top of page

Siarad Tour en Français

Salut!

Bienvenue à Y Ddwy Olwyn!

Mae'r Tour wedi hen gychwyn erbyn hyn, ac rydym wedi cael dros wythnos i ymgyfarwyddo â'r ras a dod i adnabod rhannau o ddwyrain Ffrainc yn ogystal â gwledydd eraill cyfagos.

Fel sydd wedi’i ddweud lawer tro ers dechrau’r ras ac yn wir wrth adeiladu tuag ato yw’r modd y mae’n blethwaith o dirwedd, diwylliant ac iaith. Yr iaith sy’n mynd â’n pryd ni heddiw.

Mae’n ddilyniant mewn ffordd i'r gofnod termau Cymraeg felly byddwn yn argymell darllen hwnnw'n gyntaf os nad ydych yn rhy gyfarwydd gyda'r termau Cymraeg fydd yn cael eu defnyddio heddiw. Llynedd, adeg y Giro, mi wnes i sgwennu cofnod cyffelyb ar gyfer yr Eidaleg, felly ewch i bori a chroes-gyfeirio.

Gadewch i ni ddechrau ar ein taith drwy rai o'r termau allweddol i'w cadw mewn cof wrth wylio'r Tour dros y pythefnos nesaf.

Amusez-vous bien! (Mwynhewch!)

Anatomie du vélo (anatomeg y beic)

Rhai rheolau i'w cofio o ran ynganu

  • Mae’r ‘r’ yn galed - ‘guttural’ yn Saesneg - yn dod o gefn y gwddf.

  • Mae’r parau ‘on’, ‘an’, ‘en’, ‘in’ yn drwynol.

  • Mae’r llythyren ‘e’ neu ‘e’ gan amlaf yn gwneud sŵn fel ‘ay’ Saesneg: ‘er’, ‘ez’, ‘ed’, weithiau fwy fel ê to bach yn Gymraeg (pêl), yn enwedig ‘è’.

  • The Stupid Rule. Peided ag ynganu’r llythrennau ‘s’, ‘t’, ‘p’, ‘d’, neu ‘e’ heblaw ‘é’ (na ‘x’ chwaith) ar ddiwedd gair. Dylid ynganu’r cytseiniaid hyn, fodd bynnag, pan fo’r gair nesaf yn dechrau â llafariad.

  • Bydd angen ein dynwared ni bobl y Bala wrth weld ‘oi’ yn y Ffrangeg; fe’i ynganir ‘wa’.

  • ‘J’ yn sŵn mwy meddal na ‘jam’, mwy fel ‘zh’. Gwin Beaujolais.

  • ‘C’ yn galed fel Cymraeg oni bai am ‘ç’ sydd mwy fel ‘s’ Cymraeg.

  • ‘u’ ac ‘ou’ rywle rhwng ‘w’ ac ‘u’ Cymraeg, yn agos at ynganiad ochrau Lerpwl o ‘oo’.

Os ydych chi wedi bod yn gwylio'r Tour eleni, neu unrhyw ras arall â dweud y gwir, byddwch chi'n ymwybodol bod nifer o fathau gwahanol o reidwyr; bod reidwyr gwahanol yn arbenigo ar dirwedd gwahanol, er enghraifft. Dyma rai ohonyn nhw, ac oni nodir, maen nhw i gyd yn wrywaidd (un neu le):

Grimpeur (Gram-PŶR): dringwr. Pogačar yw’r enghraifft amlwg o’r Tour hyd yn hyn.

Baroudeur (Bar-w-DŶR): sawl sy’n arbenigo yn y dihangiadau, a Magnus Cort yn enghraifft o’r Tour eleni.

Domestique (Dom-est-ÎC) / Équipier (E-CÎP-iei): sawl sy’n cysgodi ei arweinydd rhag y gwynt fel ei fod yn gallu arbed egni. Gweithio ar ran eraill. Luke Rowe ac Owain Doull yn enghreifftiau.

Rouleur (Rŵl-ŶR): sawl sy’n dda ar y bob tirwedd, yn enwedig falle yn y bryniau. Magnus Cort yn enghraifft dda eto.

Puncheur (Pynsh-ŶR): sawl sy’n dda ar ddiweddgloeon ar allt fer ond serth. Wout van Aert yw’r prif un.

Sprinteur (Sbrânt-ŶR): y gwibiwr, ar gyfer diweddgleon gwastad, cyflym. Fabio Jakobsen a Dylan Groenewegen sydd wedi serennu hyd yn hyn.

Porsuivant (Por-swif-ÔN): y sawl sy’n ceisio dal i fyny â’r grŵp neu reidiwr o’i flaen.

Mae'r termau canlynol yn cyfeirio at gyfansoddiad y ras.

Peloton (Pel-o-TON): y prif grŵp o reidwyr.

Echappé (E-shap-E): y dihangiad.

Tête de la course (Tet dy la CWRS): y sawl neu grŵp sydd ar flaen y ras. Yn llythrennol ‘pen y ras’.

Autobus (Oto-BWSS): ‘gruppeto’ yn Eidaleg, sef y grŵp tu ôl i’r peloton sy’n ceisio curo’r terfyn amser.

Chasse patate (Shass pa-TAT): ‘helfa datws’, porsuivant sydd heb fawr ddim gobaith o allu dal y sawl neu grŵp o’i flaen.

Dyma rai geiriau fyddai'n ddefnyddiol i ddisgrifio arddull seiclo rhai seiclwyr.

à bloc (a BLOC): fflat owt.

souplesse (swp-LESS): reidio gan wneud iddo edrych yn hawdd.

(la) danseuse (don-SYZ): reidio allan o’r cyfrwy, dawnsio yn y pedalau.

Gadewch i ni ddisgrifio'r cwrs neu'r tirwedd.

(une) bourne (bwrn): ffordd ychydig mwy llafar o ddweud cilomedr.

col (col): bwlch, neu ddringfa, yn Gymraeg. Bwlch y Groes fyddai ‘Col de la Croix’.

(une) côte (cot): mwy o allt na dringfa, fel arfer yn fyrrach a/neu llai serth.

(une) descente (de-SONT): goriwaered, lawr allt.

(une) étape (e-TAP): cymal.

(la) flamme rouge (fflam RWZH): 1 cilometr i fynd.

(une) montée (MONT-e): dringfa.

parcours (par-CŴR): y cwrs ar gyfer y dydd.

Y crysau yn y Tour:

maillot jaune (maio ZHON): Crys melyn, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad cyffredinol (classement général).

maillot vert (maio FÊR): Crys gwyrdd, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad pwyntiau (classement par points).

maillot à pois (rouge) (maio a PWA (rouzh)): Crys pys, crys polca, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad mynyddoedd (classement montagne).

maillot blanc (maio BLON): Crys gwyn, sy'n cael ei wisgo gan arweinydd y dosbarthiad ieuenctid (classement du meilleur jeune).

A dyna ni! Taith iethyddol arall ar ben, gan obeithio bod eich Ffrangeg ysgol fymryn yn llai rhydlyd wrth i ni edrych ymlaen at bythefnos olaf y Tour de France.

À bientot!

Recent Posts

See All
bottom of page