top of page

Rhagolwg: Tour de France Femmes 2022

Ymysg y geiriau yr ydym ni wedi laru ar eu clywed dros y misoedd a’r blynyddoedd diwethaf yw ‘digynsail’. Mae popeth yn ddigynsail ‘di mynd. Ond mae’r hyn sydd ar y gorwel yn y byd seiclo ymhen wythnos yn sicr yn teilyngu defnydd o’r gair. Bydd y Tour de France Femmes yn cynnig llwyfan digynsail i peloton y menywod.


Er y bydd nifer yn mynnu mai dyma’r Tour de France cyntaf i fenywod, mae’r gwirionedd yn llawer iawn gwahanol. Dros gyfnod o saith degawd, mae ras ‘gyfatebol’ i fenywod wedi bod yn amrywiol o ran maint, her a mawredd, gydag ambell un yn para’r dair wythnos gyfan, neu rai mwy diweddar yn ddim ond un diwrnod o ‘atodiad ticio bocs’.


Fel hanes seiclo menywod yn gyffredinol, mae hanes y ras yn ei ymgnawdoliadau amrywiol wedi bod yn un helbulus, ymhell o lwybr hawddgar, di-drafferth. Nid datblygiad llinol a gafwyd, ac mae newydd-ddyfodiad y Tour i’r menywod yn dod yn dilyn cam am yn ôl o ran y ras, ond fel rhan o gam ymlaen o ran y gamp yn ei chyfanrwydd.


Roedd y ras ar ei thebycaf i ras y dynion yn ystod yr 80au, neu’n fwy penodol rhwng 1984 a 1989, dan yr enw Tour de France Féminin. Bryd hynny, roedd hi’n ras dair wythnos yn ymgymryd â’r un heriau ag y byddai’r dynion yn ei wneud. Byddai’r cymalau, fodd bynnag, yn fyrrach ac yn cael ei gynnal cyn i’r dynion fynd i’r afael a’r cwrs.


Ers hynny, mae wedi bod yn anodd i ‘Tour de France’ i’r menywod gael unrhyw gydnabyddiaeth neu hygrededd wrth i’r trefnwyr, ASO, wrthod trefnu un, ac ar ben hynny wrthod unrhyw ddolen o ran enw gan ras gan drefnwyr eraill. Drwy’r nawdegau a degawd cyntaf y ganrif hon, fodd bynnag, bu ras lwyddiannus o dan enw’r Tour Cycliste Féminin ac yna La Grande Boucle Féminine, dan drefniant Pierre Boué.


Yn y wedd honno o’r ‘Tour’ y cawson ni’r sawl cyntaf o Gymru i ddod i’r brig, a hynny wrth i Nicole Cooke ennill ddwywaith o’r bron yn 2006 a 2007. Ar ei hanterth, roedd y ras honno yn swmpus a hygred gan gynnwys 14 cymalau dros fil a hanner o gilometrau, ond prysur ddirywio wnaeth, a Cooke yn ennill ras bum cymal o 400-450km.


Yn sgil hynny, fodd bynnag, mae ymdrech yr ASO i godi proffil y gamp ar lwyfan y Tour de France wedi bod yn weddol warthus. Er i mi orfod cyfaddef i fwynhau La Course - y ras un diwrnod - yn fawr iawn, gydag ambell i ras hynod gofiadwy wedi eu cael, mae’n gywilyddus mai dyma oedd eithafion eu hymdrech i greu ras hygred a mawreddog i’r menywod. Rhaid dweud hefyd fod rasys megis y Tour de l’Aude a’r Tour de l’Ardèche wedi camu i’r bwlch mewn ffordd drwy gynnig ras wythnos yn Ffrainc i’r menywod, ond eto ni fu’r rhain yn ddigonol.


Mi ddylai hyn newid eleni. Mae’r Tour de France Femmes yn gynllun ariannol cynaliadwy gyda noddwyr megis Zwift yn cyfrannu tolc go lew i sicrhau rhediad y ras. Unwaith y bydd yn codi momentwm y gobaith yw y bydd yn gallu sefyll yn annibynnol heb orfod cael ei ariannu mor helaeth, ac fel ddywed y trefnwr Christian Prudhomme, y bydd yn dal i ffynnu mewn can mlynedd.


