top of page

Rhagolwg: Tour de France 2021


Does dim ras tebyg yn bod.


Does dim digwyddiad chwaraeon blynyddol debyg yn bod.


Does dim byd tebyg i’r Tour de France.


Uchafbwynt y flwyddyn i nifer, ac uchafbwynt y calendr seiclo proffesiynol.


Eleni, doedd dim angen aros cyhyd ag arfer i’r Tour gyrraedd chwaith. Wnaeth ras 2020 ddim gorffen tan yr ugeinfed o Fedi, a gyda’r Gemau Olympaidd yn Tokyo ar y gorwel, rhaid oedd ei drefnu’n gynt i osgoi gwrthdaro.


Felly, rydym ni’n sefyll ar drothwy’r ras yn edrych ymlaen at wledd o seiclo fydd fwy na thebyg yn ras rhwng y ddau reidiwr Grand Tour cryfaf yn y byd a’r tîm Grand Tour cryfaf yn y byd. Y frwydr dactegol fydd yn siapio’r ras hon eleni, yn hytrach na’r route, ac mae’n ymddangos y bydd hynny’n hynod ddiddorol drwyddi draw.


Daw cyfle i drafod yn ddyfnach ac ymhellach drwy gydol y rhagolwg hwn, gan obeithio y byddwch chi wedi cynhyrfu cymaint â fi erbyn ei ddiwedd.


Mwynhewch!


Cynnwys:


Ambell ffeithlun defnyddiol:

Y CWRS

Yr argraffiadau cyntaf wrth edrych ar route y Tour de France eleni yw ei fod o’n ddiddorol, ond eto nid oes unrhyw beth nad ydyn ni wedi’i weld o’r blaen. Mae cymysgedd iach o’r hen ffefrynnau a’r clasuron cyfoes, ond wedi dweud hynny, does dim byd arloesgar fel REC ar allt fel welwyd llynnedd, neu gymal 65km fel welwyd yn 2018 er enghraifft.


Ar yr olwg gyntaf, mae’n ras sy’n apelio’n fwy at rai sy’n arbenigo’n erbyn y cloc, gan fod dau gyfle iddynt â chyfanswm o 60km. Daw hyn yn hollol gyferbyniol i’r rhediad llynnedd, pan gafwyd ras yn gwyro at ddringwyr pur - gyda’r unig REC hyd yn oed ar ddringfa La Planche des Belles Filles.


Mae’n route da i rai sydd, fel fi, yn hoff o’r ffaith ei fod wedi cysylltu’n llinol gyda braidd dim hediadau mawr i ddiosg rhannau o’r wlad. Byddent yn cychwyn yn y gogledd orllewin, cyn teithio’n lletraws i’r Alpau; wedyn ar hyd lled y deheubarth drwy Provence i’r Pyrenees a symud i’r gogledd i’r Landes cyn hedfan, nid rhedeg, i Paris ar gyfer y diweddglo sy’n draddodiadol bellach.

Yr wythnos gyntaf


Cynhelir y Grand Départ eleni yn Llydaw, fydd yn gartref i’r pedwar cymal cyntaf. Gall un obeithio y daw cyfle i’n brodyr Celtaidd godi’u lleisiau dros ddyfodol y Lydaweg, gyda sylw’r byd arnynt, a hithau dan fygythiad o’r newydd gan Lywodraeth Ffrainc. Bydd y cyfan yn dechrau ar y 26ain o Fehefin yn nhref Brest; tref a chwalwyd yn y rhyfel ond sydd wedi adfywio’n ddiddiwedd ers hynny. Bydd angen i’r reidwyr ddangos gwydnwch o’r fath a pheth panache ar y ddau gymal agoriadol sydd â diweddglo fydd yn apelio at y puncheurs. Mae’r ail ohonyn nhw ar y Mûr de Bretagne, sy’n gyfarwydd i’r ras ac yntau’n chwarae rhan am y pedwerydd tro. Daw cyfleon cyntaf i’r gwibwyr ar cymal 3 a chymal 4.


