top of page

Rhagolwg: De Ronde Van Vlaanderen

De Ronde Van Vlaanderen. Tour of Flanders. Taith Fflandrys.


O bosib y diwrnod gorau o rasio beics mewn unrhyw flwyddyn, diolch i'r coblau a'r dringfeydd mileinig yn ogystal a'r ffaith fod y ras mor anrhagweladwy.


Cynhelir y ras eleni ddydd Sul yma, y seithfed o Ebrill,. Dyma fy rhagolwg i o ras y dynion a ras y merched.

Diolch yn fawr i Ifan Gwilym am y collage gwych yma o luniau o ras 2015 a 2018.


Ras y Dynion

Y Cwrs

Gellir rhannu cwrs 270km De Ronde i dri rhan. 'Dw i'n debyg o wylio 100km olaf y ras.

  • Mae’r rhan gyntaf o 97km yn gymharol wastad heb ddringfeydd nodedig.

  • Mae’r ail ran yn gylch o 123km gan ddechrau a gorffen yn Oudenaarde, gydag un-ar-ddeg o ddringfeydd.

  • I gloi, mae cylch yn hanner can cilomedr gyda chwe dringfa.


Dringfeydd

Llun: CyclingStage

Muur van Geraardsbergen / Muur-Kapelmuur: Dyma ddringfa 475m ar 9.3% sy’n nodedig ac eiconig iawn gyda’r reidwyr yn brwydro’r coblau mileinig i’r capel ar y copa, ond nid yw’n debygol o fod yn rhy allweddol yng nghanlyniad y ras.


Koppenberg: Dringfa hollol hollol ddieflig gyda rhannau o raddiant hurt bost; gyda’r ddringfa’n 600m o hyd ar gyfartaledd o 12%. Digon i hollti’r pac efallai, ond mae’n annhebygol eto o siapio’r canlyniad.


Oude Kwaremont a’r Paterberg: Mae’r Kwaremont yn un o’r hiraf yn y ras yn 2.2km ar 4%, tra bo’r Paterberg yn 360m ar 13%. Dyma’r ddau ddringfa olaf yn y ras, ac felly’n cynnig y cyfle perffaith am ymosodiad llwyddiannus.


Y ffefrynnau


Dros y deg mlynedd diwethaf, mae chwech taith Fflandrys wedi eu hennill o ymosodiadau unigol – gyda’r pedwar arall o grwp o rhwng 2 a 4 reidiwr.


Gallem ddisgwyl dihangiad cynnar, ond neb o hwnnw’n llwyddo. Mae’n fwy tebygol felly y bydd ymosodiad hwyr yn llwyddiannus.


Ond pwy sydd yn mynd i herio’r fuddugoliaeth?


Deceuninck QuickStep: Dyma’r tim sydd wedi dominyddu’r clasuron yn hollol hyd yma gyda’u hystod eang o dalent yn dod ag ugain o fuddugoliaethau i’r tim hyd yma eleni. Allan o’u roster sydd hefyd yn cynnwys Yves Lampaert a Bob Jungels; Zdenek Stybar sydd a'r rhediad orau wedi iddo eisoes gipio buddugoliaethau haeddiannol yn E3 Binck-Bank ac Omloop Het Nieuwsblad yn y clasuron eleni.


Mathieu van der Poel: Er bod pellter y ras hon yn begynnol o’i gymharu a rasys byrion seiclo traws, mae’i allu i wneud ymosodiadau byrion a chynnal cyfradd calon uchel iawn yn gwneud y ras yn un sy'n addas iawn iddo ac mae buddugoliaeth yn Dwars Door Vlaanderen yn gynharach yr wythnos yma wedi esgyn VDP i'r band uchaf o ffefrynnau.


Wout van Aert: Mewnfudwr arall o fyd seiclo traws yw Wout van Aert, sy'n reidio ar hyn o bryd i dim Jumbo Visma. Mae wedi gorffen ar y podiwm ddwywaith yn y clasuron eleni - yn Strade Bianche (3ydd) a E3 BinckBank (2il), a gorffen yn chweched yn Milan-San Remo. Byddai rhai'n dadlau bod y ras yma'n hyd yn oed yn fwy ffafriol iddo, ac felly gallwn obeithio perfformiad cryf ganddo dydd Sul.


Greg van Avermaet: Bygwth yn unig mae GVA wedi ei wneud yn nhymor y clasuron hyd yma eleni, a rhediad di-fuddugoliaeth sydd ganddo. Er hynny, mae yntau wedi gorffen ar y podiwm ddwywaith. Bydd bod yn rhan o'r grwp cywir yn allweddol iddo.


Peter Sagan: Tymor siomedig hyd yma i Peter Sagan ac yntau hefyd heb fuddugoliaeth yn y clasuron eleni - yn wahanol i'r blynyddoedd diwethaf lle mae wedi ennill o leiaf un erbyn De Ronde. Wedi dweud hynny, Peter Sagan ydy o - does wybod beth all o gyflawni!


Niki Terpstra: Mae ennillydd llynedd wedi cael trafferth dod o hyd i berfformiadau da y tymor hwn wedi iddo adael QuickStep am Direct-Energie. Ei ganlyniad gorau oedd 3ydd yn Kuurne-Brussels-Kuurne ac mae'n dibynnu ar ei allu unigol i gael unrhyw beth o'r ras yma.


Luke Rowe: Ai dyma blwyddyn y Cymro? Dangosodd ei gryfder yn Gent-Wevelgem a Dwars Door Vlaanderen wythnos diwethaf -- ond tybiaf fod Paris-Roubaix yn fwy addas iddo.


