top of page

Rhagolwg: Pencampwriaethau'r Byd Fflandrys 2021

Nid pob buddugoliaeth sy'n golygu eich bod yn cario gwobr weladwy ar eich ysgwyddau am flwyddyn gron.


Er mor arbennig, mae'n siwr, ydy o i ennill y Tour de France, y Giro d'Italia, y Vuelta, Paris-Roubaix, de Ronde van Vlaanderen; mae ennill pencampwriaeth cenedlaethol neu gyfandirol yn fath gwahanol o arbennig.


Y cyfle i arddangos mai chi yw'r gorau yn eich gwlad neu yn eich cyfandir.


Dychmygwch felly, yr anrhydedd o fod yn bencampwr byd.


Y cyfle i arddangos mai chi yw'r gorau yn eich camp am flwyddyn gyfan.


Mae'n grys sy'n hawdd iawn i'w adnabod; y streipiau lliwiau Olympaidd ar gefndir gwyn sy'n dynodi'ch statws fel rhan o oriel yr anfarwolion o fewn y byd seiclo.


Mae eleni'n nodi canmlwyddiant ers i'r pencampwriaeth byd o fath cyntaf gael ei gynnal. Cynhaliwyd ras rhwng amaturiaid yn Copenhagen, drefnwyd gan yr UCI, ym 1921 ac fe'i enillwyd gan Gunnar Sköld o Sweden.


Cynhaliwyd y ras i reidwyr proffesiynol am y tro cyntaf ym 1927, a daeth yr Eidalwr Alfredo Binda i'r brig, ond ni ddaeth pencampwriaeth byd i'r menywod tan 1958.


Bedair blynedd yn ddiweddarach, cyflwynwyd ras yn erbyn y cloc i dimau i'r dynion barodd tan 1994, pan ddechreuodd ras yn erbyn y cloc unigol ym mhob categori.


Rhwng 2012 a 2019, daeth y ras yn erbyn y cloc i dimau yn ei ol, gyda ras i'r dynion ac i'r menywod. Ras rhwng timau masnach fu bryd hynny (yn wahanol i'r timau cenedlaethol rhwng 62 a 94), ond ers i hwnnw ddod i ben mae ras yn erbyn y cloc gyfnewid cymysg wedi'i gyflwyno. Timau cenedlaethol sy'n cystadlu yma.


Tan 1995, roedd categori i'r amaturiaid yn dal i fod ond ers hynny ras dan 23 sydd wedi bod yn lle.


Mae hanes crys yr enfys yn dyddio'n ol mor bell a'r ras broffesiynol gyntaf ym 1927 hefyd, ac yn aml yn cael ei gysylltu gydag anlwc - Melltith Crys yr Enfys, neu The Curse of the Rainbow Jersey.


Er i hyn effeithio ar nifer o reidwyr, megis Tom Simpson yn y 60au gafodd ddamwain wrth sgio a thrwy hynny fethu'r rhan fwyaf o'r tymor, dadl rhai yw mai eu bai nhw yw'r anlwc ac nid unrhywbeth i'w wneud a chrys yr enfys.


Enillodd Eddy Merckx, Bernard Hinault a Greg LeMond y Tour de France tra'n gwisgo'r crys enfys, ac yn fwy diweddar enillodd Peter Sagan naw o gymalau, tri chlasur gan gynnwys de Ronde van Vlaanderen a mwy yn 2015; cyn mynd ymlaen i adennill ei goron yn 2016 a 2017 hefyd.


Dydw i ddim yn credu fod y crys wedi melltithio deiliad y flwyddyn ddiwethaf; enillodd Julian Alaphilippe (pencampwr dynion ar y ffordd) gymal o'r Tour a La Fleche Wallonne; enillodd Anna van der Breggen (pencampwr menywod ar y ffordd ac yn y REC) lu o rasys gan gynnwys Omloop Het Nieuwsblad, La Fleche Wallonne a'r Giro Rosa; tra enillodd Filippo Ganna (pencampwr REC dynion) y ddau REC yn y Giro.


Felly beth fydd y ffawd eleni? Pwy sydd am wisgo crys yr enfys am y flwyddyn sydd i ddod? A fydden nhw'n ddeiliaid teilwng o'r crys?


Gadewch i ni gymryd golwg fanylach o'r rasys eu hunain eleni, gynhelir yn un o gadarnleoedd seiclo - Fflandrys.


19eg o Fedi - REC Dynion

Does dim modd rhoi rhagolwg o ras sydd eisoes wedi gorffen!


Bu brwydr agos, gyffrous rhwng dau o reidwyr REC gorau'r byd am yr hawl i wisgo crys yr enfys mewn rasysEC am y flwyddyn i ddod.


Wout van Aert osododd y tempo cynnar, ac mi roedd y deiliad Filippo Ganna chwe eiliad tu ol ar y pwynt amseru cyntaf. Ond llwyddodd yr Eidalwr i wyrdroi'r fantais honno a chamu i frig y podiwm ar yr eildro o'r bron.