Gan adael Llydaw, bydd bylchau’n cael eu rhoi rhwng ffefrynnau’r dosbarthiad cyffredinol am y tro cyntaf ar y ras yn erbyn y cloc ar cymal 5. Yn 30km, dyma’r hiraf i gael ei chynnal mor fuan â hyn yn y Tour ers dros ddegawd. Gan gychwyn yn Changé, bydd posiblrwydd o newid yn y maillot jaune. Bydd y peloton yn mentro i’r Val de Loire erbyn cymal 6 gyda chymal o ddau hanner; yr hamddena heibio cestyll y Renaissance cyn helbul y gwibwyr. Daw’r cymal hiraf mewn 21 o flynyddoedd yn bron i 250km ar y seithfed cymal, gyda diweddglo difyr sy’n cynnwys dringfa newydd Signal d’Uchon.


Ni fydd y reidwyr yn gwerthfawrogi’r straen yn y coesau ar y diwrnod canlynol wrth gyrraedd yr Alpau. Diwrnod mynyddig cynta’r ras rhwng Oyonnax a phentref Le Grand Bornard yng nghalon yr Haute-Savoie, gyda’r ddringfa sydd wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf - y Col de la Colombière via’r Col de Romme - yn dod ar y diwedd wedi dringfa weddol anghyfarwydd y Mont-Saxonnex (6km ar 8%). Y tro diwethaf wnaeth y Tour daclo’r Colombiѐre a hedfan lawr y goriwaered i Grand Bornand oedd yn 2018, a’r beiddgar Julian Alaphillippe yn fuddugol. Aros am yr eilddydd yn yr Alpau wnaent ar cymal 9, gan gwblhau cwrs na chafodd ei brofi gan peloton 2019 oherwydd y tywydd garw, rhwng Albertville a Tignes. Y Col des Saisies yn baratoad ar gyfer dringfa HC (hors catègorie - yr haen anoddaf un o ddringfeydd) gynta’r ras, sef y Col du Pré. O’r copa, byddent yn disgyn i’r Barrage de Roselend cyn cwblhau’r ddringfa i’r Cormet de Roselend. I orffen y dydd, daw’r diweddglo copa cyntaf i Tignes ar drothwy’r diwrnod gorffwys cyntaf, ond mae'n annhebygol y bydd y graddiant yn ddigon i ysgogi newidiadau a bylchau enfawr. Gallwn ddisgwyl defnydd o'r dacteg effeithlon o drên mynydd yma.

(Lluniau o drip 2019. Cormet de Roselend, Col de la Colombiѐre ac Albertville yn chwarae rhan annatod yng nghyfran yr Alpau o'r Tour eleni)


Yr ail wythnos


Agorir yr ail wythnos yn Albertville, cartref Gemau Olympaidd y Gaeaf 1992; tref sy’n cynnal y Tour am y chweched gwaith - y pedwerydd gwaith ers 2016. Teithio i’r canoldir ar cymal 10 i’r gwibwyr, cyn i’r ras boethi go iawn ar y diwrnod canlynol. Yr eiconig Mont Ventoux, le Géant de Provence, yn cael ei daclo o ddau gyfeiriad. Wedi tri o droedfryniau, byddent yn dringo o Sault ar y ddringfa gategori 1 (sy'n fyrrach a ddim mor serth), cyn wynebu’r ddringfa HC o Bédoin lle mae eiliadau bonws apelgar ar y copa. Dyma'r ddringfa mae Christian Prudhomme a'r Tour yn hoffi'i ddefnyddio gan mai dyma'r ochr 'chwedlonol'; y Ventoux go iawn. Bydd goriwaered i’r llinell derfyn yn Malaucѐne.


Gan deithio i’r gorllewin, bydd deuddydd i’r gwibwyr… ar yr olwg gyntaf beth bynnag. Digon o hanes a diwylliant drwy’r Gorges de l’Ardѐche yn ei gyfanrwydd, arena Rhufeinig yn Nîmes a safle treftadaeth y byd UNESCO yn Carcassonne. Mae’n werth nodi bod y trefnwyr yn gobeithio am groeswyntoedd i gyffroi cymalau fydd fel arall yn ddigon diflas, a bod y ras erioed wedi diweddu mewn gwib yn Carcassonne gan agor y drws i ymosodwyr dewr.


