top of page

Siopau Beics y De


I gloi cyfres o dri chofnod dros gyfnod o dros ddwy flynedd, yn dilyn y Gogledd a’r Canolbarth, mae’n bryd troi sylw at siopau beics y de.


Pan dwi’n cyfeirio at y de, dwi’n cyfeirio at sir Benfro, sir Gâr a’r hen sir Forgannwg a sir Gwent; o bell y mwyaf poblog o’r tri ‘rhanbarth’ ac felly dim syndod mai yma mae cartref y nifer fwyaf o siopau beics.


Ond doedd gen i ddim syniad fod cymaint â hyn! Diolch i chi gyd am gysylltu a chyfrannu.


Dw i wedi didoli ymhellach i roi categori i Gaerdydd ar ei ben ei hun. Mi allwch chi ddefnyddio’r map isod i ddarganfod union leoliad yr holl siopau beics sydd wedi eu cynnwys yn y tri chofnod.


Mae’n werth nodi nad yw ‘Y Beic’, Caerfyrddin ar y map gan nad oedd modd i mi’i ychwanegu.


Heb oedi ymhellach, dyma restr cynhwysfawr o siopau beics y de, gan gynnwys pwt bach am bob un yn ogystal â dolenni i’w gwefannau priodol.


Mwynhewch.


Sir Benfro

Mike’s Bikes, Hwlffordd

Busnes teuluol yn Hwlffordd sefydlwyd dros i dri degawd yn ôl yw Mike’s Bikes, sy’n anelu i gynnig rhywbeth i bawb; o’r camau cyntaf ar feic i’r rhai sydd yn brofiadol iawn. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau trwsio, llogi ac mae ganddyn nhw stoc o fwy na 350 o feics.


Enterprise Cycles, Aberdaugleddau

Siop feics yn Neyland, Aberdaugleddau, sy’n gwerthu nwyddau a beics yn ogystal â chynnig gwasanaethau trwsio a service. O edrych ar eu tudalen Facebook mae’n ymddangos fod ganddyn nhw swydd i ddarpar fecanydd i unrhyw un sydd a diddordeb!


Sir Gâr

Beiciau Hobbs, Caerfyrddin

Busnes Cymreig a Chymraeg ei hiaith wedi’i leoli yng Nghaerfyrddin sydd â mecanyddion cymwysedig, a thrwy hynny’r gwasanaethau trwsio a service arferol. Mae modd hefyd prynu beics yma.


Y Beic, Caerfyrddin

Prosiect Emyr Griffiths, un sy’n amlwg yn hynod angerddol am y ddwy olwyn, yw ‘Y Beic’. Mae’n cynnig gwasanaethau service, trwsio a bike fit o’i gartref yng Nghaerfyrddin, ac mae’n bosib ichi ei weld yn rhoi cymorth mecanyddol i Shane Williams ar ei daith feic i S4C.


Krankz, Porth Tywyn

Mae gwefan dda yn sicr yn ffynhonnell ymddiriedaeth i unrhyw gwmni neu fusnes, ac mae Krankz yn sicr yn meddu ar un o’r rheiny. Maen nhw’n gwerthu unrhyw beth allech chi fod ei angen bron, gan gynnwys beics o’r radd flaenaf, yn ogystal â chynnig y gwasanaethau llogi a thrwsio arferol.


County Cycles, Cross Hands

Cwmni arall sy’n meddu ar wefan dda sydd â’r geiriau ‘mae Sir Gar yn well efo beics’ i’ch croesawu i County Cycles, leolir yn Cross Hands. Ceir yma’r gwasanaethau trwsio a service arferol gan fecanyddion yn meddu ar dri degawd o brofiad ac hefyd caffi sy’n cynnig bwyd cartref a choffi gwobrwyedig.


Caerdydd a’r cyffiniau

Damian Harris Cycles, Yr Eglwys Newydd

Busnes teuluol arall sydd nesaf; Damian Harris Cycles yn yr Eglwys Newydd sydd wedi bod yn gwasanaethu seiclwyr ers 1956. Yn ogystal ag ystod eang o feics trydan neu beidio gan frandiau blaenllaw, mi gewch chi’r gwasanaethau trwsio a service arferol yma hefyd.


Don Skene Cycles, Tredelerch

Siop arall yng Nghaerdydd sy’n meddu ar ddegawdau o brofiad yw Don Skene yn Rhymni; siop sydd wedi bod yn gwneud busnes ers 70 mlynedd. Yn ogystal â’r gwasanaethau mecanyddol arferol, mae’r ystod eang iawn o nwyddau a beics yn sicr yn creu argraff.


