top of page

Ryff geid i'r seiclo yng Ngemau Olympaidd Tokyo

Updated: Jul 28, 2021

Y digwyddiadau seiclo, dydd wrth ddydd, yng Ngemau Olympaidd Tokyo; gan gynnwys rhagolygon, darogan, golwg ar y Cymry yn ogystal a'r canlyniadau wedi i'r rasys gael eu cwblhau. Cadwch lygad ar y ddalen hon drwy gydol y Gemau i gael eich diweddaru.


Y newyddion da yw bod 'na seiclo i'w wylio bron bob dydd rhwng y seremoni agoriadol ar y 23ain o Orffennaf hyd y sermoni cloi ar yr 8fed o Awst.


Mae'n argoeli i fod yn ddifyr iawn i'w wylio.


Gol.: Diolch i Rhys James am sylwi ar wall yr ydw i wedi'i gywiro bellach. 4 ras sydd yn yr omnium y tro hwn ac nid y 6 traddodiadol.


Sut i wylio:

AR-LEIN: GCN+ (tanysgrifiad), Eurosport Player (tanysgrifiad), Discovery+ (tanysgrifiad), BBC Sport ar-lein

TELEDU: Eurosport, BBC One (tebygol y bydden nhw'n fflicio rhwng campau)


Neidio i:

Dydd Sadwrn, 24ain o Orffennaf

Dydd Sul, 25ain o Orffennaf

Dydd Llun, 26ain o Orffennaf

Dydd Mawrth, 27ain o Orffennaf

Dydd Mercher, 28ain o Orffennaf

Dydd Gwener, 30ain o Orffennaf

Dydd Sul, 1af o Awst

Dydd Llun, 2il o Awst

Dydd Mawrth, 3ydd o Awst

Dydd Mercher, 4ydd o Awst

Dydd Iau, 5ed o Awst

Dydd Gwener, 6ed o Awst

Dydd Sadwrn, 7fed o Awst

Dydd Sul, 8fed o Awst


Dydd Sadwrn, 24ain o Orffennaf


Ras Ffordd/Heol y Dynion

Gwybodaeth allweddol: Y math o ras feics 'rydym ni 'gyd yn gyfarwydd ag o, yn enwedig y rhai ohonom sydd wedi bod yn gwylio'r Tour de France yn ddiweddar. Y cyntaf, ail a thrydydd dros y llinell yn ennill y medalau. Cwrs 234km o gilometrau sy'n wynebu'r reidwyr, a hynny'n cynnwys nifer o ddringfeydd caled fydd yn tynnu dwr i ddannedd y dringwyr. Y ddringfa nodedig olaf i Kagosaka yn dod llai na 20km o'r diwedd, ond wedi'r goriwaered o'r copa mae 'na ddringo graddol i'r diwedd. Yn sicr o ffafrio dringwyr pur a puncheurs.


Amser: Cychwyn am 3 y bore, y diwedd o gwmpas 10 o'r gloch (amser Prydain)


Ffefrynnau: Fel byddai un yn disgwyl, mae'r rhestr ddechrau'n llawn i'r ymylon gyda reidwyr all herio. Yn syth o'r Tour de France, mae reidwyr megis Alejandro Valverde (Sbaen), Rigoberto Uran (Colombia), David Gaudu (Ffrainc), Jakob Fuglsang (Denmarc), Bauke Mollema (yr Iseldiroedd), Geraint Thomas, Tao Geoghegan Hart a Simon Yates (y tri o Brydain). Tu hwnt i hynny, cadwch olwg ar Remco Evenepoel (Gwlad Belg), seren ifanc all ryfeddu unwaith eto. Bydd Evenepoel yn gorfod rhannu'r arweinyddiaeth gyda Wout van Aert, fodd bynnag, sy'n ffefryn enfawr wedi'i berfformiad yn y Tour. Fel arall, Tadej Pogacar a Primoz Roglic - y ddau yn nhim Slofenia - yw'r ffefrynnau mawrion; brwydr na welson ni yn y Tour wedi anaf i Roglic yn gynnar.


Cymro: Geraint Thomas. Un o'i brif amcanion ar gyfer y tymor, ond a fydd o'n holliach wedi'r anaf i'w ysgwydd neu ai bod o gymorth i Yates a Geoghegan Hart fydd ei flaenoriaeth?


