top of page

Seiclo a chelf a seiclo yn gelf

Updated: May 1, 2022

Pan fo tim yn datgelu cit newydd - yn enwedig yng nghanol y tymor - mae’n creu tipyn o stwr a chynnwrf yn ogystal a hollti barn.


Dyna’n union sydd wedi digwydd yr wythnos hon wrth i Jumbo Visma, y tim sy’n gartref i’r ser Primoz Roglic a Marianne Vos, gyhoeddi cit newydd i’w ddefnyddio’n y Tour de France i osgoi unrhyw benbleth gyda chrys melyn yr arweinydd.


Dyma fo yn ei holl ogoniant:

Yn ol eu datganiad i’r wasg, mi gymron nhw ysbrydoliaeth o batrymau a lliwiau gan weithiau eiconig Rembrandt, Vermeer a van Gogh gyda chymorth AI i amlinellu gwreiddiau Iseldireg y garfan.


Plannodd hynny, yn ogystal ag ambell i ymweliad i orielau wythnos diwethaf ar y cyfandir, hedyn ar gyfer cofnod heno i ymchwilio i weld pa gysylltiadau eraill sy’n bodoli rhwng seiclo a chelf.


Beth am ddechrau gydag ambell i gelfyddyd sy'n ymdrin a seiclo mewn rhyw fodd, wedi eu trefnu o'r hynaf i'r mwyaf diweddar.


Mae Au Velodrome gan Jean Metzinger o 1912 yn cyfuno diriaeth y felodrom a'r seiclwr - wedi'i selio ar Charles Crupelandt yn ennill Paris-Roubaix y flwyddyn honno - gyda haniaeth y symudiadau Ciwbiaeth a Dyfodolaeth.


Dyma Dinamismo di un Ciclista gan Umberto Boccioni o 1913. Mae'n ddarn o gelfyddyd sy'n hynod nodweddiadol o'r cyfnod ac yn enwedig o'r symudiad Dyfodolaeth - llinellau syth a chromliniau, rhannu'r gwaith yn rannau penodol yn ogystal a'r defnydd o liwiau llachar. Er fod y beic ei hun yn amwys yn y gwaith, mae'r nodweddion o Ddyfodolaeth sydd yma - symudiad oedd yn cael ei gyfareddu gan gyflymder, dynamism a modernedd - yn llwyddo i bortreadu'r beic fel symbol o chwyldro'r cyfnod.


Mae hwn, Bicyclist in Penwith gan Peter Lanyon, yn dyddio o 1951 ac yn ymgais i bortreadu seiclo yng nghefn gwlad yn y modd amwys ac anelwig hwnnw yr ydym ni'n dod yn gyfarwydd ag o mewn celf o'r ganrif ddiwethaf.


I'r rhai ohonoch chi sydd, fodd bynnag, yn fwy hoff o weithiau celf mwy pendant, dyma The Cyclists gan Ian Lawrenson. Mae 'na lot i'w ddweud, dwi'n credu, am symlrwydd cadarn y gwaith hwn.



Yn ol at weithiau haniaethol, dyma ddehongliad Vera Barron o'r ras Brydeinig enwog yn The Milk Race o 1991.



I gloi, dwi am symud at weithiau un oedd wrth ei fodd yn seiclo. Bu i Peter McLaren astudio celf yng Nghaeredin, Florence a Madrid, a thra'n fyfyriwr, datblygodd berthynas agos gyda'i feic wrth seiclo i gasgliadau celf yn Amsterdam, Arnhem, Paris ac yn Llundain. Wedi hynny, bu iddo deithio ar draws America ar drywydd gweithiau Wyeth, Pollock, Lichtenstein a Warhol. Mae cyfran helaeth o'i gasgliad o gelf yn talu gwrogaeth i Diego Velazquez gan gynnwys dehongliadau o Las Meninas, a chyfran helaeth arall yn talu gwrogaeth i'w gerbyd dwy olwyn.

 

Dwi'n cofio Dewi Llwyd yn gofyn i mi ryw dro ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru os oeddwn i, fel rhywun oedd yn ymddiddori yn elfen dactegol a 'difrifol' y gamp, yn mwynhau'r elfen o wylio'r tirlun ar y sgrin yn ystod rasys fel y Tour.


Fy ateb i oedd fod seiclo fel 'celf symudol'.


Dwi'm yn siwr pwy gyflwynodd y syniad hwnnw, ond mae'n un sy'n sicr yn taro tant. Y cyfuniad o'r peloton yn ymlwybro neu nadreddu neu frwydro, y tirwedd, y tirlun, y tywydd a'r cefnogwyr. Mae'n bosib iawn mai yn hynny o beth y mae'r apel i rai sydd ddim yn ymddiddori yn ochr dactegol y gamp, a bod seiclo yn wir fel gwylio celfyddyd symudol.


Pwy feddyliai fod celf yn fodd o ddehongli gogoniant seiclo, a bod seiclo yn gelf ynddo'i hun.


Ffynnonellau


Recent Posts

See All
bottom of page