top of page

Siarad Seiclo yn y Gymraeg

Erbyn hyn, does dim dwywaith fod seiclo yn gamp rhyngwladol. Ar un adeg, byddai seiclo fel arfer yn cylchdroi o amgylch y Ffrangeg gan mai dyna oedd canolbwynt y gamp; y rasys a’r timau ac yn y blaen.


Mae breichiau rhyngwladol y byd seiclo wedi ymestyn i Gymru, falle’n fwyfwy ers buddugoliaeth gofiadwy Geraint Thomas ond yn sicr wedi bod gryn dipyn cyn hynny hefyd.


Wrth i’r cyfryngau a’r darllediadau teledu a phodlediadau a blogiau ddod a’r Gymraeg i’r byd seiclo a’r byd seiclo i’r Gymraeg, daw ynghyd â hynny dermau newydd.


Peth gwych yw cael geiriau Cymraeg sy’n gyfieithiadau o rai termau’r gamp yn enwedig wrth hybu’r iaith fel iaith hamdden ac iaith o ddydd i ddydd. Mae’n bwysig iawn, dwi’n credu, ein bod ni yn normaleiddio defnydd y termau hyn.


Ond dylid hefyd cofio nad oes angen ac nad oes eisiau cyfieithu rhai termau gan eu bod nhw’n gwreiddio o’r Ffrangeg a’r Eidaleg - geiriau megis peloton, route, bidon, domestique yn y naill a gruppetto, gregario yn y llall.


Amcan y gofnod hon yw i efallai gyflwyno’r termau yma i’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd â hwy ac hefyd i ddod a chasgliad pendant o’r geiriau yma at eu gilydd.


Cyn dechrau arni, mi ddylwn i ddiolch i Wyn Gruffydd a Tanwen Haf am rannu adnoddau gyda mi yn y gorffennol - termau y gallwn ni, gobeithio, eu rhannu ymhellach fyth.



Dyluniad gwych sy’n labelu rhannau’r beic ffordd yn y Gymraeg. Gyda llaw, mae ar gael ar grysau-T, cardiau a mwy - rhowch ‘Anatomeg Beic Ffordd’ yn y porwr.


Rydw i wedi rhoi’r rhan fwyaf o’r termau canlynol mewn cyd-destun seiclo proffesiynol, ond yn amlwg mae nifer ohonynt yn gallu cael eu defnyddio’n ehangach.


Felly, pan fyddwch chi’n dychwelyd o’ch reid (yn enwedig yn y Gaeaf) mae’n reit bwysig i gofio glanhau’r beic a’r holl rannau restrwyd isod - gan ddechrau o’r cyfrwy i lawr i’r gadwyn - gyda sebon golchi llestri neu dadirydd (degreaser) pwrpasol.


Pe baech chi’n dychwelyd o’r reid heddiw, mae’n bosib eich bod chi wedi mwynhau gwylio seiclo traws (cyclocross) a’r reidwyr yn y mwd a’r tywod. Mae beic pwrpasol i’w gael ar gyfer yr ochr yma o’r gamp, neu’n fwyfwy poblogaidd yn ddiweddar mae beicio graean (gravel biking). Byddwch falle’n fwy cyfarwydd a’r term beicio mynydd (mountain biking).


Yn y Gwanwyn, byddech chi’n debygol o fwynhau gwylio’r reidwyr proffesiynol yn y clasuron coblog (cobbled classics) lle byddent yn reidio dros sectorau coblog, neu sectorau crynfeini (cobbled sectors) mewn rasys fel Paris-Roubaix o bosib.


Mae Paris-Roubaix, ynghyd â Liege-Bastogne-Liege, Ronde van Vlaanderen, Milano Sanremo a Giro di Lombardia, yn un o bump o’r meini (monuments), sef y rasys undydd (one-day races) mwyaf yn y byd. (O.N. term gafodd ei fathu’n ddiweddar, felly ddim yn cael ei ddefnyddio’n aml yn y Gymraeg).


Ym mis Mai bydd y Giro d’Italia, ym mis Gorffennaf/Awst bydd y Tour de France ac ym mis Medi bydd La Vuelta a España. Dyma’r dair ras dair wythnos a elwir yn y Grand Tours. Does dim term Cymraeg amdano gan iddo wreiddio o’r Ffrangeg. Yng nghanol hynny ceir rasys wythnos a rasys cymalau (stage races).


Yn rhan annatod o’r rasys hyn, mae amrywiaeth eang o gymalau (stages - un diwrnod) gwahanol.


Mae nifer o gymalau gwibio (sprint) sy’n ffafrio’r gwibwyr (sprinters) oherwydd eu natur gwastad, yn enwedig ar ddiwedd y cymal. Byddwn ni’n aml yn gweld y trên bach (leadout train) sef reidwyr o dîm yn cysgodi eu gwibiwr rhag y gwynt, yn eu harwain at y wib glwstwr (bunch sprint).


Yn amlach na pheidio, mewn unrhyw ras bydd dihangiad (breakaway) yn ffurfio, lle bydd grwp o reidwyr yn ymosod (attack) er mwyn dianc rhag y peloton yn y gobaith am fuddugoliaeth, gweladwyedd i’r noddwyr neu i ennill pwyntiau ar gyfer y dosbarthiadau (classifications).


Y dosbarthiadau mwyaf amlwg yw’r dosbarthiad pwyntiau (points classification - crys gwyrdd yn y Tour) a dosbarthiad Brenin y Mynyddoedd (King of the Mountains classification - crys polca dot yn y Tour). Bydd hefyd gwobr am y reidiwr mwyaf ymosodol (Prix de la Combativité) ar bob cymal.


Ond y brif wobr - ennillydd y ras - yw’r sawl fydd ar frig y dosbarthiad cyffredinol/DC (general classification/GC - crys melyn yn y Tour).


Ar y cymalau mynyddig, bydd reidwyr yn wynebu dringfeydd (climbs - unigol: dringfa) categoredig (categorized) o gat 4 i fyny i HC (tu hwnt i gategori).


Byddent yn brwydro’r graddiant (gradient) a’r serthedd (steepness) yn yr ymgais i gyrraedd y copa (peak/summit) fydd hyn a hyn o uchder uwchlaw lefel y môr (altitude). Bydd nifer ohonom ni angen gêr mamgu (granny gear) - sef y gêr isaf ar unrhyw feic - er mwyn llwyddo! Byddwn yn ddiolchgar am y disgyniad, neu’r goriwaered (descent) wedi hynny.


Byddwch yn debygol o glywed sylwebwyr a’r gwybodusion yn crybwyll geiriau megis y pwer (power - pa mor galed mae un yn pedlo), fesurir mewn wattiau (watts) a’r cadens (cadence - nifer cylchdroeon o’r pedal bob munud).


Dyna ni felly, wedi cyrraedd y llinell derfyn ar ein taith ieithyddol drwy dermau seiclo’r Gymraeg - a chofiwch nad oes pwynt bathu termau newydd os nad oes neb yn eu defnyddio!

Recent Posts

See All
bottom of page