top of page

Salzburg, Ljubljana, Brwsel

Henffych gyfeillion!

 

Gobeithio’ch bod chi’n cadw’n iawn i gyd.

 

Dw’n i’m os ydech chi’n cofio’r cofnod cyn dwytha’ i mi’i ’sgwennu, pan ’nes i ddechrau sôn am ddefnyddio cyfres o enwau llefydd fel angor i flogbostiau i ddod – gan ddwyn syniad y diweddar John Davies o’i gyfrol fawr ei bri, ‘Hanes Cymru’.


Wel, dw i am gario hynny ’mlaen yn y cofnod yma, a rhannu ambell air am fy wythnos. (Gol.: o'n i 'di pasa cael hwn allan wythnos diwethaf ond nes i fethu, felly dyna pam bod y dyddiadau'n chwit chwat)

 

Er mwyn cyd-destun, mi oedd gen i arholiad fore Llun, y 6ed o Fai, ac wythnos rydd wedyn tan y nesaf a’r olaf ddydd Mawrth y 14eg. Roedd ambell beth i ’nhynnu fi adre’ am y penwythnos hefyd, felly roedd gen i gwpl o ddyddiau i ddiwallu’r blys i deithio ychydig.

 

Ro’n i rhwng dau feddwl p’un ai i ddychwelyd i hen lecynnau hoff, neu i fentro i fannau newydd i mi.

 

Mentro i fannau newydd aeth â’m pryd i yn y pen draw, yn bennaf er mwyn gallu ffeirio’r awyren am drenau’r cyfandir.

 

Mi fu seiclo’n thema i’r daith o dridiau a hanner, felly dyma fy argraffiadau. Mae ’na ambell beth yr ydw i’n eu cario hefo fi ble bynnag y bwyf, ac mae byd y beic yn un ohonyn nhw.

 

Salzburg

 

Tynnwn y brêcs am ddau funud. Os edrychwch chi ar fap, a rhoi un bys ar Menton, a bys arall yn Salzburg, mi welwch chi ei bod hi’n dipyn o daith.

 

Mi wnes i stopio am ychydig oriau fin nos Lun yn Pavia. Cysylltiad â byd y beic? Wel, fan hyn, ychydig i’r de o Milan, oedd man cychwyn ras Milano-Sanremo eleni – am y tro cyntaf dwi’n credu.

 

Roedd hi’n orig ddymunol iawn. Lliwiau’r adeiladau’n llachar, a naws Eidalaidd hyfryd i’r lle. Chlywais i fawr ddim ond Eidaleg, yn hyfyw ar nos Lun a’r mannau bwyta ac yfed i gyd yn llawn. Ac o fewn munud i lawr strydoedd culion, mi’r oedd hi fel bod mewn pentref. Yn bentref, tref, a dinas mewn un.

 

Dybiwn i nad ydy hi ar y prif lwybrau twristaidd, a dwi’m yn siŵr pe bawn i’n ei argymell fel lle i ddod yn unswydd fel rhan o drip i Milan er enghraifft, ond yn sicr os ydych chi’n pasio ar drên mae hi werth dod am dro.

 

Yn y lluniau, mi welwch chi adeilad yn binc i’m hatgoffa fi o’r Giro, fu’n gwau ei ffordd drwy’r gogledd orllewin drwy’r wythnos, er nad oedd mynd i’w gweld nhw’n rhuthro heibio’n flaenoriaeth y tro hwn.

Mi o’n i’n dal y trên dros nos wedyn – trên cysgadur ydy’r term dwi am ei fathu ar eu cyfer – o Pavia i Salzburg. Mae’r trên yn cychwyn rywle rhwng Genova a Rhufain ar yr arfordir gorllewinol, ac yn gorffen yn Fiena. Toc cyn 7 y bore, mi’r o’n i yn Salzburg.

 

Gan fod cerddoriaeth yn beth arall yr ydw i’n ei gario i bobman, mi’r oedd y dynfa i Salzburg yn gryf. Tref Mozart i raddau helaeth, yma y’i magwyd o, a thref The Sound of Music yn ogystal. Y ddau beth, fel ei gilydd, yn denu ymwelwyr o bedwar ban.