‘Cymal mynyddoedd canolig’ fel câi ei alw, wrth ddynesu at y Pyrénées, ar cymal 14 sydd â diweddglo diddorol. Mae’n cynnwys y Col de Saint Louis gydag eiliadau bonws ar ei frig, ond dybiwn i na fydd hynny’n ddigon i godi chwant ar ffefrynnau’r dosbarthiad cyffredinol. I gloi’r ail wythnos, daw diwrnod all fod yn allweddol yn y ras am y melyn; yn lwyfan perffaith i wagu’r tanc cyn y diwrnod gorffwys. Mae lle i gredu y daw hwn yn ras gyda rasys oddi fewn iddi; y dihangiad a'r DC. Ceir triawd o ddringfeydd cat 1 ac un cat 2, gan gynnwys yr uchaf yn y Tour eleni - y Port d’Envalira ar 2,408m. Bydd angen bod yn ddawnus a chrefftus ar y goriwaered i Andorra la Vella i fanteisio’n llawn ar ennillion posib y cymal hwn.


Y drydedd wythnos

Y dihangiad fydd yn cymryd y sylw ar cymal 16, fwy na thebyg, wrth i’r ffefrynnau baratoi am y brwydrau tyngedfennol fydd yn dilyn. Ar y deuddydd yma y bydd y Tour yn cael ei ennill, ac er nad oes un o'r ddau'n gweiddi allan fel 'cymal y frenhines', mae'r ddau'n gymwys iawn i'r teitl hwnnw. Trindod o rai o gopaon enwcoaf y Pyrénées ddaw ar cymal 17 yn syth ar ôl ei gilydd; y Peyresourde, Col de Val Louron-Azet a’r Col du Portet. Mae ‘na gyfle i ymosod o bell ac i danio yn y diweddglo, felly gallwn ddisgwyl tân gwyllt. Dechreua cymal 18 yn Pau; ymweliad rhif 73 yn y Tour, sy’n record. Cyrchfan bendant yng nghanol y Pyrénées, a chychwyn y cymal diweddglo copa olaf yn 2021. Yn rhan o’r parcours mae pâr o ddringfeydd HC, y Col du Tourmalet a Luz Ardiden; dringfeydd enwog sydd wedi diffinio’r Tour yn y gorffennol, a’n siwr o gyfrannu eleni hefyd.


Bydd y frwydr olaf un i gadarnhau’r maillot jaune ar y REC ar cymal 20. Mae’n annhebygol y cawn ni’r drama brofwyd y llynnedd ond gallwn gredu bydd newidiadau yn neg uchaf y DC. Daw hynny rhwng dau o gymalau i’r gwibwyr sydd wedi goroesi'r mynyddoedd, i frwydro am grys gwyrdd y dosbarthiad pwyntiau; cymal 19 yn rhanbarth y Landes, a chymal 21 lawr y Champs-Élysées.


Bydd y person sy’n sefyll ar frig y podiwm wedi’i ennill yn y mynyddoedd ac wedi’i gyfnerthu yn y REC ac ar y disgyniadau lu all brofi’n bwysig.


Y GWIBWYR

Fel sy’n arferol, mae nifer o wibwyr cyflymaf a gorau’r byd yn heidio i’r Tour de France; ac eleni, mae digonedd o gyfle iddynt serennu. Daw tri chyfle’n yr wythnos gyntaf, tri chyfle’n yr ail wythnos a dau gyfle yn y diwrnodau olaf.


Wrth edrych ar y rhestr ddechrau, tri enw sy’n sefyll allan fel gwibwyr profiadol a galluog sy’n siwr o gipio cymal neu ddau, o leiaf.


I ddechrau, Caleb Ewan, sydd wedi ennill dau o gymalau’n y Giro eisoes eleni cyn gadael dan amgylchiadau wnaeth achosi i ambell un droi trwyn. Ei darged o am eleni yw ennill cymal ym mhob un o’r tri Grand Tour, ac mae’i berfformiadau diweddar (yn y Baloise Belgium Tour er enghraifft) yn ogystal ag asiad ei drên yn awgrymu’n gryf ei fod ar y trywydd iawn.


