top of page
Writer's pictureGruffudd ab Owain

Rhagolwg: Le Tour de France 2019

Onid ydy blwyddyn wedi pasio'n sydyn?! Blwyddyn ers ysgrifennu rhagolwg cyn buddugoliaeth hanesyddol Geraint Thomas yn y Tour yn 2018.


Mae Geraint yn dychwelyd i'r ras fel deiliad y teitl eleni, heb gysgod Chris Froome sydd bellach yn gwella wedi anafiadau difrifol brofwyd yn y Criterium du Dauphine.


Gwella yr oedd rhaid i Geraint wneud yn ddiweddar hefyd wedi iddo fo gael codwm yn y Tour de Suisse - tybed sut y bydd hynny'n effeithio ar ei gyfleon o amddiffyn y teitl.


Mwy am y ffefrynnau yn y man.


Y Cwrs


Yr wythnos gyntaf: Mae ychydig bach o bopeth yn yr wythnos gyntaf, gyda'r Grand Depart ym Mrwsel eleni. Gwlad Belg yw cartref cymal 1 (gwibwyr) a chymal 2 (RECT), cyn croesi'r ffin i Ffrainc ar cymal 3 ar gyfer diweddglo fydd yn sialens i'r gwibwyr pur. Wedi cymal 4 (gwibwyr) a chymal 5 (bryniog), bydd diweddglo copa cyntaf y Tour eleni ar La Planche des Belles Filles ar cymal 6, sy'n go heriol gyda saith dringfa gategoredig. Cymal i wibwyr sy'n cloi'r wythnos gyntaf.


Yr ail wythnos: Symud tua'r canolbarth wnai'r peloton ar gymal 8 bryniog i Saint Etienne, a hynny'n arwain at ddau gymal bryniog arall cyn y diwrnod gorffwys wedi cymal 10. Wedi cymal i wibwyr ar cymal 11, bydd y ras yn dechrau cynhesu wrth gyrraedd y Pyrenees ar cymal 12. Wedi REC yn Pau ar cymal 13, bydd ail ddiweddglo copa'r Tour eleni a hynny ar yr eiconig Col du Tourmalet ar cymal 14. Dim cyfle i adfer y coesau ar cymal 15, lle bydd diweddglo copa arall ar y Prat d'Albis. Diwrnod gorffwys sy'n dilyn hynny.


Y drydedd wythnos: Cymal i'r gwibwyr i Nimes ar cymal 16, cyn bydd yr Alpau'n aros am y peloton. Cymal cymharol fynyddig ar cymal 17, cyn y bydd angen concro'r Col du Izoard a'r Col du Galibier ar cymal 18. Diweddglo copa arall sydd ar cymal 19, a hynny yn Tignes, cyn y cymal dringo olaf ar cymal 20. Cymal all fod yn hollol allweddol i'r crys melyn, o Albertville dros gopaon y Cormet de Roselend a'r Cote de Longefoy, cyn dringo i'r diwedd yn Val Thorens. Cymal prosesiwn i orffen ar cymal 21.


Y Crys Gwyrdd


Crys y dosbarthiad bwyntiau yw'r crys gwyrdd - un y mae'r gwibwyr fel arfer yn ei hawlio. Pwy yw'r ffefrynnau eleni?


Peter Sagan: Ac yntau wedi ennill y crys gwyrdd chwe gwaith o'r blaen, mae'n hawdd gweld Sagan ar y podiwm yn Paris a'r maillot vert ar ei ysgwyddau. Er mai cymharol ddistaw y mae ei dymor wedi bod hyd yn hyn, llwyddodd i gipio cymal a'r dosbarthiad bwyntiau yn ei ras ddiwethaf, sef y Tour de Suisse.


Dylan Groenewegen: Mae'r gwibiwr pur wedi cipio deng buddugoliaeth eisoes eleni, ac mi fydd yr Iseldirwr ifanc yn ysu am gael profi ei allu ar lefel y Tour de France unwaith eto.


Wout van Aert: Ond ai Wout van Aert fydd yn derbyn ffafriaeth Jumbo-Visma? Ennillodd y dosbarthiad bwyntiau, cymal REC a chymal wibio yn y Criterium du Dauphine. Penbleth i'r tim - byddwn i'n bersonol yn rhoi cyfleon hafal iddynt yn hytrach na dewis rhwng record Groenewegen a thalent anhygoel van Aert.


Caleb Ewan: Tymor go lwyddiannus i'r Awstraliad hyd yn hyn gyda chwe buddugoliaeth dan ei wregys eisoes - dau o'r rheiny yn dod yn y Giro d'Italia.


Elia Viviani: Gadawodd Viviani'r Giro'n waglaw, ond mae yntau wedi cipio chwe buddugoliaeth eleni dan adain tim cryf Deceuninck QuickStep.