 

Os dwi’n bod yn gwbl onest, fymryn yn groes i’r hyfforddiant glasurol yr ydw i wedi’i gael ar biano, The Sound of Music oedd wedi rhoi’r syniad o Salzburg yn fy mhen; yn benodol, rhaglen i’r BBC a wnaed gan deulu von Trapp cyfoes, y Kanneh-Masons, dros y Nadolig, pan ddaethon nhwythau am dro. Os ddaw hi i’r iPlayer eto, mi fyswn i’n argymell ei gwylio, ac yn argymell albwm cello un ohonyn nhw, Sheku, yn fawr hefyd. Mae ei drefniant o Myfanwy yn hyfryd iawn.

 

Fel o’n i’n sôn, ro’n i yno erbyn 7 y bore, felly digon o gyfle i rodio ymysg y bobl leol ar eu ffordd i’r gwaith cyn i’r torfeydd ddeffro. Roedd y rhagolygon yn anffafriol, ond dim ond dros frecwast y ces i unrhyw law.

 

Dydy hi ddim yn teimlo fel bod The Sound of Music, sy’n amhoblogaidd ymysg Awstriaid a’r Almaeneg eu hiaith yn gyffredinol – anghywirdeb diwylliannol, clwyfau’r rhyfel yn dal yn amrwd pan y’i rhyddhawyd ayyb – wedi mygu’r dref o gwbl, er mai dyma pam bod nifer yn mentro yma.

Gerddi Mirabell yw un o’r prif fannau – yn fan hyn mae’r golygfeydd o gân ‘Do Re Mi’, ar y grisiau er enghraifft – sydd wedi’u henwi ar ôl yr ‘olygfa braf’ oedd gan yr Archesgob Wolf Dietrich von Raitenau o’i garchar a’i fedd ar ôl, ymysg pethau eraill, cael pymtheg o blant gyda’i feistres a briododd yn gyfrinachol.

 

Does dim llawer o gyfeiriadau uniongyrchol at y ffilm, ond mae ’na deithiau tywys pwrpasol i’w ffàns, ac mae ar flaen tafodau llawer wrth gwrs. Ar daith gerdded tywys y bues i arni dros amser cinio – am ddim cofiwch, ond roedd disgwyl cildwrn – mi gaethon ni gyd-ganu un o’r caneuon y tu allan i’r neuadd gyngerdd sy’n ymddangos ar gynffon y ffilm.

 

Digon am hynny, mi’r o’n i eisiau beic. Ro’n i wedi gweld mai dim ond un cwmni oedd yn rhentu beics, a stondin ganddyn nhw yng nghanol y dref. Ond cyfarwyddyd ges i i fynd i’r brif siop, ryw ddeg munud i’r gogledd orllewin ar y bws.

 

I mewn â fi, â phob cyfathrebiad hyd yn hyn wedi bod yn Saesneg (er mawr cywilydd i mi, Almaeneg elfennol iawn sydd gen i, ond digon o Eidaleg i gyfathrebu mewn ambell siop a chaffi). Roedd y system decstio yn broffesiynol iawn, yn awtomatig a phopeth, yn llawn emojis.

 

Mi gafodd y darlun soffistigedig ei ddarnio mewn mater o eiliadau. Es i fewn, a chloch y drws yn canu, y sŵn a’r arogl yn mynd â fi’n syth yn ôl i’r siop feics yn Y Bala. Daeth dyn, profiadol yr olwg, a budredd beics dros ei ddwylo. Prin dim Eidaleg na Saesneg ganddo fo, a phrin dim Almaeneg gennyf innau. Ond rywsut neu’i gilydd, mi ddaethon ni drwyddi, ac mi dalais i fy 12€ am ddwy awr. Doedd gen i ddim dwy awr, ond dyna’r peth rhataf oedd ganddo fo i mi.

Ac felly lawr â fi’n ôl am ganol y dre’ wedyn. Yn edrych ac yn teimlo fel y von Trapps yn un o’r golygfeydd cynnar – ar feic tebyg iawn, gwallt yn y gwynt, a dan ganu siŵr o fod. Heb anghofio’r sbectol haul ar fy mhen, a’r jîns wedi rholio i fyny. Hyd yn oed petawn i’n edrych à la mode, fyswn i ddim callach, ond doedd hynny ddim o bwys.

