top of page

Rhagolwg: Cymalau Cymru Tour of Britain 2021


Dau fap oddi ar wefan y Tour of Britain. Llun chwith: Gallt Nebo. Llun dde: Ffynnon Eidda. Cefndir: ffordd rhwng y Borth ac Ynyslas.

Er fod y Tour of Britain fel yr ydym ni'n ei adnabod heddiw ond wedi dechrau ers 2004, mae gwreiddiau'r ras yn dyddio'n ôl i ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.


Fel y byddai un yn ei ddisgwyl, mae rhan Cymru yn y ras wedi bod yn annatod ers y cychwyn cyntaf. Ym mis Mehefin 1942, cafodd ras ei drefnu o Langollen i Wolverhampton. Ym 1946, cynhaliwyd ras aml gymal o Brighton i Glasgow am y tro cyntaf; barodd yn flynyddol hyd 1952.


Rhwng y flwyddyn honno a 1956 cynhaliwyd dwy ras; y Tour of Britain a'r Circuit of Britain, ond ym 1958 dechreuodd y Milk Race, ras amateur i ddechrau drodd yn pro-amateur, barodd tan 1993.


Roedd 'na ras arall i'r reidwyr proffesiynol o 1989 hyd 1994, sef y Kellogg's Tour. Rhedwyd y PruTour ym 1998 a 1999, ac wedi ambell flwyddyn o fwlch dechreuodd y ras fodern yn 2004.


Wedi bwlch o flwyddyn llynedd yn sgil y pandemig, mae'r Tour of Britain yn ôl eleni.


Mathieu van der Poel oedd yn fuddugol y tro diwethaf yn 2019 - ac er na fydd o'n cymryd rhan eleni, mi fydd enillydd 2018 a phencampwr y byd, Julian Alaphilippe, yn ein hanrydeddu â'i bresenoldeb.


Ymysg y gynau mawrion eraill sy'n cymryd rhan yn y ras mae Mark Cavendish, Richie Porte, Michał Kwiatkowski, Wout van Aert, Tony Martin, Dan Martin, Mike Woods, Marc Soler a Giacomo Nizzolo. Mae'n deg dweud bod digon o reidwyr enwog i edrych allan amdanyn nhw os y byddwch chi'n gwylio ar ochr y ffordd.


Digon o Gymry hefyd; Owain Doull o Ineos Grenadiers, Ethan Vernon o dîm Prydain a Gruffudd Lewis o Ribble-Weldtite (a SeicloS4C wrth gwrs!) i enwi ond tri.


Mae'r Tour of Britain yn un o'r rasys hynny lle nad oes traddodiad o ran lliw'r crysau - fel arfer caent eu pennu gan y noddwyr. Mae 'na deimlad jac yr undeb-aidd am grys yr arweinydd; yn las gyda rhannau coch a gwyn. Gwyrdd yw lliw'r dringwr gorau, coch i'r gwibiwr gorau a glas golau i'r sawl sy'n casglu'r mwyaf o bwyntiau.


Newyddion da i'r Cymry; mae 'na ddau gymal i ni eu gwylio, a'r ail o'r rheiny'n teithio 210km (120 milltir) o Aberaeron i Landudno - felly mae cyfle i lawer wylio rhai o seiclwyr gorau'r byd yn mynd heibio.


Ond cyn hynny, bydd ras yn erbyn y cloc i dimau o Landeilo i Ardd Fotaneg Cymru ddydd Mawrth. Gadewch i ni gymryd golwg fanylach:


Cymal 3, Llandeilo i Ardd Fotaneg Cymru (RECT)

Dydd Mawrth, 7fed o Fedi

Map swyddogol oddi ar wefan y ras


Ar ôl dau gymal agoriadol yn Nyfnaint a Chernyw - o Penzance i Bodmin ar gymal 1 (fydd wedi gorffen erbyn ichi ddarllen hwn nos Sul) ac wedyn o Sherford i Gaerwysg ar gymal 2 - bydd reidwyr y Tour of Britain yn aros yn Abertawe nos Fawrth cyn teithio i Landeilo.


Deunaw o dimau sy'n cymryd rhan yn y ras eleni, gyda chwe reidiwr i bob tîm. Bydd y timau'n mynd bob yn un, y cynta'n cychwyn am 13:05 a'r olaf am 14:35, a'r tîm fydd yn recordio'r amser cyflymaf fydd yn ennill.


Nid oes hawl i'r cyhoedd wylio'r dechrau yn Ysgol Bro Dinefwr, Llandeilo, ond mae caniatad i wylio unrhyw le arall ar y cwrs.


Pe hoffech wylio'r diwedd yn yr Ardd, bydd tocyn parcio a mynediad yn costio £10. Yn ôl y wybodaeth sydd wedi'i roi yn y race manual, mae disgwyl i'r timau gyrraedd rhwng 13.27 a 14.56.


Bydd y cyflwyniadau (enillwyr ac ati) yn digwydd o 15.25 ymlaen.