Wedyn, y Ffrancwr Arnaud Démare. Heb os, yn wibiwr o’r radd flaenaf wnaeth wirioneddol newid gêr y llynnedd gan ennill rasys di-ri, yn cynnwys maglia ciclamino dosbarthiad pwyntiau’r Giro. Caiff y cyfle eleni i arwain tim Groupama-FDJ, yn absenoldeb Thibaut Pinot, a phrofi ar hewlydd cartef cystal ydi o mewn gwib glwstwr, gan ddychwelyd i’r Tour am y tro cyntaf ers 2018. Yn ysgogiad pellach iddo yw'r ffaith nad oes Ffrancwr wedi ennill y maillot vert ers Laurent Jalabert ym 1995.


Deiliad y crys gwyrdd wedi ras y llynnedd yw’r Gwyddel Sam Bennett, gyrrhaeddodd frig y gamp o ddifri am y tro cyntaf. Ennillodd ddau gymal - un o’r rheiny ar y Champs Élysées - a goroesi’r mynyddoedd i sefyll ar y podiwm yn Paris yn y maillot vert. Mae wedi profi ambell fuddugoliaeth eleni yn yr EAU, yn yr Algarve ac yn Paris-Nice, felly mae’n argoeli’n dda iddo.


Ond mae ‘na dro yng nghynffon y stori. Mae’n debyg bod Bennett yn dioddef o anaf i’w ben-glin ar hyn o bryd wnaeth ei orfodi i fethu allan ar daith Gwlad Belg. Cafodd ei eilyddio’n nhîm Quickstep i’r ras honno gan yr hen ben Mark Cavendish. Ddydd Sul, yn ei golofn wythnosol i Het Nieuwsblad, dywedodd perchennog Quickstep, Patrick Lefevre, nad oedd ganddo Plan B i’r Tour os nad oedd Bennett yn holliach. Ychydig oriau’n ddiweddarach, dyma Cavendish yn dilyn olwyn dibynadwy Michael Mørkøv a gwibio i’r fuddugoliaeth yn erbyn rhai o wibwyr gorau’r byd.


Felly Cav yw’r plan B, mae’n rhaid? Wel, dydy o ddim cweit mor syml â hynny chwaith. Mae’r symudiad i Quickstep eleni wedi achub gyrfa roced Manaw, ond dywed fod ei gyflog yn rhy isel i wneud Grand Tour. Rhaid cofio daeth yr holl bethau hyn i’r amlwg cyn ei fuddugoliaeth ar y Sul, a gall hynny fod wedi newid popeth. Difyr!


Gol.: mae Bennett yn holliach ac er fod Cavendish wedi pacio'i gas mae'n debyg, Bennett fydd yn arwain Quickstep yn y gwibiau ar y Tour eleni. Wedi dweud hynny, does dim cadarnhad na fydd Cavendish yn chwarae'r ail ffidil, yn hytrach na'i roi yn y to!


Mae ambell enw arall sy’n werth ei nodi’n y frwydr am wibiau a’r gwyrdd. Yn gyntaf oll, un sydd wedi ennill y gwyrdd saith gwaith, y bytholwyrdd Peter Sagan. Cymal o’r Giro’n sicr o fod wedi rhoi gwynt yn ei hwyliau, ond a fydd ganddo’r coesau a’r gefnogaeth i fynd am y maillot vert eleni? Un arall serennodd yn y Giro yn dilyn llwyddiannau’r clasuron oedd Tim Merlier, gipiodd y cymal gwibio cyntaf yn yr Eidal. Does dim amau’r gallu sydd ganddo, ond mae’n bosib bydd rhaid i Alpecin-Fenix gydbwyso’i obeithion o gyda rhai Jasper Philipsen a Mathieu van der Poel hefyd - dau arall o’r cyflymaf.


A sut gallwn ni anghofio am Wout van Aert, un a daniodd y tymor llynnedd ac yntau mor amryddawn; yn ennill yn y gwibiau, yn y bryniau a’n cefnogi Roglič yn y mynyddoedd. Eleni, fodd bynnag, mae wedi dioddef problemau gyda’i bendics ac wedi cyfaddef nad oes ganddo'r un lefel o ddringo oedd ganddo'r llynnedd ac nad ydy o'n targedu'r crys gwyrdd. Ond, yn gynharach heddiw, enillodd o mewn gwib i gipio pencampwriaeth Gwlad Belg, felly mae'n ymddangos y gallwn ni weld rhywfaint o'i ddoniau'n sicr.