 

Dyma’r beic oedd gen i. Doeddwn i ddim yn siŵr iawn sut i gael arno fo i ddechrau cychwyn, yn anghyfarwydd iawn efo ffrâm ‘hamddenol’ fel hon. Roedd saith gêr i’w cael, yn newid efo twist, fel oedd gen i ar fy meics cyntaf. Ro’n i ar y beic am ryw awr dda, ond lwyddais i ddim i dwistio’r peth y ffordd o’n i eisiau.

 

Cael allan i’r ‘wlad’ mymryn oedd y gobaith efo’r beic – a, dwi’n cyfaddef, mynd i chwilio am Villa von Trapp. Mi ddois i o hyd iddo fo ymhen hir a hwyr mewn lle od iawn; ar y cyrion llai cyfoethog dafliad carreg o Spar.

 

Ches i mo’n siomi, a golygfeydd tua’r mynyddoedd, a’r gog yn canu. O fewn munudau o ganol y dref brysur, roedd hi fel petawn i wedi teithio awr ymhell i ddyfnderoedd yr Alpau. Er fod y cymylau’n cuddio’r copaon, roedd lle i ddychmygu.

Mae’n lle hyfryd i fod ar feic. Llwybrau da ar hyd yr afon Salzach ac yn y cyffiniau, ond mi es i ar goll dwn i’m faint o weithiau. Peth bai arnaf i mae’n siŵr, ond doedd o ddim fel petai o’n rhwydwaith gydlynus, yn ymuno â’r lôn o bryd i’w gilydd, a mynd ar gyfeiliorn i bob cyfeiriad. Ond wedi dweud hynny, roedd hi’n sicr werth mentro ar ddwy olwyn. Mi fyswn i wrth fy modd yn dychwelyd ryw ben i gael hurio beic ffordd gall a mentro tua’r entrychion.

 

Ro’n i eisiau bod yn ôl mewn digon o bryd i ddal bỳs yn ôl i’r canol, er mwyn gweld cyngerdd byr dri chwarter awr gan bianydd. Mae cyngherddau ’mlaen yn reit aml drwy’r dydd, bob dydd, ac mae’n debyg y dylid mynychu rhai o’r rhai fin nos i gael y profiad ‘llawn’ o Salzburg.

 

Mae hi’n lle go ddrud i fod, yn enwedig ar gyllideb myfyriwr; y traddodiad aristocrataidd cryf, strydoedd siopau drud. Tref y crach, byddai rhai’n dweud, a dydy The Sound of Music ddim ond yn atgyfnerthu’r darlun hwnnw.

Beth bynnag, y cyngerdd. Mi dalais i 24€ i weld perfformiad harpsichord o rai o ddarnau Mozart ac eraill o’r un cyfnod. Chwarae teg, mi barodd fwy na tri chwarter awr, ond roedd gen i drên i’w ddal. Lwcus fod hwnnw’n hwyr, achos fyswn i heb ei gyrraedd o fel arall.

 

Mae canu’r harpsichord yn sgìl a thechneg gwahanol iawn i ganu piano, nes i sylweddoli wrth wrando, felly alla’i ddim cynnig beirniadaeth broffesiynol ar yr hyn a glywais i, ond mi wnes i fwynhau esgus bod yn rhan o grach Awstria yn ystod y canrifoedd a fu am hanner can munud.

 

 Salzburg wedi plesio, ddau drên yn ddiweddarach ro’n i yn Ljubljana.

 

Ljubljana

 

Mi wnai dderbyn efallai fod Ljubljana yn ddewis fymryn yn wahanol, yn enwedig am ei fod o’n golygu cymryd détour i’r de yn hytrach na pharhau tua’r gogledd.

