top of page

Seiclo'r Gwanwyn: Tri pheth na allai wneud hebddynt

O edrych ar y rhagolygon tywydd, dwi'n obeithiol bod y gwanwyn ar ddihun a bod modd mynd allan ar y beic am gyfnodau hirach o'r diwedd (er gwaetha'r pandemig).


Mae'r tywydd yn gallu bod yn ddigon newidiol yn ystod yr adeg yma o'r flwyddyn, felly mae angen bod yn barod am unrhyw beth.


Dyma i chi restr o dri pheth na allai wneud hebddyn nhw pan yn seiclo yn y Gwanwyn - heb gynnwys anghenion eraill megis crysau arferol, siorts, helmet, esgidiau ayyb.


Sportful BodyFit Pro Thermal Jersey


Pan mae'n dod i grys llewys hir, i mi, mae dau fath. Crys llewys hir ar gyfer y Gaeaf sy'n fwy trwchus ac un teneuach neu ysgafnach ar gyfer pontio rhwng y tymhorau.


Un fydd gen i - gan roi 'base layer' mwy trwchus oddi tano pan fydd y tymheredd yn y ffigyrau sengl.


Fodd bynnag, mae'n ddigon addas a chyfforddus uwchben hynny - yn enwedig rhwng deg a phymtheg gradd - gydag haen deneuach oddi tano fel crys (jersey) neu 'base layer' denau.

Yn ychwanegiad reit ddiweddar i'm wardrob personol (wedi i'r crys PBK tra hoff fynd yn rhy fach) ydy'r crys yma gan Sportful.


O ran yr oren, mae'n debyg ei fod o'n gallu bod yn liw Marmite. Ond i mi mae'n steilus heb aberthu diogelwch a gwelededd, a vice-versa.


Y rheswm pennaf y gwnes i ei brynu oedd ei fod wedi ei ddylunio i 'bontio rhwng y tymhorau'


Ac wrth gwrs, mi brynais i o ar ostyngiad - 'dech chi'n fy nabod i'n ddigon da erbyn hyn!



'Arm Warmers'


Yn bersonol, mae 'arm warmers' yn rhan annatod o wisg y gwanwyn yn hawdd i'w rhoi mlaen neu dynnu ffwrdd ar unrhyw adeg ar reid gwanwynol a'u rhoi'n daclus yn y poced cefn - neu rholio i lawr rownd y garddwn.


Dim llawer i'w ddweud amdanyn nhw ond mae'n rhaid eu cael nhw yn fy marn i!


Hen rai Mam dwi'n eu gwisgo, gan Endura, sydd ddim yn cael eu gwerthu mwyach - ond mae digon o ddewis i'w cael.


Kalf Club Gilet


Dywed rhai nad ydyn nhw'n deall pwrpas y gilet. Ond coeliwch fi, maen nhw andros o bethau defnyddiol drwy gydol y flwyddyn.


Peidiwch a gwaredu, ond mae gen i dri ohonyn nhw. A maddeuwch i mi, mae hwn yn oren hefyd (sori). A do, mi ges i hwn ar ostyngiad yn y siop yng Nghaer.

Eto, maen nhw'n hawdd iawn i'w rhoi yn y poced cefn a'n cynnig haen ychwanegol o gynhesrwydd a gwrthiant yn erbyn y gwynt tra'n bod yn ysgafn ar yr un pryd.


Ystod eang iawn i'w cael ar y we i ddynion a menywod, ond mae'r un yma gan Kalf yn neillryw ac ar gael mewn nêfi blŵ - ond noder y dylech fynd i fyny un maint gyda'r brand yma bob tro.


Poced cefn gyda sip arno yn ogystal, felly dewis ardderchog.


O Evans Cycles: https://bit.ly/39TwaGg

 

Dyna 'nhri fi, beth amdanoch chi? Gadewch 'mi wybod yn y sylwadau, un ai ar Twitter, Facebook neu o dan y gofnod yma.+

Recent Posts

See All
bottom of page