CANLYNIAD Aur: RICHARD CARAPAZ (Ecwador)

Arian: WOUT van AERT (Gwlad Belg)

Efydd: TADEJ POGACAR (Slofenia)


Dydd Sul, 25ain o Orffennaf


Ras Ffordd/Heol y Menywod


Gwybodaeth allweddol: Yn debyg iawn i bob ras arall, mae ras y menywod yn fyrrach na ras y dynion. Quelle surprise. Ond dydy hynny ddim yn ddrwg i gyd, mae'n aml yn golygu fod y ras


Amser: Dechrau tua 4 y bore; y diwedd tua 9-9.30.


Ffefrynnau: Yr un enwau sy'n dod i'r amlwg eto, fel sy'n aml yn digwydd yn rasys y menywod. Y gwahaniaeth y tro hwn yw eu bod nhw'n rasio ar yr un tim, sef tim yr Iseldiroedd. Y deiliad, Anna van der Breggen; cyn-bencampwraig byd Annemiek van Vleuten; ennillydd La Course, Demi Vollering; a'r seiclwr gorau erioed, Marianne Vos. Tu hwnt i hynny, cadwch olwg barcud ar dimau megis Denmarc gydag Emma Norsgaard a Cecilie Uttrup Ludwig; yr Eidal gydag Elisa Longo Borghini a Marta Bastianelli; yr Almaen gyda Lisa Brennauer a Liane Lippert; ac Awstralia gydag Amanda Spratt, Grace Brown a Sarah Gigante. Mae Lizzie Deignan hefyd yn un i'w gwylio o dim Prydain.


CANLYNIAD Aur: ANNA KIESENHOFER (Awstria)

Arian: ANNEMIEK van VLEUTEN (Iseldiroedd)

Efydd: ELISA LONGO BORGHINI (Yr Eidal)


Triathlon Dynion

Gwybodaeth allweddol: Swim. Bike. Run. Swnio'n syml, 'tydi. Ac yn ol y disgwyl, mae'r pellteroedd yn 'Olympic Distance'. Dechrau gydag 1.5km o nofio, wedyn route 40km ar y beic sy'n mynd islaw lefel y mor, cyn gorffen gan redeg pedair gwaith o amgylch cylch 2.5km.


Amser: Rhwng 22:20 a 01:00. Debyg mai ar alw bydda i'n gwylio!


Ffefrynnau: Jonny Brownlee (Prydain), Vincent Luis (Ffrainc), Alex Yee (Prydain), Javier Gomez (Sbaen), Mario Mola (Sbaen)


CANLYNIAD Aur: KRISTIAN BLUMMENFELT (Norwy)

Arian: ALEX YEE (Prydain)

Efydd: HAYDEN WILDE (Awstralia)


Dydd Llun, 26ain o Orffennaf


Beicio Mynydd Traws Gwlad y Dynion

Gwybodaeth allweddol: Yn ol rhai sy'n gwybod llawer mwy nag ydw i am feicio mynydd, dyma'r cwrs caletaf erioed yn y Gemau Olympaidd. Eto i'w gadarnhau, ond bydd y reidwyr yn cyflawni'r cylch uchod rhwng 7 a 9 o weithiau. Y tri chyflymaf yn ennill y medalau.


Amser: Rhwng 7 a 9 y bore


Ffefrynnau: Y ffefryn mawr yw Mathieu van der Poel, adawodd y Tour de France yn gynnar wedi cyfnod yn y melyn yn sgil buddugoliaeth ar gymal 2, er mwyn paratoi ar gyfer y ras hon. Ei brif gystadleuwyr bydd y Pyrediniwr, Tom Pidcock, ond peidiwch chwaith a diystyrru deiliad y tlws, Nino Schuter. Mae'n swnio fel ein bod ni'n gweld yr un 'newid yn yr olyniaeth' yn y byd MTB ag ydyn ni'n ei weld ar y ffordd, sef y reidwyr ifanc yn disodli'r rhai mwy profiadol. Rydym ni eisoes wedi rhestru'r ffefrynnau heb son am bencampwr y byd, Jordan Sarrou, ac arweinydd Cwpan y Byd, Mathias Fluckiger. Argoeli i fod yn ras gystadleuol dros ben.


