top of page

Sgwrs gyda Steff Rees am Bwca a'r graean yn ail-gynnau'r brwdfrydedd


Chwith: Steff yn Llyn Conach; Dde: Clawr albym 'Bwca' gan Bwca


Yn yr ail sgwrs gyda rhai o seiclwyr Cymru, yn dilyn Alun Davies wythnos diwethaf, gofynnais i gwestiynau i'r dyn sydd tu ol i'r band Bwca sydd hefyd yn seiclwr, sef Steff Rees.


Mae Steff wedi bod ar ambell un o'r meet-ups ar nos Fercher a bum yn darllen am y broses o greu eu halbym cyntaf ryddhawyd yn 2020, Bwca, yn rhifyn ddiweddaraf cylchgrawn y Selar.


Wrth edrych yn ol, byddai'r bobl oedd yn y meet-up nos Fercher wedi gallu dyfalu hyn. Gwrandawais i ar eu halbym, ac fel yn wythnosol mi wnaethon ni rannu'n dewisiadau gyda'n gilydd. Yn ogystal, cafwyd trafodaeth hir am seiclo graean.


Dyna'r testunau sy'n cael eu trafod yn y gofnod heddiw, ac mi gawn ni exclusive ganddo am brosiect sydd ganddo ar y gweill.


Mwynhewch!

Gruffudd ab Owain: Cyn i ni ddechrau o ddifri, dywedwch wrthon ni pwy yw Steff Rees.

Steff Rees: Rwy’n 29 oed, yn byw yn Aberystwyth ac ar ol rhai blynyddoedd heb gyffwrdd y beic dwi wedi ailddarganfod fy dileit roeddwn arfer cael o seiclo yn ystod y Cyfnod Clo trwy brynu beic graean.

GaO: Rydych chi’n ganwr-gyfansoddwr efo’r band Bwca, sydd wedi rhyddhau albym newydd dan yr un enw yn y misoedd diwethaf. Soniwch ychydig wrthon ni am yr albym ei hun a’r broses o’i chreu.

SR: Dwi wedi bod yn potsian gyda’r gitar a sgwennu caneuon ers rhyw bum mlynedd bellach ac yn annatod ro’n i’n moyn recordio rhai ohonynt er mwyn eu rhannu gyda’r byd. Roedd yr Eisteddfod am ddod i Geredigion yn 2020 felly penderfynes dynnu casgliad o’r caneuon hynny oedd yn son am yr ardal gyda’i gilydd ac ar ol sawl taith i Stiwdio Sain gyda’r band mae bellach ar gael ar CD ac yn ddigidol yn y llefydd arferol.

GaO: Mae ‘na amrywiaeth eang o arddulliau a naws yn y caneuon ar yr albym, ond mae ‘na elfen ddychanol gyson ynddyn nhw, yn ‘Pawb wedi mynd i Gaerdydd’ a ‘Hoffi Coffi’ er enghraifft. Ydy hynny’n deillio o’ch personoliaeth chi ac aelodau eraill y grwp?

SR: Wel dwi yn hoff o dynnu coes i fod yn onest a ni gyd dwi’n meddwl yn gweld eisiau dod at ein gilydd am bach o sbort yn ogystal a dychwelyd at y gwaith y ymarfer, gigio a recordio.


GaO: Felly rydym ni wedi cwrdd a Steff Rees y cerddor, dywedwch wrthon ni am Steff Rees y seiclwr. Pa fathau o seiclo sy’n mynd a’ch pryd chi?

SR: Er fy mod yn hoff iawn o ddilyn hynt a helynt rasus seiclo ffordd, beicio graean sydd yn mynd a fy mhryd. Yma yn Aberystwyth mae gyda ni goedwigoedd mawr a rhwydwaith eang o ffyrdd graean pellter hir o fewn cyrraedd hawdd. Dwi wrth fy modd yn crwydro a darganfod llefydd newydd diarffordd felly mae mynd lan i’r Topie a darganfod byd natur a rhyw lyn neu rhyw hen adfeilion byddech chi ddim yn gweld fel arall yn brofiad ac yn ddihangfa arbennig o strach y byd a’i bethe.

GaO: Mae seiclo ar graean yn rhywbeth sydd wedi dal sylw seiclwyr ledled Cymru a thu hwnt yn ddiweddar, rhywbeth y gwnaethon ni drafod ar meet-up Y Ddwy Olwyn nos Fercher. Faint allwch chi ddweud wrthon ni am eich cynlluniau i gysylltu seiclwyr graean Cymru?

SR: Dwi wrthi’n cynllunio ar gyfer lansio podlediad newydd sbon dros y misoedd nesaf o’r enw “Y Bachan Graean”. Byddai’n trio darganfod beth yw graean (a beth sydd ddim), beth yw’r apel a beth yw’r dyfodol yng Nghymru. Bydd na sgwrsio gyda graeanwyr eraill, rhannu teithiau a gobeithio gallu cysylltu seiclwyr graean Cymru gyda’i gilydd. Os chi methu aros dilynwch @ybachangraean ar y cyfryngau cymdeithasol.

GaO: Beth yw eich hoff route / reid beic a pham?

SR: Dwi’n hoff o ddechrau yn Nhalybont ac yna mynd ar lan hewl fynydd Nant y Moch sydd yn ddringfa wych gyda golygfeydd hyfryd. O dop y pas dwi’n troi i’r chwith i’r rhwydwaith graean sydd yn mynd i gyfeiriad Machynlleth ac ardal Dylife. Am reid bach yn fwy lleol byddaf yn mynd mor bell a Llyn Conach sydd yn le hyfryd ar ddiwrnod braf am orffwys a rhyw fyrbryd bach.

O fan hyn byddaf yn dilyn fy olion teiar yn ol am ychydig cyn troi i’r dde a mwynhau disgynfa di-ddiwedd lawr Moel y Llyn a Mynydd Coronwen i ffordd fawr yr A487 ar gyrion Tre’r Ddol a chael bach o darmac esmwyth nol i Dalybont. GaO: Beth yw eich amcanion a dyheadau am y flwyddyn hon a thu hwnt ar feic?

SR: Yn ogystal a lansio Y Bachan Graean dwi’n ysu am gael mynd i grwydro a darganfod llwybrau graean newydd yn ardaloedd eraill pan fydd y rheoliadau Covid yn caniatau. Yn y cyfamser, trio datblygu’r ffitrwydd a’r pwer ar Zwift!

 

Diolch o galon i Steff am gytuno i ateb fy nghwestiynau ac am gynnig atebion mor ddifyr. Edrychwn ymlaen yn fawr at gael gwrando ar bennodau o'r Bachan Graean cyn hir.


Yn y cyfamser, gobeithio ichi fwynhau'r gofnod hon - os felly, cofiwch rannu a phorwch drwy gatalog eang o gofnodion sydd eisoes ar Y Ddwy Olwyn.

Recent Posts

See All
bottom of page