Ers yn ifanc, mae van Aert wedi brwydro'n erbyn ei elyn Mathieu van der Poel ar draws disgyblaethau gwahanol. Ac yntau'n paratoi am gystadlu am fedalau yn y Gemau Olympaidd, bydd yn awyddus i ddefnyddio'r wythnos gyntaf fel rhan o'i baratoadau ac i ychwanegu at ei brofiad a'i palmares. Tybed os mai van der Poel fydd y seren y tro hwn?


Fel arall, gallwn edrych ar enwau megis Sonny Colbrelli, pencampwr yr Eidal, sydd ar dân ar hyn o bryd; Mads Pedersen a Michael Matthews i ddiddori ambell gymal, yn enwedig rhai â diweddgloeon ar allt.


Y FFEFRYNNAU


Pwy sydd am fynd â’r maillot jaune eleni? Yn fy llygaid i, mae’n frwydr deirffordd rhwng Tadej Pogačar, Primož Roglič a thîm Ineos (ie, y tîm cyfan).


Y Ceffylau Blaen

Y ddau geffyl blaen, heb amheuaeth yn y byd, yw’r Slofeniaid Tadej Pogačar a Primož Roglič. Dyma’r ddau frwydrodd am y melyn llynnedd, gan greu diweddglo dramatig dros ben ar y REC ar cymal 20.


Dwi’n credu mai un o’r pethau sy’n gwneud y gystadleuaeth rhyngddynt yn un mor ddiddorol yw’r ffaith eu bod nhw’n gyd-wladwyr, ond hefyd yn ffrindiau.


Y llynnedd, gwnaeth Roglič ambell ffafr i Pogčcar a dydw i ddim yn meddwl fod Jumbo-Visma wedi’i ystyried o’n ormod o her i’w gobeithion nhw ar y pryd. Gadawodd hynny Pogačar yn yr ail safle, gan wyrdroi’r bwlch rhyngddynt ar yr unfed awr ar ddeg mewn perfformiad arallfydol.


Mi fydd Jumbo a Roglič wedi dysgu llawer o’r profiad hwnnw, heb os. Maen nhw’n gwybod mai brwydr rhwng y Slofeniaid fydd hi am y melyn y tro hwn, felly ni fydden nhw’n rhoi modfedd i Pogačar eleni.


Mae cyflwr y ddau ychydig yn amwys i ni’r gwylwyr, fodd bynnag. Dychwelodd Pogačar i rasio ar y gylched broffesiynol yr wythnos diwethaf ar daith Slofenia am y tro cyntaf ers ennill Liège-Bastogne-Liège ddiwedd mis Ebrill. Yn Slofenia, roedd ben ag ysgwyddau’n uwch na phawb arall ond rhaid yw dweud nad oedd y gystadleuaeth o safon Tour de France o bell ffordd. Primož Roglič, ar y llaw arall, heb rasio o gwbl ers Liège.


Credir bod eu hamser wedi’i lenwi gyda hyfforddi caled yn y mynyddoedd mawrion i baratoi ar gyfer y Tour. Dylent ddod allan o’r cyfnod yma ar dân, a’n barod i ymgymryd â’r her o gipio’r maillot jaune.


Serch hynny, mae'n strategaeth risg-uchel, yn enwedig o safbwynt Roglič. Does dim tan-amcan pwysigrwydd gael milltiroedd rasio yn y coesau o ran profiad a dwysder. Wedi dweud hynny, os oes rhywun yn gallu cyrraedd ras a pherfformio'n syth, Roglič yw hwnnw. Ar ben hynny, holl bwrpas cymryd saib cyhyd oedd i osgoi llosgi'r matsiys yn rhy fuan a gallu cynnal cyflwr dros dair wythnos. Bydd hi'n sicr yn ddiddorol gweld os bydd y strategaeth hon yn dwyn ffrwyth iddo.


Mantais sydd gan Rog dros Pog yw cryfder y tîm. Does dim cymhariaeth. Yn cefnogi Roglič, mae super-domestiques fyddai’n ddigon abl o oleuo’r Tour eu hunain. Yn eu plith, Steven Kruijswijk, Wout van Aert, Jonas Vingegaard, Sep Kuss a Tony Martin. Bydd hyn yn fanteisiol dros ben iddo, yn enwedig os bydd Morus y Gwynt yn chwythu ar gymalau gwastad, agored. Collodd Pogačar amser mewn sefyllfa o’r fath llynnedd oherwydd gwendid ac amhrofiad ei garfan; ac mae’r trefnwyr a’r gwylwyr yn gobeithio am groeswyntoedd cythryblus ar cymal 12 a 13. Serch hynny, bydd Brandon McNulty y dringwr yn arf ddefnyddiol iawn iddo yn y mynyddoedd.