CANLYNIAD Aur: TOM PIDCOCK (Prydain)

Arian: MATHIAS FLUECKIGER (Swistir)

Efydd: DAVID VALERO (Sbaen)


Triathlon Menywod

Gwybodaeth allweddol: Pan oedd Nia Davies o Nawr yw'r Awr yn sylwebu ar Seiclo S4C wythnos diwethaf a bu'r tim yn trafod anhafaledd rhwng pellteroedd dynion a menywod mewn seiclo, ei sylwad hi oedd bod hynny'n syndod a rhyfeddod i rywun sy'n dod o gefndir triathlon, gan fod popeth yr un pellter. Dyna sydd yma; 'Olympic Distance' eto; 1.5km nofio, 40km ar y beic a 10km o redeg.


Amser: Rhwng 22:20 a 01:00.


Sut i wylio:

AR-LEIN: GCN+ (tanysgrifiad), Eurosport Player (tanysgrifiad), Discovery+ (tanysgrifiad), BBC Sport ar-lein

TELEDU: Eurosport, BBC One (tebygol y bydden nhw'n fflicio rhwng campau)


Ffefrynnau: I ddod


CANLYNIAD Aur: FLORA DUFFY (Bermuda)

Arian: GEORGIA TAYLOR-BROWN (Prydain)

Efydd: KATIE ZAFARES (Seland Newydd)


Dydd Mawrth, 27ain o Orffennaf


Beicio Mynydd Traws Gwlad y Menywod

Gwybodaeth allweddol: Yr un cwrs a'r dynion, ac eto nid oes cadarnhad o ran pasawl cylchdaith y byddent yn cwblhau.


Amser: 07:00-09:00


Ffefrynnau: Un sy'n serennu ym mhob agwedd o seiclo, yw Pauline Ferrand-Prevot o Ffrainc a hithau wedi ennill pencampwriaethau'r byd mewn nifer o ddisgyblaethau. Fodd bynnag, ei chyd-wladwraig fydd ar yr un tim, Loana Lecomte, yw'r ffefryn mawr ar gyfer y ras wedi iddi ennill y bedair ras diwethaf yng Nghwpan y Byd. Un arall o'r reidwyr ifanc sydd wedi hedfan i mewn i'r sin, a hithau ond 21 oed. Deiliad y tlws yw Jenny Rissveds, sydd yn amlwg yn gwybod sut i ennill medal aur, ond heb gael canlyniadau lu eleni. Wedi dweud hynny, gorffennodd ar y podiwm yn rownd ddiwethaf Cwpan y Byd, felly mae'n argoeli'n dda iddi. Evie Richards (Prydain) a Kate Courtney (UDA) yn ddwy i'w gwylio yn ogystal.


CANLYNIAD Aur: JOLANDA NEFF (Swistir)

Arian: SINA FREID (Swistir)

Efydd: LINDA INDERGRAND (Swistir)


Dydd Mercher, 28ain o Orffennaf


REC y Menywod

Gwybodaeth allweddol: I rai sy'n anghyfarwydd gyda'r ras yn erbyn y cloc, nid y tri chyntaf dros y llinell fydd yn ennill y medalau. Hynny oherwydd fod pawb yn cael amser cychwyn penodol, unigol, a'n cwblhau cwrs ar wahan i bawb arall. Y sawl sy'n recordio'r amser cyflymaf sy'n fuddugol. Mae'n braf gweld bod y cwrs Olympaidd yn rhoi lle i'r arbenigwyr yn y maes gael cyfle i serennu.


Amser: 03:25-05:00


Ffefrynnau: Fel sy'n arferol yn seiclo menywod, yr Isalmaenwyr sy'n debygol o serennu, a'r tro hwn yn wahanol i'r ras ffordd, bydd dim tactegau na brwydrau o fewn y tim am y fuddugoliaeth. Dyna sy'n apelio am y REC; every man for himself/woman for herself. Anna van der Breggen ac Annemiek van Vleuten fwy na thebyg yn anelu am ennill medal aur ar y ffordd ac yn y REC. Ditto Grace Brown a Sarah Gigante o dim Awstralia, Chloe Dygert o'r UDA, Elisa Longo Borghini o'r Eidal a Juliette Labous o Ffrainc.