Mae’n sicr yn codi’r bar o ran rasys eraill, a’r gobaith yw y bydd mwy o rasys yn medru dilyn yr esiampl. Mae rasys o’r math hwn yn brin i’r menywod - rasys wythnos sy’n gofyn am gyflawnder a gallu dringo - ond mae pethau’n araf wella. Araf bach mae mynd ymhell.


Er mwyn bod yn deilwng o’r ras hon, bydd y rhagolwg hwn yn dilyn fformat y rhai y byddaf i’n eu hysgrifennu ar gyfer Grand Tours y dynion, er yn naturiol, gan mai ras wyth niwrnod yw hwn ac nid tair wythnos, mae fymryn yn fwy cryno. Cadwer olwg ar BBC Cymru Fyw am ddarn am y ras gennyf hefyd.


Ffeithluniau defnyddiol



Y Cwrs


Cymal 1

Bydd cymal cyntaf yn hanes y Tour de France Femmes ar ei newydd wedd yn cael ei redeg ar yr un diwrnod a chymal olaf ras y dynion, ar fwy neu lai’r un cwrs. Cylchdeithiau o’r Champs-Élysées sydd ar y gweill i’r reidwyr - deuddeg cylchdaith a bod yn benodol - a disgwylir gwib glwstwr i gychwyn y ras. Wedi dweud hynny, pan redwyd La Course ar y cwrs hwn, mi lwyddodd Anna van der Breggen, sydd bellach wedi ymddeol, i ymosod ac ennill, ac felly mae’n bosib y bydd rhywun beiddgar yn awyddus i fanteisio ar unrhyw nerfau o fewn y peloton.


Cymal 2

Aros yn Île de la France, rhanbarth y brifddinas, fydd y reidwyr ar gyfer yr ail gymal gan groesi ardal y Brie cyn teithio i gyfeiriad y Champagne. Er yn ymddangos fel cymal digon rhwydd a hawddgar ar yr olwg gyntaf, mae’r diweddglo ar ychydig o allt. Mae llwythi o reidwyr o fewn y peloton - sy’n rhan o’r timau mwyaf a chryfaf - fydd wrth eu boddau ar y math yma o ddiweddglo, ac felly’n benderfynol o gadw unrhyw wibwyr draw.


Cymal 3

Ar gymal 3 y byddwn ni’n gweld yr awgrym cyntaf o bwy sydd wirioneddol yn anelu am y crys melyn ar ddiwedd y ras. Gan aros yn rhanbarth y Champagne, bydd y reidwyr yn teithio o Reims i Épernay ar ddiwrnod sy’n cynnwys cyfres o elltydd yn y 50km olaf. Mae’r ddau gyntaf yn rhai categori 4, ac yna un categori 3, cyn y daw’r olaf ohonynt - y Mont Bernon - o fewn y pum cilomedr olaf. Yr hyn sy’n arwyddocaol am hwn yw’r eiliadau bonws sydd ar gael ar y dosbarthiad cyffredinol, ac nid yr allt ei hun sy’n ddim mwy na phloryn mewn gwirionedd (1km ar lai na 5%). Mae diweddgloeon yn Épernay yn aml wedi arwain at rasio tanllyd ac ymosodiadau, a gallwn obeithio’n sicr am efelychiant o hynny.


Cymal 4

Er yn parhau o fewn ardal y Champagne, bydd cymal 4 yn dra wahanol. Gan ddechrau yn nhref hyfryd Troyes a gorffen yn Bar-sur-Aube, bydd y diwrnod yn cynnwys chwech o elltydd, dau ohonynt yn gat 3, tri ohonynt yn gat 4 a’r olaf ond un yn gyfle am eiliadau bonws ar gyfer y crys melyn. Fodd bynnag, nid yr elltydd yn unig sy’n gwneud y cymal hwn yn un diddorol. Mae’r cymal yn cynnwys pedwar o sectorau graean ar lonydd gwynion drwy’r gwinllanoedd, a’r rheiny’n cyfro 13km (8 milltir) o route y dydd. Bydd hi’n gymal hynod ddramatig a thrawiadol i ni’r gwylwyr, ond bydd rhaid i bob un reidiwr - ond yn enwedig y rhai sydd â gobeithion o ennill y crys melyn - fod ar eu gwyliadwraeth.