Ond, er iddo ennill dau Vuelta, mae Roglič yn dueddol o gael un diwrnod gwael mewn ras dair wythnos. Y llynnedd, daeth hynny ar yr adeg waethaf posib iddo, sef ar y diwrnod lle roedd Pogačar ar lefel oruwch naturiol, bron. Yn ffodus iddo, does dim cymal o’r fath i’w boenydio’r tro hwn, ond eto mae’r mynyddoedd ar ddiwedd y ras yn ddigon i gael y gorau ar unrhyw un.


Wedi dweud hynny oll, yr hyn brofodd y llynnedd i mi oedd yr hen cliché. Y reidiwr cryfaf sydd wastad yn ennill y Tour de France. Edrychaf ymlaen yn fawr i weld brwydr mano a mano rhwng y Slofeniaid, yn enwedig pan fydd y ffordd yn gwyro tua’r entrychion.


Y Tîm Cryfaf

Meddyliwch ‘nôl i’r Tour llynnedd, a’r cymal oedd yn gorffen ar y Col de Grand Colombier. Roedd hi’n drychineb i Ineos Grenadiers wrth i Egan Bernal ddisgyn oddi ar y dibyn (yn drosiadol, hynny yw) a gadael y ras gan feio crymedd yn ei gefn. Dywedodd pennaeth y tîm Sir David Brailsford fod yr ymgyrch i ennill y Tour yn 2021 yn dechrau’r diwrnod hwnnw.


Roedd yn rhaid i Ineos edrych yn galed iawn ar y ras honno. Dyna’r tro cyntaf iddyn nhw beidio â’i hennill ers 2014; dim ond yr eilwaith ers 2012. Yn fwy na hynny, doedd dim un aelod o’r garfan wedi cyrraedd y deg uchaf ar y dosbarthiad cyffredinol.


Cafwyd sibrydion yn y wasg ac ymhellach bod Ineos am newid trywydd yn sgil hyn, gan droi cefn rywfaint ar eu tacteg draddodiadol o ‘drên mynydd’ ceidwadol yn arwain eu harweinydd i gopa’r dringfeydd.


Dydw i heb weld braidd dim tystiolaeth o unrhyw dactegau newydd, arbrofol, arloesol y tymor hwn gan Ineos fyddai’n dweud wrtha i bod newidiadau sylweddol wedi digwydd i’w meddylfryd a’u cynlluniau.


Do, maen nhw wedi adfywio. Ers y Tour llynnedd, maen nhw wedi ennill y Giro ddwywaith, y Dauphiné, Volta a Catalunya, Tour de Suisse a’r Tour de Romandie gyda reidiwr gwahanol bob tro. Roedd aelod o’r tîm ar bob gris o’r podiwm yng Nghatalwnia, yn ddigynsail yn hanes y World Tour. Oes, mae elfen fwy ymosodol wedi bod; fodd bynnag, maen nhw’n dal i fynd yn ôl at y dacteg ddiflas ond effeithlon o gael y tîm cryfaf i reidio’n geidwadol tra bydd eu harweinydd yn arbed egni yn eu sgilwynt.


Mae hyd yn oed Geraint yn honni na fydd newidiadau aruthrol i’w cynlluniau tactegol yn y Tour gan fod yr hen system honno yn gweithio; agwedd ‘if it isn’t broken, don’t fix it’ math o beth.


Unwaith eto eleni, nhw sydd gan y garfan gryfaf un. Gellir rhannu eu wyth reidiwr i ddau grŵp; y rhai sy’n ddigon abl i ennill y Tour, a’r rhai fydd yn gadfridogion (domestiques).


Y ddealltwriaeth gyffredin yw y bydd Geraint Thomas a Richard Carapaz yn cyd-arwain Ineos eleni; y naill wedi ennill y Tour yn 2018 a’n ail yn 2019, a’r llall wedi ennill y Giro yn 2019, a’n ail yn y Vuelta llynnedd.


