nid clasur sy'n gweddu i'r dringwraig pur yn hollol, ond o gofio'i gallu ar y dringfeydd, mae ganddi obaith lew o fuddugoliaeth.


Cecile Uttrup Ludwig: Reidwraig fywiog iawn (rhaid ichi wylio'i chyfweliad ar ol Taith Fflandrys) wnaeth orffen yn 3ydd yn De Ronde - clasur sydd a phroffil ddigon tebyg i Amstel Gold.


***

Chantal Blaak, Marta Bastianelli


**

Annemiek van Vleuten, Cecile Uttrup Ludwig, Elisa Longo Borghini


*

Marianne Vos, Kasia Niewiadoma, Ashleigh Moolman, Lucinda Brand


Rhagfynegiad


Gyda pherfformiadau cryfion o dan ei gwregys a rhif un ar ei chefn, credaf y bydd Chantal Blaak yn amddiffyn ei theitl eleni.


Amstel Gold Race (Y Dynion)

Michael Valgren ddaeth i'r brig yn 2018 - mae o bellach yn reidio i Dimension Data.

Y Cwrs

Mae ras y dynion yn un o rasys undydd anoddaf y flwyddyn, gyda degau o ddringfeydd bychain wedi eu gwasgu i 267km o rasio.


Y ddringfa olaf ond un, sef y Geulhemmerberg, yw'r un lle y byddwn yn gweld y grwp blaen yn lleihau.


Y ffefrynnau


Mathieu van der Poel: Mae VDP ar frig rhestr fefrynnau nifer helaeth iawn o bobl wedi iddo ddangos ei gryfder aruthrol yn De Brabantse Pijl ddydd Mercher, gan guro Julian Alaphilippe a Tim Wellens i'r llinell derfyn. Hon oedd ei ail fuddugoliaeth o'i dymor cyntaf, felly gallem ddisgwyl perfformiad gwych ganddo yn Amstel.


Julian Alaphilippe: Ras sy'n gweddu iddo i'r dim. Mae'n ddigon posib y gall y Ffrancwr ennill Amstel, Fleche Wallone a Liege-Bastogne-Liege yr wythnos yma - yn dilyn buddugoliaethau niferus ar draws y flwyddyn. Ond a fydd VDP yn sbwylio'i barti?


Tim Wellens: Yn drydydd yn Brabantse Pijl, mae'r dringfeydd di-ddiwedd yn gweddu i'w gryfderau. Mae wedi cael tymor clasuron sefydlog, gyda phodiwm yn Omloop Het Nieuwsblad a deg uchaf yn Strade Bianche. Bydd yn gobeithio ymestyn hynny heddiw.


Maximilian Schachmann: Mae gan Schachmann nifer o fuddugoliaethau o dan ei wregys eisoes eleni, ac mae'r ras hon yn gweddu iddo'n well na Peter Sagan, hefyd yn rasio i Bora. Dyma'r ras berffaith i fanteisio ar y cyfle i serennu.

Astana: Mae tactegau Astana wedi bod yn ganmoladwy hyd yma y tymor hwn, a nhw sy'n hawlio'r tim cryfaf yn y ras eleni. Jakob Fuglsang yw eu gobaith gorau o ennill y ras wedi iddo orffen yn ail yn Strade Bianche, ond gallent hefyd ddisgwyl perfformiad cryf gan Alexey Lutsenko, orffennodd yn 4ydd yn Omloop a 7fed yn Strade.


Michael Matthews: Mae Matthews wedi dangos ei gryfder eisoes eleni gan gipio dau gymal yng Nghatalwnia a gorffen yn y deg uchaf yn De Brabantse Pijl a De Ronde van Vlaanderen. Clasur sy'n gweddu iddo; bydd yn gobeithio am fuddugoliaeth.


Philippe Gilbert: Ras mae Gilbert wedi ennill bedair gwaith, ac yn dilyn buddugoliaeth yn Paris-Roubaix - tybed all o ychwanegu pumed at ei restr?


***

Mathieu van der Poel, Julian Alaphilippe, Maximilian Schachmann, Jakob Fuglsang


**

Tim Wellens, Alexey Lutsenko, Michael Matthews, Peter Sagan, Michal Kwiatkowski, Alejandro Valverde, Philippe Gilbert


*

Michael Valgren, Enrico Gasparotto, Matteo Trentin, Matej Mohoric, Oli Naesen, Greg van Avermaet, Alberto Bettiol, Wout van Aert, Wout Poels


Rhagfynegiad


Credaf y bydd Mathieu van der Poel yn cipio'i fuddugoliaeth fwyaf hyd yma yn Amstel Gold, yn seiliedig ar ei berfformiadau diweddar.

Recent Posts

See All
bottom of page