Julian Alaphilippe: Wedi perfformiadau cryfion mewn gwib ac mewn rasys undydd amrywiol, mi fydd hi’n ddiddorol gweld os mai’r gwyrdd fydd ei darged yn hytrach na’r polca.


Maximilian Schachmann: Reidiwr cryf ar draws y flwyddyn hyd yma, ond efallai‘i bod ei gyfle am y gwyrdd i ddod mewn blynyddoedd i ddod.


Mark Cavendish: Yn dychwelyd i'r ras eleni i geisio am record cymalau Eddy Merckx. Byddai'n wych ei weld yn llwyddo wedi cymaint o anafiadau'n ddiweddar.


Peidiwch diystyrru Matteo Trentin, Alexander Kristoff, Andre Greipel a Michael Matthews chwaith, mae digon o allu a phrofiad ganddyn nhw i herio rhai cymalau.


Crys Melyn

Ffefrynnau Un Seren


Dyma rai o'r reidwyr sy'n debygol o fod yn rhan o frwydr y dosbarthiad cyffredinol gan obeithio cyrraedd y deg uchaf.


Wedi perfformiadau cadarnhaol yn y gorffennol, gallem ddisgwyl gweld George Bennett, Wilco Kelderman, Emanuel Buchmann, Fabio Aru, Simon Yates, Alejandro Valverde ac Ilnur Zakarin yn rhan o'r llun mawr.


Ffefrynnau Dwy Seren


Gallem ddisgwyl y bydd Steven Kruijswijk, Marc Soler ac Adam Yates yn herio'r pump uchaf yn y mynyddoedd mawr.


Llynnedd, chwaraeodd Enric Mas, Dan Martin, Romain Bardet a Rigoberto Uran rannau allweddol yn y ddrama, tra y bydd Luis Leon Sanchez yn gobeithio am ychydig o lwc wedi anlwc yn y Giro d'Italia.


Ffefrynnau Tair Seren


Yr haen uchaf o ffefrynnau - dyma'r reidwyr fydd yn debygol o herio'r podiwm a cheisio ennill y Tour de France 2019.


Geraint Thomas: Deiliad y teitl, ac eleni'n rhannu cyd-arweiniaeth gydag Egan Bernal. Er dechrau digon distaw i'r tymor, mae wedi llwyddo i orffen yn 3ydd yn y Tour de Romandie yn ddiweddar cyn gorfod gwella o anafiadau o'r Tour de Suisse. Mi fydd hi'n ddiddorol gweld os mai ef fydd yn cael ffafriaeth y tim er cyd-arweiniaeth ac yntau ddim a record gystal a Bernal eleni.


Egan Bernal: Son am Bernal, fo ennillodd y Tour de Suisse - ei ail fuddugoliaeth DC o'r flwyddyn wedi Paris-Nice. Ar ben hynny, mae wedi edrych yn gryf drwy gydol y tymor gan orffen ar y podiwm yng Nghatalwnia ac yn bedwerydd yng Ngholombia. Yn fy marn i, y reidiwr cryfaf yn nhim Ineos ar hyn o bryd yw Bernal, ond cawn weld sut siap fydd ar Geraint wedi i ni fethu ei weld yn y Swistir wedi'i ddamwain.

Jakob Fuglsang: Ennillydd y Criterium du Dauphine (am yr ail waith eleni), mae'r gwr o Ddenmarc yn edrych yn gryfach na llawer o'r ffefrynnau eraill ar hyn o bryd. Serch hynny mae’n cyfaddef ei hun nad yw’n gryf yn y drydedd wythnos.


Vincenzo Nibali: Blinder wedi’r Giro fydd problem Nibali dwi’n meddwl, ond mi fydd yn benderfynol o gyrraedd y podiwm wedi’i ddamain llynedd.


Thibaut Pinot: Reidiwr arall sy’n edrych yn hynod o gryf ar hyn o bryd, ac am y tro cyntaf dwi’n credu mai o ydy gobaith gorau’r Ffrancwyr eleni.


Nairo Quintana: Gobaith orau tîm hurt o gryf Movistar, ond ydy’r Colombiad heibio’i orau? Cawn weld.


Richie Porte: Reidiwr ddylai ennill Grand Tour ryw ddydd, ond mae’r amser yn prinhau i’r Awstraliad. Eleni neu fyth?


Rhagfynegi


Dwi’n meddwl y bydd dau o ennillwyr llynnedd yn amddiffyn eu teitlau - Peter Sagan yn ennill y crys gwyrdd eleni a Julian Alaphilippe yn cipio’r polca.


I ennill y Tour de France? Egan Bernal.


Ymunwch yn y drafodaeth ar Twitter!

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page