Mae’r ddau’n cyrraedd y ras mewn cyflwr da, ond heb ddangos eu cardiau i gyd yn y rasys cynhesu. Geraint wedi ennill y Tour de Romandie ac wedi dod yn 3ydd yn y Dauphine, tra ennillodd Carapaz y Tour de Suisse.


Gellir dweud fod rhinweddau gwahanol iddynt. Dwi’n credu bod Carapaz yn gryfach ar dirwedd mwy bryniog, ac yn sicr gall o ennill eiliadau yn yr wythnos gyntaf. Wedi dweud hynny, mae Geraint yn well na’r Ecwadoriad yn erbyn y cloc, a chofier fod gwerth 60km o hynny ar y Tour eleni.


Ar ddechrau’r ras, fel sy’n aml wedi digwydd pan mae Ineos yn penodi dau arweinydd, bydd y ddau’n hafal a’n cael cyfleon cyfartal. Wrth i’r ras fynd yn ei blaen bydd y ffordd yn pennu pwy sydd gryfaf.


Mae’n hollol wallgof i feddwl bod ennillydd y Giro d’Italia llynnedd, Tao Geoghegan Hart, yn mynd i’r ras hon fel domestique. Super-duper-domestique, pe dymunwch. Yn yr un modd, ennillydd y Dauphine (ras sydd fel arfer yn pennu ffefryn y Tour), Richie Porte, yn ddigon bodlon i ad-dalu Geraint am ei gefnogaeth yn y ras honno.


Ar ben hynny, mae rhai o domestiques gorau a mwyaf profiadol y byd yn eu rhengoedd; Michał Kwiatkowski, Jonathan Castroviejo, Rohan Dennis a’r Cymro Luke Rowe, yn creu carfan anorchfygol.


Mae’n grêt o’u safbwynt nhw bod ganddyn nhw’r tim cryfaf. Ond beth sydd ddim mor grêt yw’r ffaith nad oes ganddyn nhw’r reidiwr cryfaf. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn greadigol, yn glyfar ac yn arloesol i gyrraedd y brig y tro hwn i ddisodli’r Slofeniaid.


Neu fel arall, 3ydd bydd yr uchaf gallen nhw gyrraedd. Neu brig y dosbarthiad timau di-bwynt wrth gwrs!


N’ad fi’n angof


Mae nifer o enwau nad ydyn nhi wedi’u trafod yn sicr o elwa o allu rasio yng nghysgod Roglič, Pogačar ac Ineos.


Wedi’i berfformiad gwych yn y Swistir gan ennill cymal REC a gorffen yn 2il ar y DC (tu ôl i Carapaz), mae Rigoberto Urán yn uchel ar y rhestr o ffefrynnau. Un sy’n brofiadol iawn ac wedi gorffen yn y deg uchaf ar sawl achlysur yn y Tour, gan gynnwys llynnedd. Cyfaddefodd pennaeth y tîm, EF Nippo, Jonathan Vaughters, ei fod wedi ail-edrych yn fanwl ar eu strategaeth i’r Tour wedi perfformiad Urán. Mae’n debygol y bydd cefnogaeth a chryfder Sergio Higuita yn allweddol iddo.


Yn ôl y rhestr ddechrau dwi’n edrych arni rwan, sydd heb ei chadarnhau, mae Simon Yates yn mynd i’r Tour i Bike-Exchange ar ôl gorffen yn 3ydd ar y Giro. Bydd y mynyddoedd mawrion yn y Pyrenees yn siwr o dynnu dŵr i’w ddannedd, boed o’n anelu am y DC neu am gymalau. Diddorol yw nodi fod opsiynau eraill gan y garfan yn Esteban Chaves a Lucas Hamilton, dau sydd hefyd wedi llewyrchu eleni.


Ceir ambell dîm arall sydd a mwy nag un opsiwn am y DC. Trek-Segafredo gyda Vincenzo Nibali a Bauke Mollema - sy’n annhebygol o fygwth y pump uchaf mewn gwirionedd. Bora-Hansgrohe gyda Wilco Kelderman ac Emanuel Buchmann - pâr sydd wedi profi’i gallu ar y Tour o’r blaen. Bahrain-Victorious gyda Pello Bilbao a Jack Haig - ond dydy’r un o’r ddau’n argyhoeddi fel ffefrynnau realistig chwaith.