Cyclopaedia, Y Waun Ddyfal

Ddim cweit mor hen ond yn dynesu at dri degawd o wasanaeth mae Cyclopaedia yn y Waun Ddyfal yn fusnes annibynnol arall sy’n cynnig gwasanaeth gan staff manwerthu profiadol a mecanyddion Olympaidd. Beics safonol, gweithdy a bike fit ar gael yma.


Punk Bikes, Y Waun Ddyfal

Fel mae’u henw efallai’n ei awgrymu, mae Punk Bikes ar stryd Bedford yn cynnig rhywbeth mymryn yn wahanol. Maen nhw’n apelio at y rhai sydd ddim yn dilyn y prif lif, ac yn rhan o ffilm GCN+ ‘Send It’ sy’n edrych ar is-ddiwylliant beic-negeswyr y ddinas. Ond ceir yma hefyd staff gwybodus, cymwysiedig a phrofiadol sy’n cynnig gwasanaethau mecanyddol am brisiau rhesymol.


I Want to Ride My Bike, Y Waun Ddyfal

Dim ond dau o’r siopau ar y rhestr hon alla i dystio i fod wedi bod ynddyn nhw (Gog ydw i - a heb fod ar feic i’r de o Aber!) - a dyma’r cyntaf. Pobl, beics, bwyd a diod yw disgrifiad byr ond effeithiol I Want to Ride My Bike ar Park Place, sy’n cynnwys caffi, bar a gweithdy.


Evans Cycles, Rhath

Dyma’r ail un - bum i’n pori yma pan fu’r ‘Steddfod yng Nghaerdydd. Y gadwyn fwyaf o siopau beics ym Mhrydain, dybiwn i, ac mae’r staff ‘dw i wedi dod ar eu traws yn gyfeillgar. Yn ogystal ag ystod eang o gynnyrch, dillad a beics (gan gynnwys bargeinion own-brand), mae ganddyn nhw wasanaethau trwsio, service, bike fit a dosbarthiadau lle mae’r staff gwybodus a phrofiadol yn trosglwyddo’u gwybodaeth draw atom ni.


Motorlegs, Riverside

O’i gymharu â rhai o’r siopau beics eraill yng Nghaerdydd, mae Motorlegs yn gymharol newydd â hwythau ond wedi sefydlu yn 2017. Tri mecanydd sydd yng ngofal y gweithdy hwn sy’n cynnig gwiriad o’ch beic am ddim, service a gwasanaethau trwsio arferol.


SpokesPerson, Tre-biwt

Un arall o’r siopau mwy newydd yng Nghaerdydd yw Spokesperson; prosiect lle mae eu sylfaenydd Willoughby yn cyfuno arbenigedd mewn seiclo ac amcanion cyfiawnder cymdeithasol. Dod o hyd i ffyrdd creadigol o ddatrys anhafaleddau systemig i gludiant actif yw’r bwriad yma, â hwythau’n gweithio’n uniongyrchol â grwpiau LGBTQIA+, BAME a grwpiau ffiniol (marginalized) eraill gan ddarparu dosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau.


Tredz Bikes, Penarth

Cadwyn arall o siopau yw Tredz Bikes, sefydlwyd yn 2004 a sydd bellach o dan berchnogaeth Halfords, sy’n gwerthu pob math o bethau y byddech chi eu hangen o feics i ategolion i ddillad yn ogystal â gweithdy sydd ar agor bob diwrnod o’r wythnos.


Bike Shop Wales, Penarth

Mae hwn yn un o’r siopau hynny lle bo’r enw’n dweud y cyfan. Mae ‘na feics newydd, beics trydan a beics ail law yn ogystal ag ategolion a rhannau ar gael i’w prynu yma tra bont hefyd yn cynnig y gwasanaethau service a trwsio arferol.


Sunset Cycles, Mountain View Bike Park

Lleolir Sunset Cycles yn Mountain View Bike Park erbyn hyn, gan ganolbwyntio gan fwyaf ar y beicio mynydd. Brandiau sy’n fwy adnabyddus am feiciau mynydd sydd ar werth yma (Orange a Yeti er enghraifft) a gellir hefyd dod o hyd i ategolion, dillad a rhannau yma.


Gweddill Morgannwg

Tredz Bikes, Abertawe

Tredz yn ail ymddangos ond y tro hwn gyda’i leoliad yn Abertawe; siop sydd â’r un cyfleusterau â’r un ym Mhenarth.