Trek-Segafredo: Mae carfan Trek yn addawol gan fod yn addas ar gyfer nifer o sefyllfaoedd, gyda Jasper Stuyven, John Degenkolb a Mads Pedersen (ail y llynnedd) yn rasio.


Tiesj Benoot: Reidiwr sy'n canolbwyntio ar y rasys mwyaf, ydy o'n barod i gamu i ris uchaf podiwm De Ronde?


Michael Valgren: Annhebygol o'i weld yn herio'n rhy ddifrifol wedi perfformiadau siomedig hyd yma.


Alexander Kristoff: Ennillydd 2015 ac ennillydd Gent-Wevelgem wythnos diwethaf, mae gan Kristoff wib ddi-guro ar ei orau.


Pwy sydd ar goll?: Mae'n ansicr os y bydd Philippe Gilbert (salwch bol) ac Oliver Naesen (bronchitis) yn rhan o'r ras ddydd Sul, tra bo Sep Vanmarcke yn gwella o anafiadau ddioddefodd yn E3 a ddim yn siwr os y bydd yn rasio.


*** Stybar, Jungels, Van der Poel

** Van Aert, Van Avermaet, Sagan, Gilbert, Lampaert, Terpstra, Rowe

* Benoot, Stuyven, Degenkolb, Kristoff, Valgren, Valverde, Ballerini, Trentin, Matthews


Rhagfynegiad


Fel dwi wedi son yn gynharach, mae’r canlyniad yn un anodd i’w rhagweld, ond mae hefyd yn anodd gweld unrhyw beth yn atal tactegau goruchafol QuickStep yn llwyddo – ac felly Zdenek Stybar yw’n rhagfynegiad i.


Ras y Merched

Y Cwrs

O ran ras y merched, mae'r cwrs yn gylch 157km gan ddechrau a gorffen yn Oudenaarde.


Mae'n cynnwys pedair sector goblog, gan ddechrau a Lange Munte wedi llai na deng cilomedr - a deg hellingen (dringfa) yn ogystal.


Dringfeydd


Muur van Geraardsbergen / Muur-Kapelmuur: Fel ras y dynion, mae'r reidwyr yn dringo am y capel am 450m ar 9.3% ac eto'n annhebygol o siapio'r canlyniad.


Oude Kwaremont a’r Paterberg: Dyma'r par o ddringfeydd lle bydd yr ymosodiad tyngedfennol yn cael ei lansio gyda'r Paterberg yn dod lai na phymtheg cilomedr o'r diwedd.


Y ffefrynnau


Boels-Dolmans: Tim sydd eto mor oruchafol o gryf yn y ras yma. Nid yw pencampwr llynnedd, Anna van der Breggen, yn rasio felly mae gobeithion y tim gan Chantal Blaak (1af Omloop, 2il Ronde van Drenthe), Amy Pieters (yn y pump uchaf bedair gwaith yn y clasuron eleni) a Jip van den Bos (1af Le Samyn, 3ydd Omloop).


Annemiek van Vleutn: Dyma dim cryf arall sy'n cynnwys ennillydd Strade Bianche, Annemiek van Vleuten. Mae hi hefyd wedi gorffen yn y deg uchaf yn Dwars door Vlaanderen a Omloop Het Nieuwsblad, ac wedi ennill y ras yma yn 2011. Y prif ffefryn heb os.


CCC Liv: Arweinydd CCC-Liv yw Marianne Vos, sydd wedi ennill Trofeo Binda a bod yn y deg uchaf yn Driedaagse Brugge-De Panne a Strade Bianche eisoes yn 2019 - yn ogystal a thair pencampwriaeth byd, 5 Fleche Wallone ac un De Ronde yn y gorffennol. Gobaith arall y tim yw Ashleigh Moolman - ond 6ed yw ei chanlyniad gorau hyd yma a hynny yn Strade Bianche.


Kirsten Wild: Mae Kirsten Wild ar dan wedi dau fuddugoliaeth o dri yn nhymor y clasuron eleni - y rheiny'n dod yn Driedaagse Brugge-De Panne a Gent-Wevelgem. Tybed all hi gipio'r fuddugoliaeth ddydd Sul?


Marta Bastianelli: Bastianelli sydd ar frig y WorldTour ar hyn o bryd wedi iddi gipio buddugoliaethau yn Omloop van het Hageland a Ronde van Drenthe. Yn ogystal, yn y saith ras arall mae wedi cystadlu ynddynt hyd yma eleni, mae wedi gorffen yn yr wyth ucha bob tro.


Trek-Segafredo: Mae gan y tim cryf yma dair reidwraig sydd yn debygol o herio yn Lotta Lepisto, Elisa Longo Borghini ac Ellen van Dijk. Van Dijk yw eu gobaith gorau o ennill y ras o ystyried ei rhediad - 1af yn Dwars Door yn gynharach wythnos yma a podiwm yn Ronde van Drenthe.


Sunweb: Ennillodd Coryn Rivera y ras yma yn 2017, ond mae eu gobeithion wedi selio ar Lucinda Brand wedi iddi orffen yn drydydd yn Dwars Door.


*** Bastianelli, Van Vleuten, Vos, Blaak

** Van Dijk, Brand, Pieters, van den Bos, Wild

* Rivera, Lepisto, Borghini, Moolman, C.U. Ludwig, Niewiadoma


Rhagfynegiad


Wedi ei buddugoliaeth yn Strade Bianche a llwyth o rasys eraill tebyg yn y gorffennol, dwi'n proffwydo mai Annemiek van Vleuten fydd yn ennill De Ronde van Vlaanderen ddydd Sul.

 

Cofiwch ymuno yn y drafodaeth ar Twitter, ac edrychaf ymlaen i gael eich cwmni ar gyfer mwy gynnwys diddorol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page