 

Ond dwi wedi datblygu peth chwilfrydedd am y wlad byth ers darllen am Slofenia mewn cylchgronau seiclo, a gweld Pogačar a Roglič et al yn serennu dros y blynyddoedd, a dysgu ryw fymryn am sut mae’r wlad wedi profi ffyniant cymharol ar ôl dod yn annibynnol ac ymuno â’r Undeb Ewropeaidd. Ceir mymryn am hynny yn y cofnod yma yn fy nghyfres ar genhedloedd seiclo.

 

Beth bynnag, ro’n i’n cyrraedd Ljubljana o gwmpas y 9 nos Fawrth. Ro’n i’n aros mewn gwesty â chysylltiad seiclo… B&B Hotels, sydd wedi noddi timau ers blynyddoedd - bellach Arkéa-B&B Hotels, gynt B&B Hotels-KTM ac hefyd B&B Hotels aeth i’r wal. Maen nhw ar draws Ewrop am brisiau rhesymol a darpariaeth dda iawn. Ges i ’mhlesio’n arw.

 

Dwi’n mynd yn anghyfforddus pan dydw i methu cyfathrebu’n iawn hefo pobl, felly roedd mynd i wlad Slofeneg ei hiaith yn peri peth poendod o ran hynny. Ro’n i wedi darllen fod tipyn o bobl yn siarad Eidaleg, arwyddion dwyieithog Eidaleg-Slofeneg oedd ar y trên, ac eraill yn siarad Almaeneg neu Saesneg. Pan es i i ’nôl swper, ro’n i’n gofyn os oedden nhw’n siarad Eidaleg gyntaf – na oedd yr ateb – ond mi’r oedden nhw’n medru’r Saesneg, angleščko.

 

Mi ges i drwyddi hefo fy angleščko rywsut neu’i gilydd, ac erbyn gadael, ro’n i wedi llwyddo archebu burek heb orfod gwyro oddi wrth Slofeneg slac iawn.

Burek


Ta waeth, heblaw am gysylltiad rhwng y gwesty â byd y beic, mae Ljubljana hefyd ymysg dinasoedd seiclo gorau’r byd, o leiaf yn nhyb y Copenhagenize Index yn 2019 lle’r oedd y ddinas yn y 14eg safle, uwchben llefydd fel Tokyo.

 

Mae ganddyn nhw’r system wych sydd i’w gael fan hyn fan draw (fel y cynllun Nextbike oedd yng Nghaerdydd) o bigo beic mewn un man a’i ddychwelyd i’r un lle neu i le arall. Lawrlwytho ap i’r ffôn wnes i – dwi’m yn siŵr os oes dull mwy hen ffash – talu un ewro a dyna ni wedyn. Mae’r awr gyntaf o ddefnydd am ddim wedi hynny, yna codir tâl fesul awr wedi hynny.

 

Ro’n i wedi sylwi ar fflud o ryw chwech y tu allan i’r gwesty’r noson gynt, a dros frecwast ro’n i’n gwylio’r rhif yn syrthio’n raddol i ddim un beic ar gael. Cynllun poblogaidd, mae’n amlwg. Erbyn mod i eisiau un roedd ’na ddau neu dri i ddewis ohonyn nhw.

 

Wrth gwrs, maen nhw i gyd yr un peth. Dim ond un gêr, a honno’n ddigon o wrthiant – wnes i ddim cyfri dannedd, sori – o ystyried ei bod hi fel reidio beic tra bo'r brêc yn cael ei dynnu.

 

Ro’n i wedi penderfynu mai ar feic fyddai’r ffordd orau i gyrraedd castell Ljubljana, Ljubljanagrad, sy’n eistedd ar fryncyn uwchben y ddinas. Mae ’na bosib cerdded neu gymryd furnicular hefyd, a phosib talu i fynychu amgueddfa neu ddau yno neu grwydro ychydig.

 

Wrth gwrs, roedd ’na allt i gyrraedd y castell. Wel, dyna beth oedd her ar feic un gêr. Roedd hi’n teimlo fel taclo elltydd serthaf Cymru. Ro’n i allan o’r cyfrwy drwyddi draw, yn straffaglu’r beic truenus ymhell y tu hwnt i’w swydd ddisgrifiad, cyn penderfynu bod hyn yn hollol hurt, stopio, a chanfod bod modd codi’r sedd. Wrth gwrs, roedd y gwaith dringo bron i gyd drosodd erbyn hynny.