Wedyn mae Movistar. Arbenigwyr y dosbarthiad timau yn y blynyddoedd diwethaf. Yn hytrach na thri arweinydd sydd ar yr un safon, eleni mae ganddynt Miguel Ángel López; 6ed llynnedd ac ennillydd cymal y frenhines. Perfformiadau cyson ganddo eleni’n barod, ennill Mont Ventoux Dénivélé a’r Ruta del Sol, a 6ed ar y Dauphiné. Enric Mas, Marc Soler ac Alejandro Valverde yw cardiau eraill Movistar.


Cyn-reidiwr Movistar, Nairo Quintana, bellach gydag Arkea-Samsic, yn enw’n werth ei nodi ond cymal fydd ei darged fwy na thebyg; tra bydd dewisiadau Astana’n ddiddorol a’u carfan yn cynnwys Jakob Fuglsang ac Alexey Lutsenko, sy’n arbenigo’n y bryniau.


Mike Woods, yn ail tu ôl i Geraint yn Romandie, yn enw arall werth ei grybwyll, yn enwedig o ystyried fod profiad Chris Froome a Dan Martin yn siwr o fod o fudd iddo yng ngharfan Israel Start-Up Nation.


Y Ffrancwyr


Er nad yw’r Ffrancwyr yn debygol o gael buddugwr am y tro cyntaf ers Bernard Hinault ym 1986 eleni eto, bydd digon o gyfle iddynt godi’i lleisiau yn y Tour eleni.


Arnaud Démare yn y gwibiau clwstwr, neu hyd yn oed fynd am y crys gwyrdd. Does dim Ffrancwr wedi ennill y dosbarthiad hwnnw ers Laurent Jalabert ym 1995 chwaith.


Yn yr wythnos gyntaf a thu hwnt, bydd digonedd o gyfle i Julian Alaphilippe serennu a dangos ei ddoniau. Diweddgloeon bryniog agoriadol yn gyfle gwych iddo wisgo’r maillot jaune eto, a’i gadw hyd ddiwedd yr wythnos hefyd. Hynny o gofio’i allu’n erbyn y cloc ac hefyd ei fod wedi ennill y cymal y tro diwethaf i’r Tour gyrraedd Grand Bornand yn 2018. Bydd ei panache yn siwr o’n diddanu drwy gydol y ras.


O ran y dosbarthiad cyffredinol, David Gaudu o Groupama-FDJ a Guillaume Martin o Cofidis fydd eu gobeithion nhw. Gaudu fydd agosaf at y brig dybiwn i wedi perfformiadau gwych a chyson ar draws y flwyddyn hyd yn hyn; a bydd Grand Départ yn ei famwlad yn Llydaw yn siwr o roi’r gwynt yn ei hwyliau. Bydd y Ffrancwyr hefyd yn cadw llygad ar Aurélien Paret-Peintre o AG2R Citroen, reidiwr ifanc all ddatblygu i fod yn seren ddisglair iddynt.


DAROGAN

Yn gyntaf, fel hyn dwi’n gweld sefyllfa hierarchol y ffefrynnau:

Wedi pwyso a mesur yr holl ffactorau, dwi’n credu y bydd Primož Roglič yn ennill y Tour eleni. Mi fydd o a’r tîm wedi dysgu o’u camgymeriadau (lu, wrth edrych yn ôl) a’n ddigon cryf i ddelio gyda’r bygythiad gan Tadej Pogačar. Ei dîm bydd ei arf fwyaf, heb os, ond dwi’n disgwyl iddo serennu ar draws y ras ym mhob tirwedd ac agwedd. Ydw, mi ydw i’n disgwyl iddo gael un diwrnod gwael, ond yn wahanol i’r llynnedd bydd hynny ddim yn ei frathu cymaint.


***

Felly, diolch o galon i chi am ddarllen y rhagolwg hwn - a dwi’n ymddiheuro os ydi o braidd yn hir! Dwi’n gobeithio’ch bod chi wedi dal clwy’r Tour erbyn hyn, a’n barod am ras sy’n argoeli i fod yn ddifyr dros ben.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page