Ail-Seiclo Abertawe, Abertawe

Rhywbeth mymryn yn wahanol y tro hwn, ac mae ystyr deublyg i enw’r prosiect sydd efallai’n fwy amlwg o’r Saesneg ‘Re-Cycle’. Ers 2006, maent wedi bod yn derbyn beics ail law wedi eu rhoi iddynt a’u hadnewyddu’n barod i’w symud ymlaen at berchnogion newydd. Maent wedi rhoi dros i 5000 o feics ‘nôl ar yr heol, sy’n gyfystyr â 130 tunnell o fetel sgrap.


Pilot House Cycles, Abertawe

Yn y ‘Maritime Quarter’ (methu dod o hyd i gyfieithiad Cymraeg) yn Abertawe lleolir Pilot Hosue Cycles sy’n cynnig y gwasanaethau trwsio a service arferol yn ogystal ag ystod o feics un gêr, beics ffordd, beics mynydd, olwynion a rhannau eraill.


Welsh Coast Cycles, Port Talbot

Wedi iddyn nhw ehangu yn 2017 a symud i safle newydd ar Forge Road dafliad carreg o’r M4, mae’r hyn y mae Welsh Coast Cycles ym Mhort Talbot yn gallu’i gynnig wedi’i gynyddu. Dio’m bwys pa fath o seiclo sy’n mynd â’ch pryd chi, gallwch ddisgwyl gwasanaethau cadarn yma.


Afan Valley Bike Shed, Port Talbot

Dydy’r pandemic heb fod yn amser da o gwbl i’r siop yma ym Mhort Talbot rhwng lladradau wedi iddyn nhw leihau’r busnes ac oedi yn sgil Brexit. Ar hyn o bryd, maen nhw’n dal i gynnig gwasanaethau trwsio a service ac yn gwerthu beics ac ategolion, ac maent yn gobeithio agor siop newydd mewn mis neu ddau. Dymuniadau gorau iddynt wir.


Bike It Cycles, Penybont

Yn Abercynffig lleolir y shop annibynnol deuluol yma agorwyd yn 2008. Mae ganddynt gyflenwad o bron bob math o feic yn ogystal â dillad, helmedau ac ategolion gan frandiau blaenllaw. Gallwch hefyd ddisgwyl gwasanaethau trwsio a service dibynadwy.


Rush Cycles, Penybont

Cwmni bychan ger Afan Argoed yw Rush Cycles sydd yn gwerthu pob math o gynnyrch gan gynnwys beics, ategolion a rhannau yn newydd ac yn ail law. Mae ganddyn nhw hefyd gyfleusterau gweithdy llawn.


Bridgend Cycle Centre, Penybont

Y trydydd siop yn ardal Penybont ar y rhestr yw Bridgend Cycle Centre, sydd eto’n gwerthu rhywbeth at ddant pob seiclwr neu sglefriwr heb anghofio’u gweithdy cynhwysfawr ar gyfer cynnal a chadw’ch beic.


Ride Bikes Wales, Pontyclun

Beics ffordd, beics trydan, beics mynydd a beics i gymudwyr i gyd ar gael yma ym Mhontyclun, yn ogystal â chynnig cyfleuster trwsio a service cynhwysfawr gan fecanyddion cymwysiedig.


EC Cycles, Merthyr Tudful

‘Everything Cycles’ yw’r EC yn EC Cycles Merthyr Tudful, sy’n addo’ch helpu i ddod o hyd i’r beic cywir neu i ddod o hyd i’r cit cywir ar gyfer yr hyn sydd gennych chi’n barod. Maen nhw’n ymfalchïo yn eu trwsiadau dibynadwy a gwerth da am arian.


Gwent

Martyn Ashfield Cycles, Risca

Nwyddau, beics ar werth yma a cheir hefyd wasanaeth trwsio a service.


Leisure Lakes Bikes, Casnewydd

Does dim amau fod modd ymddiried yn Leisure Lakes Bikes, â hwythau’n ennyn bron i 3,000 o adolygiadau cadarnhaol o 4.7/5 ar gyfartaledd, tra hefyd yn elwa ar bedwar degawd o brofiad. Ceir gwasanaethau llogi, treialu, trwsio a mwy.


South Wales Bicycle Co, Casnewydd

Agorodd siop beics annibynnol mwyaf Casnewydd yn 2013, gan ymestyn i ddwy lawr yn 2015, ac fe’i leolir ddwy filltir yn unig i ffwrdd o’r velodrome gan gynnig y gwasanaethau trwsio, service arferol ac yn gwerthu nwyddau a beics.


Gateway Cycles, Y Fenni

Busnes teuluol sy’n anelu i drosglwyddo eu profiad o seiclo i rai sy’n newydd i’r gamp. Maen nhw’n gwerthu beics trydan, beics Giant, Trek, Scott a Liv, tra’n elwa o’u lleoliad ar droed y Mynyddoedd Duon.


Recent Posts

See All
bottom of page