Cafwyd perfformiad clodwiw gan Remco Evenepoel i ennill y fedal efydd, a syndod y dydd yw gweld y Prydeiniwr ifanc Ethan Hayter yn gorffen yn y deg uchaf, o flaen Tadej Pogacar. Dyfodol disglair o'i flaen.

  1. Filippo Ganna (Yr Eidal)

  2. Wout van Aert (Gwlad Belg) +6"

  3. Remco Evenepoel (Gwlad Belg) +44"

20fed o Fedi - REC Menywod

Y ras gyntaf y galla i ei ragolygu, sef y REC i'r menywod gynhelir ddydd Llun. Fel i'r dynion, mae'n gwrs sydd fwy na heb yn wastad - yn dringo namyn 54 o fetrau dros 30km - ac felly'n gweddu i'r arbenigwyr pur yn erbyn y cloc.


Maent yn dechrau yn Zeedijk ac yn dilyn Mor y Gogledd am filltir, cyn troi tua'r mewndir, drwy ganol Knokke-Heist a dilyn ffyrdd syth ac agored lle bydd modd gosod tempo uchel hyd y diwedd yn Bruges.


Mae'r ddwy bencampwraig ddiweddaraf, Anna van der Breggen (2020) a Chloe Dygert (2019), yn absennol felly bydd y crys ar ysgwyddau newydd am y flwyddyn nesaf.


Marlen Reusser yn sicr yw'r un i'w churo wedi perfformiadau cryfion tu hwnt ar draws y tymor eleni, gan gynnwys ennill Pencampwriaeth Ewrop yn rhwydd, yn sgil medal arian yma llynnedd.


Triawd o'r Iseldiroedd fydd agosaf ati, fwy na thebyg; Ellen van Dijk, gafodd fedal arian ym mhencampwriaeth Ewrop), Annemiek van Vleuten yr enillydd yn 2017 a 2018 a Riejanne Markus.


Cafodd Lisa Brennauer o'r Almaen fedal efydd ym mhencampwriaeth Ewrop felly mae hithau'n un i'w gwylio.


Rhagfynegiad: Marlen Reusser


22ain o Fedi - RECT Cymysg

Dim ond yr eildro i'r REC i dimau cymysg gael ei gynnal ym mhencampwriaethau'r byd. Yr Iseldiroedd oedd yn fuddugol ar yr unig rediad blaenorol yn Harrogate ddwy flynedd yn ol, gan guro'r Almaen a Phrydain i'r brig.


Yr un tri chenedl sy'n debygol o frwydro am y medalau eto eleni. Jos van Emden yw prif arbenigwr REC yn nhim o chwech yr Iseldiroedd, tra bo enwau'r menywod eto i'w cyhoeddi, ond mae digon o gryfder iddynt ddewis ohono heb os. Mae gan yr Almaen dim cryf hefyd, gydag asgwrn cefn cryf a phrofiadol Tony Martin, Max Walscheid, Lisa Brennauer a Lisa Klein, yn ogystal a NIkias Arndt a Tony Martin. Dan Bigham, yr aerodynamegydd o fri, yw'r enw mawr yn nhim Prydain.


Fel arall, mae gan Denmarc (Cort, Bjerg, M.Norsgaard, E.Norsgaard, Dideriksen, Leth), Ffrainc (B.Thomas, Denis, Tabellion, Borras, Demay, Copponi), Gwlad Belg (Campenaerts, Lampaert, Hermans, Bossuyt, D'Hoore, Kopecky) a'r Swistir (Bissegger, Kung, Schmid, Reusser, Chabbey, Koller) dimau cryfion dros ben sy'n fwy nag abl i gystadlu am y fuddugoliaeth.


Rhagfynegiad: Y Swistir


25ain o Fedi - Ras Ffordd Menywod

Cwrs o 158km sy'n wynebu'r menywod, a hynny'n agos iawn at y terfyn o ran pellter ganiateir iddynt rasio sef 160km. Bryniau bychain sy'n bla ar hyd y daith wedi dau gylchdaith ddigon gwastad yn y traean agoriadol.


Cylchdaith Leuven sydd nesaf; yn 15.5km drwy gadarnleoedd cwrw'r genedl gan gynnwys pedwar neu bump o ddringfeydd caled.


Cylchdaith Flandrien wedyn; yn 32km gan gynnwys chwech o ddringfeydd. Yr anoddaf ohonynt yw Moskesstraat am 550m ar 9% gydag uchafswm o 17%. Hynny, cofier, ar y crynfeini.


Dychwelyd wnaent ar gyfer dau gylchdaith pellach o'r Leuven i gloi'r rasio. Daw'r ddringfa olaf, Saint Antoniusberg, gilometr cyn y diweddglo; ac mae'n ddringfa gul a serth. Mae'r diweddglo ei hun hefyd ar i fyny felly digon o gyfleon am rasio cyffrous.