Interliwd: Sectorau graean mewn rasys fel hyn

Mae’r sectorau graean yma, fel sydd gennym ni ar gymal 4, yn dwyn ysbrydoliaeth o fy hoff ras o’r tymor, Strade Bianche. Mae trefnwyr rasys mwy, fel y Tour de France a’r Giro d’Italia, wedi bachu ar y syniad a chynnwys sectorau o’r fath yn y rasys hynny er mwyn cynyddu’r cyffro, ac apelio at y gwylwyr. Un ddadl yw fod hyn yn nod i’r gorffennol, a’r math o arwyneb ffordd y byddai arwyr y gamp wedi rasio arno yn y gorffennol. Ond wrth gwrs, mae cyflymder y peloton lawer iawn yn uwch erbyn hyn, ac felly mae’r tebygolrwydd o ddamweiniau a phroblemau mecanyddol yn cynyddu o’i gymharu â chymalau ar darmac. Dydy rhai o fewn y peloton a thu allan ddim yn hoff o’r ffaith fod modd i fisoedd o hyfforddiant fynd i’r gwynt gydag un eiliad o drybeini ar y graean. Ond i mi mae hynny’n ddadl sydd heb gymaint a hynny o sail, gan fod hynny’n gallu digwydd unrhyw le, nid yn unig ar y graean.  Yn ogystal, mi alla i feddwl am sawl ffordd mae’r peloton wedi mynd drosto - Col de Plan Bois yn yr Alpau yn Dauphine 2020 a’r ffordd rhwng Penybontfawr a Llyn Efyrnwy ar y Women’s Tour rai misoedd yn ôl - sydd yn dyllog a hynod beryglus. Hynny’n llawer gwaeth o ran diogelwch na graean sy’n cael ei stem-rolio cyn i’r peloton fynd drosto. Felly os dwi’n bod yn hunanol, dwi wrth fy modd yn gwylio’r wledd i’r llygaid ar y lonydd gwynion, a’r holl ddrama a thensiwn sy’n dod gydag o.


Cymal 5

Mi ddylai cymal 5 ddiweddu mewn gwib glwstwr wrth i’r peloton symud draw o Bar-le-duc i Saint Dié yn y Vosges. Fodd bynnag, mae cwpl o blorod all greu rhywfaint o gynnwrf, yr olaf o’r rheiny yn cynnig eiliadau bonws o fewn yr 20km olaf.


Cymal 6

Cymal mwy bryniog sy’n wynebu’r peloton ar y chweched dydd wrth iddynt deithio tua’r dwyrain heb fod ymhell o’r afon Rhine a ffin yr Almaen. Y 10km olaf sy’n debygol o greu’r cynnwrf mwyaf, er fod tipyn o elltydd cyn hynny gan gynnwys un ag eiliadau bonws, gyda dringfa gat 4, ond sy’n parhau wedi’r llinell pwyntiau dosbarthiad mynyddoedd, cyn disgyniad cyflym i’r llinell derfyn yn Rosheim.


Cymal 7

Par o gymalau dringo arwyddocaol sy’n wynebu’r reidwyr i gloi’r Tour de France Femmes eleni. Ar ôl dechrau gweddol hamddenol yn yr Alsace daw tair o ddringfeydd anoddaf rhanbarth y Vosges, a’r rheiny i gyd yn rhai categori 3. Mae’r ddwy gyntaf ohonynt yn disgyn o fewn hanner cynta’r cymal; y Petit Ballon a’r Col du Platzerwasel. Mae’r olaf ohonynt, y Grand Ballon, yn dechrau gydag oddeutu 20km yn weddill, a’i chopa ryw 7km o’r diwedd. Mae’r hanner cyntaf yn weddol rhwydd gyda graddiannau’n gyson o tua 4 neu 5%, ond wedyn mae’r trefnwyr wedi lluchio cyfle euraidd am eiliadau bonws ryw hanner ffordd i fyny, all brofi’n athrylithgar. Hynny oherwydd y bydd o’n annog ymosodiadau cyn ail hanner y ddringfa, sy’n fwy heriol na’r hanner cyntaf a’r graddiannau’n aros uwchben 8%. Cymal sydd â sgôp am ymosodiadau o hirbell o ystyried y dringfeydd yn yr hanner cyntaf, ac hefyd yn un sy’n annog rasio tanllyd y mae gwylwyr seiclo menywod yn gyfarwydd ag o. Bydd y diweddglo mwy gwastad ar ôl y ddringfa yn apelgar yn enwedig at ymosodwyr y peloton, ac nid y timau cryfion, fydd yn sicr yn cyffroi’r gynulleidfa.


