Mae gen i gyfaddefiad i'w wneud.
Dwi'n ddiog.
Pan wnes i 'sgwennu cofnod am siopau beics y Gogledd 'nôl ym mis Ionawr 2020, roedd hwnnw i fod yn ddechrau trioleg o gofnodion am siopau beics Cymru.
Hir yw pob ymaros, ond 679 o ddiwrnodau'n ddiweddarach, mae'r drioleg yn parhau gyda siopau beics y Canolbarth. Diolch i chi wnaeth awgrymu siopau i mi eu cynnwys bryd hynny, i'r rhai ohonoch sydd wedi cyfrannu sylwadau yn y dyddiau diwethaf ac wrth gwrs i Mr. Google.
Heb oedi ymhellach, dyma restr o siopau beics y Canolbarth.
Brooks Cycles, y Trallwng
Siop sy'n cynnwys popeth y byddai rhywun angen, wedi'i leoli yng nghanol y Trallwng. Nwyddau ac offer a beics ar gyfer pob achlysur a thirwedd - o bethau i'r felodrom a hyfforddi tu fewn i seiclo ar y ffordd a'r llwybrau gan ystod eang o frandiau. Gwefan gynhwysfawr ganddynt hefyd.
Bike to the Future, y Drenewydd
Man cymunedol ar gyfer trwsio, service a gweithdai yn y Drenewydd. Nifer o gynlluniau difyr a chadarnhaol ganddyn nhw, fel benthyg a chyfrannu beics yn ogystal â phlannu coeden am bob £5 a wneir o werthu beic. Cynllun gwych yr olwg, a cheir mwy o fanylion ar eu gwefan.
Llani Bikes, Llanidloes
Siop feics yng nghanol Llanidloes sy'n cydbwyso gwerthu beics o bob lliw a llun - gan gynnwys rhai trydan os mai dyna sy'n mynd â'ch pryd chi - yn ogystal â chynnig y gwasanaethau arferol megis servicing a thrwsio. Mae hefyd modd rhentu beics oddi yma.
Elan Cyclery, Rhaeadr Gwy
Siop fechan Clive Powell y gallwch brynu neu logi beic oddi wrthynt. Giant a Whyte yw'r brandiau sydd ganddynt, gyda phob math o feics ar gael. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaethau megis trwsio, ac yn meddu ar bron i ddeng mlynedd ar hugain o brofiad.
Caffi Gruff, Talybont
Siop y seiclwr proffesiynol sy'n llais a wyneb cyfarwydd i ni sy'n dilyn seiclo yng Nghymru neu drwy'r Gymraeg, sydd eisoes wedi bod ar y blog o fewn rhestr caffis. Ers hynny, mae'r ogwydd wedi newid rhywfaint i flaenoriaethu'r elfen 'siop' ac mae bellach yn gwerthu beics ac offer gan frandiau hybarch megis BMC a Wahoo. Mae hefyd yn meddu ar dim rasio, sy'n meithrin talent iau yr ardal a chynnig profiad i raswyr yr ardal.
Summit Cycles, Aberystwyth
Siop feics yn cael ei ganmol i'r cymylau gan seiclwyr yr ardal, sydd wedi bod yn gwasanaethu ers 1998 ac yn honni maen nhw sydd â'r ystod orau o feics safonol yn y canolbarth. Ynghyd â gwerthu nwyddau a beics a chynnig y gwasnaethau cynnal a chadw arferol, maen nhw'n rhedeg digwyddiadau yn lleol ac yn cyd-weithio'n agos a'r clwb seiclo, felly gellir dweud â sicrwydd ei fod yn siop feics cyflawn.
Cyclemart, Cilcennin
Un arall sy'n derbyn llawer o ganmoliaeth yn lleol yw Cyclemart yng Nghilcennin; un arall sy'n meddu ar ddegawdau o brofiad â hwythau wedi agor yn yr wythdegau. Fe'i adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer gallu arddangos y beics, y dillad a'r nwyddau sydd ganddynt ar werth, ac maen nhw hefyd yn cynnig y gwasanaethau gweithdy arferol. Erbyn hyn, maent yn disgrifio'u hunain fel arbenigwyr beics trydan.
Aberaeron Cycle Works
Un arall sydd wedi'i ganmol i mi gennych chi ac yn derbyn adolygiadau ffafriol ar-lein yw Cycle Works Aberaeron. Mae ganddynt arlyw sy'n sicr yn creu argraff o ran eu nwyddau, beics, brandiau, gwasanaethau gweithdy ac yn ogystal, maen nhw'n llogi bag beics ar gyfer teithio dramor.
Cycle-tec, Llanelwedd
Y siop olaf ar y rhestr, ac mae Cycle-tec yn Llanelwedd hefyd yn un o'r rhai sydd â phum seren ar-lein. Maen nhw'n disgrifio'u hunain fel 'siop feics fel dim un arall, gyda naws gyfeillgar, gweithdy arbennig a chyfoeth o brofiad ym mhob agwedd o seiclo.' Beth mwy allwch chi fod eisiau o siop feics?
Dyna ni, y rhestr o siopau beics yn y canolbarth. Dwi ddim yn honni fod hwn yn rhestr 'ddifiniol' na phendant, felly mae croeso i chi gysylltu a mi os oes mwy sydd angen eu cynnwys.
Comments