 

Ag ymdrech wnaeth godi curiad y galon yn llawer iawn uwch nag o’n i wedi’i ddisgwyl – bron fel gwneud sesiwn ymarfer VO2 Max – ro’n i wedi cyrraedd y castell, a golygfeydd dros y ddinas. Eto, roedd y cymylau’n cuddio’r copaon. Ond roedd lle i ddychmygu, a lle i ddiolch na ddaeth y storm oedden nhw wedi’i gaddo.


Mi wnes i ddilyn fy nhrwyn wedyn, heibio i Barc Tivoli sydd ar gyrion gogledd-ddwyreiniol y ddinas, lle gwthiais i’r beic y tu hwnt i’w swydd ddisgrifiad eto ar arwyneb braidd yn arw.

 

Mi gyrhaeddais i’r canol yn y pen draw, lle o’n i eisiau crwydro ar droed mymryn a nôl paned, felly gadael y beic mewn lle yn bell o’r gwesty. Prif fantais bod mewn gwesty dros gysgu ar drên cysgadur, gyda llaw, oedd gallu gadael fy sach gefn yno tra mod i’n deurodio a rhodio drwy’r ddinas.

 

Mae’n ddinas ddymunol iawn, yn ddigon hyfyw a byrlymus ond eto’n dawel a heddychlon ar y cyrion ac yn y mannau gwyrddion. Mae digon i’w wneud yma, pe bai amser ddim rhwystr, ond mae modd gweld cryn dipyn mewn cyfnod byr o amser hefyd, fel yn Salzburg â dweud y gwir.

 

Yn ôl am Awstria oedd hi wedyn ar yr un dau drên â’r diwrnod blaenorol, ac mi wnes i orffen llyfr diweddaraf Geraint Thomas, ‘Great Rides’, y gwnes i’i gychwyn ar y trên i Pavia. O ie, gyda llaw, mae’r trên o Ljubljana i Villach reit ara’ deg, a dwi’n gyfarwydd efo’r TER yn ne Ffrainc a thrên bach Y Bala.

Mae’n darllen mor rhwydd. Mi wnes i wenu a chwerthin a rhyfeddu. Efallai nad ydy o at ddant pawb, nac at ddant y beirniaid efallai, ac oes mae ’na ambell frawddeg am ieithoedd eraill sydd fymryn yn anghynnes, ond iesgob nes i fwynhau. Roedd ambell un o’r teithiau’n gyfarwydd – yr un yn nyffryn Clwyd er enghraifft. Geraint Thomas ar y ffordd gefn ddi-nod sy’n cyfochri â’r A5 rhwng Llangollen a Charrog?! Do’n i methu cweit coelio be’ o’n i’n ei ddarllen. Roedd un arall yn dilyn llawer o fy hoff lwybrau o Menton, ac mae’n argymell stopio yn y boulangerie lle dwi’n stopio bob tro. Ac wedyn roedd lle i freuddwydio hefyd, am ei deithiau yn Seland Newydd ac yng Ngheredigion. Mae’i hiwmor o’n gynnes a chyfarwydd, y jôcs yn blentynnaidd yn aml. Mae ’na rywbeth Cymreig iawn am y gyfrol rywsut, efallai’n bennaf am ei fod o’n sôn am Gymry’r byd seiclo a’r byd rygbi ac yn y blaen, ac am Gymru, ond hefyd yn yr arddull. Roedd ’na gymysgedd o’r cartrefol a’r breuddwydiol, normalrwydd ei fywyd ac annormalrwydd ei fywyd. Mae Tom Fordyce a fyntau’n bartneriaeth dda iawn ers tro bellach; mae’n rhaid fod Fordyce yn gopi-sgwennwr ardderchog, achos Geraint dwi’n ei glywed yn y geiriau 95% o’r amser. Os ydech chi awydd rhywbeth ysgafn i’w ddarllen mewn llond llaw o oriau, yna mi alla’i argymell hwn yn sicr. O’n i’n darllen ac ail-ddarllen y cyntaf o’i lyfrau flynyddoedd yn ôl, a dwi’n meddwl fod hwn llawn cystal.