Cymal 8

Bydd cymal olaf y Tour de France Femmes yn hollbwysig yng nghyd-destun y dosbarthiad cyffredinol. Un arall o fanteision dyluniad y cwrs hwn yw fod hwn yn dod fel uchafbwynt ar ddiwedd y ras ac felly’n rhoi’r cyfle i’r canlyniad gael ei benderfynu ar y diwrnod olaf, gan gynyddu’r cyffro yn sicr. Does dim gymaint â hynny o gyfle yn y dyddiau blaenorol chwaith i ennill tolc dda o amser, ac felly mi ddylai’r rhai ar y brig fod yn agos at ei gilydd o ran amser. Mewn egwyddor, mi allai’r ddringfa gategori 1 y Ballon d’Alsace sydd â’i chopa 40km o’r diwedd gorddi’r dyfroedd rywfaint, ond byddwn i’n disgwyl i’r ddrama fawr ddod ar y diweddglo copa i La Super Planche des Belles Filles. Brenhines dringfeydd y Vosges, ac un sy’n gyfarwydd i wylwyr Tour y dynion ers blynyddoedd bellach. O’r hyn welson ni ar gymal 7 y Tour dynion eleni, mae’n ddringfa hunllefus; yn dechrau’n gyson serth ar oddeutu 10% ac yna’n mynd yn anoddach wrth ddynesu at y brig, gyda chydrannau hyd at 24%. Ar ben hynny, mae arwyneb y ffordd yn raeanog yn y cilometrau olaf, fydd yn sicr yn cynyddu’r drama hyd yn oed yn fwy. Mae’n hawdd gweld sefyllfa ble mae brenhines gyntaf y Tour de France Femmes ar ei newydd wedd yn cael ei choroni ar y ddringfa olaf un.


Y gwibwyr a reidwyr eraill i’w gwylio

A fydd unrhyw un yn gallu atal Lorena Wiebes rhag cipio’r cymalau gwibio i gyd iddi hi’i hun yn y Tour de France Femmes eleni? Mae’r Isalmaenes o dîm DSM wedi ennill 13 ras allan o 30 y mae hi wedi ei dechrau hyd yn hyn eleni, ac felly’n cyrraedd y ras a disgwyliadau uchel.


Bydd pencampwraig y byd Elisa Balsamo yn sicr o fod yn awyddus i ennill cymal o’r ras hon tra’n gwisgo crys yr enfys. Mae hi wedi profi ei hun i fod yn wibwraig abl iawn y tymor hwn, ac hefyd yn hyblyg ar gymalau mwy bryniog eu natur.


A hithau wedi ennill Strade Bianche a De Ronde van Vlaanderen eleni, mae pencampwraig Gwlad Belg Lotte Kopecky yn un arall fydd yn ysu i greu argraff ar y ras eleni. Yn gryf ar y rasys mwy bryniog yn ogystal ag yn y gwibiau clwstwr, bydd ei llygaid hi wedi eu hoelio ar sawl un o’r cymalau byddwn i’n tybio.


Er efallai fod dyddiau gorau ei gyrfa yn y gorffennol bellach, mi ddylai Marta Bastianelli, y wibwraig o’r Eidal, wneud y mwyaf o’i phrofiad i gystadlu’n frwd ar ambell i gymal yn ystod y Tour.


Mae mor braf gallu dweud y bydd y reidwraig orau erioed, Marianne Vos, yn ymgymryd a her y Tour de France Femmes eleni. Yn berchen ar y palmares mwyaf anhygoel, ac ar flynyddoedd maith o brofiad ac amryddoniau, byddwn i’n disgwyl iddi fod yn cystadlu’n frwd iawn ar nifer o gymalau, er nad ydy hi wedi cael y tymor gorau hyd yn hyn o ran buddugoliaethau a chilometrau rasio.