CANLYNIAD Aur: ANNEMIEK van VLEUTEN (Iseldiroedd)

Arian: MARLEN REUSSER (Swistir)

Efydd: ANNA van der BREGGEN (Iseldiroedd)


REC y Dynion

Gwybodaeth allweddol: Ddim cweit yn ffafrio'r arbenigwyr REC pur oherwydd y bryniau, felly bydd angen i'r buddugwr allu goresgyn rheiny'n rhwydd er mwyn cyrraedd y brig. 42km yw'r cwrs i'r dynion.


Amser: 06:00-09:45


Ffefrynnau: Un sydd wedi hysbysebu'i allu'n erbyn y cloc wythnos diwethaf yn y Tour de France yw Wout van Aert. Fyddai unrhyw un yn betio'n erbyn y Belgiad yn ennill ras y ffordd a'r REC? Cyd-wladwr iddo, Remco Evenepoel, yn un arall fydd eisiau creu argraff ac yntau wedi dangos ei allu'n y Giro, ac mae'n bosib bod y cwrs yn gweddu'n well iddo fo na WvA. O ran yr arbenigwyr, Filippo Ganna'n enw amlwg yn ogystal a Rohan Dennis, a byddai'n braf gweld Tom Dumoulin nol yn cystadlu tua'r brig wedi saib o'r gamp. Cadwch lygad ar Stefan Kung (Swistir), Remi Cavagna (Ffrainc) a Kasper Asgreen (Denmarc) sydd wedi profi'u gallu yn y Tour, yn ogystal a Primzo Roglic (Slofenia) a Joao Almeida (Portiwgal).


Cymro: Geraint Thomas. Ei obaith gorau o ennill medal yn y Gemau Olympaidd eleni, ond eto mae'n bosib fod yr anaf i'w ysgwydd wedi pylu unrhyw ddisgwyliad o lwyddiant.


CANLYNIAD Aur:

Arian:

Efydd:


Dydd Gwener, 30ain o Orffennaf


Rasio BMX

Gwybodaeth allweddol: Nes i 'rioed feddwl y byddwn i'n ysgrifennu am BMX ar Y Ddwy Olwyn! Ond os dwy olwyn, rhaid ei grybwyll! Dwy ras, un i'r menywod ac un i'r dynion, sy'n fyr ond yn danllyd (ac yn eithaf difyr i'w wylio) a'r tri cyntaf dros y lein fydd yn hawlio'r medalau.


Amser: 02:00-04:3


Ffefrynnau ras y dynion: Connor Fields (UDA), Sylvain Andre (Ffrainc), Arthur Pilard (Ffrainc), Twan van Gendt (Iseldiroedd), Niek Kimmann (Iseldiroedd), Carlos Ramirez (Colombia)


Ffefrynnau ras y menywod: Mariana Pajon (Colombia), Laura Smulders (Iseldiroedd), Alise Willoughby (UDA), Payton Ridenour (UDA), Maire Camille (Ffrainc), Natalia Afremova (Rwsia)


CANLYNIAD DYNION Aur:

Arian:

Efydd:


CANLYNIAD MENYWOD Aur:

Arian:

Efydd:


Triathlon: Ras Gyfnewid Cymysg

Gwybodaeth allweddol: Ras sy'n ymddangos am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd, ond wedi bod yng Ngemau'r Gymanwlad ers 2014. O'r hyn dwi'n ei ddarllen, mae'n sicr yn rhywbeth i edrych ymlaen ato; ras sy'n para llai na 90 munud ac yn dactegol a chyflym. Mae 'na ddeg tim sydd wedi cyrraedd y Gemau, a phob un yn cynnwys dau ddyn a dwy fenyw. Mae pob aelod yn nofio 300m, ar y beic am 8km a'n rhedeg am 2km yn eu tro cyn cyfnewid gyda'r aelod nesaf. Fel ras gyfnewid arferol, y pedwerydd aelod o'r tim sydd gyntaf dros y llinell sy'n ennill. Mae'n mynd i fod yn wych i'w wylio; triathlon unwaith eto'n arwain y gad o ran cyfartaledd rhwng dynion a menywod, ac mae'n rasio hollol wrth reddf gan nad ydy neb yn gwybod pwy, nac ym mha drefn, bydd yn rasio i'r timau eraill.


Amser: Rhwng 23:20 a 01:20.


Ffefrynnau: I ddod


CANLYNIAD Aur:

Arian:

Efydd:


Dydd Sul, 1af o Awst