top of page

Rhagolwg: Liege-Bastogne-Liege

Dyma bedwaredd moniwment y flwyddyn. Mae Fleche Wallonne wedi bod yn baratoad perffaith i'r reidwyr, gyda Julian Alaphilippe yn trechu Jakob Fuglsang yn ras y dynion, ac Anna van der Breggen yn cipio'i pumed buddugoliaeth o'r bron yn ras y merched.


Cyn edrych ar ras y dynion, dyma ragolwg ras y merched.


Liege Bastogne Liege Y Merched


Y Cwrs


Cwrs newydd i ras y merched, gyda'r ras bellach yn gorffen yn Liege. Pum dringfa gategoredig sydd yma, gyda'r olaf yn dod ychydig dros ddeg cilomedr o'r diwedd.


Y ffefrynnau


Anna van der Breggen: Mae'r Iseldires wedi profi cryn dipyn o lwyddiant yn yr Ardennes yn y gorffenol, gan gyflawni'r trwbl (Amstel, Fleche, Liege) yn 2017 a'r dwbl (Fleche a Liege) yn 2018. Mae'n bosib iddi efelychu ei pherfformiad llynnedd wedi buddugoliaeth gadarnhaol iawn ganol wythnos yn La Fleche Wallonne.


Annika Langvad: Yn dod o gefndir beicio mynydd, mae Annika Langvad wedi cropian yn dawel i uchelfannau clasuron yr Ardennes eleni. Er yn cefnogi van der Breggen, mae hi hefyd wedi llwyddio i gaslu 2il, 3ydd a 4ydd safle yn ei thair ras ar y ffordd hyd yma.


Annemiek van Vleuten: Er fod y cyrsiau'n gweddu iddi i'r dim, dydy Annemiek van Vleuten heb gasglu un buddugoliaeth yng nghlasuron yr Ardennes. Yn dilyn perfformiadau cryf sydd wedi arwain at dri 2il yn olynol, bydd yn gobeithio newid y record hwnnw.


Marianne Vos: Un sy'n sicr am herio'r podiwm wedi canlyniadau cyson a chadarnhaol yn Brabantse Pijl, Amstel Gold a Fleche Wallonne.


Kasia Niewiadoma: Wedi ei buddugoliaeth wych yn Amstel Gold, bydd Kasia Niewiadoma yn obeithiol o efelychu'r canlyniad a'r perfformiad hwnnw yma.


Liege Bastogne Liege Y Dynion


Y Cwrs


Mae'r cwrs wedi ei ddiwygio ar gyfer ras eleni - gyda dringfa anoddach i orffen, ond hynny'n dod 13km o'r llinell derfyn.


Y ffefrynnau


Julian Alaphilippe: Yn cipio buddugoliaethau fel y mynna hyd yn hyn eleni, mae'r Ffrancwr yn myned y ras yma yn ffres o fuddugoliaeth ganol-wythnos yn La Fleche Wallonne i ychwanegu at restr sy'n cynnwys Strade Bianche, Milan-San Remo a llu o gymalau yn 2019. Mae ei allu i ddringo ac i orffen ar wib yn ei wneud yn ffefryn pennaf ar gyfer y ras.


Jakob Fuglsang: Mae Fuglsang wedi gorffen yn ail i Alaphilippe ddwywaith eleni yn y clasuron a hynny yn Strade ac yn Fleche. Er yn edrych yn gryf, bydd angen gwyrth arno i gamu i'r gris uchaf.


Maximilian Schachmann: Mae'r proffil diwygiedig yn gweddu i rinweddau Schachmann yn berffaith - ei allu i ddringo ac i wibio. Yn fy marn i, y reidiwr o Bora-Hansgrohe yw'r un i herio Alaphilippe gan ymestyn ar ganlyniadau cyson yr wythnosau diwethaf.


Michal Kwiatkowski: Credaf fod y proffil newydd yn gwneud y ras yma'n un sy'n gweddu i Kwiatkowski hyd yn oed yn fwy. Bydd yn sicr yn abl o gael ei hun yn y grwp buddugol, ac mae'r gallu ganddo i guro nifer o ffefrynnau eraill yn y wib.


Michael Matthews: Y gwibiwr cyflymaf yn y rhestr yma, bydd y diweddglo gwastad yn sicr yn help mawr iddo i esgyn ei gyfleon o ennill y ras.


----


Dyna gloi fy nghyfres o ragolygon yn y clasuron, diolch am eu darllen. O ran seiclo proffesiynol, byddaf y dychwelyd ymhen wythnos i bythefnos i ragolygu'r Giro d'Italia - y cwrs a'r reidwyr, ac yn gyffredinol mae cynnwys lleol a rhyngwladol i ddod yn yr wythnos nesaf.


Yn y cyfamser, ymunwch a'r drafodaeth seiclo ar Trydar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Recent Posts

See All
bottom of page