Bydd hi’n werth cadw golwg ar Emma Norsgaard o Ddenmarc, Coryn Labecki o’r America a Maria Confalonieri hefyd yn ystod rhai o gymalau’r ras.


Y Ffefrynnau

Ymwrthodiad i ddechrau: dydy’r rhestr ddechrau heb ei chyhoeddi’n gyflawn eto ac felly mae’n bosib na fydd rhai o’r rhain hyd yn oed yn rasio. Ar ben hynny, gan ei bod yn ras newydd sbon, mae’n anodd dehongli’r ffefrynnau yn yr un modd a rasys eraill. Ta waeth am hynny, ‘mlaen â ni.


Mi ddechreuwn ni gyda’r prif ffefryn, yn fy nhyb i, sef Annemiek van Vleuten o dîm Movistar. Dyma brif darged ei thymor, ac mae’n sicr wedi bod yn drylwyr ac yn llwyddiannus yn ei pharatoadau. Enillodd hi’r Giro Rosa - sydd yn y gorffennol wedi’i ystyried yn unig ‘Grand Tour’ y menywod, er colli ei fawredd yn y blynyddoedd diwethaf yn rhannol oherwydd twf rasys eraill. Enillodd ddau o’r cymalau mynyddig hefyd, i ychwanegu at ei palmares llewyrchus yn rasys undydd y tymor hwn - buddugoliaethau yn Liège ac Omloop a podiwm yn Strade Bianche, de Ronde a Flèche. Prawf arall yw hwn o hyblygrwydd a’i gallu ar draws pob elfen o’r gamp; ar gymalau bryniog, yn y mynyddoedd ac ar heolydd graeanog. Yn 39 oed ac yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, mae’n gwbl amlwg fod yr Isalmaenes yn benderfynol o ddod a’i gyrfa i ben gan ddod yn fuddugwraig gyntaf y ras newydd.


SD Worx yw tîm cryfaf peloton y menywod, a hynny ers blynyddoedd maith bellach (Boels Dolmans oeddent gynt). Demi Vollering fydd eu harweinydd nhw, a hithau’n un sydd wedi ffrwydro ar y sin ar ôl Covid. Hi, mewn ffordd, yw’r Anna van der Breggen newydd. van der Breggen yn un o arwyr y gamp dros y degawd diwethaf, ac ar ôl bod o gymorth mawr i Vollering ym mlynyddoedd cynnar ei gyrfa, mae bellach yn directeuse sportive gyda’r tîm ac yn medru parhau i roi tactegau a chymorth i Vollering a gweddill y garfan. Er fod rasys undydd yn apelio’n fwy at ei rhinweddau o’r hyn yr ydym ni wedi’i weld - a hithau wedi ennill a gorffen ar bodiwm sawl ras undydd eleni - mae hi hefyd wedi dangos fflachiadau o’i gallu dringo gan ennill y cymal diweddglo copa i Lagunas de Neila yn ystod y Vuelta a Burgos. Mae gan y tim ddwy garden arall i’w chwarae yn ogystal; dwy brofiadol yn Marlen Reusser, arbenigwraig yn erbyn y cloc, a’r ddringwraig Ashleigh Moolman. Arfau pwysig i Vollering, a dwy fydd yn sicr yn amlwg yn uchelfannau’r ras.


Mae cwpl o dimau cryf eraill y dylwn eu crybwyll. Trek Segafredo yw’r cyntaf, sy’n cyrraedd y Tour gyda dwy o arweinwyr galluog yn Elisa Longo Borghini ac Ellen van Dijk. Mae’r ddwy yn gryf dros ben yn y rasys undydd a bydd hi’n ddiddorol iawn gweld sut y bydden nhw’n ymdopi ar y dringfeydd mwy heriol tua diwedd y ras. Yr ail yw FDJ Suez Futuroscope, sy’n cyrraedd gyda dringwraig 24 oed o’r Eidal, Marta Cavalli, yn arweinydd. Hynny wedi iddi ddod yn ail tu ôl i van Vleuten yn y Giro, ar ben ennill ras undydd y Mont Ventoux Dénivelé. Mae’n gyson hefyd yn y rasys undydd, ac felly mae’i gallu cyflawn yn sicr yn ei rhoi ymysg y prif ffefrynnau. Rhaid hefyd crybwyll Cecilie Uttrup Ludwig, sydd wedi cael tymor llewyrchus hyd yn hyn, gan orffen yn 6ed yn y Giro ac yn 5ed ar gymal diweddglo copa’r Lagunas de Neila yn Burgos. Reidwraig gyflawn arall y dylid cadw golwg arni.