 

Nes i grybwyll Villach. Am bod y trên o Ljubljana yn hwyr mi wnes i fethu’r cysylltiad gwreiddiol i Salzburg, roddodd ryw ddwyawr i mi yn y dref. Mae’n groesffordd deithio bwysig – yn debyg i Crewe – ond mae’n ddigon dymunol i ymweld ag o – yn wahanol i Crewe.

 Brwsel

 

Ar ôl dychwelyd i Salzburg er mwyn dal trên cysgadur i Brwsel a barodd ryw 11 awr, a sedd ganol oedd gen i’r tro yma, ro’n i ym mhrifddinas Gwlad Belg toc wedi 10 o’r gloch ar fore ola’r daith.

 

Mi gyrhaeddodd y trên orsaf Bruxelles Midi, ac o fanno y daliais i’r Eurostar fin nos hefyd. Mae’r orsaf fymryn yn bell o’r canol, ond wrth lwc, mi’r oedd gan y ddinas yr un system o logi beiciau ag oedd gan Ljubljana, a fflud nid nepell o ddrws ffrynt yr orsaf.

 

Digwydd bod, yr un cwmni oedd yn rhedeg y peth hefyd, felly, mewn egwyddor, roeddwn i’n gallu defnyddio’r un cyfrif ar yr ap. Weithiodd mo hynny, ac roedd yr ap fymryn yn fwy oriog nag un Ljubljana.

 

Mae’r gost ryw fymryn yn uwch nag yn Ljubljana hefyd. Dim ond hanner awr gewch chi am ddim ar feic Villo! ym Mrwsel. Ond mae Brwsel yn gallu bod yn gythreulig o ddrud ar y cyfan hefyd, yn enwedig o’i gymharu â Ljubljana. Ges i haint yn gweld prisiau brunch.

 

Wrth edrych eto ar y Copenheganize Index, dydy Brwsel ddim yn ymddangos yn uchel ar y rhestr. Serch hynny, byddwn i’n dweud fod y profiad o deithio’r ddinas ar feic yn rhwyddach nag yn Ljubljana ac yn Salzburg – llwybrau pwrpasol yn aml neu o leiaf lôn wedi’i neilltuo.

 

O ’mhrofiad i, roedd angen beic neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwneud y gorau o Frwsel. Ges i nharo gan faint y lle o’i gymharu â’r ddwy ddinas flaenorol, ac mae’r atyniadau fel petaen nhw ar wasgar. Mi ro’n i’n recordio fy mhellter ar Strava, ac mi fu i mi glocio deuddeng milltir yn y diwedd.

Y peth braf am y system logi beiciau yma ydy’r gallu i ollwng y beic mewn lle gwahanol i’r lle cychwynnoch chi. Mi wnes i fanteisio’n llwyr ar hyn gydol y dydd, gan neidio ’mlaen ac oddi ar y beic rhwng ysbeidiau o grwydro’r canol ar droed a gwasgu rhwng yr heidiau rhyfeddol o ymwelwyr.

 

Roedd y cyfuniad o gerdded a beicio yn un llwyddiannus yn yr ystyr yma, a handi iawn oedd gallu neidio ar feic yn ôl i’r orsaf drenau fin nos i ddal yr Eurostar i Lundain. Taith lwyddiannus ar ben, a blas o bob dinas wedi’i halltu gan y ddwy olwyn.

 

*

 

Wel, mi aeth y blog yne’n hir on’d do! Gobeithio i chi fwynhau os lwyddoch chi i bara cyhyd.

 

Dwi’n disgwyl y bydd cynnwys Y Ddwy Olwyn yn fwy cyson dros yr wythnosau nesaf, felly gobeithio y caf i’ch cwmni bryd hynny hefyd.

 

Yn y cyfamser, cofiwch wrando ar benodau diweddaraf Pen y Pass ar y platfformau podlediadau, ac os ga’i fod mor hy â hunan-hyrwyddo ymhellach, ewch i wrando ar sengl ddiweddaraf Mynadd, ‘At Dy Goed’!

 

Tan y tro nesa’.

Recent Posts

See All

Comments


bottom of page