Yn naturiol ddigon wrth drafod seiclo'r menywod, yr Iseldiroedd sy'n berchen a'r tim cryfaf, ac felly nhw sydd a'r benbleth dactegol hefyd. Y deiliad Anna van der Breggen, yr enillydd blaenorol Annemiek van Vleuten, y gorau erioed Marianne Vos i enwi ond tri. Ar ben hynny, mae'r talentog Chantal van den Broek-Blaak, Lucinda Brand, Ellen van Dijk, Amy Pieters a Demi Vollering oll yn rhan o'r garfan.


Bydd hi'n ddiddorol gweld beth fydd eu cynllun, yn enwedig o gofio fod van der Breggen yn ymddeol ddiwedd y flwyddyn. Rhoi cyfle i'r reidwyr ifanc, neu flaenoriaethu'r rhai sydd yn hydref eu gyrfaoedd a'r cyfleon i ennill yn prinhau? Un peth sy'n sicr, eu ras nhw i'w cholli ydyw hi.


Ymysg eu cystadleuwyr pennaf mae Amanda Spratt (Awstralia), Lotte Kopecky (Gwlad Belg), Cecile Uttrup Ludwig, Emma Norsgaard (y ddwy o Ddenmarc), Audrey Cordon-Ragot, Juliette Labous (y ddwy o Ffrainc), Liane Lippert (yr Almaen), Lizzie Deignan (Prydain) a Mavi Garcia (Sbaen).


Rhagfynegiad: Marianne Vos


26ain o Fedi - Ras Ffordd Dynion

I gloi'r cyfan brynhawn Sul nesaf, daw tro seiclwyr gwrywaidd gorau'r byd i herio am grys yr enfys. 268 o rasio, 42 o ddringfeydd byrion sy'n rhoi cyfanswm o 2,562 o fetrau esgyn


Wedi dechrau ddigon gwastad, daw cylchdaith Leuven am y tro cyntaf vyn symud ymlaen i'r Flandrien sy'n cynnwys dringfa anodda'r dydd, y Moskestraat.


Pedair gwaith o amgylch cylchdaith Leuven wedyn, cyn un tro arall o amgylch cylchdaith Flandrien a gorffen gyda dwywaith arall o'r Leuven.


Y bedair dringfa olaf, hollbwysig, yw'r Keizersberg, Decouxlaan, Wijnper a Saint-Antoniusberg. 200m o ffordd gul, goblog ar 6% yw'r diwethaf ohonynt, gilometr o'r diwedd. Mae'r diweddglo olaf ar fymryn o raddiant hefyd fydd yn effeithio ar bwy fydd yn gallu ennill os y daw i wib o grwp dethol.


Fel byddai un yn disgwyl, mae naws Fflandriaidd i'r cwrs ac felly'n apelio at y reidwyr sy'n serennu yng nghlasuron coblog y genedl.


Wout van Aert yw'r ffefryn mawr, wedi tymor a hanner unwaith eto. Mae'r coesau ganddo'n amlwg wedi ei fedal arian yn y REC. Bydd digon o gystadleuaeth oddi fewn i dim Gwlad Belg fodd bynnag, gyda Jasper Stuyven, Remco Evenepoel, Tiesj Benoot a Dylan Teuns oll yn ddigon abl i ennill.


Mae rhywfaint o farc cwestiwn o amgylch enw'r deiliad Julian Alaphilippe. 3ydd yn y Tour of Britain, felly ddim cweit ar frig ei gem, ond heb os yn reidiwr talentog all berfformio'n well na neb ar y dydd. Bydd Benoit Cosnefroy ac Arnaud Demare yn awyddus i geisio bod yn rhan o'r detholiad terfynol o dim Ffrainc hefyd.


Deuawd Slofenia, pwy all eu hanghofio. Tadej Pogacar, enillydd y Tour, a Primoz Roglic, enillydd y Vuelta. Dau sydd wedi profi eu gallu yn y clasuron undydd bryniog yn ogystal ag yn y mynyddoedd mawrion, felly gallwn ddisgwyl iddynt dargedu'r tlws.


Mae marc cwestiwn o amgylch enw Mathieu van der Poel hefyd. Mae'n reidiwr talentog tu hwnt, ond mae problemau gyda'i gefn wedi peri gofid iddo'n ddiweddar. Wedi dweud hynny, enillodd ras beicio traws yn ddiweddar felly mae'n amlwg ei fod o'n teimlo'n weddol os nad ar ei orau.


Fel arall, mae Michael Matthews (Awstralia), Zdenek Stybar (Czechia), Magnus Cort, Mads Pedersen (y ddau o Ddenmarc), Max Schachmann (yr Almaen), Tom Pidcock, Jake Stewart (Prydain), Michal Kwiatkowski (Gwlad Pwyl), Peter Sagan (Slofacia) a Marc Hirschi (y Swistir) yn enwau blaenllaw ymysg y ffefrynnau am grys yr enfys.


Rhagfynegiad: Wout van Aert

 

Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael gwylio'r rasio dros yr wythnos, a gobeithio eich bod chithau hefyd. Mae'n argoeli i fod yn gyffrous dros ben.


Hwyl am y tro.

Recent Posts

See All
bottom of page