Dylid hefyd crybwyll ambell i enw arall sy’n sicr a’r gallu i ddangos eu doniau ar draws yr wythnos, ac efallai gyrraedd uchelfannau’r dosbarthiad cyffredinol:


Mae Juliette Labous yn ddringwraig gymharol ifanc sydd yn sicr wedi profi ei gallu eleni yn lifrai DSM. Enillodd gymal diweddglo copa i Passo del Maniva yn y Giro Rosa, yn ogystal â dod i’r brig yn y Vuelta a Burgos. A hithau’n hannu o ran gogleddol y Jura, bydd hi’n teimlo’n gartrefol ar y math o ddringfeydd fydd yn ymddangos ar ddiwedd yr wythnos.


Ffrancwraig ifanc arall y dylid ei gwylio yw Évita Muzic, ddaeth yn ail yn Burgos eleni ac yn 3ydd ar y cymal copa yna i Lagunas de Neila. Mae hefyd wedi ennill cymal o’r Giro Rosa yn y gorffennol, yn ogystal â bod yn gyson gref yn y rasys undydd bryniog.


Dringwraig bur ar ochr arall sbectrwm oedran a phrofiad ar restr ddechrau’r ras yw Mavi Garcia, pencampwraig Sbaen sy’n rhan o dîm UAE. Daeth yn drydydd yn y Giro Rosa, gan orffen yn gyson yn neg uchaf y cymalau, tra hefyd yn perfformio’n gyson weddill y tymor gydag 2il yn y Ruta del Sol ac mewn rasys undydd.


I gloi, un ychydig yn llai cyfarwydd ar y sîn Ewropeaidd i gadw golwg arni yw’r Americanwraig Krista Doebel-Hickok, sy’n ddringwraig brofiadol. Mae’n sicr ar y trywydd cywir ar drothwy’r Tour wedi iddi ddod yn 4ydd ar gymal y Lagunas de Neila, a 4ydd y dosbarthiad cyffredinol yn Burgos hefyd.


I grynhoi:

⭐️⭐️⭐️ Annemiek van Vleuten, Demi Vollering

⭐️⭐️ Juliette Labous, Evita Muzic, Marta Cavalli, Mavi Garcia

⭐️ Ashleigh Moolman, Krista Doebel-Hickok, Cecilie Uttrup Ludwig, Ellen van Dijk, Elisa Longo Borghini


I gloi

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddilyn hynt a helynt y Tour de France Femmes eleni. Mae rasio menywod yn wahanol i rasio dynion, mewn ffordd gadarnhaol. Er, neu efallai oherwydd, fod y cymalau yn fyrrach, maent yn dueddol o gynhyrchu rasys ffrwydrol a chyffrous, ac yn fy marn i, mae’r cwrs sydd wedi ei ddylunio ar eu cyfer yn berffaith ar gyfer annog yr arddull yma.


Fel sy’n arferol, mae’n rhaid i mi roi fy mhen ar y bloc a datgan rhagdybiaeth. Mae’n gymysgedd o’r rhagfynegi a’r gobaith, a dweud y gwir.


Dwi am ragdybio mai Annemiek van Vleuten yw’r un sydd am ennill y Tour de France Femmes eleni. Mae’n amryddawn ac ar rediad dda o fuddugoliaethau; pe gallai hi gyfuno’r ddau beth yma, yna mae’n sicr ar drywydd dod yn fuddugwraig gyntaf y ras ar ei newydd wedd. Mi fyddwn i efallai fel arfer yn osgoi’r enw amlwg, ond dwi’n gobeithio y gwnaiff van Vleuten ddod i’r brig a hithau’n ymddeol ar ddiwedd y tymor - mae gan y reidwyr iau fel Cavalli a Labous ddigon o flynyddoedd o’u blaenau i ennill y ras.


Mwynhewch y ras.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page