Cymal 4, Aberaeron i Ben y Gogarth

Dydd Mercher, 8fed o Fedi

Mae'r ras yn dechrau yn nhref Aberaeron am 10.30. Yn debyg i'r cymal blaenorol, does dim mynediad i'r man cychwyn ei hun gan fod hwnnw'n cael ei gyfyngu i VIPs a'r cyfryngau ac ati. Ond, mae Cyngor sir Ceredigion wedi ymestyn y gwaharddiad i'r dref gyfan oherwydd Covid-19.


Mae'r rhan fwyaf o'r route yn gyfarwydd i mi, fel nifer ohonoch chi hefyd mae'n siwr. Ar yr A487 yr aent drwy Llanrhystud i mewn i Benparcau (11.12-11.18), heibio'r Tesco wedyn fyny Allt Penglais; lle dwi'n gwybod y bydd nifer yn gwylio.


Parhau wnaent i Bow Street (11.22-11.30) cyn troi i'r chwith yn Rhydypennau a chyrraedd y Borth. Bydd 'na wib ganolig yn y Borth (11.34-11.45) felly dwi'n siwr y bydd 'na fwrlwm yn fanno.


Ailymuno â'r A487 yn Nhre'r Ddôl a'i ddilyn drwy Fachynlleth (12.00-12.15) cyn cyrraedd y ddringfa gategoredig gyntaf ar y cymal; Bwlch Tal y Llyn (12.22-12.43). Mae'n dipyn o 'slog'.


Troi i'r chwith ar yr A470 yn Cross Foxes, cyn mynd drwy dref Dolgellau ar eu ffordd i'r Bermo (12.53-13.22). Ar hyd arfordir Ardudwy wedyn i Harlech, ac ymlaen i Dalsarnau lle mae 'na wib ganolig arall (13.24-13.59).


Ymhen ychydig, byddent yn cyrraedd Maentwrog (13.34-14.12) a dechrau dringfa fwya'r dydd i Ffynnon Eidda.


Y rhan cyntaf yw'r serthaf, elwir yn Allt Goch yn lleol, sy'n dringo ar gyfartaledd o 9% i Lan Ffestiniog (13.41-14.20). Dringa'n gyson wedyn ac wrth edrych tua'r dde mi welwch chi'r môr eto. Lle da i wylio fydd ger y grid gwartheg (golygfa dda, 13.47-14.27), neu wrth gwrs ar y brig ger y ffynnon (13.50-14.31).


Disgyniad cyflym sy'n dilyn i lawr i Ysbyty Ifan, cyn ymuno â'r A5 i Bentrefoelas. Mae 'na ddringfa wych i ddod rhwng fanno a phentref Nebo, gyda golygfeydd gwych tuag at fynyddoedd mawrion Eryri. Disgwyl iddynt gyrraedd y pentref rhwng 14.18 a 15.05.


Siawns y bydden nhw wedi tarmacio'r disgyniad i Lanrwst ar eu cyfer (roedd o'n ofnadwy tro diwethaf fues i); byddent yn cyrraedd y dref rywben rhwng 14.26 a 15.15.


Cymryd y ffordd gefn wnaent wedyn ar lawr dyffryn Conwy drwy'r pentrefi niferus; un ohonynt, Dolgarrog, yn leoliad y wib ganolig olaf (14.36-15.28).


Parhau ymlaen i dref Conwy, trwy Ddeganwy (14.54-15.50) a throi'r dde i ddechrau Cylchdro'r Gogarth (tollffordd 5 milltir sy'n atyniad twristaidd poblogaidd) gan gynnwys dringfa gategoredig.


Maen nhw'n gwneud un rhan fer ddwy waith, felly os hoffech chi weld y ras ddwywaith mewn diwrnod mae 'na gyfle i chi wneud hynny yn Llandudno (defnyddiwch y map uchod i weld yn union lle).


I orffen y cymal, mae diweddglo mawreddog wrth droi i'r chwith i fyny Ffordd Ty Gwyn i Ben y Gogarth, diweddglo copa - y ras i orffen rywbryd rhwng 15.15 a 16.15.


Mae'n dipyn o route, 210km, sy'n sicr yn arddangos rhai o ardaloedd harddaf Cymru ac yn rhoi darlun o arfordir a mynyddoedd ein cenedl.


Chapeau i David Cole o bodlediad Nawr yw'r Awr wnaeth seiclo'r route yn gynharach yr wythnos hon!


 

I'r dwyrain ac yna i'r gogledd fydd trywydd taith y Tour wedi'r ymweliad â Chymru; o Alderley Park i Warrington ar gymal 5, o Carlisle i Gateshead ar gymal 6, o Hawick i Gaeredin ar gymal 7 ac wedyn o Stonehaven i Aberdeen ar gymal 8 i orffen.


Mae'n sicr yn argoeli i fod yn ras ddifyr i'w gwylio, o ran y seiclwyr ac o ran y tirwedd.


Dwi'n eiddigeddus iawn o unrhyw un fydd yn ddigon ffodus o allu mynd i wylio'r ras ar y cymalau Cymreig (neu unrhyw le arall), felly anfonwch eich lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol gan dagio @cycling_dragon ar Twitter neu @yddwyolwyn ar Instagram.


Yn fwy na dim, mwynhewch - mae'n siwr o fod yn brofiad cofiadwy.

Recent Posts

See All
bottom of page